Mae anawsterau cael mynediad at ofal deintyddol yn y GIG yng Nghymru wedi cael cryn dipyn o sylw yn ddiweddar, gyda nifer o Aelodau o’r Senedd yn disgrifio’r sefyllfa’n 'argyfwng'.
Fodd bynnag, nid yw graddau llawn yr 'argyfwng' hwn yn hysbys; nid oes darlun clir ynglŷn â faint o bobl sy'n aros i weld deintydd o dan y GIG ar hyn o bryd.
Dyna oedd un o gasgliadau Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd yn ei adroddiad ar ddeintyddiaeth, a fydd yn cael ei drafod yn y Senedd yr wythnos hon (21 Mehefin).
Mae’r erthygl hon yn ymdrin â rhai o’r materion allweddol sy’n wynebu gwasanaethau deintyddol y GIG yng Nghymru a sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb.
Mynediad at wasanaethau deintyddol
Mae’r pandemig COVID-19 wedi effeithio’n ddifrifol ar fynediad at wasanaethau deintyddol, gan arwain at ôl-groniad o gleifion sydd angen gofal a thriniaeth ddeintyddol. Fodd bynnag, roedd problemau hirsefydlog o ran mynediad yn bodoli cyn y pandemig.
Yn ystod y ddadl ar ddeintyddiaeth yn Cyfarfod Llawn ar 24 Mai 2023, cyfeiriodd nifer o Aelodau at ganfyddiadau arolygon a gynhaliwyd ganddynt, gan dynnu sylw at anawsterau ledled Cymru o ran cael gweld deintydd drwy’r GIG, a’r prinder deintyddion sy’n derbyn cleifion GIG newydd. Yn ystod y ddadl, cyfeiriwyd at ganfyddiadau’r BBC o fis Awst 2022 a ganfu fod 93 y cant o bractisau deintyddol y GIG yng Nghymru yn peidio â derbyn oedolion fel cleifion GIG newydd .
Ymatebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y ddadl honno drwy ddweud nad oedd yn “cydnabod y canlyniadau a adroddwyd” a bod 78 y cant o bractisau yng Nghymru yn 2022-23 yn gweithredu o dan drefniadau diwygio contract deintyddol newydd a oedd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt weld cleifion newydd. Dywedodd y Gweinidog:
“Y gwir amdani yw eu bod wedi gweld 174,000 o gleifion newydd y llynedd Felly, ni all fod yn wir na wnaeth 93 y cant o bractisau dderbyn claf newydd a oedd yn oedolyn”.
Mae adroddiad y Pwyllgor ac Aelodau yn y Senedd hefyd wedi cyfeirio at 'system dair haen' mewn deintyddiaeth yng Nghymru. Un haen yw'r bobl sy'n gallu cael mynediad at ddeintydd GIG, a haen arall yw'r bobl sy'n talu i fynd yn breifat. Y drydedd haen yw'r bobl sy’n methu gweld deintydd drwy’r GIG ac sy’n methu fforddio talu'n breifat.
Diffyg data
Nid oes darlun clir ynglŷn â faint o bobl sy'n aros i weld deintydd drwy’r GIG ar hyn o bryd na faint o bobl sydd wedi methu mynd ar restr aros i weld deintydd drwy’r GIG gan nad oes rhestr aros ganolog. Nid oes data yn cael eu cadw'n ganolog ychwaith ar nifer y cleifion sy'n cael eu trin yn breifat. Mae’r sefyllfa yn fwy cymhleth fyth gan fod modd i bobl gofrestru i fod ar fwy nag un rhestr aros.
Mae rhai byrddau iechyd wedi datblygu rhestrau canolog ar gyfer ardaloedd eu byrddau iechyd eu hunain. Ym mis Hydref 2022, clywodd y Pwyllgor fod 15,500 o gleifion ar y rhestr aros ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac y gallai pobl ddisgwyl aros oddeutu 26 mis rhwng ymuno â’r rhestr honno a chael apwyntiad deintyddol gyda’r GIG.
Heb ddigon o ddata, mae'n amhosibl gwybod sut i dargedu adnoddau lle mae eu hangen fwyaf. Mae data gwell yn angenrheidiol ar gyfer pennu lefel yr angen, er mwyn blaenoriaethu gwasanaethau'n effeithiol, lleihau anghydraddoldebau a gwella monitro ac atebolrwydd.
Galwodd adroddiad y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i ystyried un rhestr aros ganolog ar gyfer Cymru. Cadarnhaodd y Gweinidog ym mis Ebrill 2023 fod swyddogion eisoes mewn trafodaethau ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru i bennu cwmpas cynllun ar gyfer rhestr aros ddeintyddol i Gymru gyfan. Dywedodd y Gweinidog ei bod yn gobeithio y bydd cofrestr ddata ganolog ar waith erbyn diwedd y flwyddyn hon.
Cytundeb deintyddol a chyllid deintyddol
O fis Ebrill 2022, gallai practisau GIG ddewis bod yn rhan o raglen diwygio contract deintyddiaeth Llywodraeth Cymru, a fydd yn canolbwyntio ar atal ac ar ofal yn seiliedig ar anghenion. Mae hyn yn golygu newid oddi wrth gynnal archwiliadau bob chwe mis ar gyfer pob claf. Y nod yw rhyddhau capasiti i gynnig apwyntiadau i gleifion newydd. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £2 filiwn ychwanegol bob blwyddyn ar gyfer gwella mynediad at wasanaethau deintyddol ledled Cymru.
Fodd bynnag, honnodd Cymdeithas Ddeintyddol Prydain (BDA) ym mis Ionawr 2023 fod contractau GIG newydd a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnwys gofyniad i weld cleifion newydd yn gwneud hynny ar draul y cleifion sydd eisoes wedi’u cofrestru gyda practisau. Anfonodd Cymdeithas Ddeintyddol Prydain lythyr agored at Lywodraeth Cymru yn rhybuddio y bydd cytundebau newydd yn gorfodi practisau i adael y GIG, ac mae wedi rhybuddio hefyd y gallai deintyddiaeth y GIG ddiflannu yng Nghymru.
Mae aildrafodaethau ar gontract deintyddol newydd ar fin dechrau. Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2023 ei bod wedi ysgrifennu at Gymdeithas Ddeintyddol Prydain yn nodi ei fwriad i gychwyn trafodaethau ffurfiol ar y contract deintyddol newydd.
Mae gwariant ar ddeintyddiaeth yn y GIG wedi'i seilio ar y gofal a ddarparwyd i gleifion yn hanesyddol ac mae'r model ariannu’n seiliedig ar sefyllfa lle y bydd 50 y cant o'r boblogaeth yn cael gofal deintyddol drwy'r Gwasanaeth Deintyddol Cyffredinol.
Mae adroddiad y Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar a yw’r lefelau cyllid presennol yn ddigonol i fynd i’r afael â’r ôl-groniad o gleifion. Ymatebodd Llywodraeth Cymru drwy ddweud unwaith y bydd rhestr aros ganolog ar waith, bydd yn gallu cadarnhau faint o bobl sy'n aros am ofal deintyddol gyda’r GIG ac asesu’r lefelau ariannu sydd eu hangen.
Edrych ymlaen
Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd rhai camau mewn perthynas â deintyddiaeth yng Nghymru. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod diffyg cysylltiad rhwng yr hyn y mae rhanddeiliaid a Llywodraeth Cymru yn ei adrodd o ran maint y problemau o ran mynediad at ofal deintyddol yn y GIG.
Mae’r Gweinidog yn credu bod deintyddiaeth yng Nghymru yn gwella, ond mae wedi cydnabod bod “gennym lawer iawn o waith i’w wneud” a bod angen “llawer o arian i’w ddatrys”, sy’n golygu na fydd y dasg yn un hawdd ac na chaiff y mater “ei ddatrys dros nos”.
Bydd nodi nifer y bobl sy'n aros i weld deintydd o dan y GIG a blaenoriaethu gwasanaethau yn unol â hynny yn fan cychwyn ar gyfer mynd i'r afael â'r materion presennol. Bydd lefel y cyllid a ddarperir hefyd yn ffactor pwysig. Bydd angen i Lywodraeth Cymru weithio’n agos gyda’r proffesiwn deintyddol i lunio contract newydd a fydd yn gweithio i gleifion ac i ddeintyddion, ac a fydd yn arwain at y gwelliannau yr ymddengys fod eu hangen ar frys.
Erthygl gan Rebekah James, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru