Llun o laswelltir sy’n frith o rywogaethau

Llun o laswelltir sy’n frith o rywogaethau

Llywodraethiant amgylcheddol yn y DU

Cyhoeddwyd 20/11/2023   |   Amser darllen munudau

Yn dilyn canlyniad refferendwm yr UE, cododd grwpiau amgylcheddol, fel Greener UK, bryderon ynghylch bylchau mewn llywodraethiant amgylcheddol sy’n deillio o ymadawiad y DU â’r UE.

Mae system llywodraethiant amgylcheddol yr UE yn cynnwys monitro ac adrodd ar weithrediad cyfraith amgylcheddol gan Aelod-wladwriaethau, dull o gael cwynion gan ddinasyddion, a chymryd camau gorfodi pan fydd cyfraith yr UE yn cael ei thorri.

Y tu allan i’r UE, mae rhanddeiliaid amgylcheddol wedi bod yn galw am ddisodli trefniadau llywodraethiant amgylcheddol domestig ar gyfer y DU, er mwyn dwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo yn y lle cyntaf i ddeddfu i fynd i’r afael â’r bwlch llywodraethiant yn 2018, nid oes unrhyw ddeddfwriaeth wedi’i chyflwyno hyd yn hyn. Fodd bynnag, fel mesur dros dro, mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Asesydd Diogelu'r Amgylchedd Dros Dro i Gymru. At hynny, mae wedi ymrwymo i gyhoeddi Papur Gwyn ym mis Ionawr 2024 ar gyfer Bil i sefydlu corff llywodraethiant.

Yn y cyfamser, sefydlwyd cyrff llywodraethiant statudol ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon, a’r Alban.

Mae absenoldeb trefn ddisodli lawn wedi ysgogi Cyswllt Amgylchedd Cymru i awgrymu fod gan Gymru, bellach, y strwythurau llywodraethiant amgylcheddol gwannaf yng ngorllewin Ewrop.

Ym mis Medi 2023, daeth Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd ac Isadeiledd y Senedd i’r casgliad, “os nad yw’r corff newydd yn gwbl weithredol cyn diwedd cyfnod Llywodraeth Cymru mewn grym, bydd hynny’n fethiant anfaddeuol ar ei rhan”.

Mae’r papur briffio hwn yn rhoi’r cefndir ar system lywodraethiant amgylcheddol yr UE y mae’r DU wedi ymadael â hi, y sefyllfa bresennol ledled y DU, a’r cynigion ar gyfer Cymru.


Erthygl gan Katy Orford a Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru