Lefelau cyllid ar gyfer diwylliant a chwaraeon yng Nghymru ymhlith yr isaf yn Ewrop

Cyhoeddwyd 20/03/2025   |   Amser darllen munudau

Ar 26 Mawrth 2025, bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, Degawd o doriadau: effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon. Gellir darllen ymateb Llywodraeth Cymru ar yr un dudalen. Ers cyhoeddi'r adroddiad, mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei adroddiad ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26. Gellir darllen ymateb Llywodraeth Cymru ar yr un dudalen.

Yn sgil degawd o doriadau ariannol gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, mae lefelau cyllid cyhoeddus ar gyfer diwylliant a chwaraeon yng Nghymru yn is, fesul y pen o’r boblogaeth, nag ydynt yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop.

Mae Pwyllgor Diwylliant y Senedd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cydraddoldeb â gwledydd tebyg o ran y cyllid a ddarperir. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, gan ymateb drwy gynyddu’r dyraniadau cyllid yng Nghyllideb derfynol 2025-26.

Degawd o doriadau

Mae’r cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer diwylliant a chwaraeon yn cael ei sianelu’n bennaf drwy gyrff hyd braich, gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Chwaraeon Cymru ac Amgueddfa Cymru. Yn 2023-24, gwelodd pob corff ym maes diwylliant a chwaraeon doriad o rhwng 5% a 15% mewn cyllid refeniw gan Lywodraeth Cymru (gyda’r Cyngor Llyfrau yn dioddef y toriad canrannol uchaf), a hynny fel rhan o gyllideb lle dyrannwyd llawer mwy o gyllid i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

O ran y darlun cyfan, cwtogodd Llywodraeth Cymru y cyllid refeniw a ddarparwyd ar gyfer diwylliant a chwaraeon yn 2024-25 oddeutu 7.7%, o gymharu â’r dyraniadau a wnaed yn 2023-24. Gwelwyd cynnydd o 6.3% mewn dyraniadau cyllid cyfalaf, ond mae eu gwerth yn llai na hanner gwerth y dyraniadau refeniw.

Golyga hyn fod Llywodraeth Cymru, yn ôl ei chyfrifiadau ei hun, wedi torri cyllidebau refeniw yn y meysydd hyn tua 17% mewn termau real dros gyfnod o ddegawd. Dros yr un cyfnod, mae cyllidebau cyfalaf (sy'n parhau i fod yn llai na hanner maint y cyllidebau refeniw) bron wedi treblu o ran maint.

Roedd Cyngor Celfyddydau Cymru ymhlith y sefydliadau a gollodd fwyaf, wrth i Lywodraeth Cymru leihau ei gyllid refeniw tua 29% mewn termau real dros gyfnod o ddegawd, ynghyd â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a welodd ostyngiad o 38%.

Mae darparu gwasanaethau ym maes diwylliant, chwaraeon a hamdden yn weithgarwch dewisol i awdurdodau lleol. Rhwng 2013-14 a 2023-24, gwelwyd gostyngiad o 28 y cant mewn termau real yng nghyllid refeniw awdurdodau lleol ar gyfer llyfrgelloedd, diwylliant, treftadaeth, chwaraeon a hamdden. Yn y cyfamser, gwelwyd cynnydd mawr mewn gwariant ar addysg a gwasanaethau cymdeithasol.

Alldro refeniw awdurdodau lleol, yn ôl gwasanaeth (£000) (2001-2 i 2022-23)

Ffynhonnell: Stats Cymru

Lefelau gwariant cyhoeddus ar ddiwylliant a chwaraeon ymhlith yr isaf yn Ewrop

Yn dilyn y toriadau termau real helaeth hyn gan y Llywodraeth ganolog a llywodraeth lleol, mae lefelau cyllid cyhoeddus ar gyfer diwylliant a chwaraeon yng Nghymru ymhlith yr isaf yn Ewrop. Mae gwaith dadansoddi gan Ymchwil y Senedd yn cymharu gwariant cyhoeddus ar ddiwylliant a chwaraeon â’r hyn a welir mewn 24 o wledydd Ewrop (gan gynnwys y DU gyfan) y mae data ar gael ar eu cyfer.

Mae’r gwariant cyfartalog ar wasanaethau hamdden a chwaraeon yn y gwledydd hyn yn £187.74 y pen. Yng Nghymru, y ffigwr cyfatebol yw £59.75 y pen, sef 32% o’r ffigwr cyfartalog ar gyfer y gwledydd dan sylw. Golyga hyn fod Cymru yn drydydd o'r gwaelod o blith y gwledydd ar y rhestr.

 

Ffynhonnell: Gwaith dadansoddi Ymchwil y Senedd ar ddata gan Lywodraeth Cymru, StatsCymru a’r OECD

Mae’r gwariant cyfartalog ar wasanaethau diwylliant yn y gwledydd hyn yn £215.02 y pen. Yng Nghymru, y ffigwr cyfatebol yw £69.68 y pen, sef 32% o’r ffigwr cyfartalog ar gyfer y gwledydd hyn unwaith eto. Golyga hyn fod Cymru yn ail o’r gwaelod o blith y 25 gwlad ar y rhestr.

 

Ffynhonnell: Gwaith dadansoddi Ymchwil y Senedd ar ddata gan Lywodraeth Cymru, StatsCymru a’r OECD

Ergyd driphlyg: gwaddol y pandemig, cynnydd mewn costau byw a thoriadau mewn cyllid

Mae effaith y toriadau mewn arian cyhoeddus ar gyrff diwylliant a chwaraeon wedi’i dwysáu yn sgil y pandemig a’r cynnydd mewn costau byw. Er i’r sectorau hyn gael cyllid brys gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig, daeth y cyllid hwn i ben, ac mae gwaddol COVID-19 yn parhau.

Mae'r ffigyrau diweddaraf (ar gyfer 2022-23) yn dangos bod pob math o gyfranogiad yn y celfyddydau wedi gostwng ers y cyfnod cyn y pandemig. Dywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru yn 2024 nad oedd lefelau presenoldeb yn y rhan fwyaf o leoliadau wedi dychwelyd i’r lefelau a welwyd cyn y pandemig. Yn ôl y sefydliad, mae sefyllfa fregus wedi gwaethygu yn sgil gostyngiad mewn cyllid.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi disgrifio cyfleusterau gwael fel y mater pwysicaf sy’n effeithio ar chwaraewyr a chlybiau. Ac mae Nofio Cymru wedi nodi, yn dilyn dirywiad cyson yng nghyflwr cyfleusterau dyfrol dros gyfnod o ddegawd, fod 30 y cant o byllau nofio mewn perygl o gau dros y deng mlynedd nesaf.

Yn ôl Cyngor Celfyddydau Cymru mae argyfwng yn wynebu’r sector diwylliant ar hyn o bryd. Yn yr un modd, mae Undeb y Cerddorion wedi dweud bod argyfwng yn datblygu mewn cerddoriaeth yng Nghymru.

Mae’r neuadd gyngerdd genedlaethol – Neuadd Dewi Sant, sy’n eiddo i Gyngor Caerdydd – yn parhau i fod ar gau ar ôl i RAAC gael ei ddarganfod yno yn 2023. Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi rhoi’r gorau i’w ddarpariaeth ifanc rheolaidd a gynhelir ar benwythnosau i gerddorion ac actorion. Ac mae cwestiynau’n parhau i gael eu gofyn am hyfywedd ariannol Opera Cenedlaethol Cymru yn dilyn toriadau i’r cyllid a ddarperir gan gynghorau’r celfyddydau yng Nghymru a Lloegr. Dywedodd y sefydliad: “Survival is incredibly perilous because it means stripping the finances to such a level that there is no room for error”.

Argyfwng? Pa argyfwng?

Mae’r Gweinidog yn anghytuno. “I wouldn’t myself describe it as a crisis”. Dyma a ddywedodd Jack Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, wrth y Pwyllgor diwylliant ym mis Ionawr 2025. “There are challenges, and we will work collaboratively and in partnership with the sector to overcome those challenges”. Mynegodd y Pwyllgor bryderon sylweddol ynghylch a yw’r Gweinidog yn llwyr werthfawrogi maint y pwysau y mae’r sector yn ei wynebu.

Disgrifiodd y codiadau bach yng Nghyllideb Ddrafft 2025-26 fel cam i'r cyfeiriad cywir, a thynnodd sylw at y cyllid ychwanegol yr oedd Llywodraeth Cymru wedi’i ddarparu i’r celfyddydau yn ystod y flwyddyn yn 2024-25. Roedd cyllid gwerth £2.5 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru wedi galluogi Cyngor Celfyddydau Cymru i gynnal Cronfa Gadernid gwerth £3.6 miliwn, a ddosbarthwyd ymhlith 60 o sefydliadau.

Yn flaenorol, roedd Cyngor Celfyddydau Cymru wedi disgrifio taliadau atodol yn ystod y flwyddyn fel achos o osod plastr dros y broblem, gan nodi nad yw grantiau o’r fath yn ateb y galw hirdymor o ran datrys rhai o’r problemau y mae diffyg cyllid yn eu hachosi.

Cyllid refeniw Llywodraeth Cymru ychydig yn uwch na lefelau 2023-24

Pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2025-26 ym mis Rhagfyr 2024, gwelwyd ei bod wedi gwrthdroi llawer o’r toriadau ym maes diwylliant a chwaraeon a wnaed yng Nghyllideb 2023-24.

Fodd bynnag, nid oedd y Pwyllgor diwylliant wedi ei argyhoeddi “bod y dyraniadau’n ddigonol i wella’r sefyllfa’n sylweddol”. Roedd chwyddiant wedi dileu’r holl godiadau bach a welwyd ers 2023-24, ac roedd sefydliadau’n wynebu costau uwch eraill, megis eu cyfraniadau i brosiectau newydd Llywodraeth Cymru fel yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol.

At hynny, mae cyrff hyd braich yn parhau i fod yn ansicr ynghylch pwy fydd yn talu'r bil ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol uwch. Mae Amgueddfa Cymru yn amcangyfrif y bydd y cyfraniadau hyn yn £500,000, yn erbyn cynnydd refeniw gwerth £900,000 o flwyddyn i flwyddyn. Eglurodd y Gweinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn ceisio cefnogi’r sefydliadau hyn lle bo modd, ac nad oedd yn pryderu am y diffyg eglurder ar hyn o bryd.

Yn y Gyllideb Derfynol, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2025, cafwyd cynnydd refeniw ychwanegol o £4.6 miliwn ar gyfer diwylliant a chwaraeon. Golyga hyn fod y cynnydd yn y meysydd hyn rhwng 2023-24 a 2025-26 tua 1% mewn termau real.

Fodd bynnag, unwaith i chi graffu ar y glo mân, gwelwch fod y darlun yn wahanol i lawer o sefydliadau. Mae’r cyllid refeniw ar gyfer Amgueddfa Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol, ac eithrio cyllid nad yw’n arian parod, bellach ar lefelau 2023-24 mewn termau arian parod. Mae Chwaraeon Cymru wedi gweld cynnydd o £4,000, ac mae Cyngor y Celfyddydau wedi gweld cynnydd o £157,000. Felly, mae’r holl gyrff hyn wedi gweld toriad termau real mewn refeniw (ac eithrio arian nad yw'n arian parod) o oddeutu 2% rhwng 2023-24 a 2025-26.

Efallai bod hyn yn “gam i’r cyfeiriad cywir”, ond mae ffordd bell i fynd hyd nes y bydd Cymru’n dianc o waelodion cynghrair Ewrop o ran ariannu diwylliant a chwaraeon.


Erthygl gan Robin Wilkinson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru