Mae amser yn rhedeg allan i landlordiaid ac asiantau

Cyhoeddwyd 22/11/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

22 Tachwedd 2016 Erthygl gan Jonathan Baxter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg [caption id="attachment_6510" align="alignnone" width="640"]Tai teras Llun: o Geograph gan Robin Stott. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Flwyddyn ar ôl lansio Rhentu Doeth Cymru, mae 23 Tachwedd 2016 yn nodi dechrau cyfnod nesaf y cynllun wrth gychwyn ar weddill adrannau Rhan 1 Deddf Tai (Cymru) 2014. O'r dyddiad hwnnw, bydd landlordiaid ac asiantau yn y sector preifat sydd wedi methu â chydymffurfio â'r gofynion newydd i gofrestru a chael trwydded yn wynebu ystod o gosbau posibl. Mae hyn yn cynnwys y posibilrwydd o orfod talu rhent yn ôl i denantiaid, methu troi tenant allan a hyd yn oed erlyniad troseddol. Beth yw'r gofynion newydd? Mae dwy agwedd i'r cynllun: cofrestru a thrwyddedu. Mae cofrestru yn ei gwneud yn ofynnol i bob landlord sydd ag eiddo yng Nghymru i osod o dan ‘tenantiaeth ddomestig’ i gofrestru eu manylion personol, a manylion eu heiddo ar rent, gyda Rhentu Doeth Cymru. Rhentu Doeth Cymru yw'r gwasanaeth yng Nghyngor Caerdydd sy'n rheoli'r cynllun ar ran Cymru gyfan.  Mae ‘tenantiaeth ddomestig’ yn cynnwys tenantiaeth sicr, tenantiaeth fyrddaliol sicr a thenantiaeth reoleiddiedig – dyna'r mwyafrif helaeth o denantiaethau yn y sector rhent preifat.  Nid yw, er enghraifft, yn cynnwys landlordiaid sy'n gosod ystafell yn eu cartref eu hunain o dan drefniant lletywr (gan na fyddai ‘tenantiaeth ddomestig’).  Mae'n rhaid i landlordiaid dalu ffi i gofrestru a rhaid cwblhau'r cais ar-lein, neu ar bapur – ond bydd cais papur yn costio mwy.  Mae cofrestriad yn para pum mlynedd. Bydd angen trwydded ar rai landlordiaid hefyd, yn ogystal ag asiantau. Bydd angen trwydded ar landlord os ydynt yn gwneud gweithgareddau gosod neu reoli mewn perthynas â'u heiddo eu hunain. Mae'r rhain wedi'u diffinio yn y ddeddfwriaeth, ac maent yn cynnwys pethau fel trefnu ymweliadau, trefnu atgyweiriadau a chasglu'r rhent.  Mae rhestr lawn ar gael ar wefan Rhentu Doeth Cymru. Bydd angen trwydded ar asiantau os ydynt yn gwneud gwaith gosod a rheoli, fel y diffinnir yn y ddeddfwriaeth. Nid yw ‘asiant’ o reidrwydd yn golygu asiant gosod proffesiynol – gallai fod yn drefniant anffurfiol fel rheoli eiddo ar ran ffrind neu berthynas.  Mae rhai eithriadau i asiantau sydd ond yn gwneud gwaith cyfyngedig iawn, ond bydd angen trwydded ar y mwyafrif helaeth o asiantau.  Mae manylion llawn ynghylch pryd fydd angen trwydded ar asiant ar gael ar wefan Rhentu Doeth Cymru. Gwneud cais am drwydded Yn ogystal â thalu ffi, rhaid i landlordiaid ac asiantau ddilyn hyfforddiant i gael trwydded a hefyd bod yn ‘berson addas a phriodol’. Bydd trwyddedau yn cael eu rhoi yn amodol ar ystod o amodau.  Ar gyfer asiantau, bydd amod o ran y drwydded sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gael Diogelwch Arian Cleientiaid, Yswiriant Indemniad Proffesiynol ac Aelodaeth o Gynllun Gwneud Iawn o fewn chwe wythnos.  Bydd gan nifer o asiantau sy'n aelodau o gyrff proffesiynol y tri pheth hyn eisoes fel rhan o'u haelodaeth. Bydd pob trwydded yn amodol ar amod y cydymffurfir â'r Cod Ymarfer a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru. Rhaid i Rhentu Doeth Cymru benderfynu ar geisiadau trwydded o fewn wyth wythnos i'w cael. Ar ôl iddynt gael eu rhoi, byddant yn para am bum mlynedd. Beth am gynlluniau trwyddedu eraill? Rhaid i rai eiddo gael eu trwyddedu o dan Ddeddf Tai 2004.  Y drwydded fwyaf nodedig yw Tai Amlfeddiannaeth (HMOs) sydd angen eu trwyddedu gan yr awdurdod lleol.  Mewn rhai ardaloedd, lle mae cynlluniau trwyddedu dethol, bydd angen trwydded ar eiddo rhent eraill hefyd.  Mae cofrestru Rhentu Doeth Cymru a gofynion trwyddedu yn ychwanegol at unrhyw ofynion eraill sydd angen eu trwyddedu i eiddo penodol. Ymateb gan y sector Cafwyd rhai pryderon gan grwpiau sy'n cynrychioli landlordiaid nad oes digon o ymwybyddiaeth o'r gofynion newydd ymysg landlordiaid preifat.  Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod rhwng 70,000 a 130,000 o landlordiaid sector preifat yng Nghymru.  Mae'r ffigyrau diweddaraf (ar 21 Tachwedd 2016) gan Rhentu Doeth Cymru yn awgrymu bod tua 55,000 o landlordiaid wedi cofrestru, a bod 12,700 o geisiadau eraill wedi'u cychwyn ond heb eu cwblhau eto.  Rhagor o wybodaeth Mae gwefan Rhentu Doeth Cymru yn darparu cyfoeth o wybodaeth a fydd yn ateb y rhan fwyaf o gwestiynau cyffredin am y cynllun. Dylai landlordiaid allu cael cyngor gan gymdeithasau landlordiaid hefyd.  Gall tenantiaid weld a yw eu landlord ac asiant wedi cydymffurfio â'r gofynion newydd gan ddefnyddio'r cyfleuster chwilio ar wefan Rhentu Doeth Cymru.