Isafbris am alcohol yng Nghymru

Cyhoeddwyd 24/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ei Bil Iechyd Cyhoeddus (Isafbris am Alcohol) (Cymru) ar 23 Hydref 2017.

Mae’r Bil yn darparu ar gyfer isafbris am werthu a chyflenwi alcohol yng Nghymru, ac mae’n ei gwneud yn drosedd i alcohol gael ei werthu o dan y pris hwnnw. Caiff yr isafbris ei gyfrifo yn ôl fformiwla sy’n seiliedig ar isafbris am uned o alcohol (y cyfeirir ato fel isafbris uned). Nid yw’r isafbris am uned wedi’i nodi ar wyneb y Bil, a chaiff ei bennu yn y rheoliadau. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn defnyddio isafbris uned o 50c fel enghraifft.

Mesur wedi’i dargedu yw isafbris, sy’n anelu at ostwng lefelau yfed peryglus a niweidiol. Fel y disgrifiwyd yn y Memorandwm Esboniadol, byddai’r ddeddfwriaeth yn rhan o gamau strategol ehangach Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi:

Amcan cyffredinol y Bil Drafft yw mynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys derbyniadau i ysbytai y gellid eu priodoli i alcohol a marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru, trwy leihau faint o alcohol a gaiff ei yfed, yn enwedig ymysg y rhai hynny sy’n yfed yn drwm ac yn niweidiol. Gwelwyd bod pobl ifanc, yn arbennig y rhai sy’n yfed yn drwm neu’n aml, yn sensitif iawn i newidiadau mewn prisiau. Mae’r polisi felly wedi’i gynllunio’n union at ddibenion targedu cynhyrchion alcohol sy’n rhad o gymharu â’u cryfder ac felly bydd yn cyflawni’r effeithiau sy’n ofynnol ar yfwyr peryglus ac yfwyr niweidiol, yn ogystal ag yfwyr ifanc.

Prif elfennau’r Bil

  • Mae’r Bil yn nodi fformiwla i gyfrifo isafbris am werthu alcohol. Y fformiwla a gynigir yw isafbris uned x cryfder x cyfaint.
  • Bydd yn drosedd i fanwerthwyr alcohol gyflenwi alcohol o dan yr isafbris gwerthu perthnasol.
  • Mae’r Bil yn pennu trefniadau gorfodi lleol o dan arweiniad yr awdurdod.
  • Rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno adroddiad ar y ffordd y caiff deddfwriaeth ei gweithredu, a’i heffaith, ar ôl pum mlynedd.
  • Bydd cyfundrefn yr isafbris yn dod i ben ar ôl chwe blynedd oni bai bod Llywodraeth Cymru yn gwneud rheoliadau sy’n darparu fel arall.

Model Sheffield

Mae datblygiad polisi ynghylch alcohol yn y DU wedi’i lywio gan waith modelu gan Brifysgol Sheffield. Yn 2009, datblygodd Grŵp Ymchwil Alcohol Sheffield ym Mhrifysgol Sheffield Fodel Polisi Alcohol Sheffield i asesu effaith bosibl polisïau alcohol, gan gynnwys gwahanol lefelau o isafbrisiau am uned, ar boblogaeth Lloegr. Mae’r model hwnnw eisoes wedi’i addasu ar gyfer ardaloedd eraill, gan gynnwys yr Alban a Chanada.

Yn 2014, comisiynodd Llywodraeth Cymru Grŵp Ymchwil Alcohol Sheffield i addasu’r model ar gyfer Cymru. Drwy’r Addasiad o Fodel Polisi Alcohol Sheffield ar gyfer Cymru, daethpwyd i’r casgliad y byddai polisi isafbris uned yn effeithiol o ran gostwng y defnydd o alcohol, y niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol (gan gynnwys marwolaethau, achosion o orfod mynd i’r ysbyty, troseddau ac absenoldebau yn y gweithle sy’n gysylltiedig ag alcohol) a’r costau sy’n gysylltiedig â’r niwed hwnnw. Mae hefyd yn awgrymu na fyddai polisïau isafbris uned ond yn cael effaith fychan ar yfwyr cymedrol. ‘Byddai mwy o effaith ar ‘yfwyr â risgiau cynyddol’, a byddai’r effaith fwyaf ar ‘yfwyr risg uchel’’.

Ymateb rhanddeiliaid i isafbris

Mae cefnogaeth eang i’r cynigion gan weithwyr iechyd proffesiynol, y sector gwirfoddol ac academyddion. Daw llawer o’r gwrthwynebiad i isafbrisiau o randdeiliaid sy’n cynrychioli’r diwydiant alcohol a manwerthu.

Mae pryderon ynghylch cyflwyno polisi isafbris wedi cynnwys y materion a ganlyn, ac mae’n debygol y bydd nifer o’r materion hyn yn codi yn ystod gwaith y Cynulliad o graffu ar y Bil:

  • a oes tystiolaeth ddigon cadarn yn dangos y cysylltiad rhwng pris a’r defnydd o alcohol a’r niwed cysylltiedig;
  • sut y targedir y polisi mewn gwirionedd; er enghraifft, a yw’r gwaith modelu yn rhoi amcan rhy isel o’r effaith ar yfwyr cymedrol, a’r graddau y mae pris alcohol yn effeithio ar yfwyr trwm;
  • ymateb y diwydiant alcohol i elw annisgwyl posibl o ganlyniad i brisiau uwch, ac a allai hyn danseilio bwriad polisi’r ddeddfwriaeth;
  • a allai’r polisi arwain at gynnydd mewn masnach drawsffiniol a masnach anghyfreithlon;
  • a fydd isafbris yn cael effaith anghymesur ar grwpiau incwm isel.

Awgrymodd gwaith modelu Sheffield mai yfwyr incwm isel allai fod â’r mwyaf i’w ennill o’r cynigion, oherwydd y gostyngiad a ragwelir mewn lefelau yfed a’r manteision iechyd cysylltiedig. Nodir hyn hefyd yn yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb sy’n cyd-fynd â’r Bil, er bod yr angen i ‘fonitro a lliniaru’ unrhyw effeithiau andwyol posibl isafbrisio ar aelwydydd sy’n byw mewn tlodi a grwpiau sy’n agored i niwed hefyd wedi’i nodi.

Er bod y Bil yn anelu at leihau’r defnydd o alcohol ymhlith yfwyr peryglus/niweidiol (hynny yw, y rhai sy’n yfed mwy na’r hyn a gaiff ei argymell mewn canllawiau ac sydd mewn perygl o niwed), nid yw’n glir pa effaith y gallai’r polisi ei chael ar bobl sy’n ddibynnol ar alcohol yn gronig.

Manteision o ran Cost

Amcangyfrifir y daw buddion gwerth £882 miliwn dros gyfnod o 20 mlynedd yn sgil cyflwyno isafbris am uned yng Nghymru. Mae’r ffigur hwn wedi’i seilio ar isafbris o 50c yr uned, ac mae’n adlewyrchu gwerth cymdeithasol cyfan y gostyngiad mewn niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys costau gofal iechyd uniongyrchol, costau trosedd, cost absenoldeb o’r gweithle, a phrisiad ariannol o’r buddion o ran iechyd.

Mae costau’r ddeddfwriaeth yn ymwneud yn bennaf â chostau gweinyddol i Lywodraeth Cymru a chostau cydymffurfio ar gyfer manwerthwyr (fel y nodir yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol – gweler o t62 y Memorandwm Esboniadol). Er y bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am orfodi’r gyfundrefn isafbrisio, ni chaiff costau gorfodi eu mesur yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, ond rhagwelir iddynt fod yn isel. Disgwylir i’r gwaith o blismona’r ddeddfwriaeth gael ei wneud o fewn y gyfundrefn arolygu bresennol.

Deddfwriaeth yr Alban

Cafodd deddfwriaeth debyg yn yr Alban Gydsyniad Brenhinol ym mis Mehefin 2012, ond nid yw wedi ei gweithredu eto oherwydd her gyfreithiol dan arweiniad y Scotch Whisky Association. Prif sail yr her yw y gallai’r isafbrisiau arfaethedig fynd yn groes i gyfraith yr UE drwy effeithio ar fasnach a symud nwyddau’n rhydd. Cafodd yr achos ei glywed yn ddiweddaraf yn y Goruchaf Lys. Bydd dyfarniad y Goruchaf Lys yn derfynol, ac mae’r dyfarniad ar y gweill ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi cynnal ymgynghoriad ar isafbris, ond daeth i’r casgliad nad oedd digon o dystiolaeth ar gael ar y pryd i ddangos y byddai’n fesur effeithiol (Gorffennaf 2013). Ym mis Chwefror 2017, dywedodd Llywodraeth y DU fod cyflwyno isafbris am uned yn parhau i gael ei adolygu hyd nes bydd canlyniad yr achos cyfreithiol rhwng y Scotch Whisky Association a Llywodraeth yr Alban, ac effaith gweithredu’r polisi hwn yn yr Alban, yn dod i law.


Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru