Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn archwilio’r posibilrwydd o alluogi rhentwyr i gadw’r ddau fis olaf o’u rhent fel iawndal pan fyddant yn wynebu cael eu troi allan heb fai.
Galwodd Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai’r Senedd am y cyfaddawd hwn fel rhan o’i ymchwiliad i’r sector rhentu preifat.
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad, gan ddweud y bydd yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ac yn adrodd yn ôl gyda chasgliadau erbyn diwedd mis Ebrill 2025.
Mae adroddiad y Pwyllgor, a fydd yn cael ei drafod gan y Senedd ddydd Mercher yma, yn gwneud cyfres o argymhellion eraill gyda'r nod o wneud y sector rhentu preifat yn decach i'r rheini sy'n rhentu eiddo, a’r rheini sydd yn berchen ar eiddo, fel ei gilydd.
Derbyniodd Llywodraeth Cymru y rhan fwyaf o’r argymhellion yn llawn, neu mewn egwyddor. Gwrthododd un argymhelliad, ar adolygu rôl y Grant Cymorth Tai yn y sector.
Modd o ddatrys digartrefedd
Y Grant Cymorth Tai yw prif ffrwd ariannu Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau sy’n cefnogi pobl i gynnal eu tenantiaethau, ac osgoi digartrefedd.
Tynnodd ei rôl yn y sector rhentu preifat sylw'r Pwyllgor wrth ymgysylltu â thenantiaid a landlordiaid sy'n rhan o'r rhwydwaith hyrwyddwyr sy’n cael ei redeg gan Tai Pawb. Clywodd yr aelodau gan rai landlordiaid sy'n arbenigo mewn gweithio gyda thenantiaid ar incwm is, gan gynnwys tenantiaid a allai fod angen gwasanaethau cymorth a ariennir gan y Grant Cymorth Tai.
Un landlord preifat o’r fath yw White House Supported Living yng Nghasnewydd, a gafodd ei gynnwys yn yr adroddiad fel astudiaeth achos. Mae White House yn lletya tenantiaid ag anghenion cymorth – gyda llawer ohonynt wedi profi ddigartrefedd – gan ddarparu cartrefi hirdymor sefydlog iddynt mewn tai a rennir.
Mae'r cyngor yn darparu Grant Cymorth Tai i'r cwmni, fel bod pob tenant yn cael cymorth wedi'i deilwra i helpu i gynnal eu tenantiaeth.
Dywedodd un preswylydd wrth gynrychiolydd y Pwyllgor:
Oni bai am y lle hwn dwi ddim yn meddwl y byddwn i'n fyw heddiw.
Dywedodd y landlordiaid wrth yr Aelodau eu bod yn teimlo y dylai landlordiaid preifat yn eu sefyllfa hwy gael gwell cydnabyddiaeth, gyda’u bod yn landlordiaid preifat sy’n cartrefu pobl mewn ffyrdd tebyg i landlordiaid cymdeithasol ac elusennau, ond nad oes ganddynt yr un mynediad at grantiau, cyllid, na chyfleoedd ar gyfer dysgu ar y cyd.
Daeth yr aelodau i'r casgliad, o ystyried hyd a lled y tangyflenwad o dai cymdeithasol, y gall modelau fel White House fod yn effeithiol wrth ddarparu cartrefi sefydlog â chymorth. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru adolygu faint o landlordiaid y sector preifat sy’n cael Grant Cymorth Tai ar gyfer tenantiaid sydd ag anghenion cymorth, a chymryd camau i adolygu a hyrwyddo enghreifftiau o arfer da o fewn y sector.
Gwrthododd Llywodraeth Cymru hyn, gan nodi bod y Grant Cymorth Tai yn niwtral o ran deiliadaeth. Roedd ei ymateb yn dadlau bod y Grant yn cael ei ddarparu'n uniongyrchol i landlordiaid preifat. At hynny, dywedodd fod Llywodraeth Cymru eisoes yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod arfer da yn cael ei nodi.
Troi allan heb fai
Thema arall yn nhystiolaeth yr ymchwiliad oedd bodolaeth barhaus achosion o droi allan heb fai yng Nghymru. Cafodd y rheini eu gwahardd yn yr Alban yn 2017, ac mae’n bosibl y cânt eu gwahardd yn Lloegr, hefyd, drwy'r Bil Hawliau Rhentwyr, sydd ar hyn o bryd yn y cyfnod adrodd yn Nhŷ’r Cyffredin.
Safbwynt Llywodraeth Cymru yw y byddai gwahardd y sail am feddiannu heb fai’n mynd yn groes i gyfraith hawliau dynol, oni bai bod seiliau newydd yn cael eu cyflwyno i ganiatáu i landlordiaid droi allan er mwyn iddynt allu byw yn yr eiddo eu hunain, neu werthu gyda meddiant gwag. Mae seiliau at y dibenion hyn ar gael i landlordiaid yn yr Alban, a byddant ar gyfer landlordiaid yn Lloegr o dan y Bil.
Fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd, Julie James AS, ddweud wrth y Pwyllgor bod hyn yn golygu na fyddai gan denantiaid yng Nghymru fwy o sicrwydd yn eu cartrefi pe bai achosion o droi allan heb fai yn dod i ben, nag sydd ganddynt eisoes o dan y ddeddfwriaeth bresennol yng Nghymru. Dywedodd:
In Wales, the Renting Homes Act gives you six months straight, and then six months’ notice, so a new tenant has a year minimum. And then there’s a six-month rolling period after that. That's the longest of anywhere in the UK.
Fodd bynnag, gyda throi allan heb fai yn dal i fod yn bryder i filoedd o rentwyr yng Nghymru, awgrymodd y Pwyllgor ganiatáu i denantiaid gadw rhent y ddau fis diwethaf fel “rhyddhad adleoli” i wneud iawn am effeithiau ariannol gorfod symud, ac effeithiau hynny o ran llesiant. Yn ôl yr adroddiad, “gallai cam o’r fath helpu i atal digartrefedd a lleihau gwariant awdurdodau lleol ar flaendaliadau a rhent ymlaen llaw”. Cytunodd Llywodraeth Cymru i archwilio hyn.
At hynny, dywedodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru fonitro'r sefyllfa yn Lloegr i sicrhau nad yw tenantiaid yng Nghymru yn waeth eu byd.
Lefelau rhent, amodau eiddo, ac anifeiliaid anwes
Roedd anifeiliaid anwes yn thema fawr, gydag elusennau yn tynnu sylw at y niferoedd uchel o anifeiliaid sy’n cael eu rhoi mewn llochesi bob blwyddyn, oherwydd nad oedd eu perchnogion yn gallu dod o hyd i gartref cyfeillgar i anifeiliaid anwes yn y sector rhentu preifat. Mae’r erthygl hon gan Ymchwil y Senedd yn ymdrin â’r mater yn fanylach.
Thema arall oedd cyflwr eiddo. Disgrifiodd tystion broblemau gyda lleithder, llwydni ac oerfel. Fe wnaeth y Panel Arbenigwyr Tai, sy’n cynrychioli Cyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd awdurdodau lleol, ddweud bod llawer o’r sector o ansawdd da ac yn cael ei reoli’n dda, ond ychwanegodd bod yna graidd bach o landlordiaid/asiantau sydd ond yn gwneud yr hyn y gallant fynd yn ddi-gosb amdano, er mwyn sicrhau’r elw mwyaf posibl. Mae’r rhain yn dueddol o fod â phortffolio sylweddol.
Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru osod targedau a cherrig milltir ar gyfer cymhwyso Safon Ansawdd Tai Cymru – sydd, ar hyn o bryd yn berthnasol i dai cymdeithasol yn unig – i bob tai.
Roedd yn argymell archwilio 'MOTs eiddo' fel rhan o gyfundrefn drwyddedu landlordiaid, er mwyn gwirio bod cartrefi yn ffit i bobl fyw ynddynt.
At hynny, roedd argymell cynyddu gallu awdurdodau lleol i gynnal arolygiadau, a gorfodi. Derbyniodd Llywodraeth Cymru y tri chynnig mewn egwyddor.
Roedd yr Aelodau, hefyd, yn bryderus am dystiolaeth a glywsant am effaith rhenti uchel ar denantiaid. Fodd bynnag, dywedodd llawer o dystion nad yw rheolaethau rhent yn ateb syml ac y gallai arwain at ganlyniadau anfwriadol, gan gynnwys cynnydd mewn digartrefedd.
Dywedodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ystyried rhoi mecanwaith effeithiol ar waith er mwyn i denantiaid herio codiadau rhent sy’n uwch na lefelau’r farchnad. Mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ar ôl adroddiad y Pwyllgor, yn gwahodd safbwyntiau ar ddwyn y cynnig hwn yn ei flaen.
Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod llawer o'r problemau yn y sector rhentu preifat yn ymwneud â chyflenwad, ac yn hynny o beth, un o’r pethau mwyaf effeithiol y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu’r sector rhentu preifat yw cynyddu’r cyflenwad o dai cymdeithasol.
Mae’r her benodol honno wedi bod yn destun ymchwiliad diweddar arall gan y Pwyllgor, sy’n aros am ymateb Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Cewch gadw i’r funud â'r ddadl ar y sector rhentu preifat ddydd Mercher ar Senedd.tv, ac fe fydd modd ichi edrych ar y trawsgrifiad yn dilyn hynny.
Erthygl gan Jennie Bibbings, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru