Ym mis Ebrill 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd, gyda’r nod o leihau rhestrau aros.
Gan gydnabod bod delio ag ôl-groniadau mewn gofal arferol yn cymryd amser, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i’r pum uchelgais allweddol a ganlyn:
- Uchelgais 1: Neb i aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf erbyn diwedd 2022
- Uchelgais 2: Dileu arhosiadau sy’n fwy na dwy flynedd ar gyfer y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023
- Uchelgais 3: Dileu arhosiadau sy’n fwy na blwyddyn ar gyfer y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn gwanwyn 2025
- Uchelgais 4: Cyflymu profion ac adroddiadau diagnostig i wyth wythnos ac i 14 wythnos ar gyfer ymyriadau therapi erbyn gwanwyn 2024.
- Uchelgais 5: Sicrhau diagnosis a thriniaeth canser o fewn 62 diwrnod i 80 y cant o bobl erbyn 2026
Mae Ymchwil y Senedd wedi bod yn monitro’r cynnydd sy’n cael ei wneud i gyflawni’r uchelgeisiau hyn, gan ddarparu diweddariadau rheolaidd ac adroddiadau bob tymor i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd.
Hyd yn hyn, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyflawni’r un o'i huchelgeisiau.
A fydd Llywodraeth Cymru yn gwireddu ei huchelgeisiau?
Cyhoeddir data ar amseroedd aros y GIG bob mis ar StatsCymru. Mae’r data yn dangos nifer y llwybrau cleifion yn hytrach na nifer y cleifion, a gall un claf fod ar sawl llwybr. Mae pob llwybr yn cynnwys yr amser ers i glaf gael ei atgyfeirio gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall i’r ysbyty ar gyfer triniaeth gan y GIG yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys amser a dreulir yn aros am apwyntiadau ysbyty, profion, sganiau neu driniaethau eraill y gall fod eu hangen cyn triniaeth.
Mae’r data’n dangos nifer y llwybrau cleifion lle mae’r arhosiad yn hwy na 53 wythnos yn hytrach nag arosiadau hwy na blwyddyn, a nifer y bobl sy’n aros yn hwy na 105 wythnos yn hytrach nag aros yn hwy na dwy flynedd. Mae’r graffiau isod yn dangos data o fis Ionawr 2020 hyd at y dyddiad diweddaraf sydd ar gael.
Erthygl gan Sarah Hatherley, Helen Jones a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru