Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan AS, wedi dweud ei bod hi eisiau gweld y cyhoedd yng Nghymru yn cymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu hiechyd eu hunain i gefnogi’r GIG.
Mae’r Gweinidog wedi pwysleisio pwysigrwydd dewisiadau unigol, fel gwneud ymarfer corff, dim ysmygu, a bwyta’n iachach, i feithrin poblogaeth iachach. Mae hi'n dweud y bydd hyrwyddo cyfrifoldeb personol dros iechyd, yn ei dro, yn lleddfu’r straen ar y system gofal iechyd. Mae cysylltiad agos rhwng llythrennedd iechyd a hyn.
Mewn adroddiad i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, a gyhoeddwyd heddiw, mae academyddion o Brifysgol Abertawe, Dr Emily Marchant a'r Athro Tom Crick, yn galw am wella llythrennedd iechyd. Maent yn tynnu sylw at gysylltiad rhwng llythrennedd iechyd isel a statws iechyd gwaeth. Comisiynwyd yr adroddiad fel rhan o Faes o Ddiddordeb Ymchwil.
Mae’r erthygl hon yn edrych ar ystyr llythrennedd iechyd a strategaethau ar gyfer ei wella.
Diffinio llythrennedd iechyd
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cyfeirio at eirfa hybu iechyd yr Athro Don Nutbeam, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1998, ac sy’n diffinio llythrennedd iechyd fel hyn:
…the ability of individuals to “gain access to, understand and use information in ways which promote and maintain good health”… for themselves, their families and their communities.
Fodd bynnag, mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cydnabod bod llythrennedd iechyd yn gysyniad sy’n esblygu a bod diffiniadau gwahanol yn cael eu defnyddio. Mae'n dweud y cytunir yn gyffredinol ar y canlynol:
…health literacy means more than simply being able to "read pamphlets", "make appointments", "understand food labels" or "comply with prescribed actions" from a doctor.
Yn eu hadroddiad, mae Marchant a Crick yn diffinio llythrennedd iechyd fel hyn:
…the ability and motivation level of an individual to access, understand, communicate and evaluate both narrative and numeric information to promote, manage, and improve their health status throughout their lifetime.
Maent yn dweud ei fod yn cwmpasu gwahanol agweddau ar iechyd, gan gynnwys ymddygiadau, gwybodaeth, gwasanaethau, atal, gofal a rheoli clefydau. Mae Marchant a Crick yn dadlau bod llythrennedd iechyd yn ymwneud â phobl yn deall gwybodaeth iechyd, a all eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus a llywio drwy systemau gofal iechyd. Gall hyn arwain at fwy o ymwybyddiaeth o fesurau ataliol, dilyn cyngor meddygol yn well, a dull rhagweithiol o reoli eu hiechyd a'u lles eu hunain.
Strategaethau ar gyfer gwella llythrennedd iechyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhai camau ar lythrennedd iechyd, yn fwyaf nodedig drwy Ganolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru. Mae llythrennedd iechyd yn cyd-fynd â dull gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth a gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn y llywodraeth. Mae dull gweithredu Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio'n bennaf ar wella addysg cleifion i gefnogi dewisiadau ffordd iach o fyw ac ar wella llythrennedd digidol.
Mae Marchant a Chric yn cynnig nifer o argymhellion i adeiladu ar hyn. Maent yn cynnwys:
- ffocws clir ar feithrin dinasyddion llythrennog ym maes iechyd;
- cryfhau ymdrechion ymchwil;
- sôn yn benodol am lythrennedd iechyd mewn polisïau;
- monitro llythrennedd iechyd plant; a,
- datblygu cynlluniau gweithredu llythrennedd iechyd cenedlaethol.
Mae'r gyfres lawn o argymhellion ar gael yn adroddiad Marchant a Crick.
Cynlluniau gweithredu llythrennedd iechyd cenedlaethol
Mae Marchant a Crick yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn datblygu cynllun gweithredu llythrennedd iechyd cenedlaethol i hybu llythrennedd iechyd. Maent yn dweud y dylai, ymhlith pethau eraill, ganolbwyntio ar gamau gweithredu sy'n meithrin grymuso unigolion, yn gwella cyfathrebu ac yn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol o wahaniaethau iechyd.
Mae eu hadroddiad yn cyfeirio at rai gwledydd, fel yr Almaen, Awstria, Awstralia, a'r Alban sydd wedi cyflwyno cynlluniau gweithredu llythrennedd iechyd.
Mae Marchant a Crick yn dadlau bod buddsoddi mewn llythrennedd iechyd yn talu ar ei ganfed yn y tymor hir, er enghraifft, mae unigolion mewn gwell sefyllfa i reoli cyflyrau cronig a chynnal llesiant cyffredinol.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd hefyd yn dweud y gall gwell llythrennedd iechyd arwain at weithlu mwy cynhyrchiol, gan leihau'r baich economaidd sy'n gysylltiedig â chlefydau y gellir eu hatal.
Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod cefnogi unigolion i wneud dewisiadau iach yn gallu:
…lleihau baich clefydau ac yn helpu i leihau’r bwlch mewn anghydraddoldebau iechyd sy’n codi o gyflyrau hirdymor fel gordewdra, canser, cyflyrau’r galon, strôc, cyflyrau anadlol a dementia.
Mae'n canolbwyntio ar leihau nifer y bobl sy'n ysmygu, hybu pwysau iach, ac atal niwed o amrywiaeth o ymddygiadau megis camddefnyddio sylweddau.
Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Lloegr ganllawiau blynyddoedd cynnar ym mis Mai 2021 gyda'r nod o wella llythrennedd iechyd i helpu teuluoedd i reoli mân afiechydon a lleihau damweiniau anfwriadol ymhlith plant. Mae’n tynnu sylw at ba mor bwysig yw sicrhau bod gwybodaeth iechyd yn glir ac yn hawdd cael gafael arni. Mae hefyd yn amlinellu bod angen i’r wybodaeth fod ar gael mewn sawl iaith i gyrraedd poblogaethau amrywiol.
Mae Marchant a Crick yn nodi pwysigrwydd addysg gynnar i feithrin llythrennedd iechyd. Maent yn dweud bod gan y Cwricwlwm i Gymru rôl hollbwysig wrth lunio'r agenda hon.
Dywed King’s Fund fod anghydraddoldebau iechyd yn endemig, gyda chyfraddau afiechyd yn sylweddol uwch ymhlith y grwpiau tlotaf ac sydd wedi’u hallgáu. Mae'n dweud y gall ymdrechion llythrennedd iechyd wedi'u targedu helpu i fynd i'r afael ag anghysondebau, gan sicrhau bod pob rhan o'r boblogaeth yn cael mynediad cyfartal i wybodaeth iechyd a dealltwriaeth ohoni.
Cais i weithredu?
Mae adroddiad Marchant a Crick yn amlinellu bod grymuso unigolion mewn penderfyniadau iechyd yn mynd y tu hwnt i ddewisiadau ffordd o fyw fel ysmygu, ymarfer corff, neu yfed alcohol. Maent yn cytuno bod llythrennedd iechyd yn golygu bod unigolion yn mynd ati i wella eu hiechyd, trwy wella hunanofal ac arferion ataliol. Ond maent yn ychwanegu bod yn rhaid i lywodraethau a systemau iechyd gyflawni eu cyfrifoldebau drwy gefnogi pobl â gwybodaeth i ddod yn ddinasyddion sy’n llythrennog ym maes iechyd.
Health literacy is also not just a personal resource; higher levels of health literacy within populations yield social benefits, too, for example by mobilizing communities to address the social, economic and environmental determinants of health. This understanding, in part, fuels the growing calls to ensure that health literacy not be framed as the sole responsibility of individuals, but that equal attention be given to ensure that governments and health systems present clear, accurate, appropriate and accessible information for diverse audiences.
Maent yn ychwanegu fel a ganlyn:
Those with higher levels of health literacy are empowered to hold their governments accountable, whether for access to essential medicines, universal health coverage, removing environmental air pollutants or tearing down discriminatory laws and practices.
Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru