“Mae amser yn prysur ddiflannu” i Lywodraeth Cymru sefydlu corff gwarchod amgylcheddol

Cyhoeddwyd 23/11/2023   |   Amser darllen munudau

Mae gwledydd y DU wedi bod yn datblygu systemau llywodraethu amgylcheddol domestig newydd ers i'r DU adael yr UE.

Mae cyrff gwarchod amgylcheddol a sefydlwyd yn ddiweddar yn gwirio perfformiad amgylcheddol cyrff cyhoeddus yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban.

Yn ddiweddar, gwelsom y corff gwarchod ar gyfer Lloegr yn nodi methiannau posibl gan DEFRA, Asiantaeth yr Amgylchedd ac Ofwat i gydymffurfio â chyfraith amgylcheddol sy'n rheoleiddio gorlifoedd carthffosydd.

Yn y cyfamser, nid oes corff llywodraethu amgylcheddol o'r fath yn bodoli yng Nghymru i ddwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif. Mae trefniadau pontio ar waith cyn sefydlu corff gwarchod i Gymru - mae Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru wedi bod yn monitro gweithrediad cyfraith amgylcheddol.

Mae'r erthygl hon yn trafod hyn a olygir gan lywodraethu amgylcheddol, y bylchau yng Nghymru, a'r trefniadau interim, cyn dadl yn y Senedd.

Y ‘bwlch llywodraethu amgylcheddol’

Mae’r DU wedi gwyro oddi wrth system llywodraethu amgylcheddol yr UE. Dyma lle y mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn monitro’r modd y mae Aelod-wladwriaethau yn rhoi cyfraith amgylcheddol yr UE ar waith. Mae’n cael cwynion gan ddinasyddion a gall atgyfeirio achosion i Lys Cyfiawnder yr UE. Gall hyn arwain at gamau gorfodi (gan gynnwys dirwyon) yn erbyn Aelod-wladwriaethau sy'n torri'r cyfreithiau hynny.

Er enghraifft, yn 2016, dyfarnodd y llys bod y DU wedi methu â chyfyngu ar allyriadau o orsaf bŵer Aberddawan, a gofynnodd i’r DU dalu’r costau cyfreithiol cysylltiedig. Daeth yr achos o dorri i'r amlwg yn dilyn ymholiadau'r Comisiwn fel rhan o'i waith monitro ar weithfeydd hylosgi mawr. Canfuwyd fod yr orsaf bŵer glo, a gaeodd yn 2020, yn allyrru symiau anghyfreithlon o ocsidau nitrogen rhwng 2008 a 2011.

Sbardunodd refferendwm yr UE bryderon o 'fwlch llywodraethu amgylcheddol' yn y DU, gyda galwadau am drefniadau llywodraethu amgylcheddol domestig newydd.

Mae cyrff llywodraethu domestig statudol neu "cyrff gwarchod" wedi cael eu sefydlu ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon (Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd) ac (Environmental Standards Scotland) (Ffigur 1) yn yr Alban.

Hyd yn hyn, nid oes unrhyw ddeddfwriaeth wedi'i chyflwyno i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol i Gymru, serch hynny, disgwylir Bil yn ystod tymor y Senedd hon.

Cynghorodd Llywodraeth flaenorol Cymru i ddinasyddion fynd ar drywydd dulliau presennol o unioni domestig – er enghraifft, adolygiad barnwrol, er mwyn cyflwyno her mewn perthynas â chydymffurfio â chyfraith amgylcheddol.

Mae rhanddeiliaid yn dadlau nad yw mesurau interim yng Nghymru yn ddigonol i fodloni’r hyn sydd ei angen.

Penododd Llywodraeth Cymru Dr Nerys Llewelyn Jones yn 'Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru‘ ym mis Chwefror 2021. Bwriadwyd i’r swydd fod am gyfnod o ddwy flynedd yn wreiddiol, fodd bynnag, mae wedi cael ei hymestyn am flwyddyn i Chwefror 2024.

Rôl yr Asesydd Interim yw ystyried “sut mae cyfraith amgylcheddol yn gweithio”, ac yn ôl Dr Llewelyn Jones mae hyn yn golygu:

… ystyried os yw'r gyfraith yn dal i gyrraedd ei hamcanion gwreiddiol neu rai sydd yn awr yn berthnasol, p'un ai bod y wybodaeth neu'r dogfennau esbonio hefyd am y gyfraith yn hygyrch, neu p'un ai bod gweithrediad ymarferol o'r gyfraith yn cael ei rwystro mewn unrhyw ffordd.

Mae'r Asesydd Interim wedi bod yn cael sylwadau gan randdeiliaid a'r cyhoedd lle mae trafferthion canfyddedig ynghylch gweithrediad cyfraith amgylcheddol. Ei rôl yw cynhyrchu adroddiadau i Lywodraeth Cymru ar y materion hyn er mwyn gwella canlyniadau amgylcheddol. Mae hi wedi cyhoeddi un adroddiad yn ystod ei phenodiad (Chwefror 2023) i gynghori Gweinidogion Cymru, ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio). Mae sawl adroddiad yn cael eu datblygu, ar goedwigaeth, cloddiau, safleoedd gwarchodedig a sancsiynau sifil.

Mae sector yr amgylchedd wedi mynegi pryder nad yw'r trefniadau interim yn llenwi'r bwlch, a galwodd am Fil Cymru i sefydlu corff llywodraethu cwbl weithredol fel mater o flaenoriaeth. Daeth Cyswllt Amgylchedd Cymru i’r casgliad a ganlyn:

It is clear that the interim arrangements do not constitute a route to environmental justice nor do they provide a substitute for the oversight and enforcement role required to replace that provided by EU institutions.

Mae'r Asesydd Interim wedi mynd i ddwy sesiwn gyda Phwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd (yn 2022 a 2023).

Yn dilyn y ddwy sesiwn, roedd gan y Pwyllgor bryderon ynghylch effeithiolrwydd y mesurau interim, a’r adnoddau a roddwyd ar eu cyfer. Yn dilyn sesiwn 2022, cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad o adnoddau, ac ymrwymodd i ddarparu adnoddau ychwanegol ar gyfer y mesurau interim.

Fodd bynnag, yn dilyn ei ail sesiwn, roedd y Pwyllgor o’r farn nad oedd yr adnodd ychwanegol hwn ar gael mewn modd amserol i helpu’r Asesydd Interim i lunio adroddiadau. At hynny, roedd y Pwyllgor yn pryderu am ddiffyg monitro effaith.

O ran trefniadau tymor hwy, daeth y Pwyllgor i'r casgliad a ganlyn:

Os nad yw’r corff newydd yn gwbl weithredol cyn diwedd cyfnod Llywodraeth Cymru mewn grym, bydd hynny’n fethiant anfaddeuol ar ei rhan.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi cynlluniau darparu adnoddau ar gyfer yr Asesydd Interim. Ac mae’r Asesydd Interim yn bwriadu cyflwyno proses ffurfiol i fonitro effaith ei gwaith.

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod y dystiolaeth a glywodd gan gyrff gwarchod eraill y DU yn rhoi "darlun clir inni o’r hyn y mae Cymru’n colli allan arno". Gan ddysgu o wledydd eraill y DU, argymhellodd y dylid sefydlu corff interim/cysgodol i Gymru yn gynnar, er mwyn hwyluso llawer o'r gwaith sylfaenol cyn sefydlu’r corff statudol.

Ceir rhagor o fanylion yn adroddiadau'r Pwyllgor a bydd yr adroddiad diweddaraf yn destun y ddadl sydd ar ddod yn y Senedd. Mae’r Asesydd Interim yn cefnogi argymhellion y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru yn llawn.

Pryd allwn ni ddisgwyl corff i warchod yr amgylchedd yng Nghymru?

Ymrwymodd Llywodraeth Cymru yn y lle cyntaf i ddeddfu i fynd i'r afael â'r bwlch yn 2018.

Cynhaliwyd ymgynghoriad yn 2019 a oedd yn amlinellu cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer system llywodraethu amgylcheddol ddomestig, fel y crynhoir mewn papur briffio gan Ymchwil y Senedd.

Yn dilyn hynny, yn 2020 rhoddodd Grŵp Tasg Rhanddeiliaid argymhellion pellach y mae Llywodraeth flaenorol Cymru wedi ymateb iddynt.

Mae sefydlu corff llywodraethiant amgylcheddol bellach yn un o ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu (2021-26).

Roedd rhanddeiliaid yn gobeithio y byddai'r ddeddfwriaeth honno'n cael ei chyflwyno yn 2023/24. Fodd bynnag, nid oedd Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24 yn cynnwys Bil o'r fath, yn hytrach, ymrwymodd y Prif Weinidog i gyflwyno'r ddeddfwriaeth yn ystod "tymor y Senedd hon".

Er bod deddfwriaeth amgylcheddol wedi dominyddu agenda deddfwriaethol 2023/24, dywedwyd y bydd cyfreithiau o'r fath yn ddiffygiol heb drefniadau llywodraethu i oruchwylio’r broses o’u gweithredu e.e. cyrraedd targedau ansawdd aer.

Mae Papur Gwyn ar gyfer Bil i sefydlu corff llywodraethu (a thargedau natur) wedi cael ei gynnig ar gyfer Ionawr 2024. Os caiff deddfwriaeth ei chyflwyno ym mlwyddyn ddeddfwriaethol 2024/25, gan gyfrif am y broses ddeddfwriaethol a'r amserlenni ar gyfer sefydlu corff (naw mis yn achos yr Alban), efallai y bydd yn 2026 erbyn i’r corff gwarchod fod yn weithredol. Mae hyn bron yn ddegawd ers i amgylcheddwyr rybuddio am 'fwlch llywodraethu'.

Ac fel y mae'r Pwyllgor wedi dweud, "mae amser yn prysur ddiflannu i Lywodraeth Cymru gyflawni" ei hymrwymiad i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol.

Ceir rhagor o wybodaeth mewn papur briffio a baratowyd gan Ymchwil y Senedd.

Ffigur 1: Llinell amser o ddigwyddiadau ar gyfer datblygu cyrff llywodraethu amgylcheddol domestig yn y DU

Mehefin 2016

Refferendwm ar yr UE yn creu pryder ynghylch ‘bwlch llywodraethu amgylcheddol’, a  galwadau i ddatblygu trefniadau llywodraethu domestig cyfatebol ar gyfer y DU.

Mawrth 2018

Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i fanteisio ar y cyfle deddfwriaethol priodol cyntaf’ i ymdrin â’r bwlch llywodraethu amgylcheddol’.

Mawrth 2019

Llywodraeth Cymru  yn lansio ymgynghoriad ynghylch cynigion ar gyfer system llywodraethu amgylcheddol domestig.

Mawrth 2020

Adroddiad gan Grŵp Gorchwyl Rhanddeiliaid yn cynnwys argymhellion i Lywodraeth Cymru.

Tachwedd 2020

Llywodraeth Cymru yn ymateb i adroddiad y Grŵp Gorchwyl drwy gyflwyno arfarniad o opsiynau.

Chwefror 2021

Llywodraeth Cymru yn penodi  Dr Nerys Llewelyn Jones yn Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd Cymru.

Hydref 2021

Safonau Amgylcheddol yr Alban (y corff sy’n llywodraethu’r amgylchedd yn yr Alban) yn cael ei sefydlu’n gyfreithiol.

Tachwedd 2021

Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd (y corff sy’n llywodraethu’r amgylchedd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon) yn cael ei sefydlu’n gyfreithiol.  

Ionawr 2024

Disgwylir papur gwyn ar gyfer Bil Cymru i sefydlu corff llywodraethu.


Erthygl gan Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru