Mae lleisiau merched yn aml yn cael eu hanwybyddu, eu diystyru a’u dibrisio. Dyna oedd un o gasgliadau allweddol adroddiad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd a gyhoeddwyd fore heddiw.
Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar brofiadau merched â chanser gynaecolegol. Mae’n taflu goleuni ar y daith anodd y mae llawer o ferched yn ei hwynebu, o’r trafferth a gânt i gael rhywun i wrando arnynt pan fyddant yn sôn am symptomau canser i’r amseroedd aros hirfaith am driniaeth.
Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar hanesion tair o ferched eithriadol; Claire, Linda a Judith, a siaradodd yn ddewr am eu profiadau o ganser. Gwyliwch y fideos yma.
Straeon Claire, Linda a Judith
Cafodd Claire, Linda a Judith ddiagnosis o wahanol fathau o ganser gynaecolegol (mae pum math cyffredin; canser ofarïaidd, canser ceg y groth, canser endometraidd, canser y wain a chanser y fwlfa). Bydd eu straeon yn gyfarwydd i lawer o ferched a gafodd eu diystyru pan oeddent yn crefu i rywun roi sylw i’w symptomau.
Yn ôl Cynghrair Iechyd Menywod Cymru gall profiad merched o’r adeg y byddant yn sylwi ar symptomau tan y byddant yn cael diagnosis fod yn un anodd. Bydd merched sy’n ymgodymu â symptomau annelwig yn estyn allan at weithwyr gofal iechyd proffesiynol, ond yr ymateb a gânt yw amheuaeth neu ddifaterwch. Roedd y dystiolaeth hon yn adleisio emosiynau Claire, Linda a Judith ac eraill a rannodd eu straeon â ni, a’r rhwystredigaeth, yr ofn a’r gwewyr meddwl sydd ynghlwm wrth deimlo’u bod yn cael eu diystyru.
Dywedodd Gofal Canser Tenovus wrth y Pwyllgor nad yw'r profiadau hyn yn ddigwyddiadau unigol; maent yn broblemau systemig y mae’n rhaid rhoi sylw iddynt.
Codi ymwybyddiaeth
Adroddodd Claire, Linda, Judith a’r holl ferched a gymerodd ran yn ein hymchwiliad eu straeon i geisio gwella’r gofal a’r driniaeth sydd ar gael ac i godi ymwybyddiaeth o’r symptomau, gan obeithio arbed merched eraill rhag dioddef y caledi y maent hwy wedi’i wynebu.
Dywed adroddiad y Pwyllgor ei bod yn hollbwysig addysgu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a'r cyhoedd yn ehangach am arwyddion annelwig y canserau gynaecolegol. Gall dod o hyd i ganser yn gynnar fod yn arf pwerus, a allai newid cyfeiriad taith y ferch gyda chanser.
Dywedodd Russell George AS, Cadeirydd y Pwyllgor: “Yn y pen draw, mae menywod yn adnabod eu cyrff eu hunain. Maent yn gwybod pan fydd rhywbeth o'i le a rhaid gwrando ar y pryderon hynny a gweithredu arnynt”. Ychwanegodd:
Mae'n amlwg o'n hymchwiliad bod menywod yn teimlo nad yw eu pryderon iechyd yn cael eu cymryd o ddifrif. Mae eu symptomau'n aml yn cael eu diystyru neu eu hisraddio ac mewn llawer o achosion fe'u gwneir i deimlo fel niwsans niwrotig.
Os ydych chi'n cael unrhyw un o'r symptomau a ganlyn, ceisiwch sylw meddygol yn fuan.
Os ydych chi'n poeni neu os oes gennych chi gwestiynau am ganser, mae nifer o sefydliadau sy'n cynnig cymorth gan gynnwys, Gofal Canser Tenovus, Ymddiriedolaeth Canser Serfigol Jo, Targedu Canser yr Ofari, Cymorth Canser Macmillan ac Apêl Eve.
Mynd i'r afael â’r heriau
Mae’r dystiolaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn tanlinellu’r hyn sydd y tu ôl i’r ystadegau a’r adroddiadau, sef merched sydd wedi dangos eu bod yn ddewr ac yn fregus, fel y dangosodd Claire, Linda, Judith a’r holl ferched a rannodd eu straeon â ni.
Gan gydnabod y straeon hyn, mae’r Pwyllgor wedi gwneud 26 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, yn galw am newidiadau systemig sy’n rhoi blaenoriaeth i iechyd merched, gan sicrhau nad oes dim llais yn cael ei anwybyddu ac nad oes dim apêl am gymorth yn cael ei diystyru.
Mae adroddiad y Pwyllgor yn galw am gamau pendant i sicrhau bod merched â chanserau gynaecolegol yn cael eu trin â thosturi, yn cael sylw yn ddiymdroi, ac yn cael triniaeth effeithiol.
Mae'n cydnabod y pwysau sy'n wynebu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Tynnodd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol sylw at yr heriau sy’n wynebu gweithlu meddygfeydd, gan ddweud wrth y Pwyllgor bod pobl yn gadael yn eu heidiau. Roedd angen i ferched, meddent, eirioli dros eu hiechyd i sicrhau eu bod yn cael y gofal sydd ei angen arnynt, a’r gofal y maent yn ei haeddu.
Ond efallai na fydd rhai merched yn teimlo’u bod wedi'u grymuso i fynnu bod eu hanghenion a'u pryderon yn cael y sylw priodol yn ystod apwyntiadau meddygol. Mewn meddygfeydd, mae’r ffaith ei bod yn anodd cael apwyntiad a gweld meddyg benywaidd, yn ychwanegu at yr anawsterau.
Mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod ei bod yn anodd iawn rhoi diagnosis yn achos rhai o'r canserau gynaecolegol. Gall y symptomau fod yn annelwig.
Er bod llawer o dystiolaeth nad yw merched, dros y blynyddoedd, wedi cael gwrandawiad digonol, meddai Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru wrth y Pwyllgor, yn ei farn ef, mae meddygon teulu yn gyffredinol yng Nghymru, yn gwneud yn dda iawn. Dywedodd fod y nifer a gaiff eu hatgyfeirio gan feddygon teulu’n gyffredinol yn cyd-fynd â’r gyfradd y mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn ei hargymell:
But this is all quite difficult because so many people present with so many symptoms, and the vast majority of them do not have anything serious underpinning them.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb cyn pen chwe wythnos.
*Yn anffodus, mae Judith, a rannodd ei stori gyda'r Pwyllgor, wedi marw. I anrhydeddu’r cof amdani, mae ei theulu’n dymuno i bawb glywed ei llais. Diolch o galon a dymuniadau diffuant i deulu Judith, Linda, Claire a’r holl ferched a gymerodd ran yn ein hymchwiliad am ganiatáu inni adrodd eu straeon.
Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru