Mae Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol cyntaf ers iddo gael ei benodi yn 2023, ac mae’n amlygu materion fel yr adnoddau sydd ar gael i’r Tribiwnlysoedd, a diffyg mynediad at gyfleoedd hyfforddi.
Mae’r erthygl hon yn edrych ar rai o’r prif faterion a amlygwyd yn yr adroddiad, a’r hyn a ddywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad mewn sesiwn dystiolaeth ar 14 Hydref.
Beth yw Tribiwnlysoedd Cymru a phwy yw’r Llywydd?
Tribiwnlysoedd Cymru yw'r unig gyrff barnwrol a weinyddir gan Lywodraeth Cymru. Corff sy’n setlo anghydfodau yw Tribiwnlys, yn aml yn dilyn penderfyniad corff cyhoeddus. Ar hyn o bryd, mae chwe Thribiwnlys yng Nghymru sy'n ymdrin â meysydd fel iechyd meddwl, addysg ac amaeth.
Crewyd rôl Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru o dan Ddeddf Cymru 2017. Penodwyd Syr Gary Hickinbottom yn 2023. Mae gan Lywydd y Tribiwnlysoedd rôl oruchwylio dros holl Dribiwnlysoedd Cymru. Mae gan bob tribiwnlys hefyd ei arweinydd barnwrol a'i aelodau ei hun. Mae gan y tribiwnlysoedd ystod o wahanol gyfrifoldebau. Gyda'i gilydd, maen nhw'n ymdrin â thua 2,000 o achosion bob blwyddyn.
Mae rhagor o wybodaeth am Dribiwnlysoedd Cymru ar gael yn yr erthygl hon gan Ymchwil y Senedd.
Nid oes gan y Tribiwnlysoedd yr adnoddau sydd eu hangen arnynt
Mae Tribiwnlysoedd Cymru wedi gwario y tu hwnt i’r gyllideb a ddyrannwyd iddynt am y ddwy flynedd ddiwethaf (2022-23 a 2023-24). Mae adroddiad blynyddol y Llywydd yn nodi bod hyn o ganlyniad i gynnydd mewn cyfraddau ffioedd a chostau pensiwn o ganlyniad i chwyddiant, yn ogystal â chynnydd o ran amser barnwrol sy'n talu ffi, costau recriwtio a dychwelyd at wrandawiadau wyneb yn wyneb.
Gofynnodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i'r Llywydd am y gorwariant hwn a pha gamau y mae’n eu cymryd i fynd i’r afael ag ef.
Dywedodd y Llywydd ei fod yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch cyllidebu a gwariant, a phwysleisiodd pa mor bwysig yw sicrhau bod y Tribiwnlysoedd yn gwbl atebol i bobl Cymru. Awgrymodd y byddai’r diwygiadau a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru yn gwneud hyn yn haws oherwydd y byddent yn arwain at sefydlu corff gweithredol, sy’n annibynnol ar y llywodraeth, i gynnal y Tribiwnlysoedd a fyddai’n “llawer mwy tryloyw ac atebol nag y mae pethau ar hyn o bryd”. Trafodir y diwygiadau hyn yn ddiweddarach yn yr erthygl hon.
Pan ofynnwyd iddo a oedd yn credu bod gan Dribiwnlysoedd Cymru yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i sicrhau bod achosion yn cael eu datrys yn gyflym, yn effeithlon ac yn gyfiawn, dywedodd y Llywydd, nac oes, oherwydd mae'n teimlo bod yna wahaniaeth rhwng y gyllideb a'r gwir wariant.
Heriau wrth gystadlu â llysoedd a thribiwnlysoedd heb eu datganoli
Un o'r heriau allweddol a godwyd yn yr adroddiad blynyddol yw cyfradd y ffi a delir i aelodau Tribiwnlysoedd Cymru, o gymharu â’r rhai sy’n gwasanaethu yn y llysoedd a’r tribiwnlysoedd nad ydynt wedi’u datganoli. Mae’r adroddiad yn nodi ei bod yn “hollbwysig” bod cyfraddau ffioedd yn gymaradwy â’r cyrff eraill hyn.
Er bod y cyfraddau ffioedd hyn wedi’u halinio’n flaenorol, dim ond o 1 Ebrill 2023 y cytunodd y cyn Brif Weinidog i godiad o 5 y cant o’i gymharu â’r 7 y cant yr oedd yr Arglwydd Ganghellor wedi cytuno arno ar gyfer deiliaid swyddi mewn llysoedd a thribiwnlysoedd heb eu datganoli. Rhybuddiodd y Llywydd y gallai'r gwahaniaeth hwn arwain at aelodau'n dewis eistedd mewn llysoedd a thribiwnlysoedd eraill yn hytrach na'r tribiwnlysoedd datganoledig ar gyflog is.
Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad fod Llywodraeth Cymru bellach wedi cytuno ar godiad cyflog newydd ar gyfer 2024-25 sy’n cyfateb i’r hyn a bennwyd gan yr Arglwydd Ganghellor, ynghyd â dau y cant i wneud iawn am yr anghysondeb yn y flwyddyn flaenorol.
Nid dyma'r unig her, fodd bynnag, o ran recriwtio aelodau o'r Tribiwnlysoedd. Yn ei adroddiad blynyddol ac yn ei dystiolaeth i’r Pwyllgor, nododd y Llywydd y gwahaniaeth sy'n bodoli o ran materion nad ydynt yn ymwneud â chyfraddau ffioedd, fel arferion gwaith. Mae hyn yn cynnwys tâl am ddiwrnodau nad ydynt yn ddiwrnodau eistedd, am amser paratoi ac ysgrifennu, a thâl o ran canslo sesiynau. Dywedodd y Llywydd fod y gwahaniaeth hwn yn ffafrio'r llysoedd a thribiwnlysoedd heb eu datganoli.
Diffyg mynediad at gyrsiau hyfforddi
Gofynnodd y Pwyllgor i'r Llywydd hefyd ynghylch a oes gan aelodau o Dribiwnlysoedd Cymru fynediad at yr hyfforddiant a’r cymorth sydd eu hangen arnynt.
Dywedodd y Llywydd, er bod y Coleg Barnwrol (sy’n darparu hyfforddiant i’r farnwriaeth yng Nghymru a Lloegr) yn caniatáu i aelodau o Dribiwnlysoedd Cymru gael mynediad at eu deunyddiau a mynychu sesiynau hyfforddi os oes lleoedd gwag, dim ond y llysoedd a’r tribiwnlysoedd heb eu datganoli y mae’r Coleg yn eu gwasanaethu’n llawn.
Ychwanegodd fod hyfforddi aelodau Tribiwnlysoedd Cymru heb ‘yr hyn sy’n cyfateb i’n Coleg Barnwrol ein hunain’ yn ‘broblem wirioneddol’. Dywedodd y Llywydd y byddai yn gwneud fel a ganlyn:
...have another go at trying to persuade those who need persuading that the Judicial College should extend their scope to cover devolved tribunals.
Cymraeg: mynediad at gyfiawnder?
Dengys adroddiad blynyddol y Llywydd bod nifer y gwrandawiadau tribiwnlysoedd a gynhaliwyd yn Gymraeg wedi aros yn isel dros y pedair blynedd diwethaf. Mae’r adroddiad yn cydnabod bod hyn yn gyson â sefyllfa llysoedd a thribiwnlysoedd eraill yng Nghymru, a bod gwahaniaeth sylweddol rhwng y defnydd o’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd a’r defnydd ohoni yn y system gyfiawnder.
Yn ei dystiolaeth i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, cydnabu’r Llywydd y gallai hyn gael effaith andwyol ar fynediad at gyfiawnder i’r “unigolion hynny a fyddai’n cyflwyno’u hachos orau...yn y Gymraeg, neu’n bennaf yn y Gymraeg”.
Er mwyn helpu i ddeall y rhesymau pam mae ymgeiswyr yn dewis peidio â chynnal gwrandawiadau yn Gymraeg, hyd yn oed os mai dyna yw eu hiaith gyntaf, bydd y Tribiwnlysoedd yn gofyn cwestiwn newydd yn eu ffurflen gais. Mae'r cwestiwn yn gofyn pam mae pobl sy'n nodi eu bod yn siarad Cymraeg yn dewis cael gwrandawiad yn Saesneg.
Cadarnhaodd y Llywydd wrth y Pwyllgor fod gan y Tribiwnlysoedd yr adnoddau o ran staff a deiliaid swyddi barnwrol i alluogi’r rhai sydd am siarad Cymraeg, naill ai’n weinyddol neu mewn gwrandawiadau, i wneud hynny.
Diwygio yn y dyfodol?
Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei chynlluniau i ddiwygio Tribiwnlysoedd Cymru drwy greu un Tribiwnlys Haen Gyntaf wedi’i rannu’n siambrau, a Thribiwnlys Apêl i Gymru. Byddai hyn yn cyfuno holl Dribiwnlysoedd presennol Cymru ac yn helpu i greu rhagor o gysondeb yn eu rheolau a'u gweithdrefnau.
Amlinellodd y Llywydd ei gefnogaeth i’r cynigion yn y sesiwn dystiolaeth, gan ddweud y byddant yn rhoi llawer rhagor o gydlyniad i’r Tribiwnlysoedd, a’i bod yn bwysig eu bod yn mynd drwy’r ddau, ar gyfer y Tribiwnlysoedd eu hunain ac ar gyfer defnyddwyr y Tribiwnlysoedd.
Dywedodd Julie James AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni, wrth y Senedd yn ddiweddar nad oedd yn gallu dweud pryd yn union y gellir cyflwyno Bil i ddiwygio Tribiwnlysoedd Cymru, ond ei bod yn gobeithio y gallai Llywodraeth Cymru roi rhywfaint o sicrwydd ynghylch yr amserlen ar gyfer y Bil yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru