Agoslun o ddwylo’n defnyddio ffôn symudol.

Agoslun o ddwylo’n defnyddio ffôn symudol.

Llinell gymorth a gwasanaeth triniaeth newydd wedi'u sefydlu yng Nghymru i ymdrin â gamblo

Cyhoeddwyd 20/03/2026

Mae yna fanteision cymdeithasol ac economaidd cydnabyddedig sy'n gysylltiedig â gamblo, ond mae’n rhaid pwyso a mesur y rhain yn erbyn y niwed ariannol a chymdeithasol sylweddol y gall gamblo eu hachosi. Ym mis Ebrill 2026, bydd gwasanaeth triniaeth arbenigol a llinell gymorth newydd yn cael eu lansio gan y GIG yng Nghymru i ymdrin â gamblo.

Mae'r erthygl hon yn ychwanegu’r wybodaeth ddiweddaraf at ein herthygl o 2022 ar ddull gweithredu sy’n canolbwyntio ar iechyd y cyhoedd o ymdrin â gamblo, ac yn nodi pa gamau eraill sy’n rhaid eu cymryd i sicrhau bod yr unigolion y mae angen cymorth arnynt yn gwybod pa adnoddau sydd ar gael a sut i gael mynediad atynt.

Lefelau gamblo yng Nghymru

Mae datblygiadau diweddar ym maes casglu data yn rhoi gwell dealltwriaeth o ymddygiadau sy’n gysylltiedig â gamblo yng Nghymru.

Ar ôl sawl blwyddyn o waith datblygu, cyhoeddodd y Comisiwn Hapchwarae ei Adroddiad Blynyddol ar yr Arolwg Hapchwarae cyntaf ar gyfer Prydain Fawr yn 2024. Mae'r Comisiwn yn bwriadu i'r arolwg olrhain tueddiadau dros amser a darparu allbynnau data rheolaidd i helpu i ddeall newidiadau mewn ymddygiad sy’n gysylltiedig â gamblo ymhlith y boblogaeth ac is-grwpiau penodol. Yn bwysig, mae'r Arolwg Hapchwarae yn cynnwys data wedi'u dadgrynhoi ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban, gan wella dealltwriaeth o batrymau gamblo ar lefel genedlaethol.

Mae’r data ar gyfer 2024 yn dangos, yn ystod y 12 mis diwethaf, fod 62% o bobl yng Nghymru wedi dweud eu bod wedi gamblo, o gymharu â 60% yn Lloegr a'r Alban.

Cafodd cwestiynau ar gamblo eu cynnwys am y tro cyntaf yn Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2020-21, fel rhan o gynllun peilot ar-lein. Yn 2022-23, gofynnodd yr Arolwg Cenedlaethol i bobl 18 oed a throsodd am eu gamblo yn ystod y 12 mis diwethaf. Canfu'r arolwg fod gamblo wedi'i wreiddio ym mywydau llawer o bobl, gyda 63% o ymatebwyr yn dweud eu bod wedi cymryd rhan mewn rhyw fath o gamblo.

Mesur nifer yr achosion o gamblo problemus

Mae'r data'n awgrymu bod ychydig dros 6 o bob 10 o bobl yn cymryd rhan mewn rhyw fath o gamblo. I lawer ohonynt, nid yw hyn yn broblem. Fodd bynnag, i rai unigolion mae gamblo yn troi’n gamblo problemus, a all fod yn aflonyddgar neu'n niweidiol iddyn nhw, eu teulu a'u ffrindiau, neu fe all ymyrryd â'u bywyd bob dydd.

Mae Mynegai Difrifoldeb Gamblo Problemus yn offeryn sydd â naw cwestiwn a ddefnyddir i fesur ymddygiadau sy’n gysylltiedig â gamblo a'u canlyniadau. Mae'n sgorio unigolion o 0 i 27 ac yn dosbarthu pobl fel a ganlyn:

  • gamblwyr nad ydynt yn gamblwyr problemus (0)
  • risg isel (1-2)
  • risg gymedrol (3–7)
  • gamblwyr problemus (8+).

Ymhlith pobl a oedd wedi gamblo yn ystod y 12 mis diwethaf, canfu’r adroddiad blynyddol ar Arolwg Hapchwarae Prydain Fawr fod gan 4.1% o bobl yng Nghymru sgôr mynegai difrifoldeb gamblo problemus o 8 neu fwy, o gymharu â 4.6% yn Lloegr a 3.8% yn yr Alban.

Fel gyda dibyniaethau caethiwus eraill, yn aml nid dim ond y person sy'n gamblo sy’n teimlo'r effeithiau, ond eu teuluoedd a'u ffrindiau hefyd. Mae’r Adroddiad Blynyddol ar Arolwg Hapchwarae Prydain Fawr 2024 wedi nodi effaith andwyol gamblo ar unigolion eraill sy’n gysylltiedig â’r person sy’n gamblo yn ystod y 12 mis diwethaf – gyda 3.9% yn gweld perthnasau yn chwalu.

Er gwaethaf y mewnwelediadau hyn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi pwysleisio’r angen i fod yn ofalus wrth ddefnyddio arolygon sy'n gofyn i bobl hunan-adrodd, o ystyried y stigma sy'n gysylltiedig ag ymddygiadau gamblo. Hefyd, mae’n ychwanegu bod niwed sy’n gysylltiedig â gamblo yn digwydd ar hyd continwwm, lle gallai hyd yn oed gamblwyr “risg isel”, sy’n llawer mwy o ran nifer, ddechrau profi niwed.

Siawns anghyfartal: gamblo fel mater o gydraddoldeb

Canfu gwaith ymchwil gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol gyfraddau uwch o niwed sy'n gysylltiedig â gamblo ymhlith pobl sy'n profi digartrefedd, tlodi, mudo, defnyddio cyffuriau, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), a phroblemau iechyd meddwl. Yn aml, caiff y niweidiau hyn eu gyrru gan ffactorau megis ymdopi â straen, unigrwydd, pwysau ariannol a lleoliadau gamblo yn cael eu hystyried yn fannau cynhwysol. Mae anghydraddoldebau strwythurol—megis tlodi, camwahaniaethu ac allgáu cymdeithasol—yn gwaethygu'r niwediau hyn. Mae'r astudiaeth yn tynnu sylw at angen brys am fwy o waith ymchwil a gwasanaethau cymorth gwell wedi'u teilwra i'r cymunedau hyn.

Mae’r Adroddiad Blynyddol ar Arolwg Hapchwarae Prydain Fawr 2024 yn dangos bod cyfran y cyfranogwyr sydd â sgôr mynegai difrifoldeb gamblo problemus o 8 neu fwy ar ei huchaf ymhlith y bobl sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Yng Nghymru, roedd cyfran y cyfranogwyr sydd â sgôr mynegai difrifoldeb gamblo problemus o 8 neu fwy yn 5.8% ar gyfer y bobl oedd yn byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â rhwng 2.4 a 2.8% yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Cysylltiadau rhwng niwed sy’n gysylltiedig â gamblo a hunanladdiad

Canlyniad mwyaf difrifol posibl y niweidiau sy’n gysylltiedig â gamblo yw hunanladdiad neu ymgais/ymgeisiadau i gyflawni hunanladdiad, gyda'r berthynas rhwng gamblo a hunanladdiad yn destun gwaith ymchwil yn ddiweddar.

Ym mis Tachwedd 2025, cyhoeddodd Prifysgol Abertawe astudiaeth ar y cwestiwn a yw problemau gamblo yn gysylltiedig â hunanladdiad. Gan ddefnyddio cofnodion iechyd Cymru dros gyfnod o 30 mlynedd, daeth yr astudiaeth hon i’r casgliad a ganlyn:

A gambling diagnosis was a stronger predictor of suicide than other mental health conditions, such as depression, schizophrenia or alcohol use – indicating gambling disorder poses a unique risk.

Hefyd, canfu'r astudiaeth fod yr unigolion â diagnosis o gamblo a fu farw trwy hunanladdiad wedi cael cyswllt mwy diweddar â gwasanaethau iechyd meddwl o gymharu â phobl heb ddiagnosis, sy'n awgrymu bod cyfleoedd wedi’u colli i ymyrryd yn gynharach. Mae'r ymchwilwyr yn argymell gwella’r camau a gymerir i sgrinio a chofnodi problemau sy'n gysylltiedig â gamblo mewn lleoliadau gofal iechyd, yn ogystal â chyfeirio priodol at gymorth arbenigol i helpu i atal hunanladdiad.

Gwasanaeth triniaeth arbenigol newydd yng Nghymru

Ym mis Chwefror 2023, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru yr Asesiad Anghenion lechyd Hapchwarae ar gyfer Cymru, a oedd yn tynnu sylw at absenoldeb gwasanaethau gamblo arbenigol wedi’u hariannu gan y GIG yng Nghymru. Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod “rôl i’r GIG, ar ffurf gwasanaethau triniaeth arbenigol ac ar ffurf galluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol rheng flaen i nodi niwed posibl o hapchwarae a chyfeirio at wasanaethau priodol”. Ar ôl i’r asesiad gael ei gyhoeddi, dywedodd Lynne Neagle AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar y pryd, ei bod yn ystyried argymhellion yr adroddiad, gan gynnwys y camau sy’n rhaid eu cymryd i wella llwybrau atgyfeirio a gwasanaethau triniaeth.

Ym mis Ebrill 2025, cyflwynodd Llywodraeth y DU yr ardoll gamblo statudol, sy’n berthnasol i weithredwyr busnesau gamblo. Yn ystod ei blwyddyn gyntaf, mae'r ardoll wedi codi £120 miliwn ar gyfer gwaith ymchwil, atal a thriniaeth ym Mhrydain Fawr, gyda'r nod o leihau’r niwed sy'n gysylltiedig â gamblo. Bydd 50% o'r cyllid hwn yn mynd i’r GIG yn Lloegr, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban i weithio gyda darparwyr, gan gynnwys y trydydd sector, i gynyddu mynediad at driniaeth a chymorth i unigolion sy'n profi niwed sy'n gysylltiedig â gamblo.

Ym mis Chwefror 2026, cyhoeddodd Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, y bydd gwasanaeth arbenigol a llinell gymorth newydd y GIG ar gyfer trin gamblo yn cael eu lansio yng Nghymru ym mis Ebrill. Bydd y llinell gymorth yn cynnig cymorth i unrhyw un yr effeithir arno gan niwed sy'n gysylltiedig â gamblo, gan gynnwys aelodau o'r teulu ac unigolion eraill yr effeithir arnynt. Lle bo angen, bydd y llinell gymorth hefyd yn cyfeirio pobl at wasanaethau triniaeth a fydd yn hygyrch trwy blatfform ar-lein diogel, gan ganiatáu i gymorth gael ei ddarparu o bell. Daw'r cyllid ar gyfer y gwasanaeth newydd hwn o'r ardoll gamblo ledled y DU, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael £1.3 miliwn y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru i redeg y gwasanaeth triniaeth a'r llinell gymorth.

Camau nesaf – sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael

Er bod y gwasanaeth newydd yn ymdrin â galwadau hir-sefydlog am driniaeth ar gyfer gamblo gan y GIG yng Nghymru, bydd ei allu i gyrraedd yr unigolion y mae angen cymorth arnynt yn dibynnu ar ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r gwasanaeth. Gellir codi ymwybyddiaeth drwy ymgyrch genedlaethol, ond yn aml mae llawer o bobl ag anhwylderau gamblo yn cael trafferth cydnabod bod eu hymddygiad gamblo yn broblemus, ac efallai y bydd angen anogaeth a chymorth ychwanegol arnynt i geisio cael help.

Yn ei adroddiad yn 2023, argymhellodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y dylai gweithwyr gofal iechyd ar y rheng flaen a heddluoedd chwarae rhan wrth nodi niweidiau posibl sy’n gysylltiedig â gamblo ac atgyfeirio pobl at wasanaethau priodol. Ailadroddwyd y neges hon yng nghanllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), sy'n argymell bod gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd ac ymarferwyr gofal cymdeithasol ym mhob lleoliad, gan gynnwys y system cyfiawnder troseddol, yn holi pobl ynghylch gamblo ac yn eu hannog i geisio cymorth lle bo angen.

Er bod lansio’r gwasanaeth newydd wedi’i ddisgrifio fel moment nodedig, bydd ei lwyddiant yn dibynnu ar weithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd a staff eraill sydd â'r adnoddau a'r hyder i helpu pobl i gael mynediad at y cymorth sydd ar gael. 

Gall unrhyw un sy'n pryderu am ei ymddygiadau gamblo, neu’n pryderu am rywun maen nhw'n ei adnabod, ffonio GIG 111 a phwyso OPSIWN 2.

Mae'r Llinell Gymorth Gamblo Genedlaethol ar gael ar 0808 8020 133 ac yn gweithredu 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Erthygl gan Claire Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru