Llywodraethu ac egwyddorion amgylcheddol ar ôl Brexit: Bil drafft y DU, a Chymru

Cyhoeddwyd 10/01/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae pryder eang ar draws sector yr amgylchedd y bydd 'bwlch llywodraethu' amgylcheddol pan fydd y DU yn gadael yr UE.

Ar hyn o bryd, mae cyrff yr UE, fel y Comisiwn Ewropeaidd a Llys Cyfiawnder Ewrop, yn chwarae rhan bwysig wrth weithredu a gorfodi deddfau amgylcheddol sy'n deillio o'r UE ledled y DU. Mae'r cyfreithiau hyn, a sut y maent yn cael eu dehongli, wedi'u llunio gan egwyddorion amgylcheddol yr UE, sydd wedi'u cynllunio i sicrhau safonau amgylcheddol uchel.

Ni fydd y strwythurau llywodraethu a'r egwyddorion amgylcheddol hyn bellach yn gymwys ar ôl Brexit.

Ar 19 Rhagfyr 2018, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Bil drafft yr Amgylchedd (Egwyddorion a Llywodraethu) 2018 ('y Bil drafft') i fynd i'r afael â'r bwlch llywodraethu. Mae agweddau ar y Bil drafft yn gymwys i Gymru, ond dim ond mewn perthynas â materion sy'n cael eu cadw yn ôl. Fodd bynnag, gellid ymestyn cwmpas y Bil drafft i gynnwys meysydd datganoledig os bydd Llywodraeth Cymru yn dewis peidio â mabwysiadu dull gweithredu ar y cyd â Llywodraeth y DU.

Mae'r sector amgylcheddol yng Nghymru yn aros i weld beth fydd dull gweithredu Llywodraeth Cymru.

Mae'r cofnod blog hwn yn ymchwilio i Fil drafft y DU a'r hyn y gallai ei olygu i Gymru.

Mae cofnodion blog blaenorol y Gwasanaeth Ymchwil yn rhoi cefndir i'r materion: Llywodraethu amgylcheddol ar ôl Brexit: cau'r 'bwlch llywodraethu'; a Dyfodol egwyddorion amgylcheddol yr UE: rôl unigryw Cymru.

Bil Amgylchedd y DU?

Mae disgwyl i Lywodraeth y DU osod Bil Amgylchedd ym mis Medi 2019. Bydd y Bil hwn yn cynnwys llywodraethu ac egwyddorion amgylcheddol; mae'r Bil drafft yn rhagflaenydd i'r darpariaethau hynny. Mae cyhoeddi Bil drafft ar lywodraethu ac egwyddorion amgylcheddol yn ofynnol yn ôl Deddf yr UE (Ymadael) 2018.

Lansiodd Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol a Phwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Tŷ'r Cyffredin ymchwiliad ar y cyd i'r Bil drafft ar 20 Rhagfyr 2018. Content Image

Beth yw'r agweddau nodedig ar y Bil drafft?

  • Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd

Mae'r Bil drafft yn cynnig bod corff llywodraethu amgylcheddol newydd yn cael ei sefydlu ar ôl Brexit, o'r enw Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd (Office for Environmental Protection). Cyhoeddodd Defra y bydd Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd yn gorff amgylcheddol statudol annibynnol a fydd yn dwyn y llywodraeth a chyrff cyhoeddus i gyfrif ynghylch safonau amgylcheddol, gan gynnwys cymryd camau cyfreithiol i orfodi gweithredu cyfraith amgylcheddol lle bo angen. Bydd awdurdodaeth Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd yn gymwys ar draws y DU gyfan. Fodd bynnag, wrth i'r Bil gael ei ddrafftio, byddai swyddogaethau Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd yn gymwys mewn perthynas â materion amgylcheddol nad ydynt wedi'u datganoli yn unig. Nid yw'r diffiniad o 'gyfraith amgylcheddol' (cymal drafft 31) yn cynnwys deddfwriaeth ddatganoledig.

  • Gallu Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd i gymryd camau gorfodi

Byddai Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd yn gallu cymryd camau cyfreithiol yn erbyn awdurdodau cyhoeddus mewn achosion lle caiff cyfraith amgylcheddol ei thorri. Mae hyn yn mynd ymhellach na'r gofyniad a nodir yn Neddf yr UE (Ymadael), sy'n gymwys i gymryd camau yn erbyn Gweinidogion yn unig. Fodd bynnag, nid yw'r Bil drafft yn cynnwys unrhyw bwerau i godi dirwyon (fel sy'n digwydd ar hyn o bryd yn system llywodraethu yr UE). Byddai pwerau ymgyfreitha Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd yn gyfyngedig i adolygiad barnwrol. Bydd dinasyddion yn gallu defnyddio system gwynion Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd.

  • Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd.

Mae'r diffiniad o 'gyfraith amgylcheddol' yn y Bil drafft yn eithrio allyriadau nwyon tŷ gwydr ac felly mae lliniaru newid yn yr hinsawdd y tu allan i gwmpas Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd gan fwyaf. Mae crynodeb Llywodraeth y DU o'r ymatebion ac ymateb y llywodraeth i'r ymgynghoriad yn nodi bod 'mwyafrif sylweddol' o’r ymatebion yn credu y dylai newid hinsawdd fod o fewn cwmpas y corff newydd. Dywedodd Llywodraeth y DU y bydd yn sicrhau bod 'rôl hanfodol' y Pwyllgor Newid Hinsawdd (CCC) presennol yn cael ei diogelu ac y byddai'n ofynnol i'r Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd gydlynu eu gwaith fel nad yw'n gorgyffwrdd.

  • Yr egwyddorion amgylcheddol

Caiff cyfres o egwyddorion amgylcheddol ei chynnig ar wyneb y Bil drafft, sef un o ofynion Deddf yr UE (Ymadael). Mae'r rhestr yn cynnwys 'Datblygu Cynaliadwy', sydd eisoes yn gymwys yng Nghymru drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae'r cymal drafft yn nodi y bydd Gweinidogion y Goron yn 'ystyried' yr egwyddorion wrth wneud penderfyniadau. Ni fydd yr egwyddorion yn berthnasol i benderfyniadau gwariant cyhoeddus nac 'unrhyw fater arall' a bennir gan Lywodraeth y DU. Mae'r Bil drafft yn ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi datganiad polisi statudol ynghylch dehongli a chymhwyso'r egwyddorion. Mae'r adran hon yn gymwys i'r DU gyfan mewn perthynas â swyddogaethau Gweinidogion Llywodraeth y DU yn unig.

  • Cynlluniau Gwella'r Amgylchedd a thargedau

Mae'r Bil drafft yn rhoi Cynllun Amgylchedd 25 mlynedd Defra (ar gyfer Lloegr) ar sail statudol ac yn ei gwneud yn ofynnol i lywodraethau yn y dyfodol ddatblygu Cynlluniau Gwella'r Amgylchedd. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU osod targedau amgylcheddol, ond ni fyddai'r targedau hyn yn rhai rhwymol. Byddai angen i Lywodraeth y DU fonitro cynnydd yn erbyn targedau ac adrodd i'r senedd bob blwyddyn ynghylch y ffordd y caiff y cynlluniau eu gweithredu. Byddai'n ofynnol i Lywodraeth y DU gasglu data amgylcheddol sy’n ofynnol er mwyn y mae eu hangen i olrhain cynnydd. Mae'r darpariaethau hyn yn gymwys i Loegr yn unig.

Sut dderbyniad y mae'r Bil drafft wedi'i gael?

Er eu bod wedi croesawu'r Bil drafft, mae cyrff anllywodraethol amgylcheddol wedi tynnu sylw at bryderon.

Maent wedi cwestiynu annibyniaeth Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd o ystyried bod y Bil drafft yn cynnig y byddai'n cael ei hariannu gan Defra, ac y byddai'r Ysgrifennydd Gwladol yn penodi ei chadeirydd, ac aelodau anweithredol eraill.

Mae cyfyngu pwerau ymgyfreitha Swyddfa Diogelu'r Amgylchedd i adolygiad barnwrol ac absenoldeb dirwyon wedi bod yn destun beirniadaeth, yn ogystal ag eithrio newid hinsawdd o'i chylch gorchwyl. Mae rhanddeiliaid hefyd wedi gwneud sylw ynghylch y ddyletswydd wan i Weinidogion 'ystyried' mewn perthynas â'r egwyddorion amgylcheddol.

Beth mae'r Bil drafft yn ei olygu i Gymru?

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo yn y gorffennol i fanteisio ar y cyfle deddfwriaethol priodol cyntaf i gynnwys yr egwyddorion amgylcheddol mewn cyfraith a chau'r bwlch llywodraethu.

Ers hynny, mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, wedi bod yn ystyried a ddylid creu corff llywodraethu amgylcheddol ar gyfer Cymru yn unig ac egwyddorion Cymru, neu a ddylid ymuno â Llywodraeth y DU i bennu dull gweithredu ar lefel y DU. Mewn gohebiaeth i Bwyllgor Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig y Cynulliad (Hydref 2018), dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn ystyried y gwahaniaethau yn y bwlch llywodraethu rhwng Cymru a Lloegr, ac y byddai ymgynghoriad ar gyfer Cymru yn cael ei lansio yn nhymor yr hydref 2018.

Fodd bynnag, nid yw ymgynghoriad ar gyfer Cymru wedi'i gyhoeddi eto.

Yn y cyfamser, mae Michael Gove, Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, yn parhau i wahodd y gweinyddiaethau datganoledig i ymuno â chynigion Defra:

Environment is a devolved matter, subject to a small number of areas that are reserved. In consequence, this Bill applies to England and to the UK for reserved matters. Overall, we recognise that protecting the environment is inherently an issue that cuts across boundaries, and we continue to welcome the opportunity to co-design with the Devolved Administrations, should they wish to join any proposals, to safeguard our shared natural environment.

Mae angen aros i weld a fydd y cynigion yn gymwys yn gyffredinol ledled y DU mewn meysydd datganoledig yn dilyn y trafodaethau rhwng y llywodraethau. Os mai dyma a fydd yn digwydd, mae nodiadau esboniadol y Bil drafft yn nodi y gofynnir am gydsyniad y deddfwrfeydd datganoledig perthnasol i'r gwelliannau.

Casglwyd barn rhanddeiliaid Cymru yr haf diwethaf yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Corff llywodraethu amgylcheddol ac egwyddorion amgylcheddol ar ôl Brexit. Cyflwynwyd adroddiad yr ymchwiliad i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU adeg ymgynghoriad Defra ynghylch llywodraethu ac egwyddorion amgylcheddol wedi i'r DU ymadael â'r UE. I weld y diweddaraf am beth mae’r Cynulliad yn ei wneud o ran Brexit, gallwch ddilyn ein tudalen newydd, Y Cynulliad a Brexit.


Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru