Dyma lun agos o fysedd yn addasu thermostat domestig i dymheredd uchel.

Dyma lun agos o fysedd yn addasu thermostat domestig i dymheredd uchel.

Mae biliau ynni’n dal i fod yn uchel ac mae tlodi tanwydd ar gynnydd. Wrth i’r gaeaf agosáu, a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i gyrraedd ei thargedau tlodi tanwydd?

Cyhoeddwyd 15/09/2025

Wrth i liwiau’r hydref ymledu dros Gymru, bydd rhai pobl yn poeni am sut i gynhesu eu cartref y gaeaf hwn.

Mae biliau ynni nodweddiadol aelwydydd yn y DU yn dal i fod 43% yn uwch na lefelau gaeaf 2021/22 ac mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 25% o aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd. Y gaeaf diwethaf, cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ymchwiliad i dlodi tanwydd, a chyhoeddodd ei argymhellion ym mis Ebrill 2025.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddiweddariad ar ei chamau gweithredu i drechu tlodi tanwydd ym mis Mehefin.

Mae'r erthygl hon yn trafod rhai o'r materion a godwyd yn ystod yr ymchwiliad, cyn y ddadl yn y Senedd ar adroddiad y Pwyllgor, ar 17 Medi 2025.

Cyhoeddi amcangyfrifon newydd o dlodi tanwydd

Mae Llywodraeth Cymru yn diffinio tlodi tanwydd fel ‘ei chael hi’n amhosib cynnal system wresogi foddhaol am bris fforddiadwy’. Dywed mai aelwyd tlawd o ran tanwydd yw aelwyd sy’n gorfod talu mwy na 10% o’i hincwm i gynnal system wresogi foddhaol.

Yn ystod yr ymchwiliad, ystadegau 2021 (a gyhoeddwyd ym mis Awst 2024) oedd yr ystadegau tlodi tanwydd diweddaraf a oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru, ac roeddent yn dangos bod 14% o aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd, 3% mewn tlodi tanwydd difrifol, ac 11% mewn perygl o dlodi tanwydd.

Roedd rhanddeiliaid yn pryderu bod yr ystadegau'n rhy hen, ac yn galw am y data diweddaraf, a data mwy manwl.

Dywedodd National Energy Action Cymru fod canran yr aelwydydd a oedd yn dlawd o ran tanwydd yng Nghymru wedi codi’n sydyn o 14% ym mis Hydref 2021 i 45% ym mis Ebrill 2022, gydag 8% yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol.

Yn wir, cyhoeddwyd prif amcangyfrifon ym mis Awst, ac amcangyfrifwyd, o blith aelwydydd Cymru (ym mis Hydref 2024), fod 25% yn byw mewn tlodi tanwydd, 5% mewn tlodi tanwydd difrifol, ac 16% mewn perygl o dlodi tanwydd – sy’n sylweddol uwch na’r ffigurau blaenorol. Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi dadansoddiad manwl ym mis Hydref.

Rhanddeiliaid yn galw am dargedau interim

Nod cynllun Llywodraeth Cymru i drechu tlodi tanwydd rhwng 2021 a 2035 yw cyrraedd tri phrif darged erbyn 2035:

  • amcangyfrifir nad oes unrhyw aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol neu barhaus cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol;
  • amcangyfrifir nad oes mwy na 5% o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd ar unrhyw un adeg benodol cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol; a
  • bydd nifer yr aelwydydd sydd “mewn perygl” o fyw mewn tlodi tanwydd wedi mwy na haneru yn seiliedig ar amcangyfrif 2018.

Tynnodd rhanddeiliaid sylw at yr angen am dargedau interim i helpu i fonitro cynnydd, a’r angen i ddiweddaru'r cynllun.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n gweithio gyda'r Panel Cynghori ar Dlodi Tanwydd i ddatblygu targedau interim ar ôl cyhoeddi'r amcangyfrifon diweddaraf o dlodi tanwydd.

Dywed diweddariad Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin fod camau gweithredu yn y cynllun i drechu tlodi tanwydd wedi'u diweddaru, ac mae’n cadarnhau y bydd targedau interim yn cael eu datblygu ar ôl cyhoeddi'r amcangyfrifon diwygiedig.

Problemau cychwynnol y Rhaglen Cartrefi Clyd newydd

Rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yw’r “prif fecanwaith i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, i leihau nifer yr aelwydydd incwm isel sy'n byw mewn cartrefi oer, llaith.”

Lansiodd Llywodraeth Cymru Raglen Cartrefi Clyd ddiwygiedig ym mis Ebrill 2024, yn dilyn adolygiad o'r rhaglen flaenorol. Ystyriodd yr adolygiad yr argymhellion a wnaed gan yr Archwilydd Cyffredinol yn 2021 a’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn 2022.

Roedd y rhaglen flaenorol yn cynnwys Nyth (cynllun yn seiliedig ar anghenion) ac Arbed (cynllun yn seiliedig ar ardaloedd a ddaeth i ben yn 2021). Mae’r cynllun Nyth newydd yn cynnwys newidiadau o ran cymhwystra a newidiadau eraill, ac yn cadw rhai nodweddion, gan gynnwys:

  • trothwy incwm isel newydd ar gyfer cymhwystra, yn hytrach na budd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd;
  • ‘Asesiad o’r Tŷ Cyfan’ ar gyfer aelwydydd cymwys;
  • dull ‘adeiladwaith yn gyntaf’ – ni fyddai modd cynnal mesurau gwresogi ac awyru nes bod defnydd yr adeilad o wres wedi’i wella at safon ddigonol i allu eu cyfiawnhau;
  • rhoi blaenoriaeth i dechnolegau carbon isel “pan fydd hynny'n gwneud synnwyr”;
  • codi’r cap ar y gyllideb fesul aelwyd i alluogi gwaith ôl-osod mwy trylwyr.

Nododd rhanddeiliaid broblemau cychwynnol gan gynnwys nad yw gweithwyr achos Nyth yn deall y meini prawf cymhwystra newydd, atgyfeiriadau'n mynd ar goll a'r amser y mae’n ei gymryd i gontractwyr gael yr achrediadau sydd eu hangen i gyflawni'r gwaith ôl-osod.

Mynegodd Gofal a Thrwsio bryder bod gormod o sylw’n cael ei roi i osod technoleg carbon isel yn hytrach na dod o hyd i'r opsiwn gorau ar gyfer y person a sut y mae’n byw yn ei gartref. Rhoddwyd enghreifftiau o aelwydydd cymwys yn cael eu gwrthod os nad oedd y cartref yn addas ar gyfer pwmp gwres o’r aer, neu o bympiau gwres a oedd yn aneffeithiol oherwydd inswleiddio annigonol neu am nad oedd y cwsmeriaid yn deall sut i'w defnyddio'n iawn.

Nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant AS, na fwriedir i’r cynllun wrthod perchnogion tai nad yw eu cartrefi'n addas ar gyfer pwmp gwres, a phwysleisiodd fod Nyth yn gosod mesurau eraill gan gynnwys solar, gwydr dwbl, awyru ac inswleiddio.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ei bod yn anochel y byddai rhai cwsmeriaid yn anfodlon ond bod cwynion yn llai nag 1% o'r niferoedd y mae'r cynllun wedi'u cefnogi, sy’n is na’r targed o 3%. Dywedodd, yn ôl arolwg diwedd galwad Nyth, fod y gwasanaeth i gwsmeriaid yn rhagorol ac o’r radd flaenaf.

Galwadau am gynllun sy’n seiliedig ar ardaloedd

Galwodd rhanddeiliaid hefyd am gynllun newydd sy’n seiliedig ar ardaloedd, ac felly hefyd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ei adroddiad blaenorol. Dywedodd Cymru Gynnes fod dull sy’n seiliedig ar ardaloedd yn rhatach ac yn gynt ac y byddai'n cefnogi mwy o eiddo.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn adolygu cynnydd Nyth ac y byddai’n troi ei sylw wedi hynny at weithgarwch posibl yn seiliedig ar ardaloedd bach, fel blociau o fflatiau a thai teras. Nid oedd y ddwy elfen yn cael eu cynnal ar yr un pryd, a hynny er mwyn caniatáu i wersi a ddysgir o'r cynllun Nyth newydd gael eu cymhwyso i gynllun newydd sy'n seiliedig ar ardaloedd.

Mae diweddariad mis Mehefin yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddatblygu dull sy’n seiliedig ar ardaloedd ar draws pob deiliadaeth a phob lefel incwm er mwyn ysgogi datgarboneiddio a lleihau tlodi tanwydd.

Mae angen llawer mwy o gyllid

Mae cyllideb 2025-26 Llywodraeth Cymru yn dyrannu £37.5 miliwn o gyllid cyfalaf i'r Rhaglen Cartrefi Clyd, sef 7% yn fwy na’r flwyddyn flaenorol.

Dywed rhanddeiliaid fod lefel y cyllid yn annigonol o ystyried maint tlodi tanwydd. Roedd Sefydliad Bevan yn rhagweld, pe bai’r gwaith yn parhau ar yr un cyflymder hyd nes bod gwelliannau wedi’u gwneud i bob aelwyd sy'n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru, na fyddai'r Rhaglen Cartrefi Clyd yn gorffen ei gwaith tan y flwyddyn 2160.

Pwysleisiodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi cynyddu’r cap ar y gyllideb fesul aelwyd i alluogi gwaith ôl-osod mwy trylwyr ac wedi diwygio’r meini prawf cymhwystra i dargedu’r rhai lleiaf cefnog, drwy gyflwyno’r trothwy incwm isel.

Cydnabu Llywodraeth Cymru y bydd gwaith ôl-osod drytach a mwy trylwyr yn effeithio ar nifer yr aelwydydd a gefnogir - roedd yn rhagweld y byddai’n cefnogi 1,500 o ddeiliaid tai y flwyddyn drwy’r Rhaglen Cartrefi Clyd, o gymharu â chyfartaledd o 4,000 o dan y cynllun Nyth blaenorol.

Gellid gwneud mwy

Trafododd y Pwyllgor faterion eraill gan gynnwys gwneud y mwyaf o gynlluniau ledled y DU fel Rhwymedigaeth y Cwmnïau Ynni i roi mwy o gymorth i aelwydydd, a defnydd gwell o systemau mapio tlodi tanwydd fel prosiect mapio bregusrwydd FRESH, a ddatblygwyd gan Brifysgol Caerdydd a Cymru Gynnes.

Gallwch ddarllen mwy am y materion hyn a gweld argymhellion y Pwyllgor yn ei adroddiad: Cynyddu’r gwres cyn 2160: amser i gyflymu'r gwaith o drechu tlodi tanwydd

Cyhoeddwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhellion ym mis Mai.

Gallwch wylio’r ddadl ar 17 Medi ar Senedd TV.

Mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi: Cymorth i aelwydydd â biliau ynni a thlodi tanwydd - canllaw i etholwyr

Erthygl gan Elfyn Henderson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.