Lleihau'r ôl-groniad o ran rhestrau aros y GIG

Cyhoeddwyd 20/06/2024   |   Amser darllen munudau

Ym mis Ebrill 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd, gyda’r nod o leihau rhestrau aros.

Gan gydnabod bod delio ag ôl-groniadau mewn gofal arferol yn cymryd amser, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i’r pum uchelgais allweddol a ganlyn:

  • Uchelgais 1: Neb i aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf erbyn diwedd 2022
  • Uchelgais 2: Dileu arhosiadau sy’n fwy na dwy flynedd ar gyfer y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023
  • Uchelgais 3: Dileu arhosiadau sy’n fwy na blwyddyn ar gyfer y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn gwanwyn 2025
  • Uchelgais 4: Cyflymu profion ac adroddiadau diagnostig i wyth wythnos ac i 14 wythnos ar gyfer ymyriadau therapi erbyn gwanwyn 2024.
  • Uchelgais 5: Sicrhau diagnosis a thriniaeth canser o fewn 62 diwrnod i 80 y cant o bobl erbyn 2026

Mae Ymchwil y Senedd wedi bod yn monitro’r cynnydd sy’n cael ei wneud i gyflawni’r uchelgeisiau hyn, gan ddarparu diweddariadau rheolaidd ac adroddiadau bob tymor i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd.

Hyd yn hyn, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyflawni’r un o'i huchelgeisiau.

A fydd Llywodraeth Cymru yn gwireddu ei huchelgeisiau?

Cyhoeddir data ar amseroedd aros y GIG bob mis ar StatsCymru. Mae’r data yn dangos nifer y llwybrau cleifion yn hytrach na nifer y cleifion, a gall un claf fod ar sawl llwybr. Mae pob llwybr yn cynnwys yr amser ers i glaf gael ei atgyfeirio gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall i’r ysbyty ar gyfer triniaeth gan y GIG yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys amser a dreulir yn aros am apwyntiadau ysbyty, profion, sganiau neu driniaethau eraill y gall fod eu hangen cyn triniaeth.

Mae’r data’n dangos nifer y llwybrau cleifion lle mae’r arhosiad yn hwy na 53 wythnos yn hytrach nag arosiadau hwy na blwyddyn, a nifer y bobl sy’n aros yn hwy na 105 wythnos yn hytrach nag aros yn hwy na dwy flynedd. Mae’r graffiau isod yn dangos data o fis Ionawr 2020 hyd at y dyddiad diweddaraf sydd ar gael.

 

 

Cliciwch ar y blychau i weld uchelgeisiau eraill

Uchelgais 1: Neb i aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf erbyn diwedd 2022

Ym mis Ebrill 2024, roedd 65,111 o lwybrau cleifion yn aros dros 53 wythnos (mwy na blwyddyn) am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf.

Graff yn dangos bod nifer y llwybrau cleifion a oedd yn aros mwy na 53 wythnos wedi cynyddu o 1,115 ym mis Ionawr 2020 i 65,111 ym mis Ebrill 2024. Yn erbyn uchelgais o sero erbyn diwedd 2022.

Ffynhonnell: StatsCymru, Llwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth yn ôl mis, wythnosau wedi'u grwpio a cham y llwybr

Uchelgais 2: Dileu nifer y bobl sy'n aros am fwy na dwy flynedd ar gyfer y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023

Ym mis Ebrill 2024, roedd 5,279 o lwybrau cleifion yn aros dros 105 wythnos (mwy na dwy flynedd) am driniaethau trawma ac orthopedig, roedd 3,316 yn aros am driniaeth ar y offthalmoleg, ac roedd 2,854 yn aros am clustiau, trwyn a gwddf.

Graff sy’n dangos nifer y llwybrau cleifion a oedd wedi aros dros 105 wythnos ym mis Ebrill 2024: trawma ac orthopedig (5,279), offthalmoleg (3,316) a clustiau, trwyn a gwddf (2,854) oedd â'r nifer fwyaf o lwybrau cleifion yn aros. Yr uchelgais yw sicrhau na fydd neb yn aros mwy na dwy flynedd ar gyfer y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023.

Ffynhonnell: StatsCymru, Llwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi'u grwpio a swyddogaeth driniaeth, Ionawr 2021 ymlaen

Uchelgais 3: Dileu nifer y bobl sy'n aros am fwy na blwyddyn ar gyfer y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn gwanwyn 2025

Ym mis Ebrill 2024, roedd 30,374 o lwybrau cleifion yn aros dros 53 wythnos (mwy na blwyddyn) am driniaethau offthalmoleg, 29,198 am trawma ac orthopedig, a 18,362 ar gyfer triniaethau llawfeddygaeth gyffredinol.

Graff yn dangos nifer y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na 53 wythnos ym mis Ebrill 2024: offthalmoleg (30,374), trawma ac orthopedig (29,198) ac llawfeddygaeth gyffredinol (18,362) oedd â'r nifer fwyaf o lwybrau cleifion yn aros. Yn erbyn uchelgais o neb yn aros mwy nag 1 flwyddyn yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn y gwanwyn 2025.

Ffynhonnell: StatsCymru, Llwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi'u grwpio a swyddogaeth driniaeth, Ionawr 2021 ymlaen

Uchelgais 4: Cynyddu cyflymder profion diagnostig ac adrodd i wyth wythnos ac 14 wythnos ar gyfer ymyriadau therapi erbyn gwanwyn 2024

Ym mis Ebrill 2024, roedd 40,098 o lwybrau cleifion yn aros wyth wythnos neu’n hwy am wasanaethau diagnostig. Roedd 5,268 ychwanegol o lwybrau cleifion yn aros 14 wythnos neu’n hwy am wasanaethau therapi.

Graff yn dangos bod nifer y cleifion a oedd yn aros 8 wythnos neu ragor am wasanaethau diagnosteg wedi cynyddu o 5,087 ym mis Ionawr 2020 i 40,098 ym mis Ebrill 2024. Roedd nifer y cleifion a oedd yn aros mwy na 14 wythnos am wasanaethau therapi wedi cynyddu o 238 ym mis Ionawr 2020 i 5,268 ym mis Ebrill 2024.

Ffynhonnell: StatsCymru, Amseroedd aros gwasanaeth diagnostig a therapi

Uchelgais 5: Diagnosis a thriniaeth canser i ddigwydd o fewn 62 diwrnod ar gyfer 80 y cant o bobl erbyn 2026

Ym mis Ebr 2024, 53.8% oedd canran y bobl â diagnosis o ganser a oedd wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod i’r pwynt y cafodd canser ei amau gyntaf.

Graff yn dangos canran y cleifion a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn y mis o fewn 62 diwrnod o gael yr amheuaeth cyntaf eu bod â chanser oedd 58.8% ym mis Ionawr 2020 a 53.8% ym mis Ebr 2024. Yr uchelgais yw bod 80% o gleifion yn dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn y mis o fewn 62 diwrnod o gael yr amheuaeth cyntaf eu bod â chanser erbyn 2026

Ffynhonnell: StatsCymru, Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau caeedig): Nifer y cleifion a israddiwyd, a ddechreuodd eu triniaeth, a gafodd eu trin, a gafodd eu trin o fewn 62 diwrnod i’r amheuaeth gyntaf o ganser, yn ôl bwrdd iechyd lleol, safle’r canser, grŵp oedran, rhyw, mesur a mis.

 

Erthygl gan Sarah Hatherley, Helen Jones a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru