Cyhoeddwyd 25/06/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021
  |  
Amser darllen
munudau
25 Mehefin 2015
Erthygl gan Martin Jennings and David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cymru
Gosododd y Gweinidog Cyllid (Jane Hutt AC) y
Gyllideb Atodol 2015-16 gyntaf ar 23 Mehefin, 2015. Yn cydfynd â’r gyllideb roedd
nodyn esboniadol a
thablau a oedd yn dangos dyraniadau adrannol. Mae’r gyllideb atodol hon yn diwygio
Cyllideb Derfynol 2015-16, a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2014.
Mae hithau’n gynnar yn y flwyddyn ariannol, mae’r Gyllideb Atodol Gyntaf yn y flwyddyn yn dangos ychydig o newidiadau’n unig.
Mae’r gyllideb Atodol hon yn cadarnhau’r dyraniadau refeniw a ganlyn, a ariennir o gronfeydd wrth gefn:
Mae’r Gyllideb Atodol hon yn cynnwys ychwanegiadau net i’r llinell sylfaen, o ganlyniad i Gyllidebau a Datganiadau Hydref Llywodraeth y DU o £167.4 miliwn o arian refeniw, a £9.7 miliwn o arian cyfalaf, y mae £2.3 miliwn ohono yn gyllid trafodion ariannol ad-daladwy.
Ar 4 Mehefin, cyhoeddodd Llywodraeth y DU doriadau o ran gwariant adrannol yn ystod y flwyddyn. Mae’r toriadau yn golygu gostyngiad o £50 miliwn ar gyfer Llywodraeth Cymru yn 2015-16, sef £43 miliwn o arian refeniw a £7 miliwn o arian cyfalaf. Mae posibilrwydd y gwelir rhagor o newidiadau pan gyhoeddir Cyllideb nesaf y DU ar 8 Gorffennaf. Nid yw’r newidiadau hyn wedi cael eu cynnwys yn y Gyllideb Atodol hon.
Mae datganoli ardrethi busnes yn llwyr wedi achosi newid technegol yn nogfennaeth y gyllideb, sy’n golygu symud cyllid o £956 miliwn o wariant refeniw adrannol llywodraeth leol i Wariant a Reolir yn Flynyddol.
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg