Ym mis Mehefin 2022, mae 43 y cant o bobl 16 oed a throsodd yn y DU wedi cymryd rhan mewn math o weithgarwch gamblo yn ystod y pedair wythnos flaenorol. A chanfu astudiaeth yn 2021 bod 1.4 miliwn o bobl yn cael eu niweidio gan eu gamblo eu hunain, gydag 1.5 miliwn mewn perygl.
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Syr Frank Atherton wedi dweud bod effaith y niwed sy’n gysylltiedig â gamblo yn amrywiol ac yn bellgyrhaeddol. Mae'n ymestyn y tu hwnt i'r gamblwr i effeithio ar eraill fel teuluoedd, ffrindiau, a chydweithwyr.
Mae’r gost amcangyfrifedig i wasanaethau cyhoeddus Cymru yn sgil gamblo cymhellol rhwng £40 a £70 miliwn.
Mae pryderon hefyd bod datblygiadau technolegol, megis twf llwyfannau ar-lein a llwyfannau symudol, wedi gwneud niferoedd cynyddol o bobl yn agored i risgiau niwed sy’n gysylltiedig â gamblo.
Mae’r erthygl hon yn edrych ar bwy sydd mewn perygl o ddatblygu gamblo cymhellol yng Nghymru. Mae’n ystyried dull iechyd y cyhoedd o fynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig â gamblo a’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r mater hwn, gan gynnwys argymhellion diweddar y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Niwed sy’n Gysylltiedig â Gamblo.
Pwy sydd mewn perygl o ddatblygu gamblo cymhellol yng Nghymru?
Mae gan y Comisiwn Gamblo gyfrifoldeb o dan Ddeddf Gamblo y DU 2005 i adrodd ar lefelau gamblo cymhellol ym Mhrydain Fawr. Mae'r Comisiwn eisoes wedi cynnal arolygon annibynnol o ymddygiad gamblo yng Nghymru, ac mewn arolwg 2018 o ymddygiad gamblo amcangyfrifwyd bod tua 18,000 o 'gamblwyr cymhellol' yng Nghymru. Diffinnir gamblo cymhellol fel gamblo sy’n tarfu neu’n niweidiol i chi neu’ch teulu, neu’n amharu ar eich bywyd bob dydd.
Canfu arolwg 2019 o iechyd a lles myfyrwyr yng Nghymru bod un o bob 10 o bobl ifanc 11-16 oed wedi dweud eu bod wedi gwario eu harian eu hunain ar weithgareddau gamblo yn ystod y 7 diwrnod diwethaf.
Cafodd cwestiynau ar gamblo eu cynnwys am y tro cyntaf yn Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2020/21, fel rhan o dreial ar-lein. Mae cwestiynau ar ymddygiad gamblo hefyd wedi'u cynnwys yn arolwg 2022/23 a byddant yn rhoi darlun mwy diweddar o'r mater yng Nghymru.
Mabwysiadu agwedd iechyd y cyhoedd at gamblo cymhellol
Yn draddodiadol, ystyriwyd gamblo cymhellol o safbwynt meddygol, gyda ffocws ar drin symptomau neu ymddygiad yr unigolyn. Yn ôl gwaith ymchwil mae’r dull hwn yn methu â chydnabod y niwed i deuluoedd, ffrindiau a chydweithwyr. Mae amcangyfrifon yn awgrymu y gall gamblwr cymhellol nodweddiadol effeithio ar tua chwech o bobl eraill.
Felly, mae galwadau cynyddol am ystyried niweidiau sy’n gysylltiedig â gamblo yn fater iechyd y cyhoedd.
Amlygodd y Prif Swyddog Meddygol y pwysigrwydd o gydnabod a mynd i’r afael â niweidiau gamblo yn ei adroddiad blynyddol fwy na phum mlynedd yn ôl. Gwnaeth sawl argymhelliad i Lywodraeth Cymru, megis cynnull grŵp gorchwyl a gorffen sy’n nodi cynllun gweithredu i leihau niwed sy’n gysylltiedig â gamblo ledled Cymru, ac i wella’r gwaith o gydgysylltu a hyrwyddo gwasanaethau atal a thrin presennol. Mewn ymateb i'r argymhellion, sefydlodd Llywodraeth Cymru Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Niwed sy’n Gysylltiedig â Gamblo.
Yn 2019, comisiynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru archwiliad cychwynnol i gamblo fel mater iechyd y cyhoedd. Amlygodd y gwaith ymchwil, a arweiniwyd gan Brifysgol Bangor, annhegwch niweidiau gamblo, gyda rhai grwpiau mewn mwy o berygl o brofi gamblo cymhellol, gan gynnwys:
- Plant, naill ai o ganlyniad i gamblo eu hunain neu o ganlyniad i rieni neu ofalwyr yn gamblo.
- Unigolion sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, gyda gamblo cymhellol dros saith gwaith yn uwch o gymharu â’r ardaloedd lleiaf difreintiedig.
- Y rhai sydd ag amgylchiadau economaidd cyfyngedig oherwydd diweithdra, tangyflogaeth, anawsterau ariannol a dyled.
- Rhai grwpiau ethnig y dywedir eu bod yn gamblo llai ond eu bod yn dangos cyfraddau uwch o gamblo cymhellol.
Mae’r Brifysgol hefyd wedi cyhoeddi map rhyngweithiol o ddosbarthiad tebygol y perygl o niweidiau gamblo ledled Cymru.
A oes gan Lywodraeth Cymru y pŵer i fabwysiadu dull iechyd y cyhoedd o ymdrin â gamblo cymhellol?
Ni all Llywodraeth Cymru basio deddfau ar gamblo a hysbysebu gan ei fod yn fater wedi'i gadw yn ôl i Lywodraeth y DU. Mae wedi’i gyfyngu gan Ddeddf Gamblo 2005, a oedd yn rhyddfrydoli’r prosesau rheoleiddio gamblo.
Helpodd grwpiau ymgyrchu fel Gambling with Lives i sicrhau adolygiad DU gyfan o reoleiddio gamblo. Fodd bynnag, mae cynlluniau Llywodraeth y DU i gyhoeddi papur gwyn wedi cael eu gohirio hyd nes bod arweinydd Ceidwadol newydd yn ei swydd.
Fodd bynnag, mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb dros iechyd ac mae’n ymdrin â sawl agwedd arall ar bolisi gamblo, gan gynnwys cynllunio, llywodraeth leol, iechyd y cyhoedd ac iechyd meddwl. Daeth y gwaith ymchwil gan Brifysgol Bangor i’r casgliad ei bod yn bosibl mabwysiadu dull iechyd y cyhoedd yng Nghymru, y gellir ei “ddatgan o fewn ac o amgylch deddfwriaeth a fframweithiau iechyd cyhoeddus presennol yn cynnwys iechyd meddwl a defnyddio sylweddau.”
Gamblo, dyled a’r argyfwng costau byw
Mae llawer o gartrefi eisoes yn gweld gostyngiad sylweddol yn eu hincwm gwario oherwydd yr argyfwng costau byw. Er bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi rhoi pecyn cymorth ariannol ar waith, mae llawer o deuluoedd wedi gorfod addasu eu harferion gwario, a bydd rhai wedi torri’n ôl i’r pwynt nad oes ganddynt unrhyw opsiynau pellach.
Ym mis Mehefin, nododd GamCare fod cynghorwyr llinell gymorth wedi derbyn nifer o alwadau gan bobl sy'n gamblo fel ffordd o wneud arian ychwanegol i dalu eu biliau - sefyllfa sy'n golygu eu bod yn aml mewn sefyllfa ariannol waeth.
Yn ystod ei hymchwiliad i gostau byw, dywedodd Shavannah Taj (TUC) wrth Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd:
we've been hearing from people who were saying that they are dealing with personal cases from their members who've begun gambling as a means to try and pay off a gas or electricity bill.
Camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i leihau niwed sy’n gysylltiedig â gamblo
Dywed Llywodraeth Cymru ei bod wedi rhoi blaenoriaeth i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig â gamblo, drwy gamau gweithredu megis cynnwys mesurau i wella'r cysylltiadau rhwng gamblwyr cymhellol a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau o fewn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019 i 2022.
Mewn llythyr at The Lancet yn 2020, amlygodd aelodau Gambling Research, Education and Treatment (GREAT) yr angen am wasanaethau anhwylderau gamblo a ariennir gan y GIG yng Nghymru a galwodd ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r anghysondeb hwn.
Ym mis Rhagfyr 2020 sefydlodd y Gweinidog Iechyd Meddwl, Lles a’r Gymraeg ar y pryd Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Niwed sy’n Gysylltiedig â Gamblo. Wrth gwblhau ei waith ym mis Mawrth 2022, argymhellodd y grŵp y dylai Llywodraeth Cymru:
- Parhau i ddadlau o blaid diwygio Deddf Gamblo 2005 a chefnogi dull iechyd y cyhoedd ar lefel y boblogaeth.
- Parhau i weithredu'r argymhellion a wnaed gan y Prif Swyddog Meddygol yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2016/17.
- Datblygu adnoddau a rhaglenni addysgol, yn enwedig ar gyfer plant a phobl ifanc, i'w cynnwys yn y cwricwlwm newydd i Gymru.
- Datblygu llwybr atgyfeirio clir a pharhau i weithio gyda Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a GIG Cymru i ddatblygu a darparu gwasanaeth trin gamblo arbenigol i Gymru.
Ym mis Mai 2022, derbyniodd y Gweinidog yn llawn y pedwar argymhelliad a chyhoeddodd:
Mae'r asesiad o anghenion iechyd yn cael ei gynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar hyn o bryd a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn yr haf. Bydd y gwaith hwn wedyn yn llywio'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau triniaeth arbenigol yng Nghymru.
Gall unrhyw un sy'n pryderu am eu gamblo, neu rywun y maent yn ei adnabod, ymweld â BeGambleAware.org am gyngor a chefnogaeth gyfrinachol am ddim.
Mae CAIS a Living Room Cardiff yn darparu gwasanaeth rhad ac am ddim i bobl sydd â phroblemau gamblo ledled Cymru. I gael asesiad proffesiynol, ffoniwch 029 2049 3895.
Mae'r Llinell Gymorth Gamblo Genedlaethol ar gael ar 0808 8020 133 ac yn gweithredu 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Erthygl gan Claire Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru