Roedd corff hyrwyddo cig Cymru, Hybu Cig Cymru (HCC), yn y penawdau yn 2024 oherwydd pryderon ynghylch ei ddiwylliant a’i berfformiad.
Yn dilyn hynny, cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd ymchwiliad i HCC ar ddechrau 2025.
Mae'r erthygl hon yn trafod y materion allweddol cyn y ddadl yn y Senedd ar adroddiad y Pwyllgor ar 3 Rhagfyr.
Beth mae HCC yn ei wneud a sut mae’n cael ei ariannu?
Mae HCC yn Gwmni Cyfyngedig drwy Warant, sy'n eiddo llwyr i Weinidogion Cymru, ac mae’n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymru.
Mae'n gweithio ar draws y gadwyn gyflenwi cig coch yn y DU a thramor i gryfhau cyfleoedd busnes, ac mae’n berchen ar frandiau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru sydd â Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI).
Mae HCC hefyd yn ymgymryd â gwaith ymchwil a datblygu, yn rhannu gwybodaeth ac yn cefnogi hyfforddiant, i wella cost-effeithiolrwydd ac ansawdd, ac i ychwanegu gwerth at gynhyrchion cig coch Cymru.
Daw cyllid HCC o Ardoll Cig Coch Cymru sy'n cael ei thalu ar y cyd gan gynhyrchwyr a lladdwyr/allforwyr, ac sy'n cael ei chodi ar yr holl wartheg, defaid a moch sy'n cael eu lladd yng Nghymru neu eu hallforio'n fyw.
Cafwyd cyllid ychwanegol yn flaenorol gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, ond nid yw ar gael mwyach.
Mae HCC wrthi’n datblygu ei gynllun cyflawni newydd ar gyfer 2026-30, Gweledigaeth 2030, a fydd yn cael ei gyhoeddi yng ngwanwyn 2026.
Pam roedd pryderon ynghylch diwylliant HCC?
Ym mis Tachwedd 2024, roedd rhaglen Byd ar Bedwar ar S4C yn ymchwilio i ddiwylliant gwaith HCC ac yn tynnu sylw at nifer uchel o staff a oedd yn gadael y sefydliad. Mae’r erthygl hon yn rhoi crynodeb o gynnwys y rhaglen.
Cyn hynny, ac ar wahân, ymddiswyddodd cyn-Brif Weithredwr HCC ym mis Mehefin 2024. Dywedodd HCC y byddai wedi cael ei ddiswyddo am gamymddwyn difrifol pe na bai wedi ymddiswyddo, ond ni roddodd fanylion am natur y camymddwyn difrifol.
Mae’n bwysig nodi bod y materion hyn y tu allan i gwmpas ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig. Maent wedi’u hamlygu yn yr erthygl hon er mwyn rhoi cyd-destun yn unig.
Beth oedd y pryderon ynghylch perfformiad HCC?
Ymysg pryderon ynghylch morâl isel ymhlith staff a chyllideb yn lleihau (gweler isod), dywedodd rhanddeiliaid o’r diwydiant wrth y Pwyllgor fod gweithgarwch HCC ar lawr gwlad wedi lleihau a bod talwyr yr ardoll yn gweld llai o ganlyniadau pendant. Roeddent yn pryderu ynghylch tryloywder y sefydliad a'r gwerth am arian a ddarperir i dalwyr yr ardoll.
Fodd bynnag, roedd HCC yn mynnu ei fod yn “darparu gwerth da am arian i dalwyr yr ardoll gyda chyllideb gyfyngedig sy'n prinhau ar gyfer cwmpas eang”. Dywedodd Cadeirydd HCC, Catherine Smith, fod HCC wedi cyflawni ei holl ddangosyddion perfformiad allweddol ac allbynnau yn y 18 mis blaenorol.
Dywedodd Prif Weithredwr newydd HCC, José Peralta y byddai'n naïf dweud nad oedd morâl y staff wedi cael ei effeithio gan ddigwyddiadau blaenorol a'r sylw negyddol a ddenwyd, ond roedd mesurau ar waith ac roedd morâl yn gwella.
O ran gweithgarwch rhyngwladol, dywedodd prosesydd cig Dunbia fod cyllidebau marchnata HCC yn aml wedi cael eu dyrannu i ddigwyddiadau sydd wedi cael fawr ddim effaith, neu ddim effaith o gwbl, ar werthiannau cig coch.
Ymatebodd HCC gan ddweud bod digwyddiadau rhyngwladol yn bwysig ar gyfer cynnal a chadw cleientiaid a bod effaith yn cael ei mesur trwy nifer y cysylltiadau a gyflawnir a thrwy ganfod faint o gig a werthir gan bob cyswllt.

Beth am gyllid HCC sy’n lleihau?
Dywedodd rhanddeiliaid fod model ariannu presennol HCC yn anghynaliadwy.
Mae Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol HCC ar gyfer 2023-24 yn dangos diffyg gweithredol o £505,274, o gymharu â diffyg o £118,867 yn y flwyddyn flaenorol.
Mae Adroddiad y Cyfarwyddwyr yn tynnu sylw at incwm ardoll is na'r disgwyl oherwydd bod y ddiadell genedlaethol wedi crebachu a gostyngiad yn y cnwd cig oen, gan arwain at ostyngiad yn yr incwm ardoll yn ystod y flwyddyn o £458,000 yn erbyn y gyllideb.
Roedd rhanddeiliaid yn bryderus gan effaith y gostyngiad yn niferoedd y da byw ar hyfywedd y diwydiant cyfan yn y dyfodol, gyda sgil-effaith bellach ar gyllid ardoll HCC.
Mae Adroddiad y Cyfarwyddwr hefyd yn dweud bod CThEF wedi newid statws TAW HCC o 1 Ebrill 2024. Mae'n dweud na all HCC adennill cyfran sylweddol o TAW a gafwyd ar ei gostau mwyach, gan arwain at ostyngiad o £400,000 yn y gyllideb gwariant.
Dywedodd José Peralta wrth y Pwyllgor y bydd cyfrifon 2024-25 wedi’u mantoli.
O ran cyllid yn y dyfodol, dywedodd fod angen dwbl yr arian sydd gan HCC er mwyn iddo gael cyfle i fod yn berthnasol o ran cyflawni'r cylch gwaith sydd ganddo. Gan dderbyn nad oedd hyn yn bosibl, dywedodd y dylai fod model lle y dylai arian talwyr ardoll gael ei ategu gan gyllid o ffynonellau allanol o faint tebyg.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn cydnabod y sefyllfa ariannol heriol i HCC yn sgil sawl ffactor gan gynnwys gostyngiad yn incwm yr ardoll cig coch a dywedodd y bydd yn gweithio gyda HCC wrth iddo ddatblygu Gweledigaeth 2030.
A yw strwythur llywodraethu HCC yn gweithio?
Gweinidogion Cymru sy'n gwneud penodiadau i Fwrdd Cyfarwyddwyr HCC.
Dywed cynllun busnes HCC ar gyfer 2022–2026 fod y Bwrdd yn cynrychioli talwyr yr ardoll sy’n ffermwyr ac yn broseswyr, ac eraill sydd â sgiliau sy'n berthnasol i ddatblygiad y sefydliad yn y dyfodol. Mae'r Bwrdd yn cynnwys 11 o gyfarwyddwr anweithredol, gan gynnwys y Cadeirydd.
Dywedodd y prosesydd cig Kepak nad oes cynrychiolaeth uniongyrchol o broseswyr cig na marchnadoedd da byw ar y Bwrdd, ac awgrymodd y dylai HCC ddychwelyd i fod yn eiddo i'r diwydiant, fel yr oedd yn y gorffennol.
Fodd bynnag, mae'r ddau undeb ffermio yn dadlau y dylid cadw strwythur llywodraethu presennol HCC a'i annibyniaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru, ond maent yn dadlau y dylai talwyr ardoll gael mwy o lais ym mhrosesau gwneud penderfyniadau HCC.
Dywedodd HCC fod y trefniadau llywodraethu presennol yn taro'r cydbwysedd cywir rhwng y rhyddid i weithredu a throsolwg atebolrwydd. Yn ôl José Peralta, manteision y ffaith bod HCC ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru yw ei fod yn rhoi cyfle i'r llywodraeth gefnogi HCC yn ariannol.
Beth oedd casgliad yr ymchwiliad a beth sy'n digwydd nesaf?
Mae adroddiad ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn gwneud argymhellion ynghylch diwylliant, cylch gwaith, llywodraethu, cyllid, tryloywder ac effaith HCC.
Croesawodd HCC yr adroddiad, gan ddweud ei fod wedi dod ar amser priodol wrth iddo gwblhau Gweledigaeth 2030.
Gwrthododd Llywodraeth Cymru rai o’r argymhellion allweddol.
Dywedodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru lansio adolygiad llawn o lywodraethiant a pherchnogaeth HCC, gyda'r nod o wella cynrychiolaeth barn talwyr yr ardoll a chynyddu cyfranogiad ehangach y diwydiant, gan gynnwys ystyried dychwelyd rheolaeth i ddiwydiant cig Cymru.
Anghytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS, gan ddweud bod pump o'r 11 o Aelodau'r Bwrdd yn dalwyr yr ardoll a bod gan y Bwrdd arbenigedd hanfodol mewn meysydd gan gynnwys cyfnewid gwybodaeth, llywodraethu, marchnata, cyllid, iechyd anifeiliaid, a chynaliadwyedd amgylcheddol.
Dywedodd, o ystyried bod Prif Weithredwr newydd yn ei le a gwaith presennol HCC ar Weledigaeth 2030, mai mater i Lywodraeth nesaf Cymru ei ystyried oedd cynnal adolygiad helaeth.
Gwrthododd yr Ysgrifennydd Cabinet hefyd yr argymhelliad o adolygiad i nodi meysydd lle gallai HCC wella cydweithio â byrddau ardoll eraill y DU a Chyswllt Ffermio.
Dywedodd fod gan HCC eisoes berthnasoedd effeithiol â chyrff ardoll eraill a Chyswllt Ffermio, gan roi enghreifftiau o ble roedd cydweithio'n digwydd.
Er gwaetha’r argymhellion hyn a gafodd eu gwrthod, mae’n amlwg y bydd HCC yn dechrau cyfnod o newid. Mae’n siŵr y bydd Aelodau o’r Senedd a’r diwydiant yn awyddus i graffu ar weledigaeth newydd HCC pan gaiff ei chyhoeddi yn y gwanwyn.
Gallwch wylio dadl y Senedd ar 3 Rhagfyr yn fyw ar Senedd TV.
Erthygl gan Elfyn Henderson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru