Cyhoeddwyd 16/03/2017
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
16 Mawrth 2017
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Sut y mae pwyllgor y Cynulliad yn ymchwilio i gysylltiadau rhwng sefydliadau.
Mae'r
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn cynnal ymchwiliad i waith rhyngsefydliadol er mwyn:
- Llunio egwyddorion arfer gorau ar gyfer dulliau o weithio rhwng sefydliadau ar gyfer deddfwriaeth gyfansoddiadol.
- Ystyried gwaith deddfwrfeydd eraill o ran eu dulliau o weithio rhwng sefydliadau ac adeiladu arno pan fo'n ymwneud â meysydd polisi ehangach.
- Ceisio, sefydlu a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer dulliau o weithio rhwng seneddau, gan gynnwys hyrwyddo'r broses o ymgysylltu â dinasyddion.
Mae'r ymchwiliad yn canolbwyntio ar ddwy ffrwd: Materion Cyfansoddiadol a Materion Polisi Mae'r Pwyllgor
ar hyn o bryd yn ystyried Ffrwd I: Materion Cyfansoddiadol. Mae wrthi'n adolygu sut y mae cysylltiadau rhyngsefydliadol wedi dylanwadu ar ddatblygiad datganoli yng Nghymru ers 1999. Mae hyn yn cynnwys ystyried:
- Sut y mae dulliau rhynglywodraethol wedi effeithio ar ddatblygiad y setliad datganoli.
- Sut y mae cysylltiadau rhynglywodraethol wedi datblygu ac esblygu, yr hyn a oedd yn llwyddiannus, a sut y mae'r cysylltiadau hyn wedi effeithio ar y setliad datganoli.
- Sut y mae cysylltiadau rhyngseneddol wedi esblygu, cyflwr presennol y cysylltiadau hyn, a sut y gellid eu datblygu ymhellach o ran y gwaith o ddatblygu deddfwriaeth gyfansoddiadol a chraffu arni.
Mae'r Pwyllgor wedi bod yn clywed gan
ffigurau allweddol yn natblygiad datganoli yn ystod y 18 mlynedd ddiwethaf. Mae eisoes wedi clywed gan
yr Arglwydd Murphy, a oedd yn Ysgrifenydd Gwladol ar ddau wahanol achlysur – gweler ein
llun ar Lywodraethiant Cymru. Yn y cyfarfod diwethaf, clywodd y Pwyllgor gan
y Farwnes Randerson, sydd wedi bod yn Weinidog yn Llywodraeth Cymru ac yn Swyddfa Cymru, ac
Elfyn Llwyd, sy'n gyn arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan. Mae'r Pwyllgor hefyd wedi clywed tystiolaeth gan
Syr Paul Silk a oedd yn arwain Comisiwn Silk, a fu ynghlwm wrth y ddeddf ddiweddaraf ynghylch datganoli, sef
Deddf Cymru 2017.
Ddydd Llun 20 Mawrth, fel rhan o
#SeneddCasnewydd, bydd y Pwyllgor yn cyfarfod ym
Mhrifysgol De Cymru, Casnewydd ac yn clywed tystiolaeth gan
y Prif Weinidog Carwyn Jones AC fel rhan o'r ymchwiliad. Caiff ei gwestiynu hefyd am y papur gwyn sy'n ymdrin â Chymru'n gadael yr UE, sef
Diogelu Dyfodol Cymru. Bydd y cyfarfod yn cychwyn am 2.30pm a bydd
croeso i'r cyhoedd.
Mae'r Pwyllgor wedi lansio
ymgynghoriad cyhoeddus i ofyn barn ynghylch yr ymchwiliad.
5 Mehefin 2017 yw'r dyddiad cau ar gyfer ymatebion.
Erthygl gan Dr Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Llais Cryfach i Gymru: Y Prif Weinidog i roi tystiolaeth (PDF, 126KB)