Llygredd nitradau yng Nghymru: beth yw’r sefyllfa nawr?

Cyhoeddwyd 19/07/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae mynd i’r afael â phroblem hirdymor llygredd nitradau wedi dod yn fater dadleuol. Mae’r blog hwn yn amlinellu’r sefyllfa ar hyn o bryd.

Ym mis Tachwedd 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynlluniau i gyflwyno rheoliadau ledled Cymru i fynd i’r afael â llygredd nitradau o’r diwydiant amaethyddol. Eglurodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar y pryd, y byddai’r rheoliadau yn sicrhau ‘y bydd modd gorfodi hyn mewn dull cadarn, cyson ac effeithiol [...] i fynd i’r afael â’r problemau sylweddol yr ydym yn eu hwynebu.’

Effaith llygredd nitradau

Mae arferion gwaith amaethyddol yn aml yn cynnwys defnyddio gwrteithiau, tail a slyri sy’n cynnwys nitradau i ychwanegu nitrogen at y pridd. Mae hyn er mwyn gwella datblygiad planhigion, ac yn sgîl hynny, swm ac ansawdd y cnwd. Fodd bynnag, gall gormod o nitradau arwain at ddifrod amgylcheddol sylweddol a chyson.

Daw’r rhan fwyaf o lygredd nitradau o ffynonellau amaethyddol gwasgaredig (llawer o ffynonellau unigol ar y cyd), drwy ddŵr ffo ar y tir. Gall gormod o nitradau fynd i mewn i gronfeydd dŵr wyneb, fel llynnoedd ac afonydd, ac achosi ewtroffeiddio. Mae ewtroffeiddio yn digwydd pan fydd maetholion yn cyfoethogi planhigion dyfrol ac algâu, gan achosi i lefelau ocsigen yn y dŵr ostwng (dadocsigeneiddio), i ansawdd y dŵr ddirywio ac i anifeiliaid dyfrol farw. Gall llygredd nitradau hefyd effeithio ar ffynonellau dŵr yfed os yw’n mynd i ddŵr daear.

Yn ôl ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru, roedd tua 61 y cant o ddigwyddiadau llygredd amaethyddol y flwyddyn, rhwng 2010 a 2015, yn deillio o ffermydd llaeth.

Deddfwriaeth bresennol ar lygredd nitradau

O dan Gyfarwyddeb Nitradau yr UE (91/676/EC), rhaid i’r DU:

  1. Nodi cronfeydd dŵr sydd wedi’u llygru neu sydd mewn perygl o lygredd nitradau;
  2. Dynodi’r ardaloedd hyn fel Parthau Perygl Nitradau (NVZs);
  3. Sefydlu Codau Ymarfer Amaethyddol Da gwirfoddol i ffermwyr eu dilyn;
  4. Sefydlu Rhaglenni Gweithredu gorfodol i ffermwyr eu dilyn; a
  5. Monitro, adrodd ar, ac adolygu (os oes angen) y Parthau Perygl Nitradau bob pedair blynedd.

Mae’r Gyfarwyddeb Nitradau yn cael ei gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd drwy’r Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010 a Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013 (fel y’i diwygiwyd).Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gorfodi’r rheoliadau, gan gynnwys y Rhaglen Weithredu.

Mae camau Rhaglen Weithredu’r Parthau Perygl Nitradau yn cynnwys:

  • Rheoli’r dyddiadau (y cyfnodau caeedig) a’r amodau y mae gwrtaith nitrogen a deunyddiau organig yn cael eu gwasgaru;
  • Cael cyfleusterau digonol i storio tail a slyri;
  • Cyfyngu ar faint o wrtaith nitrogen sy’n cael ei wasgaru i angen y cnwd yn unig;
  • Cyfyngu ar faint o ddeunydd organig sy’n cael ei wasgaru fesul hectar y flwyddyn;
  • Cyfyngu ar gyfanswm y deunydd organig a’r tail sy’n cael ei wasgaru ar lefel fferm;
  • Rheoli’r ardaloedd lle gellir gwasgaru gwrteithiau nitrogen (gwrteithiau organig ac anorganig);
  • Rheolaethau ar ddulliau gwasgaru; a
  • Pharatoi cynlluniau a chadw cofnodion fferm digonol.

I gydymffurfio â’r rheoliadau, gall ffermwyr gael cymorth ariannol a chyngor oddi wrth Cyswllt Ffermio a’r Rhaglen Datblygu Gwledig.

Rheoliadau newydd ar Barthau Perygl Nitradau

Cynhaliwyd yr adolygiad diweddaraf o Barthau Perygl Nitradau rhwng 2015 a 2016, ac roedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn argymell dynodi saith ardal newydd, gan gynnwys ar gyfer dyfroedd ewtroffig, dyfroedd daear a dyfroedd wyneb.

Yn ystod ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn 2016, gofynnwyd i’r ymatebwyr a oeddent yn ffafrio:

  1. Parhau â’r dull presennol o ddynodi Parthau Perygl Nitradau. Byddai hyn yn arwain at ddynodi rhagor o gamau Rhaglen Weithredu’r Parthau Perygl Nitradau ac at ddynodi 8 y cant o arwynebedd tir yng Nghymru (yn cynyddu o 2.4 y cant yn 2012); neu
  2. Dynodi Cymru gyfan fel Parth Perygl Nitradau.

Roedd bron 60 y cant o’r ymatebwyr yn cefnogi dynodi ‘tiriogaeth gyfan’ Cymru.

Cyhoeddodd Lesley Griffiths ddatganiad ysgrifenedig ar yr ymgynghoriad ym mis Rhagfyr 2017, gan ddweud ei bod ‘o blaid cyflwyno dull cenedlaethol i ymdrin â llygredd nitradau’. Roedd hyn yn seiliedig ar ymatebion i’r ymgynghoriad a barn a oedd yn deillio o drafodaeth Bord Gron Gweinidogion Brexit a’i Is-grŵp Rheoli Tir, ac Is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru ar Lygredd Amaethyddol.

Ym mis Tachwedd 2018, cadarnhaodd Lesley Griffiths y byddai’n cyflwyno rheoliadau newydd ar gyfer Cymru gyfan, a fyddai’n cynnwys darpariaethau ar gyfer:

  • Cynlluniau rheoli maethynnau;
  • Gwrteithio cynaliadwy sy'n gysylltiedig â gofynion y cnwd;
  • Diogelu dŵr rhag llygredd sy'n gysylltiedig â phryd, ble a sut y caiff gwrtaith ei wasgaru; a
  • Safonau storio tail.

Yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Gorffennaf 2019, dywedodd Lesley Griffiths y byddai hi’n cyflwyno’r rheoliadau ym mis Ionawr 2020. Dywedai adroddiad diweddaraf yr Is-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru, ym mis Mawrth 2019, fod Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar y gweill a bod treial Cynllunio Rheoli Maethynnau yn cael ei gynllunio.

Barn rhanddeiliaid ar y cynigion

Yn ei chyhoeddiad ar y mesurau newydd, aeth Lesley Griffiths i’r afael â phryderon y byd amaethyddol:

… Bydd y rheoliadau'n atgynhyrchu'r arferion da y mae’r mwyafrif o ffermwyr ledled y wlad eisoes yn eu dilyn wrth eu gwaith bob dydd – ac ychydig o newid fydd iddynt hwy o ganlyniad i’m datganiad.

Yn y gorffennol, mae llawer o randdeiliaid amaethyddol wedi tueddu i anghytuno, gyda’r datganiad hwn. Roedd deiseb, a ystyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ym mis Ionawr 2017, yn galw am beidio â gweithredu ymhellach ar Barthau Perygl Nitradau yng Nghymru, gan nodi y byddai ‘yn rhoi pwysau aruthrol ar ddiwydiant llaeth sydd eisoes yn crebachu’.

Roedd rhai rhanddeiliaid amaethyddol o’r farn bod y cynlluniau arfaethedig ar gyfer Cymru gyfan yn ymateb anghymesur i dystiolaeth a graddfa’r broblem. Yng nghynhadledd yr NFU ym mis Chwefror 2019, eglurodd John Davies Llywydd NFU Cymru, bod costau cydymffurfio a chymhlethdodau yn peri gofid, a’u bod yn gorbwyso’r manteision o ran ansawdd dŵr, yn enwedig o ystyried ansicrwydd ynghylch Brexit. Cadarnhaodd NFU Cymru bod ei gyfreithwyr wedi codi pryderon gyda Llywodraeth Cymru ynghylch cyfreithlondeb y dull arfaethedig.

Yng nghyfarfod Undeb Amaethwyr Cymru ym mis Mawrth 2019, disgrifiodd Dai Miles, Cadeirydd y Pwyllgor Llaeth a Chynnyrch Llaeth y cynigion fel dull cyffredinol llym. Amcangyfrifodd y byddai nifer y ffermydd a gwmpesir gan y rheoliadau costus a chyfyngol yn codi o 600 i fwy na 24,000.

Mae grwpiau amgylcheddol wedi galw am weithredu ers amser maith. Mewn ymateb ar y cyd (PDF, 435KB) i’r datganiad blaenorol (Rhagfyr 2017), lle’r oedd Lesley Griffiths yn bwriadu ‘cyflwyno dull cenedlaethol i ymdrin â llygredd nitradau’, roedd grwpiau amgylcheddol (gan gynnwys RSPB Cymru a WWF Cymru) yn croesawu’r cyhoeddiad, er bod y diffyg cynnydd a wnaed yn siomedig.

Yn sicr, bydd grwpiau amgylcheddol yn croesawu’r ffaith bod y rheoliadau wedi’u cadarnhau, ond mae gan rai bryderon o hyd.

Mae’r Ymddiriedolaeth Genweirio wedi rhoi ‘croeso gofalus’ i’r cyhoeddiad diweddaraf. Nododd broblemau yn ymwneud â’r diffyg rheoleiddio ar erydiad pridd yn y cynlluniau arfaethedig. Cododd bryderon hefyd ynghylch gorfodaeth yng ngoleuni gostyngiadau yng nghyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae rhanddeiliaid wedi tynnu sylw at y ffaith na wireddir manteision y rheoliadau newydd am nifer o flynyddoedd, o gofio na fyddant ar waith tan fis Ionawr 2020 ac y bydd cyfnodau trosiannol yn gysylltiedig â hwy i ganiatáu amser i ffermwyr addasu.

Roedd yr Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy hefyd o blaid cynigion Llywodraeth Cymru. Amlygodd ei phrosiectau ffermio cynaliadwy parhaus ac ailadroddodd ei bod yn galw am Barth Perygl Nitradau Cymru gyfan wrth roi tystiolaeth i Ymgynghoriad Defra.

Yn y Cyfarfod Llawn ar 27 Mawrth 2019, honnodd Lesley Griffiths, o ran digwyddiadau llygredd amaethyddol cynyddol, y byddant:

… yn effeithio ar y gwaith sydd gennym ar y gweill, er enghraifft ar werthoedd brand cynaliadwy ar gyfer cynhyrchion Cymru, felly mae angen ei ddatrys ac mae angen ei ddatrys yn awr.


Erthygl gan Holly Tipper, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Holly Tipper gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i’r erthygl hon gael ei chwblhau.