Grŵp o bobl yn eistedd mewn cylch mewn ystafell olau, yn edrych ar bapurau ac yn trafod gyda’i gilydd fel rhan o drafodaeth gydweithredol.

Grŵp o bobl yn eistedd mewn cylch mewn ystafell olau, yn edrych ar bapurau ac yn trafod gyda’i gilydd fel rhan o drafodaeth gydweithredol.

Heriau sy’n wynebu’r sector addysg a hyfforddiant ôl-16

Cyhoeddwyd 02/02/2026

Mewn ymateb i bryderon ynghylch nifer y bobl ifanc mewn addysg neu hyfforddiant ar ôl 16 oed, cynhaliodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ymchwiliad i lwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16. Roedd yr ymchwiliad hwn yn eang ei gwmpas ac yn canolbwyntio ar y materion a ganlyn:

  • Ansawdd y wybodaeth a roddir i ddysgwyr am yr ystod lawn o opsiynau ôl-16;
  • pa mor effeithiol yw cymorth gyrfaoedd ar oedran ysgol gorfodol;
  • newidiadau i ddewisiadau dysgwyr yn 18 oed;
  • argaeledd darpariaeth cyfrwng Cymraeg;
  • rhwystrau rhag cael mynediad at addysg a hyfforddiant a'r gefnogaeth sydd ar gael;
  • data am gyrchfannau; a
  • rôl Llywodraeth Cymru wrth gefnogi cyfranogiad mewn addysg drydyddol.

Nid yw'r erthygl hon yn adroddiad cynhwysfawr o'r materion allweddol a godwyd yn ystod yr ymchwiliad; yn hytrach, mae'n amlinellu tair thema sy’n seiliedig ar yr argymhellion a wnaed yn adroddiad y Pwyllgor. Y rhain yw: cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd; prentisiaethau iau; a'r heriau sy'n wynebu addysg drydyddol.

Cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd

Clywodd y Pwyllgor bryderon ynghylch argaeledd ac ansawdd cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd i ddysgwyr drwy gydol eu taith addysgol.

Mae’r Cwricwlwm i Gymru gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys “gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith” fel thema drawsbynciol ar gyfer dysgwyr rhwng 3 a 16 oed. Fodd bynnag, roedd canfyddiadau arolwg gan dîm Ymgysylltu â Dinasyddion y Senedd yn dangos bod 98 o'r 311 o ymatebwyr (33 y cant) i'r arolwg wedi trafod opsiynau ôl-16 am y tro cyntaf pan oeddent ym mlwyddyn 10, a bod 86 o ymatebwyr (29 y cant) wedi gwneud hynny ym mlwyddyn 11.

Clywodd y Pwyllgor droeon am ddiffyg cysondeb o ran ansawdd cyngor gyrfaoedd mewn ysgolion ledled Cymru. Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod y cyngor yn gallu bod yn anghyson ond bod arferion rhagorol yn bodoli hefyd. Fodd bynnag, roedd rhanddeiliaid yn fwy beirniadol ynghylch ansawdd y cyngor yr oedd dysgwyr yn ei gael ar addysg a hyfforddiant galwedigaethol. Nododd Estyn (yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant) ddiffyg ymwybyddiaeth o gyfleoedd dysgu galwedigaethol a dysgu seiliedig ar waith ymhlith gormod o ddysgwyr.

Soniodd rhanddeiliaid am y gystadleuaeth rhwng lleoliadau chweched dosbarth a cholegau addysg bellach. Yn bennaf, roedd hyn yn gysylltiedig â’r pryder bod y model ariannu yn dylanwadu ar ysgolion sydd â darpariaeth chweched dosbarth i annog eu dysgwyr i aros yn yr ysgol i ddilyn cyrsiau ôl-16 er mwyn iddynt allu cadw'r cyllid sy’n cyd-fynd â'r dysgwyr hynny. Nid oeddent, felly, yn rhoi'r holl wybodaeth i'r dysgwyr am yr opsiynau eraill ar gyfer llwybrau ôl-16.

Roedd adroddiad y Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn comisiynu Estyn i adolygu Gyrfa Cymru (y gwasanaeth cyngor gyrfaoedd). Byddai'r adolygiad hwn yn nodi a yw arlwy’r sefydliad yn diwallu anghenion pob dysgwr a pha newidiadau y gellid eu gwneud i wella'r gwasanaeth. Gwrthododd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn. Dywedodd fod Estyn wedi cwblhau adolygiad o’r fath yn 2022 a bod Gyrfa Cymru wrthi’n gwerthuso ei wasanaeth ei hun, felly byddai adolygiad arall gan Estyn yn dyblygu gwaith sydd eisoes ar y gweill.

Prentisiaethau iau

Clywodd y Pwyllgor sylwadau cadarnhaol ar raglen prentisiaethau iau Llywodraeth Cymru, sy'n cynnig addysg gysylltiedig â byd gwaith i ddysgwyr o dan 16 oed, ochr yn ochr â chwrs Lefel 2, sy'n cyfateb i bedwar neu bum TGAU.

Mae'r rhaglen wedi'i hanelu at ddysgwyr sy'n cael trafferth ymgysylltu ag ysgolion prif ffrwd ac sydd mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (‘NEET’ yw’r acronym yn Saesneg).

Dywedodd Medr (sy'n gyfrifol am ariannu a rheoleiddio'r sector addysg drydyddol yng Nghymru) yr hyn a ganlyn wrth y Pwyllgor: “Wales has a really persistent NEET figure […] particularly for our 16-18 year olds”, gan ychwanegu bod y sefyllfa hon yn annerbyniol.

Argymhellodd y Pwyllgor y dylid ehangu'r rhaglen prentisiaethau iau i ddysgwyr ledled Cymru sydd mewn perygl o golli cyswllt â'u haddysg. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, gan ddweud ei bod yn gweithio gyda Medr a sefydliadau addysg bellach i chwilio am gyfleoedd i ehangu'r rhaglen. Fodd bynnag, nododd y byddai ehangu’r rhagen ar raddfa genedlaethol yn gofyn am ragor o gyllid, nad oes dyraniad wedi’i wneud ar ei gyfer ar hyn o bryd.

Ar adeg yr ymchwiliad, roedd prentisiaethau iau ar gael mewn pum coleg. Mae’r rhaglen wedi'i hymestyn ers hynny i gynnwys dau goleg arall.

Heriau cyllido sy’n wynebu darparwyr addysg drydyddol

Fel y soniwyd yn flaenorol, gellir gweld bod y gystadleuaeth rhwng lleoliadau chweched dosbarth a cholegau addysg bellach yn deillio'n rhannol o heriau ariannol. Yn ôl adroddiad y Pwyllgor, mae “pwysau ariannol […] yn ei gwneud hi’n anodd i rai darpariaethau chweched dosbarth mewn ysgolion barhau i fod yn hyfyw”. Soniodd rhai rhanddeiliaid wrth y Pwyllgor am bwysigrwydd lleoliadau chweched dosbarth, yn enwedig i ddysgwyr mewn ardaloedd gwledig lle efallai dyna’r unig opsiwn ymarferol sy’n agored iddynt, neu i bobl ifanc sydd am barhau i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae colegau addysg bellach hefyd yn wynebu heriau o ran cyllid, er bod yr heriau hynny wedi’u hachosi’n rhannol gan y nifer gynyddol o bobl ifanc sydd wedi dewis mynd i’r coleg yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er bod Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 wedi dyrannu £5 miliwn i gefnogi'r cynnydd yn nifer y dysgwyr mewn colegau addysg bellach, mae ColegauCymru wedi datgan nad yw hyn yn ddigon i ymdrin â'r diffyg ariannol y mae'r sector yn ei wynebu.

Mae’r heriau ariannol sy'n wynebu'r sector addysg uwch wedi cyrraedd y penawdau yn ddiweddar. Cyhoeddodd nifer o brifysgolion yng Nghymru gynlluniau diswyddo gwirfoddol, yn ogystal â newidiadau arfaethedig i rai o’r pynciau sy’n cael eu haddysgu a chynlluniau i gau campysau. Galwodd y Pwyllgor am ddiweddariad gan Lywodraeth Cymru ar y pwysau hyn. Mewn ymateb, roedd Llywodraeth Cymru yn glir na fyddai ardoll myfyrwyr rhyngwladol arfaethedig Llywodraeth y DU yn berthnasol i Gymru, ond y byddai'n cynyddu ffioedd dysgu myfyrwyr yn y flwyddyn academaidd nesaf.

Dyfodol addysg drydyddol yng Nghymru

Ar 21 Ionawr 2026, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch bapur, sef 'Dyfodol addysg drydyddol yng Nghymru'. Mae'r papur hwn yn “nodi'r sylfaen dystiolaeth gyfredol ar yr heriau strwythurol allweddol” sy'n wynebu'r sector. Hefyd, galwodd y Gweinidog am gyflwyniadau i gryfhau'r sylfaen dystiolaeth honno. Mae'r Gweinidog yn nodi'r pum her allweddol sy’n wynebu addysg drydyddol yn ei barn hi, sef:

  • cyfranogiad a chyfle cyfartal;
  • newid demograffig a dysgu gydol oes;
  • cystadleuaeth a chydweithio;
  • cynaliadwyedd ariannol; a
  • chyflawni ar gyfer yr economi.

Mae'r papur yn gwneud nifer o gyfeiriadau at ymchwiliad y Pwyllgor i lwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16.

Ddydd Mercher 4 Chwefror, bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor, yn ogystal â'r ystod eang o faterion pwysig sy'n effeithio ar yr opsiynau sy’n agored i ddysgwyr a'r dewisiadau y maent yn eu gwneud yn y pen draw.

Erthygl gan Lucy Yarham a Thomas Morris, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru