Llwybr newydd? – cynigion y Papur Gwyn ar gyfer gwasanaethau bysiau

Cyhoeddwyd 25/03/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nifer o gynigion deddfwriaethol ynghylch gwasanaethau bysiau, tacsis a cherbydau hurio preifat yn ei Phapur Gwyn ar wella trafnidiaeth gyhoeddus, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2018. Mae'r Papur Gwyn hefyd yn gwneud cynigion ynghylch tocynnau rhatach a Chyd-awdurdodau Trafnidiaeth, gyda'r ymgynghoriad cyhoeddus yn cau ar 27 Mawrth 2019.

Dyma'r cyntaf o ddwy erthygl blog ar gynnwys y Papur Gwyn.  Mae'r erthygl hon yn trafod y cynigion ynghylch bysiau a theithio rhatach. Bydd ein hail erthygl yn edrych ar y cynigion ar gyfer tacsis, cerbydau hurio preifat a Chyd-awdurdodau Trafnidiaeth.

Wrth lansio'r Papur Gwyn, dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

Nod y cynigion yw sicrhau gwell cynllunio a gwell atebion, gan roi teithwyr, cymunedau lleol a phobl nad ydynt yn ystyried bod trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn i'w hanghenion trafnidiaeth wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.

Datganoli wrth y llyw?

Gwnaeth Deddf Cymru 2017 ddatganoli nifer o bwerau allweddol dros drafnidiaeth, ac mae Llywodraeth Cymru yn nodi'r ffordd y mae'n bwriadu defnyddio rhai o'r pwerau hyn yn y Papur Gwyn.

Wrth baratoi i'r Ddeddf ddod i rym, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad yn ystod 2017 ar gynigion i wella gwasanaethau by  siau, ar eigynllun tocynnau rhatach ac ar drwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat. Defnyddiwyd yr ymgynghoriadau hyn i lywio cynnwys y Papur Gwyn.

Gallai'r diwygiadau a nodir yn y Papur Gwyn arwain at newidiadau mawr i'r ffordd y mae gwasanaethau bysiau, tacsis a cherbydau hurio preifat yn gweithredu yng Nghymru.

Cyfeiriad teithio bysiau

O dan Ddeddf Trafnidiaeth 1985, cafodd gwasanaethau bysiau lleol eu dadreoleiddio y tu allan i Lundain.  Mae hyn yn golygu y gall gweithredwr sydd wedi'i drwyddedu'n briodol gofrestru unrhyw wasanaeth y mae'n ei ddewis ar sail fasnachol.  Er y gall awdurdodau lleol wahodd tendrau am lwybrau neu wasanaethau ychwanegol lle maent o'r farn nad yw anghenion cymdeithasol yn cael eu diwallu yn fasnachol, ni all gwasanaeth a gyflwynwyd drwy dendr gystadlu ag un masnachol.

Dengys dadansoddiad Llywodraeth Cymru o Arolwg Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus diweddaraf yr Adran Drafnidiaeth y bu 99.9 miliwn o deithiau gan deithwyr ar fysiau lleol yng Nghymru yn 2017-18. Teithiodd y gwasanaethau hyn 99.1 miliwn o gilomedrau cerbyd, sef 20 y cant yn is na'r pellter a deithiwyd yn 2007-08. Roedd 77 y cant o'r pellter a deithiwyd yn 2017-18 yn deithiau ar lwybrau masnachol, gyda'r 23 y cant sy'n weddill yn cynnwys gwasanaethau a gyflwynwyd drwy dendr.

Yn y Papur Gwyn, mae Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod y diwydiant bysiau “yn dirywio ac mae nifer y teithwyr wedi bod yn gostwng yn raddol ers sawl blwyddyn ar y rhan fwyaf o lwybrau bysiau Cymru”.  Mae nifer o ffactorau wedi cyfrannu at hyn, fel y trafodwyd yn nadansoddiad diweddar y Grŵp Cludiant Trefol, 'What's driving bus patronage change'.

Un ffactor sy'n effeithio ar nifer y teithwyr sy'n defnyddio bysiau yw'r cynnydd mewn tagfeydd traffig, ac mae erthygl blog blaenorol yn trafod y duedd hon.  Hefyd, cafodd y mater hwn ei drafod gan Bwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad yn ei ymchwiliad blaenorol i effeithiau tagfeydd ar y diwydiant bysiau.

Llwybr newydd

Cred Llywodraeth Cymru y bydd y cynigion a nodir yn ei Phapur Gwyn yn gwella gwasanaethau bysiau ac yn cynyddu nifer y teithwyr, gan nodi:

nid yw'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gwasanaethau bysiau yng Nghymru ar hyn o bryd yn cynnig yr hyblygrwydd y mae ei angen... Credwn, fodd bynnag, y bydd gwella’r fframwaith deddfwriaethol yn rhoi’r dulliau a’r hyblygrwydd i awdurdodau lleol deilwra eu dull a gwneud defnydd mwy effeithiol o adnoddau cyfyngedig, a hynny er mwyn diwallu’r anghenion a’r amgylchiadau lleol.

Mae ei chynigion ar gyfer gwasanaethau bysiau yn cynnwys cyflwyno Partneriaethau Ansawdd Estynedig, masnachfreinio bysiau a gwasanaethau a berchnogir gan awdurdodau lleol.

Partneriaethau Ansawdd Estynedig

Ar hyn o bryd, gall awdurdodau lleol sefydlu cynlluniau partneriaeth ansawdd gwirfoddol a statudol gyda gweithredwyr bysiau. Cynllun partneriaeth ansawdd yw cytundeb rhwng awdurdod lleol ac un neu fwy o weithredwyr bysiau lle mae'r awdurdod yn darparu cyfleusterau penodol ar hyd llwybrau bysiau fel lonydd bysiau, ac yn gyfnewid am hynny mae gweithredwyr sy'n dymuno defnyddio'r cyfleusterau hynny'n cytuno i ddarparu gwasanaethau o ansawdd arbennig. Mae partneriaethau statudol wedi'u seilio ar gytundeb y gellir ei orfodi'n gyfreithiol.

Mae'r Papur Gwyn yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cadw'r opsiynau presennol hyn ond y bydd hefyd yn caniatáu i Bartneriaethau Ansawdd Estynedig gael eu sefydlu.

Byddai Partneriaethau Ansawdd Estynedig yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau weithio gyda'i gilydd i ddatblygu cynllun ar gyfer darparu gwasanaethau bysiau gwell a byddai'n galluogi awdurdodau lleol i osod ystod llawer ehangach o safonau gwasanaeth ar weithredwyr nag sy'n bosibl o dan y cynllun partneriaeth ansawdd presennol. Wrth ddatblygu Partneriaethau Ansawdd Estynedig, ni fyddai gofyniad ychwaith i awdurdodau lleol fuddsoddi mewn seilwaith, ac mae'r Papur Gwyn yn nodi bod hyn yn “ffactor sy'n cyfyngu ar gwmpas” y defnydd presennol o bwerau'r cynllun partneriaeth ansawdd.

Masnachfreinio bysiau

Opsiwn arall a nodir yn y Papur Gwyn yw cyflwyno masnachfreinio bysiau. O dan drefniadau masnachfreinio, gall awdurdod lleol nodi pa wasanaethau bysiau y dylid eu darparu mewn ardal, gan gynnwys llwybrau, safonau cerbydau, amserlenni a phris tocynnau. Caiff gwasanaethau eu gweithredu dan gontract gan weithredwyr preifat drwy broses dendro gystadleuol, a chaiff gweithredwyr eraill eu hatal rhag cofrestru llwybrau eraill o fewn ardal y fasnachfraint, sy'n golygu na fydd y cynnig buddugol yn wynebu cystadleuaeth ar yr un llwybrau. Caiff gwasanaethau bysiau yn Llundain eu darparu ar sail masnachfraint.

Ar hyn o bryd, gall awdurdodau lleol sefydlu Cynlluniau Contractau Ansawdd, sydd yn eu hanfod yn fasnachfreintiau bysiau. Fodd bynnag, ystyrir bod y pwerau i sefydlu'r rhain yn gymhleth a hyd yma nid oes unrhyw gynllun contract ansawdd wedi'i sefydlu yn y DU. Ceisiodd Awdurdod Cyfun y Gogledd-ddwyrain yn Lloegr sefydlu cynllun contract ansawdd a oedd yn cynnwys gwasanaethau yn ardal Tyne and Wear, ond roedd y broses yn gymhleth ac yn gostus, ac yn y pen draw gwrthodwyd y cynlluniau.

Mae'r Papur Gwyn yn cynnig newidiadau deddfwriaethol i alluogi awdurdodau lleol i sefydlu trefniadau masnachfreinio, gan ddefnyddio'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgrifio fel proses symlach na'r cynllun contact ansawdd.

Byddai'r cynigion hefyd yn caniatáu i drwyddedau gael eu rhoi, gan ganiatáu i rai gwasanaethau masnachol weithredu mewn ardal lle mae masnachfraint eisoes ar waith. Gellid rhoi trwyddedau ar gyfer gwasanaethau fel llwybrau TrawsCymru y gall fod angen iddynt fynd i mewn i ardal masnachfraint ond nad ydynt yn cael eu hystyried yn wasanaethau lleol.

Yn dilyn ei ymchwiliad, 'Pwerau Newydd: Posibiliadau Newydd, ysgrifennodd Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar y pryd (PDF,703KB) i ddatgan bod y rhai a oedd wedi rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliad wedi “annog gofal ynghylch y syniad o ryddfreinio'r bysiau”. Canfu'r pwyllgor:

roedd pryder y byddai hyn [masnachfreinio] yn ddrud ac y gallai arwain at farchnad gyda llai o weithredwyr, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Ar y llaw arall, mae'r Grŵp Cludiant Trefol yn awgrymu, “bus franchising gives passengers far more than bus priority [measures] do in isolation”, ac mae'r grŵp wedi llunio papur briffio (PDF, 402KB) sy'n ymdrin â rhai o'r dadleuon mwyaf cyffredin yn erbyn masnachfreinio bysiau.

Gwasanaethau bysiau awdurdodau lleol

Ar hyn o bryd, mae Deddf Trafnidiaeth 1985 yn gwahardd awdurdodau lleol rhag gweithredu cwmnïau bysiau, ac eithrio o dan rai amgylchiadau cyfyngedig. Mae'r Papur Gwyn yn nodi cynigion i adolygu'r ddeddfwriaeth hon. Barn Llywodraeth Cymru yw y dylai awdurdodau lleol gael y pŵer i redeg gwasanaethau lleol naill ai'n uniongyrchol neu drwy gwmni hyd braich sy'n eiddo i'r awdurdod lleol ac a sefydlwyd at y diben hwn.

Mae Llywodraeth Cymru yn dadlau y byddai hyn yn ymdrin â materion sy'n codi pan nad yw gwasanaethau masnachol yn diwallu anghenion lleol. Fel yr eglurwyd, gall awdurdodau lleol wahodd tendrau am wasanaethau ychwanegol nas darperir gan y rhwydwaith masnachol, gyda gwasanaethau o'r fath yn cael cymhorthdal cyhoeddus. Mewn rhai achosion, ychydig iawn o dendrau sy'n dod i law a gall diffyg cystadleuaeth gynyddu costau. O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru yn awgrymu:

Gall hynny arwain at awdurdodau lleol yn talu cryn dipyn yn fwy am y gwasanaethau hyn na'r hyn a fyddent wedi ei dalu fel arall.

Mae'r Papur Gwyn yn dadlau y byddai caniatáu i awdurdodau lleol redeg gwasanaethau bysiau yn uniongyrchol yn mynd i'r afael â'r mater hwn.

Yn ystod ei ymchwiliad, 'Pwerau Newydd: Posibiliadau Newydd ', clywodd Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau y Cynulliad dystiolaeth a oedd yn awgrymu y byddai angen llawer o fuddsoddiad i sefydlu gwasanaethau o'r fath ac y byddai'n annhebygol y byddai awdurdodau lleol yn gwneud hynny oni bai bod methiant difrifol yn y farchnad i ddarparu gwasanaethau.

Rhannu gwybodaeth

Mae'r Papur Gwyn hefyd yn cynnig cyflwyno pwerau sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr bysiau ac eraill ryddhau gwybodaeth am wasanaethau bws. Byddai'r cynigion hyn yn galluogi awdurdodau lleol i'w gwneud yn ofynnol i weithredwyr ddarparu gwybodaeth am amrywio a chanslo gwasanaethau, gyda'r nod o sicrhau bod teithwyr bob amser yn gallu cael gafael ar y wybodaeth gywir.

Tocynnau (am ddim), os gwelwch yn dda

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig cynyddu'r oedran cymhwysedd ar gyfer tocyn bws am ddim o dan ei Chynllun Tocynnau Teithio Rhatach.

Ar hyn o bryd, gall bobl 60 oed a throsodd wneud cais am docyn bws rhatach sy'n caniatáu teithiau am ddim ar wasanaethau bysiau lleol yng Nghymru. Mae'r Papur Gwyn yn cynnig bod yr oedran cymhwysedd hwn yn cynyddu i'r un lefel ag oedran pensiwn menywod, fel sydd eisoes yn digwydd yn Lloegr. Yn yr Alban, gwnaeth y Llywodraeth drafod codi'r oedran cymhwysedd ond cyhoeddodd ym mis Awst 2018 y byddai'r oedran cymhwysedd yn aros yn 60 oed. Chwedeg yw'r oedran cymhwysedd presennol yng Ngogledd Iwerddon hefyd.

Mae Age UK yn nodi bod Llywodraeth y DU yn bwriadu codi oedran pensiwn y wladwriaeth, sydd heb ei ddatganoli, i 66 oed ar gyfer dynion a menywod erbyn mis Hydref 2020. Fodd bynnag, mae'r Papur Gwyn yn nodi y byddai'r oedran cymhwysedd ar gyfer tocyn bws yn cael ei godi'n raddol yn hytrach na'i godi mewn un cam. Mae'r Papur Gwyn hefyd yn pwysleisio:

Ni fydd unrhyw berson sydd â cherdyn teithio rhatach adeg newid y gyfraith yn colli ei hawl i'r cerdyn hwnnw.

Yr arhosfan nesaf

Disgwylir i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn gau ar 27 Mawrth ac mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi datgan y bydd Bil yn cael ei gyflwyno ym mis Chwefror 2020 (PDF, 840KB).

Cyn hynny, bydd Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad i'r cynigion.

Yn y cyfamser, darllenwch ein hail erthygl, sy'n eich tywys ar daith drwy gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat.


Erthygl gan Francesca Howorth, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru