Hawliau pobl anabl: sut mae canfyddiadau un o bwyllgorau'r Cenhedloedd Unedig yn berthnasol i Gymru

Cyhoeddwyd 19/09/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Ym mis Awst, bu un o bwyllgorau'r Cenhedloedd Unedig yn archwilio'r DU mewn perthynas â'r modd y mae'n gweithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Disgrifiodd aelod o'r Pwyllgor a rappoteur y DU Stig Langvad archwiliad y DU fel 'yr ymarfer mwyaf heriol yn hanes y Pwyllgor', a chafodd ei alw gan Gomisiwn y DU ar Gydraddoldeb a Hawliau Dynol yn “asesiad damniol gan arbenigwyr y Cenhedloedd Unedig o fethiant i ddiogelu hawliau pobl anabl ar draws sawl agwedd ar fywyd yn y DU”.

Beth yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau? Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn gytuniad hawliau dynol rhyngwladol. Mae'n nodi pa hawliau y dylai pobl anabl eu cael, ynghyd â meincnodau rhyngwladol. Mae'r Confensiwn yn cynnwys ystod eang o agweddau, gan gynnwys iechyd, addysg, cyflogaeth, mynediad at gyfiawnder, diogelwch personol a byw'n annibynnol. Drwy gymeradwyo'r Confensiwn yn 2009, ymrwymodd y DU i hybu hawliau dynol llawn ar gyfer pobl anabl, a diogelu'r hawliau hynny, gan sicrhau cydraddoldeb llawn yn unol â'r gyfraith. Mae'n rhaid i bob gwlad sydd wedi cymeradwyo'r Confensiwn adrodd yn ôl i'r Cenhedloedd Unedig ynghylch yr hyn y maent yn ei wneud i weithredu'r Confensiwn (gan gynnwys y gwledydd datganoledig). Mae'r Cenhedloedd Unedig yn archwilio'r dystiolaeth ac yn gwneud casgliadau ac argymhellion.

Materion pwysig

Yn dilyn archwiliad y DU, daeth Pwyllgor y DU ar Hawliau Pobl ag Anableddau i gasgliadau, gan nodi'r pryderon a ganlyn:

  • Effaith cyni, sydd wedi arwain at gyfyngiadau economaidd negyddol difrifol ymysg pobl anabl a'u teuluoedd gan gynnwys mwy o ddibyniaeth ar fanciau bwyd;
  • Y diffyg fframwaith polisi yn mynd i'r afael â thlodi ymysg teuluoedd â phlant sydd ag anableddau;
  • Y bwlch cyflogaeth a thâl parhaus i bobl anabl (yn enwedig menywod anabl);
  • Ymgorfforiad annigonol a gweithrediad anwastad y Confensiwn ar draws meysydd a lefelau polisi a rhanbarthau;
  • Parhad agweddau, stereoteipiau a rhagfarn negyddol yn erbyn pobl anabl;
  • Datganoli cefnogaeth byw'n annibynnol heb ddarparu dyraniad priodol o gyllideb wedi'i glustnodi;
  • Y diffyg safonau hygyrch mewn cysylltiad â'r amgylchedd ffisegol, tai fforddiadwy, TG, trafnidiaeth, a gwybodaeth mewn ardaloedd trefol yn ogystal ag ardaloedd gwledig - ymysg eraill;
  • Y lefel hygyrchedd isel i stadiwms chwaraeon ac i'r adeiladau/amgylchedd treftadaeth cenedlaethol;
  • Nifer yr achosion o drosedd casineb yn erbyn pobl anabl, a'r diffyg casglu data;
  • Rhwystrau i bobl anabl gael mynediad at gymorth cyfreithiol;
  • Mynediad anwastad at wasanaethau iechyd ar draws holl wledydd y DU, y gormodedd o feddyginiaethau gwrthseicotig yng Nghymru a Lloegr a'r defnydd a wneir o therapi electrogynhyrfol heb gydsyniad ar draws y llywodraethau datganoledig;
  • Y gyfradd hunanladdiad ymysg pobl anabl, ac
  • Y nifer isel o bobl ag anableddau sy'n sefyll i gael eu hethol yn gyhoeddus, neu sy'n dal swydd etholedig.

Tanffordd gyda graffiti'n dweud 'my disability does not define me'

Sut mae hyn yn berthnasol i Gymru?

Mae gan Gymru y gyfradd uchaf o anableddau yn y DU gyda 26 y cant, a rhai o'r lefelau uchaf o dlodi a nifer hawlwyr budd-daliadau. Dengys ymchwil fod pobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig ac sy'n gweithio mewn swyddi â rwtîn yn fwy tebygol o fod yn anabl.

Er mai at Gymru yn unig y cyfeirir mewn ambell achos yn y casgliadau, mae pryderon cyffredinol ac argymhellion y Pwyllgor sy'n ymwneud â thlodi. lles a chyflogaeth yn debygol o fod yn arbennig o berthnasol i Gymru.

Cyflwynodd y Comisiwn Cydraddoldeb ar Hawliau Dynol yng Nghymru ystod o dystiolaeth i gyfrannu at yr archwiliad. Nododd adroddiad atodol Cymru ystod o feysydd i'w gwella, megis dull Llywodraeth Cymru i leihau tlodi ymysg pobl anabl. Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi camau gweithredu cadarnhaol, megis llwyddiant dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yng Nghymru a photensial Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Yn 2015, argymhellodd Pwyllgor Cymunedau blaenorol y Cynulliad y dylai mentrau gwrth-dlodi, gwasanaethau cynghori a rhaglenni cyflogaeth Llywodraeth Cymru fod wedi'u teilwra'n well at anghenion penodol pobl anabl, o ystyried bod pobl anabl yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi. Lefelau anabledd a thlodi yn y DU

Roedd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig hefyd yn pryderu ynghylch parhad y system addysg ddeuol sy'n gwahanu plant sydd ag anableddau i ysgolion arbennig. Mewn ymateb i hyn, darparodd Llywodraeth y DU wybodaeth ychwanegol i'r Pwyllgor, gan ddangos bod gan Gymru'r gyfradd isaf o ddisgyblion sydd ag anghenion addysgu arbennig mewn ysgolion arbennig.

Yn ystod yr archwiliad, gofynnwyd i gynrychiolydd Llywodraeth Cymru os gallai'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol ymgorffori'r Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn uniongyrchol ac ymatebodd gan ddweud bod y Bil wedi'i lunio 'yn ysbryd' y Confensiwn.. Yn ei adroddiad ar ystyriaeth cyfnod 1 y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol, argymhellodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y dylai'r Bil gynnwys dyletswydd arbennig ar gyrff perthnasol i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Gwrthododd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, ond mae'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol yn dal i fynd drwy broses ddeddfwriaethol y Cynulliad.

Mae adran yr 'agweddau cadarnhaol' yng nghasgliadau terfynol y Pwyllgor yn canolbwyntio gan mwyaf ar gamau a gymerwyd gan y gwledydd datganoledig. Mae hyn yn cynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, y nodwyd iddi ddarparu fframwaith ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd. Fframwaith Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Byw'n Annibynnol yw'r prif offeryn i fwrw ymlaen i weithredu'r Confensiwn yng Nghymru. Yn ystod yr archwiliad, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Fframwaith wedi'i adolygu a'i gryfhau erbyn diwedd 2017.

Roedd yr hyn a gyflwynodd Anabledd Cymru i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn amlinellu tair prif neges i Lywodraeth Cymru, yn galw arni i:

  • gryfhau'r Fframwaith Gweithredu ar Fyw'n Annibynnol drwy sicrhau gwell atebolrwydd yn lleol dros gyflawni'r Fframwaith er mwyn rhoi dewis a chynhwysiant gwirioneddol ym mhob agwedd ar fywyd, gan gynnwys cyflogaeth;
  • sicrhau bod prosiectau seilwaith sydd ar ddod yn gwbl gynhwysol yn creu Cymru hygyrch, o drafnidiaeth i ddarpariaeth gwybodaeth a gwasanaethau a mynediad at adeiladau, a
  • mynd i'r afael â'r rhwystrau i fynediad at gyfiawnder drwy wella darpariaeth cyngor, eiriolaeth a chynrychiolaeth cyfreithiol arbenigol.

Gofynnodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig i Lywodraeth y DU gyflwyno ei hadroddiad nesaf erbyn 8 Gorffennaf 2023, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch y modd y gweithredwyd yr argymhellion.


Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Melissa Wood, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yng Nghymru

Ffynonellau a nodiadau:

Delwedd oddi ar Flickr gan Chris Sampson. Dan drwydded Creative Commons

Graff: Nifer yr achosion o anabledd: Llywodraeth y DU, Arolwg Adnoddau Teuluoedd 2015/16,

Aelwydydd o dan yr incwm cyfartalog (tlodi): StatsCymru.

Caiff 'tlodi' ei ddiffinio fel canran yr unigolion sy'n byw mewn aelwydydd â llai na 60 y cant o ganolrif incwm aelwydydd cyffredin (ar ôl costau'r tŷ).