Mae bron chwe blynedd wedi mynd heibio ers i Lywodraeth Cymru ymuno â chynllun Sefydliad Iechyd y Byd i ddileu Hepatitis erbyn 2030. Er gwaethaf hyn, mae cyfraddau diagnosis a thriniaeth yng Nghymru yn is na’r hyn y mae angen iddynt fod i gyrraedd y targed hwn. Gyda Chymru ar fin methu’r dyddiad cau ar gyfer dileu’r firws gan o leiaf 10 mlynedd, mae angen cymryd camau pendant i roi’r cynlluniau yn ôl ar y trywydd iawn.
Gwnaeth Prif Swyddog Meddygol Cymru, Syr Frank Atherton, gyhoeddi adnewyddiad o gynllun Llywodraeth Cymru yn gynharach eleni, ac ailddatganodd ei ymrwymiad i darged 2030. Mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar Hepatitis C, gan edrych ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn, a chynlluniau diweddaraf Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei nod.
Beth yw Hepatitis C?
Mae'r feirws Hepatitis C yn lledaenu trwy gysylltiad â gwaed person heintiedig, er enghraifft trwy ddefnyddio nodwydd heintiedig. Y grŵp sydd â’r risg uchaf o gael eu heintio yw pobl sy’n chwistrellu cyffuriau – neu sydd wedi gwneud yn y gorffennol – ac sy’n cyfrif am bron i 90% o achosion.
Nid all 80% o bobl sydd wedi'u heintio glirio’r feirws heb driniaeth, gan arwain at haint Hepatitis C cronig. Amcangyfrifir bod 8,000 o bobl yn byw gyda Hepatitis C yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae 1 o bob 5 o'r rheini sydd â heintiau hirdymor yn datblygu creithiau ar yr afu – a elwir yn sirosis – a all achosi methiant yr iau/afu. Gall haint cronig hefyd achosi clefyd yr afu a chanser.
Mae'r rhan fwyaf o heintiau Hepatitis C yn troi’n gronig.
Ffynhonnell: Hepatitis C. Iechyd Cyhoeddus Cymru
Er nad oes brechlyn ar gael i atal Hepatitis C, mae datblygiad cyffuriau newydd, sef cyffuriau gwrthfeirol sy'n gweithredu'n uniongyrchol (neu ‘directly acting antivirals’)wedi arwain at chwyldro o ran gofal. Mae'r tabledi hyn yn gwella bron â bod pob haint heb fawr o sgîl-effeithiau. Yn ogystal ag atal canlyniadau iechyd hirdymor i'r unigolyn heintiedig, mae triniaeth hefyd yn atal y clefyd rhag lledu’n bellach.
Beth sydd wedi'i wneud hyd yn hyn i fynd i'r afael â Hepatitis C yng Nghymru?
Yn 2016, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gynllun Sefydliad Iechyd y Byd i ddileu Hepatitis C fel pryder iechyd cyhoeddus byd-eang erbyn 2030. Gosododd Sefydliad Iechyd y Byd dargedau i leihau heintiau newydd a marwolaethau sy'n gysylltiedig â Hepatitis C.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i’r targedau a osodwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd i ddileu Hepatitis C erbyn 2030.
Ffynhonnell: Hepatitis. World Health Organisation.
Gwnaeth y Prif Swyddog Meddygol gyhoeddi canllawiau cyhoeddedig ar gyrraedd y nod hwn yng Nghymru, yn 2017. Roedd hyn yn canolbwyntio ar leihau achosion parhaus o drosglwyddo, trwy wthio profion a thriniaeth, yn enwedig ar gyfer grwpiau sydd mewn perygl.
Fel rhan o hyn, mae rhaglenni nodwyddau a chwistrellau (neu NSPs) yn darparu nodwyddau di-haint i bobl sy'n chwistrellu cyffuriau, i fynd i'r afael â throsglwyddo ymhlith y boblogaeth hon sydd mewn perygl.
Cyflwynwyd mesurau hefyd i fonitro a thrin heintiau yng ngharchardai Cymru, lle mae 10% o ddynion wedi’u heintio yn y gorffennol, neu wedi’u heintio â Hepatitis C ar hyn o bryd. Cafodd pob dyn yng ngharchardai Cymru eu profi oni bai eu bod yn dewis cael eu heithrio. Roedd unigolion heintiedig yn cael eu trin mewn clinigau arbenigol mewn carchardai. Bu'r ymdrechion hyn yn llwyddiannus, a CEF Abertawe oedd y carchar remand cyntaf yn y DU i ddileu Hepatitis C yn 2019.
At hynny, gwnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru lansio ymgyrch yn 2019 i nodi pobl a gafodd ddiagnosis cyn bod y triniaethau hynod effeithiol diweddaraf ar gael, a chynnig y rhain iddynt.
A all Cymru fynd yn ôl ar y trywydd iawn i gyrraedd targed Sefydliad Iechyd y Byd o ddileu erbyn 2030?
Er yr ymdrechion hyn, cafwyd rhybuddion bod Cymru ar ei hôl hi, gan y Senedd ac arbenigwyr gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Hepatitis C, gyda chynlluniau i ddileu Hepatitis C.
Rhybuddiodd ymholiad gan Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Bumed Senedd – a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2019 – fod Cymru gryn dipyn ar ei hôl hi yn ei hymdrechion, a heb weithredu brys, byddai’r cyfle i ddileu yn cael ei golli.
Mae’r cynnydd wedi’i rwystro ymhellach gan bandemig COVID-19.
Cafodd llawer o wasanaethau sy’n gysylltiedig â Hepatitis C eu hatal yn ystod y cyfnod hwn, ac mae ambell un yn dal i fod heb ddychwelyd i’w lefel cyn y pandemig. Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Hepatitis C, effeithiwyd yn gryfach ar wasanaethau yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill y DU. Er bod cyfraddau triniaeth wedi gostwng yn sylweddol yn holl wledydd y DU yn ystod ton gyntaf y pandemig, roedd dechrau triniaeth yn broses wnaeth gymryd hirach i wella yng Nghymru na’r gweddill.
Mae'r ffigurau diweddaraf – a luniwyd gan asiantaethau iechyd cyhoeddus pob gwlad yn y DU yn gynharach eleni – yn amcangyfrif bod 81.7% o gleifion sydd wedi cael diagnosis o Hepatitis C cronig wedi cael triniaeth yn 2020 yng Nghymru.
Fodd bynnag, roedd gostyngiad yn niferoedd y profion. Dim ond gostyngiad o 25% a fu mewn marwolaethau sy’n gysylltiedig â Hepatitis C rhwng 2015 a 2020, llawer is na’r gostyngiad o 65% a osodwyd yn darged gan Sefydliad Iechyd y Byd.
Mae Dr Brendan Healy, Arweinydd Hepatitis Feirysol a Gludir yn y Gwaed Cymru, wedi pwysleisio fod yn rhaid i 900 o gleifion gael eu trin yng Nghymru bob blwyddyn er mwyn dileu Hepatitis C erbyn 2030. Fodd bynnag, yn ôl y ffigurau diweddaraf, dim ond 265 o gleifion a ddechreuodd driniaeth yn 2020/21, gan amlygu’r angen am gynllun newydd i fynd i’r afael â’r broses o ddileu.
Mae yna wahaniaeth, hefyd, rhwng Cymru a gweddill y DU yn ei amserlen ar gyfer dileu, gyda Lloegr a Gogledd Iwerddon yn anelu at ddileu erbyn 2025 a’r Alban yn gosod targed cynharach fyth o 2024. Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Hepatitis C;
[…]there is a very real danger of Wales being left behind in the race to achieve hepatitis C elimination without increased action.
Beth sydd o'n blaenau?
Cafodd y datganiad ansawdd ar gyfer clefyd yr afu ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2022 ac mae’n nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau’r afu yng Nghymru ar gyfer y degawd nesaf, sy’n cynnwys Hepatitis B a C.
Yn gynharach eleni, cydnabu'r Prif Swyddog Meddygol, os na fydd lefelau profion a thriniaeth Hepatitis C yng Nghymru yn gwella, ni fydd yn bosibl ei ddileu erbyn 2030, ac efallai na fydd yn digwydd tan 2040 ar y cynharaf.
Wrth gyfeirio at y pryderon hyn, cyhoeddodd gynlluniau wedi’u targedu i fynd i’r afael â heintiau, hyd at 2024, a chadarnhaodd fel a ganlyn:
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i gael gwared ar hepatitis B a C fel bygythiad i iechyd y cyhoedd erbyn 2030 fan bellaf.
Sefydlodd cynllun y Prif Swyddog Meddygol 13 o gamau gweithredu, gan dynnu ar argymhellion a wnaed mewn canllawiau byd-eang ar ddileu hepatitis feirysol a luniwyd gan y Saith deg Pumed Cynulliad Iechyd y Byd a'r Sefydliad Iechyd y Byd yn 2022.
Dywedodd y byddai adfer gwasanaethau gofal cysylltiedig i’r lefelau cyn y pandemig, a thu hwnt, yn cael ei flaenoriaethu. At hynny, cyhoeddodd ehangiad o’r gofal a ddarperir mewn gofal sylfaenol a’r tu allan i’r amgylchedd gofal iechyd yn gyfan gwbl, mewn unedau lleihau niwed neu’r gwasanaeth carchardai.
Er mwyn rhoi’r cynlluniau hyn ar waith, bydd byrddau iechyd yn cyflwyno Cynlluniau Adfer ar y Cyd sy’n mynd i'r afael â’r modd y byddant yn dychwelyd ar y trywydd iawn o ran ymdrechion i ddileu’r clefyd.
Mae Grŵp Goruchwylio Rhaglen Dileu Hepatitis B ac C wedi’i sefydlu gan Lywodraeth Cymru i fonitro cynnydd yn erbyn y 13 cam gweithredu. Bydd rhanddeiliaid allweddol yn ffurfio’r grŵp – gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Ymddiriedolaeth Hepatitis C – a bydd yn adrodd yn rheolaidd i’r Prif Swyddog Meddygol a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Disgwylir diweddariad ynghylch cynnydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Gwnaeth yr ymddiriedolaeth Hepatitis C ymateb yn gadarnhaol i'r cynlluniau, gan ddatgan fel a ganlyn:
It is good to see Wales taking important steps to get back on track towards eliminating HCV by 2030. The pandemic presented many challenges to the elimination agenda but even prior to this Wales was falling behind. The 13 actions set out by the Welsh Government are a welcome plan to accelerate progress […]
Erthygl gan Ailish McCafferty, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Ailish McCafferty gan y Cyngor Ymchwil Feddygol a alluogodd i'r erthygl ymchwil hon gael ei chwblhau.