Mae rhai pobl yn fwy tebygol o ddioddef iechyd gwaeth nag eraill.
Yn Health Inequalities: “We have a moral duty to reduce them”, dywed Cancer Research UK y gellir priodoli’r ffaith bod dros 30,000 o achosion ychwanegol o ganser yn y DU bob blwyddyn i amddifadedd cymdeithasol ac ariannol, ac mae goroesiad yn waeth ar gyfer y grwpiau mwyaf difreintiedig.
Dywed Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru hefyd fod pobl mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn fwy tebygol o ysgwyddo’r baich mwyaf o ran anabledd a marwolaeth o glefydau’r galon a chylchrediad y gwaed. Mae’n dweud bod y gyfradd marwolaethau cynamserol ar gyfer y cyflyrau hyn yn 116.4 fesul 100,000 ym Mlaenau Gwent (un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru), o’i gymharu â 58.2 ym Mro Morgannwg (un o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig).
Nid yw hyn yn ymwneud ag anghydraddoldebau o ran mynediad i ofal iechyd yn unig. Mae’r rhan fwyaf o anghydraddoldebau iechyd yn ymddangos cyn i bobl fynd yn sâl – sy’n cael ei alw’n ‘penderfynyddion cymdeithasol iechyd'.
Yn yr erthygl hon rydym yn ystyried pam mae hyn yn digwydd a sut y gellir defnyddio Asesiadau Effaith ar Iechyd (HIA) fel offeryn i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, gan dynnu ar ymchwil sydd newydd ei chyhoeddi gan Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) ac Uned Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae anghydraddoldebau iechyd yn gwbl annheg ond mae modd eu hosgoi hefyd
Roedd anghydraddoldebau iechyd yn bodoli cyn y pandemig; ond mae wedi dod â nhw i'r amlwg. Mae'r pandemig wedi cael effaith anghymesur ar grwpiau mwy difreintiedig, plant a phobl ifanc, pobl anabl, pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig a menywod.
Cyhoeddodd yr Athro Syr Michael Marmot, ffigwr blaenllaw ar anghydraddoldebau iechyd, Adolygiad Marmot yn 2010 ar y gwahaniaethau mewn iechyd a lles rhwng grwpiau cymdeithasol yn Lloegr. Disgrifiodd sut y mae’r graddiant cymdeithasol ar anghydraddoldebau iechyd (h.y anghydraddoldebau iechyd y gellir eu hosgoi rhwng grwpiau o bobl) yn cael ei adlewyrchu yn y graddiant cymdeithasol ar gyrhaeddiad addysgol, cyflogaeth, incwm, ansawdd cymdogaeth ac yn y blaen.
Wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, dywed Marmot fod yn rhaid mynd i’r afael â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd – y cyflyrau y mae pobl yn cael eu geni, yn tyfu, yn byw, yn gweithio ac yn heneiddio ynddynt.
Ar ddechrau'r pandemig (mis Chwefror 2020), cyhoeddodd Marmot ail adroddiad, yn edrych yn ôl ar Adolygiad Marmot, 10 mlynedd yn ddiweddarach. Yn anffodus, nid oedd y canlyniadau yn gadarnhaol; mae mae anghydraddoldebau iechyd wedi gwaethygu.
Yn wir, defnyddiodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Syr Dr Frank Atherton, ei adroddiad blynyddol cyntaf yn 2016 i ganolbwyntio ar anghydraddoldebau iechyd. Fe wnaethom gyhoeddi erthygl bryd hynny, gan amlygu sut roedd y bwlch rhwng y rhai â’r iechyd a’r lles gorau a gwaethaf yn ehangu.
Bydd yr argyfwng costau byw yn ehangu'r anghydraddoldeb hwn, o ystyried y cysylltiad rhwng 'iechyd a chyfoeth'.
Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru, Disgwyliadau iechyd yng Nghymru gyda phroffil bwlch anghydraddoldeb (adroddiad a methodoleg)
Defnyddir Asesiadau Effaith ar Iechyd i ddeall yn well effeithiau penderfyniadau polisi ar iechyd a thegwch
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn diffinio Asesiad Effaith ar Iechyd fel dull ymarferol a ddefnyddir i farnu effeithiau iechyd posibl polisi, rhaglen neu brosiect ar boblogaeth, yn enwedig ar grwpiau agored i niwed neu ddifreintiedig. Mae'n golygu dadansoddi polisi gyda lens iechyd.
Dywed Sefydliad Iechyd y Byd y gall Asesiadau Effaith ar Iechyd helpu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i wneud dewisiadau amgen a gwelliannau i atal afiechyd neu anafiadau ac i hyrwyddo iechyd yn weithredol.
Cafodd Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 Gydsyniad Brenhinol ym mis Gorffennaf 2017. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gynnal Asesiadau Effaith ar Iechyd mewn amgylchiadau penodol (heb eu diffinio eto). Rhagwelwyd y byddai Rheoliadau Statudol yn cael eu cyhoeddi yn 2020/21. Ond bron i bum mlynedd yn ddiweddarach, nid yw Llywodraeth Cymru wedi’u cyhoeddi eto.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canlyniadau ei Asesiad o’r Effaith ar Les Meddwl (MWIA), gan edrych yn benodol ar effaith y pandemig ar bobl ifanc 10-24 oed. Mae’r Asesiad Effaith yn asesiad penodol sy’n seiliedig ar ddulliau Asesu Effaith ar Iechyd.
Dywed yr adroddiad fod “pandemig COVID-19 wedi effeithio ar bob person ifanc yng Nghymru, rhai yn fwy negyddol nag eraill”. Nodir cau ysgolion, cyfnodau clo, cadw pellter cymdeithasol a gofynion hunan-ynysu.
Mae’r Asesiad o’r Effaith ar Les Meddwl yn nodi 18 o grwpiau poblogaeth yr effeithiwyd arnynt yn andwyol, gan gynnwys:
- oedolion ifanc 16-24 oed, yn enwedig merched ifanc
- pobl ifanc sy'n byw mewn teuluoedd incwm isel
- pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol
- pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl.
Mae hefyd yn cyfeirio at greu gwendidau newydd i rai grwpiau fel pobl ifanc sy'n cael eu cynghori i warchod a'r rhai sydd â rhieni sy’n weithwyr allweddol.
Prif ganfyddiadau'r adroddiad – pwy sy'n cael eu heffeithio fwyaf a sut?
Mae'r Asesiad o’r Effaith ar Les Meddwl yn ceisio darparu darlun yn seiliedig ar dystiolaeth o natur yr effeithiau a phwy sy'n cael eu heffeithio fwyaf yn y boblogaeth. Mae hefyd yn nodi meysydd lle mae angen rhagor o waith ymchwil i ddeall yn llawn yr effeithiau parhaus.
Mae'r adroddiad yn ystyried penderfynyddion cymdeithasol lles meddyliol:
- ansicrwydd economaidd;
- mynediad at addysg a chanlyniadau;
- tai o ansawdd da gyda lle i astudio;
- mynediad i ofod awyr agored preifat neu leol; a
- chysylltiad â’r rhyngrwyd a mynediad at ddyfeisiau digidol
A’r ffactorau amddiffynnol ar gyfer lles meddyliol:
- gwella rheolaeth;
- cynyddu gwytnwch ac asedau cymunedol;
- hwyluso cyfranogiad a chynhwysiant.
Rhaid ystyried yr effaith ar iechyd pobl ar draws pob maes polisi
Mae'r Asesiad o’r Effaith ar Les Meddyliol yn ddifyr i’w ddarllen; mae'n dangos sut mae dysgu o effeithiau pandemig COVID-19 ar les meddyliol yn bwysig - nid yn unig o ran cynllunio ar gyfer pandemig yn y dyfodol, ond hefyd ar gyfer yr argyfwng hinsawdd ac iechyd meddwl y boblogaeth yn y tymor hwy.
Mae'r adroddiad yn nodi effeithiau tymor hwy ar les sydd angen eu hystyried i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn y dyfodol. Mae’n tynnu sylw at y cysylltiadau annatod rhwng iechyd, lles a meysydd polisi eraill.
Mae Cynghrair Iechyd a Lles Cydffederasiwn GIG Cymru yn dod â gweithwyr proffesiynol o bob rhan o Gymru ynghyd. Ym mis Ebrill 2021, cymeradwyodd 36 o sefydliadau iechyd a gofal bapur ar y cyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos “arweinyddiaeth genedlaethol ar ddod ag anghydraddoldebau i ben”.
Roedd yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i ymateb ar fyrder gan nodi “ers gormod o amser, rydym wedi gofyn i’r gwasanaeth iechyd fynd i’r afael â’r heriau hyn ar ei ben ei hun”. Ychwanegodd:
Nid oes gan y GIG yr arfau i wneud y newidiadau sydd eu hangen er mwyn creu’r amodau ar gyfer iechyd da. Bydd cynnydd ystyrlon yn galw am ymdrechion cydlynol gan bob sector i gau'r bwlch.
Dywed y papur ar y cyd fod angen “gweithredu cyson, penodol a chydlynol ar draws holl adrannau'r llywodraeth i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldebau iechyd”.
Mae'r Gynghrair wedi galw am strategaeth trawslywodraethol i fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldebau, sy’n nodi ymrwymiadau presennol, yn darparu rhywfaint o eglurder ynghylch canlyniadau a rennir ac yn darparu tryloywder o ran sut y caiff perfformiad ei fesur. Mae hefyd yn argymell bod Pwyllgorau’r Senedd yn cydweithio i wneud gwaith craffu seneddol llawn.
Bydd y Gynghrair yn cyhoeddi adroddiad pellach 'Gwyliwch y bwlch: beth sy'n atal newid? Argyfwng costau byw a'r cynnydd mewn anghydraddoldebau yng Nghymru' ddiwedd yr wythnos hon.
Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru