Mae'r Hysbysiadau Hwylus hyn yn ymdrin â’r Cyfansoddiad ac yn rhoi trosolwg o'r trefniadau cyfansoddiadol yng Nghymru.
Maent yn cynnwys:
- rhestr gynhwysfawr o’r termau allweddol a ddefnyddir yng nghyd-destun Senedd Cymru;
- cefndir cyfansoddiad y DU;
- hanes datganoli yng Nghymru;
- canllawiau ar y broses ddeddfu yn y Senedd;
- trosolwg o’r broses o graffu ar is-ddeddfwriaeth yn y Senedd;
- trosolwg o’r broses o gydsynio i Senedd y DU ddeddfu mewn meysydd datganoledig;
- golwg ar ddyletswyddau a phwerau Llywodraeth Cymru, y Cwnsler Cyffredinol, y Llywydd, Comisiwn y Senedd ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Erthygl gan Gruffydd Owen a Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru