Rhiant a phlentyn yn chwarae gyda chath sinsir gartref

Rhiant a phlentyn yn chwarae gyda chath sinsir gartref

Llety i anifeiliaid anwes? Galw am ymdrin â’r diffyg o ran cartrefi sy’n croesawu anifeiliaid anwes yn y sector rhentu preifat

Cyhoeddwyd 08/01/2025   |   Amser darllen munudau

Mae diffyg eiddo rhent sy’n croesawu anifeiliaid anwes yn y sector preifat yn ei gwneud yn anodd i berchnogion anifeiliaid anwes ddod o hyd i le i fyw, ac yn gorfodi rhai i gael gwared ar eu hanifeiliaid anwes.

Dyma un o brif ganfyddiadau ymchwiliad diweddar Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd i’r sector rhentu preifat. Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi papur gwyn sy’n nodi cynigion i fynd i’r afael â’r rhwystrau y mae perchnogion anifeiliaid anwes yn eu hwynebu.

Bydd yr erthygl hon yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod yr ymchwiliad, y mesurau a gynigir gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r broblem, a sut mae’r cynigion hyn yn cymharu ag argymhellion y Pwyllgor.

Prinder cartrefi rhent sy’n croesawu anifeiliaid anwes

Mae tua hanner aelwydydd Cymru yn berchen ar anifail anwes. Ond yn ôl y wefan eiddo Zoopla, dim ond 7% o gartrefi rhent sy’n cael eu hysbysebu fel rhai sy’n addas ar gyfer anifeiliaid anwes.

Clywodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai fod diffyg eiddo sy’n croesawu anifeiliaid anwes yn golygu bod perchnogion anifeiliaid anwes yn wynebu anawsterau penodol wrth ddod o hyd i gartref i’w rentu.

I rai, mae hyn yn golygu wynebu penderfyniad anodd: a ddylent gael gwared ar anifail anwes er mwyn gallu dod o hyd i le i fyw? Yn ôl yr elusen Dogs Trust, mae 10% o’r bobl sy’n rhoi cartref newydd i gi drwy ei chanolfannau ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd yn dweud eu bod yn gwneud hynny oherwydd bod eu trefniadau llety wedi newid neu oherwydd eu cytundeb tenantiaeth.

Roedd yn destun pryder i’r Pwyllgor glywed gan nifer o randdeiliaid fod rhai pobl sy’n wynebu’r penderfyniad hwn yn dewis aros gyda’u hanifeiliaid anwes, ac y gall y bobl hynny ddod yn ddigartref o ganlyniad i hynny. Dywedodd Crisis, yr elusen digartrefedd, wrth y Pwyllgor:

“One of our members wasn't able to take a place purely because it had a no-pet policy. She has a dog that has been her only companion through the most difficult time in her life, and she actually chose to sleep in a car, rather than take a place.”

Pam mae landlordiaid yn amharod i ganiatáu anifeiliaid anwes yn eu heiddo?

Dywedodd Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl wrth y Pwyllgor nad anifeiliaid anwes yw’r broblem i landlordiaid, ond y risg. Un o’r prif feini tramgwydd i landlordiaid yw pryder y bydd anifeiliaid anwes yn achosi difrod sy’n gofyn am waith glanhau neu drwsio sylweddol, ac y gallai fod yn anodd iddynt adennill y costau gan denantiaid.

Ond canfu gwaith ymchwil a ariannwyd gan Gartref Cŵn a Chathod Battersea fod y tebygolrwydd y bydd anifeiliaid anwes yn achosi difrod yn gymharol isel, a bod hynny’n llai costus ar gyfartaledd na thraul gan denantiaid. Dywedodd tri chwarter y landlordiaid (76%) a holwyd ar gyfer yr adroddiad nad oeddent wedi gweld unrhyw ddifrod a oedd wedi’i achosi gan anifeiliaid anwes. Cost gyfartalog difrod yn ymwneud ag anifeiliaid anwes oedd £300 fesul tenantiaeth, o gymharu â £775 am ddifrod nad oedd yn ymwneud ag anifeiliaid anwes.

Mae rhesymau eraill pam na fydd landlordiaid yn gallu gosod eu heiddo i berchnogion anifeiliaid anwes, neu pam maen nhw’n amharod i wneud hynny. Er enghraifft, gall rhai cartrefi fod yn anaddas ar gyfer mathau penodol o anifeiliaid anwes, neu gall fod risg y gallai anifail anwes achosi problemau i denantiaid neu breswylwyr eraill yn yr eiddo.

Galwadau i gryfhau hawliau cyfreithiol tenantiaid

Mae elusennau fel Dogs Trust, RSPCA Cymru a Cats Protection wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau hawliau cyfreithiol tenantiaid o ran cadw anifeiliaid anwes.

Ar hyn o bryd, nid oes hawl i denantiaid yn y sector rhentu preifat yng Nghymru ofyn am gael cadw anifail anwes, na hawl iddynt gadw anifail anwes. Gellir cynnwys ‘cymal anifail anwes’ ychwanegol sy’n caniatáu i denantiaid ofyn am gael cadw anifail anwes mewn contractau tenantiaeth, os yw’r landlord a’r tenant yn cytuno. Fodd bynnag, nid yw’n rhan o’r contractau safonol enghreifftiol a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru a byddai angen i landlord neu asiant ei ychwanegu.

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad fod y diffyg cymal anifail anwes diofyn mewn contractau tenantiaeth yn “gwaethygu’r rhagdybiaeth yn erbyn caniatáu anifeiliaid anwes” mewn cartrefi rhent preifat. Galwodd ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut yr oedd yn bwriadu estyn hawliau tenantiaid i gael anifail anwes i gontractau, naill ai drwy ddeddfwriaeth sylfaenol neu drwy weithio gyda Llywodraeth y DU i estyn y darpariaethau yn y Bil Hawliau Rhentwyr.

Beth yw cynigion Llywodraeth Cymru?

Yn ei Phapur Gwyn ar Dai Digonol, Rhenti Teg a Fforddiadwyedd ym mis Hydref 2024, nododd Llywodraeth Cymru ei chynigion i fynd i’r afael â’r rhwystrau y mae perchnogion anifeiliaid anwes yn eu hwynebu.

Mae’n cynnig y dylid gwneud yswiriant anifeiliaid anwes yn ‘daliad a ganiateir’ o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019, er mwyn caniatáu i landlordiaid ofyn am daliad gan denantiaid ar gyfer cost premiwm ychwanegol sy’n ymwneud â difrod a achosir gan anifeiliaid anwes.

Mae mesur tebyg wedi’i gynnwys yn y Bil Hawliau Rhentwyr a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU. Mewn arolwg o aelodau Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl yn 2021, dywedodd 42% o landlordiaid y byddai yswiriant anifeiliaid anwes yn help iddynt dderbyn anifeiliaid anwes yn eu heiddo.

Sut mae hyn yn cymharu â mesurau mewn rhannau eraill o’r DU?

Mae cynigion Llywodraeth Cymru yn ymatal rhag cynnig mesurau a fyddai’n cryfhau hawliau tenantiaid i ofyn am gael cadw a bod yn berchen ar anifail anwes. Ar y llaw arall, mae llywodraethau’r DU a’r Alban wedi cynnig deddfwriaeth a fydd yn rhoi’r hawl i’r rhan fwyaf o denantiaid ofyn am gael cadw anifail anwes yn ddiofyn.

Yn Lloegr, bydd y Bil Hawliau Rhentwyr yn ei gwneud yn deler ymhlyg yn y rhan fwyaf o denantiaethau sicr (gyda rhai eithriadau) y caiff tenant gadw anifail anwes gyda chaniatâd y landlord, oni bai bod y landlord yn rhesymol yn gwrthod. Bydd tenantiaid yn gallu apelio yn erbyn penderfyniad landlord drwy’r Ombwdsmon Sector Rhentu Preifat newydd neu’r llys. Mae’r Bil Tai (Yr Alban) yn gwneud darpariaeth debyg ar gyfer tenantiaid yn yr Alban.

Er bod Llywodraeth Cymru yn ceisio cymeradwyaeth i rai darpariaethau yn y Bil Hawliau Rhentwyr rychwantu Cymru drwy Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, nid yw hyn yn cynnwys mesurau sy’n ymwneud ag anifeiliaid anwes ar hyn o bryd.

Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai o’r farn nad yw cynigion Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ynghylch anifeiliaid anwes yn mynd yn ddigon pell. O’r herwydd, mae wedi argymell y dylai’r llywodraeth geisio gwelliant i’r Bil Hawliau Rhentwyr er mwyn i’r darpariaethau sy’n ymwneud ag anifeiliaid anwes rychwantu Cymru.

Beth nesaf?

Bydd dadl ar adroddiad y Pwyllgor ar y sector rhentu preifat yn cael ei chynnal yn y Cyfarfod Llawn yn y Senedd ar 15 Ionawr 2025.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ar gynigion ei Phapur Gwyn, ac mae’n bwriadu cyhoeddi canlyniad yr ymgynghoriad erbyn haf 2025.

Bydd rhanddeiliaid yn gobeithio gweld Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gymryd camau pellach i gryfhau hawliau rhentwyr i gael anifail anwes.


Erthygl gan Gwennan Hardy, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru