
Ar ôl ystyried y rhwystrau i gyflogaeth ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed fel rhan o'i ymchwiliad i Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith yn ystod tymor yr hydref 2014, penderfynodd y Pwyllgor ystyried y materion sy'n effeithio ar gyflogaeth i bobl dros 50 oed.
Negeseuon allweddol yr adroddiad:
Mae angen brys i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu ceiswyr swyddi dros 50 oed yng Nghymru.
Mae traean o'r bobl yng Nghymru rhwng 50 a 64 oed yn ddi-waith. Mae pobl yn byw'n hirach ac yn gorfod ymddeol yn hwyrach; mae gwaith bellach yn fater o raid yn hytrach na dewis i'r grŵp oedran hwn.
Mae'r Pwyllgor yn awyddus i weld:
- Mwy o gyfleoedd i bobl hŷn hyfforddi a diweddaru eu sgiliau;
- Mwy o ymchwil yn cael ei wneud i'r rhwystrau sy'n wynebu'r grŵp demograffig hwn; ac
- Ymgyrch Positif am Oed i hyrwyddo'r manteision o gyflogi a chadw gweithwyr dros 50 oed.
Ystadegau allweddol
Mae ychydig o dan 1.2 miliwn o bobl dros 50 oed yng Nghymru.
Mae traean o'r grŵp oedran 50-64 yn ddi-waith. O’r bobl dros 50 oed sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu’r Credyd Cynhwysol, mae 36 y cant arall yn ddi-waith yn yr hirdymor (yn ddi-waith am dros 12 mis).
Dywedodd y tystion wrth y Pwyllgor:
Myth yw bod gweithwyr hŷn yn llai cynhyrchiol.
Mae'n fwy cost-effeithiol hyfforddi gweithwyr hŷn gan eu bod yn debygol o aros llawer yn hirach gyda'r un cyflogwr. Mae gweithwyr iau yn fwy tebygol o newid cyflogwyr wrth iddynt symud i fyny'r ysgol yrfa.
Yn aml, mae gan bobl dros 50 oed rolau gofalu deuol - er enghraifft, gofalu am rieni oedrannus a gofalu am wyrion a wyresau. Clywodd y Pwyllgor y term "sandwich carers", yn ogystal â chlywed am y gwahaniaeth y gall patrymau gweithio hyblyg ei wneud i ragolygon cyflogaeth pobl yn y sefyllfa hon.
Mae salwch neu anabledd yn achos mawr o anweithgarwch economaidd yn y grŵp oedran dros 50 oed, yn arbennig ymhlith dynion a phobl sydd ar gyflogau isel. Fodd bynnag, gall hyn hefyd fod yn ystrydeb "fod gan bawb sydd dros 50 oed fwy o broblemau iechyd." Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth fod tua 60 y cant o weithwyr hŷn yn ffit ac yn iach o hyd ac yn awyddus i weithio.
Mae menywod hŷn mewn risg uwch o adael cyflogaeth na dynion.
Er bod deddfwriaeth berthnasol, mae gwahaniaethu ar sail oedran yn parhau'n broblem sylweddol ledled y DU.
Gall lleoliadau gwaith byrdymor a chyfweliadau wedi'u gwarantu wrthbwyso gwahaniaethu gwirioneddol a chanfyddedig ar sail oedran, er mwyn rhoi'r cyfle i bobl ddangos beth maent yn gallu ei wneud.
Argymhellion
Mae'r adroddiad yn gwneud 11 o argymhellion.
Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i godi proffil y mater drwy gynnal ymgyrch Positif am Oed er mwyn hyrwyddo'r manteision o gyflogi gweithwyr dros 50 oed. Dylai hefyd gyhoeddi strategaeth sgiliau ar gyfer pobl dros 50 oed gyda chanlyniadau penodol.
Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried dylunio cynllun tebyg i Twf Swyddi Cymru ar gyfer pobl dros 50 oed sy'n awyddus i ailymuno â'r farchnad lafur. Rydym yn gwybod y gall lleoliadau gwaith byrdymor wrthbwyso gwahaniaethu canfyddedig ar sail oedran a rhoi'r cyfle i bobl ddangos beth maent yn gallu ei wneud.
Mae angen inni gael gwybod mwy am y problemau economaidd sy'n wynebu pobl dros 50 oed yng Nghymru. Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru a'r Comisiynydd Pobl Hŷn i wneud gwaith ymchwil i'r cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer pobl dros 50 oed a faint sy'n ddi-waith yn yr hirdymor neu'n hunangyflogedig.
Mewn rhai meysydd, mae'n well gan gyflogwyr gyflogi gweithwyr hŷn, er enghraifft, yn y sector gofal. Yn gyffredinol, mae cyflogaeth i ddynion a menywod dros 50 oed yn edrych yn wahanol iawn. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried y rhwystrau gwahanol sy'n wynebu dynion a menywod wrth ddatblygu unrhyw gymorth ar gyfer pobl dros 50 oed sy'n chwilio am waith.
Yn yr un modd, nid oes digon o wybodaeth ar gael am raddau gwahaniaethu tuag at bobl dros 50 oed sy'n ceisio ailymuno â'r farchnad lafur. Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu gwaith ymchwil i raddau gwahaniaethu ar sail oedran yng Nghymru.
Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru alw am ddatganoli rhaglenni sgiliau'r Adran Gwaith a Phensiynau i Gymru ac yn y cyfamser, dylai barhau i weithio i leihau dyblygu rhwng rhaglenni cyflogadwyedd amrywiol.
Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Menter a Busnes ar gael ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Y Pwyllgor Menter a Busnes
View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg