Her Ysgolion Cymru

Cyhoeddwyd 28/04/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

28 Ebrill 2015 Erthygl gan Sian Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_2890" align="alignnone" width="240"]This picture shows a pile of books. Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]

Bydd y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen Her Ysgolion Cymru yn ystod y Cyfarfod Llawn heddiw.

Un o flaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru yw mynd i’r afael ag effaith amddifadedd ar gyrhaeddiad addysgol disgyblion, a cheisia ei rhaglen Her Ysgolion Cymru wneud hyn drwy wella perfformiad 40 o ysgolion uwchradd sy’n tangyflawni yng Nghymru. Wedi’i chyhoeddi gyntaf ym mis Chwefror 2014, lansiwyd y rhaglen mewn ysgolion o fis Medi 2014. Rhestrir yr ysgolion sy’n cymryd rhan yn y rhaglen ‘Llwybrau Llwyddiant’ ar wefan Her Ysgolion Cymru Llywodraeth Cymru.

Beth yw’r sail ar gyfer y dull gweithredu hwn?

Mae’r model Her Ysgolion Cymru yn seiliedig ar ddulliau o weithio a ddefnyddiwyd o’r blaen mewn mannau eraill yn y DU: sef Her Llundain 2003-08; a Her y Ddinas 2008-2011, a oedd yn cynnwys Llundain, Manceinion Fawr a’r Ardal Ddu. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn a ddigwyddodd o ganlyniad i’r rhaglenni hyn i’w gweld yn eu hadroddiadau gwerthuso.

Pam y 40 o ysgolion hyn?

Bu diddordeb mawr yn y modd y dewiswyd y 40 o ysgolion ‘Llwybrau Llwyddiant’ sy’n cymryd rhan yn y rhaglen Her Ysgolion Cymru. Nododd datganiad i'r wasg gan y Gweinidog ym mis Mai 2014:

'Dewiswyd yr ysgolion ar sail amrywiaeth o ddata am berfformiad a hefyd wybodaeth am yr heriau y maent yn eu hwynebu o ran eu hamgylchiadau a’u datblygiad. Hefyd cawsant eu dewis oherwydd ein cred bod ganddynt y potensial i wella’n gyflym gan sicrhau canlyniadau positif i’w dysgwyr.'

Ar ôl cael ei holi gan Aelodau’r Cynulliad, rhoddodd y Gweinidog ragor o fanylion ynghylch sut y dewiswyd yr ysgolion, er enghraifft, yn yr ymatebion i gwestiynau ysgrifenedig y Cynulliad (WAQ66974 I WAQ66973) i Angela Burns AC, Gweinidog Addysg yr Wrthblaid.

O ble y daeth yr arian?

Dyrannwyd cyllid o £20 miliwn y flwyddyn i Her Ysgolion Cymru am dair blynedd. Mae’r cyllid hwn yn cynnwys £12.1 miliwn o gyllid canlyniadol Barnett yn sgîl Datganiad yr Hydref 2013, a’r £7.9 miliwn sy’n weddill yn dod o gyllidebau presennol Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru.

Y bwriad yw, y caiff y cyllid o £20 miliwn a ddyrannwyd ar gyfer y cynllun ei ddyrannu yn ôl y gwaith datblygu a gwella sy’n angenrheidiol ar gyfer pob ysgol Llwybrau Llwyddiant. Nododd Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2014:

'Wrth i Gynghorwyr Her Ysgolion Cymru gydweithio â’u hysgolion, mae’n anochel y daw anghenion ychwanegol i’r amlwg a fydd yn galw am gamau pellach. Er mwyn rheoli hyn, ac i sicrhau bod yr Her yn cadw’i momentwm, mae’n rhaid i’r broses o ddyrannu cyllid fod yn ddeinamig. Caiff y dyraniadau cyllid terfynol, felly, ar gyfer blwyddyn 1 y rhaglen ar gyfer pob un o Ysgolion Llwybrau Llwyddiant eu cyhoeddi ar ddiwedd tymor yr haf 2015.

Yn ogystal â’r cyllid sy’n cael ei roi i’r ysgolion eu hunain at ddibenion gwella, dyrannwyd cyllid Her Ysgolion Cymru ar gyfer pob consortiwm addysg er mwyn meithrin gallu ar lefel ranbarthol ac er mwyn hyrwyddo cydweithredu.'

Beth yw’r ‘arlwy i’r disgyblion’?

Ym mis Rhagfyr 2015 cyhoeddodd y Gweinidog ddatganiad ysgrifenedig a oedd yn nodi’r rôl a fyddai gan yr ‘arlwy i’r disgyblion’ ar gyfer disgyblion yn ysgolion Her Ysgolion Cymru, gan ddweud:

'Rhaid inni eu hysbrydoli i lwyddo drwy roi iddynt brofiadau sy’n agor eu llygaid i’r cyfleoedd sy’n bodoli tu hwnt i giatiau’r ysgol, eu cartrefi a’u cymunedau lleol. Mae cynyddu disgwyliadau, dyheadau ac uchelgeisiau personol disgyblion yn un agwedd bwysig ar yr Her.'

Gofynnodd y Gweinidog i ysgolion sy’n cymryd rhan ddechrau profi dulliau gweithredu ar gyfer ehangu gorwelion disgyblion ac i greu cyfleoedd i ddisgyblion brofi gweithgareddau ystyrlon na allent gael cyfle i’w profi fel arall. Ar yr un pryd, gofynnodd i sefydliadau partner gymryd rhan drwy ‘rannu eu sgiliau, eu gwybodaeth, eu hadnoddau a’u harbenigedd i sicrhau deilliannau gwell ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc’.

Sut mae Her Ysgolion Cymru yn symud ymlaen?

Bydd gan Aelodau’r Cynulliad ddiddordeb mewn clywed am y cynnydd a wnaed ac a yw’r ‘arlwy i’r disgyblion’ yn symud ymlaen yn ôl y disgwyl gan y Gweinidog. O ddiddordeb hefyd efallai fydd, a yw Llywodraeth Cymru yn rhagweld unrhyw amgylchiadau heriol wrth briodoli gwelliannau o ran cyrhaeddiad i’r rhaglen Her Ysgolion Cymru ei hun, o gofio’r amrywiaeth o ymyriadau y mae wedi’u rhoi ar waith i leihau’r bwlch o ran perfformiad.

O ddiddordeb penodol efallai fydd, beth yw rôl y consortia addysg rhanbarthol o ran datblygu uchelgeisiau’r rhaglenni ymhellach, a sut y byddant yn defnyddio arian penodol Her Ysgolion Cymru a ddyrannwyd iddynt. Mae Aelodau eisoes wedi cwestiynu a fydd y £7.9 miliwn ychwanegol sy’n dod o’r gyllideb Addysg a Sgiliau bresennol yn effeithio ar raglenni a blaenoriaethau addysg eraill Llywodraeth Cymru.

Ceir rhagor o wybodaeth am ddull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran yr agenda ehangach i fynd i’r afael â’r cysylltiad rhwng addysg a thlodi yn ei dogfen Ailysgrifennu'r Dyfodol. Ar 20 Mai 2015, bydd y Cynulliad yn cynnal dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ganlyniadau addysgol plant o gartrefi incwm isel a gyhoeddwyd yn ddiweddar. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg