Lleihau llygredd amaethyddol: y ddadl yn parhau

Cyhoeddwyd 11/10/2022   |   Amser darllen munud

Mae ffermwyr wedi gwrthwynebu rheoliadau llygredd amaethyddol Llywodraeth Cymru o’r dechrau, gan ddweud eu bod nhw’n llym ac yn eu cosbi.

Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod y rheoliadau yn hanfodol. Mae amgylcheddwyr yn dadlau ei bod hi’n hen bryd eu cyflwyno ac y byddant yn atal difrod amgylcheddol trychinebus.

Er bod pawb yn cytuno bod yn rhaid gwneud rhywbeth, mae’r rheoliadau yn parhau i fod yn destun dadl.

Bu’r Senedd yn trafod dirymu’r rheoliadau ac mae NFU Cymru wedi lansio her gyfreithiol – bu’r ddau yn aflwyddiannus yn y pen draw.

Yna cytunodd y Senedd i adolygu’r rheoliadau. Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig oedd yn gyfrifol am y gwaith hwn.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddiad sylweddol ar 5 Hydref, cyn dadl yn y Senedd ar ganfyddiadau’r Pwyllgor ar 12 Hydref.

Pa mor llygredig yw amaethyddiaeth?

Mae llawer o wahanol ffynonellau llygredd dŵr. Ffermio a’r diwydiant dŵr yw’r ddau achos mwyaf o lygredd dŵr wyneb a adroddwyd i Cyfoeth Naturiol Cymru. Y sector llaeth sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o achosion o lygredd amaethyddol.

Dywed Llywodraeth Cymru mai llygredd gwasgaredig o amaethyddiaeth yw un o’r prif resymau pam bod cyrff dŵr Cymru yn methu â chyflawni ‘statws da’ o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.

Mae data Cyfoeth Naturiol Cymru o 2021 yn nodi amaethyddiaeth fel achos mwyaf cyffredin methiannau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, gan ei bod yn gysylltiedig â 21% o’r holl fethiannau i gyrraedd statws da. Cysylltir y diwydiant dŵr â 15%.

Pam bod Llywodraeth Cymru wedi defnyddio’r dull hwn?

Daeth y rheoliadau i rym ym mis Ebrill 2021, ac maent yn cyflwyno ‘llinell sylfaen reoliadol’ ar gyfer Cymru gyfan o ran rheoli llygredd amaethyddol.

Dywed Llywodraeth Cymru fod y rheoliadau yn mynd i’r afael ag achosion llygredd amaethyddol ac yn helpu Cymru i gyflawni rhwymedigaethau rhyngwladol a domestig.

Maent hefyd yn ceisio mynd i’r afael â risgiau sy’n gysylltiedig ag achosion ôl-weithredol o dorri rheolau’r UE, bodloni gofynion tegwch yn y farchnad y Cytundeb Masnach a Chydweithrediad UE-DU a dangos i farchnadoedd byd-eang bod bwyd o Gymru yn cael ei gynhyrchu i safonau cydnabyddedig.

A yw hyn yr un peth â’r dull blaenorol?

Mae’r rheoliadau yn disodli’r dull blaenorol o dan y Gyfarwyddeb Nitradau. Roedd hyn yn dynodi 2.4% o dir Cymru yn ‘Barthau Perygl Nitradau’ (NVZs) lle’r oedd ffermwyr yn destun rheolaethau.

Mae Llywodraeth Cymru yn pwysleisio nad Parthau Perygl Nitradau wedi’u hymestyn ar draws Cymru gyfan yw’r rheoliadau hyn. Mae’n dweud eu bod yn disodli Parthau Perygl Nitradau yn gyfan gwbl, ac er mai’r prif nod o hyd yw lleihau llygredd dŵr:

…mae'r mesurau wedi'u cynllunio i osgoi cyfnewid llygredd ac i atal neu leihau colledion cynyddol maetholion i'r amgylchedd. Mae hyn yn cynnwys nitradau, ffosfforws, nwyon tŷ gwydr ac amonia.

Sut ymateb sydd i’r dull Cymru gyfan?

Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru yn croesawu’r dull trawsdiriogaethol gan ddweud ei fod yn gwneud Cymru’n barod ar gyfer ffermio dwys mewn ardaloedd newydd, mwy sensitif, ac yn gosod pob ffermwr ar sefyllfa gydradd, gan osgoi anghydbwysedd cystadleuol.

Hefyd, dywed Cyswllt Amgylchedd Cymru na fydd y dull rheoliadol yn cael llawer o effaith ar fferm os nad yw’n cynhyrchu slyri.

Ond mae’r undebau amaethyddol yn anghytuno. Byddai’n well ganddynt weld mesurau wedi’u targedu at ardaloedd lle mae problemau llygredd amaethyddol. Dywed Undeb Amaethwyr Cymru:

… the current regulations will place a significantly greater regulatory burden on every farmer … including the majority, who have never suffered an agricultural pollution incident, and those in catchment areas where agricultural pollution incidents have not been recorded.

Faint o wrtaith y gellir ei ddefnyddio?

Mae’r undebau hefyd yn gwrthwynebu’r terfyn a roddir ar faint o nitrogen y gellir ei roi ar dir. Y terfyn yw 170kg yr hectar y flwyddyn.

O dan y dull Parthau Perygl Nitradau blaenorol, gallai ffermydd â 80% o laswelltir, ac sy’n bodloni meini prawf penodol, gymhwyso hyd at 250kg/ha. Dywed NFU Cymru fod y terfyn o 170kg/ha:

… is a de facto stocking limit requiring destocking on many Welsh farms with impacts to farm viability, critical mass within the supply chain and employment.

Argymhellodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y dylai Llywodraeth Cymru ystyried ailgyflwyno mecanwaith ar gyfer ffermydd glaswelltir cymwys i gynyddu eu terfyn i 250kg/ha, oherwydd ei fod yn pryderu y gallai ffermwyr Cymru fod o dan anfantais gystadleuol.

Mae Cyswllt Amgylchedd Cymru yn gwrthwynebu ailgyflwyno'r terfyn uwch gan ddweud y dylid dod o hyd i ffyrdd eraill o reoli gwastraff anifeiliaid ac os yw tystiolaeth yn dangos bod angen rhywfaint o ddadstocio i ddiogelu ein hamgylchedd, yna dylid ystyried hynny.

O dan ei Chytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, ar 5 Hydref cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newidiadau i’r ffordd y caiff y terfyn ei gyflwyno:

  • Byddai’r dyddiad gweithredu ar gyfer y terfyn 170kg/ha yn cael ei ymestyn o fis Ionawr 2023 i fis Ebrill 2023.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynllun trwyddedu yr hydref hwn lle gall ffermydd wneud cais am drwydded ar gyfer terfyn 250kg/ha. Y bwriad yw cynnal y cynllun tan 2025.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar effeithiau economaidd ac amgylcheddol y terfyn 170kg/ha.

Beth am ddulliau amgen?

Mae’r rheoliadau’n caniatáu i fesurau eraill gael eu hawgrymu o fewn 18 mis ar ôl i’r rheoliadau ddod i rym – gan wneud 1 Hydref 2022 yn ddyddiad cau ar gyfer cynigion.

Mae’r rheoliadau   yn rheoli pryd, ble a sut y rhoddir gwrtaith, gan gynnwys atal slyri rhag lledaenu rhwng mis Hydref a mis Ionawr o 2024. Gelwir hyn yn ‘gyfnod caeedig’.

Dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru wrth y Pwyllgor y byddai cyfyngiadau ar wasgaru slyri yn ystod y cyfnod caeedig yn gwneud y canlynol:

…this will place significant pressure on cattle farmers to empty their stores before the closed period and spread as much as possible within the limits after the closed period … rather than spreading at the optimal time in regard to weather conditions and crop requirements.

Mae’r undebau ffermio o blaid archwilio’r defnydd o dechnoleg i helpu i ledaenu ar yr amser gorau posibl yn hytrach na’r dull ‘ffermio fesul calendr’ sy'n ofynnol gan gyfnodau caeedig.

Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu cynigion technoleg amgen yn lle cyfnodau cau ar gyfer lledaenu.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru gan ddweud y byddai unrhyw gynigion yn cael eu hystyried yn gyfartal ac yn unol â’r rheoliadau, ac y byddai blaenoriaethu cynigion yn seiliedig ar bynciau yn amhriodol.

A yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn barod i orfodi’r rheoliadau?

Nid ydym yn gwybod eto. Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru wrth y Pwyllgor y byddai hwn yn llwyth gwaith enfawr. Mae'n amcangyfrif y bydd angen 60 aelod o staff ychwanegol arno i gyflawni’r hyn sy’n isafswm o ran cynnyrch hyfyw, ond ymhell dros 200 i gyflawni’r rôl lawn.

Ystyriwyd cyllid ar gyfer y gwaith hwn drwy ymarfer adolygu llinell sylfaen cyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru, a edrychodd ar ddyraniad adnoddau Cyfoeth Naturiol Cymru yn erbyn ei swyddogaethau statudol ac ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu. Mae disgwyl i’r cytundebau lefel gwasanaeth canlyniadol gael eu cwblhau y mis hwn.

A oes cyllid ar gael i ffermwyr?

Oes. Dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor fod dros £40 miliwn ar gael i ffermwyr i leihau llygredd ac i helpu i wneud y newidiadau angenrheidiol. Ond nid oedd yn glir o ba gronfeydd yn union y daeth y cyllid hwn a faint ohono oedd yn arian newydd, a faint sydd wedi’i adleoli o’r cyllid presennol a ddyrannwyd i ffermio.

Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru egluro yn union pa gymorth sydd wedi bod, ac a fydd, ar gael. Cytunodd Llywodraeth Cymru ond ni roddodd amserlen.

Yn ei chyhoeddiad ar 5 Hydref, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn sicrhau bod “hyd at” £20 miliwn o “gyllid ychwanegol” ar gael i helpu i gydymffurfio â’r rheoliadau.

Mae dadl gref wedi bod ynghlwm â’r rheoliadau bob cam o'r ffordd. Bydd hyn yn siŵr o barhau ar 12 Hydref pan fydd y Senedd yn trafod Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

Gallwch ddilyn y ddadl yn fyw ar Senedd TV.


Erthygl gan Elfyn Henderson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru