Hawliau dinasyddion ar ôl Brexit: diweddariad

Cyhoeddwyd 16/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

[rt_reading_time label="Amcangyfrif o amser darllen:" postfix="Munud" postfix_singular="Munud"]

16 Medi 2020

Read this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Daw'r rhyddid i symud rhwng y DU a'r UE i ben ar 31 Rhagfyr 2020. Mae paratoadau ar y gweill i ganiatáu i ddinasyddion y DU sy'n byw yn yr UE barhau i wneud hynny ar ôl y dyddiad hwn, ac i'r gwrthwyneb.

Ymrwymodd y DU a'r UE i sefydlu ffyrdd o wneud hyn yn y Cytundeb Ymadael. Sefydlodd y DU Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS), a sefydlodd pob un o 27 Aelod-wladwriaeth yr UE (EU27) eu cynlluniau eu hunain, gyda chefnogaeth yr UE.        

Mae’r ffordd y mae Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE wedi cael ei roi ar waith wedi bod yn bryder allweddol i Bwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Senedd. Adroddodd y pwyllgor ar y mater hwn am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2019 ac mae wedi parhau i ystyried y mater wrth graffu ar lywodraethau Cymru a’r DU.

Mae'r blog hwn yn rhoi diweddariad ar y gwaith o gyflwyno'r cynlluniau, gan gynnwys data wedi'i ddiweddaru ar geisiadau o Gymru.

Er hwylustod, rydym yn cyfeirio at ddinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) a'r Swistir fel 'dinasyddion yr UE' yn yr erthygl hon. Mae'r Gwasanaeth Ymchwil wedi ysgrifennu blogiau ar y pwnc hwn o'r blaen, ym Mis Ionawr 2020 a Mis Medi 2019..

Dinasyddion yr UE sy'n gwneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Rhaid i ddinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS) er mwyn parhau i fyw yn y DU ar ôl 30 Mehefin 2021. Dyma'r dyddiad cau y mae Llywodraeth y DU wedi’i bennu ar gyfer ceisiadau.

Cytunwyd ar hawliau dinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU fel rhan o Gytundeb Ymadael y DU â’r UE a byddant yn cael eu monitro gan Awdurdod Monitro Annibynnol (IMA) (PDF, 917KB) newydd, a fydd wedi’i leoli yn Abertawe ac ar waith o ddiwedd y cyfnod trosglwyddo ymlaen (31 Rhagfyr 2020). System ddigidol yw system gymhwyso’r DU, ac ni fydd dinasyddion yr UE yn cael tystiolaeth ar bapur o’u hawl i aros yn y DU.

Mae'n anodd amcangyfrif faint yn union o ddinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU a'u cymhwysedd i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ond credir fod oddeutu 3.8 miliwn ohonynt.

Mae ystadegau  a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar 27 Awst yn dangos y cafwyd dros 3.8 miliwn o geisiadau i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE hyd at 31 Gorffennaf, ac mae bron i 3.6 miliwn ohonynt wedi cael eu prosesu. Credir mai’r rheswm dros gael mwy o geisiadau na’r nifer o ddinasyddion yr UE yr amcangyfrifir eu bod yn byw yn y DU yw bod rhai ceisiadau wedi cael eu gwneud ddwywaith a rhai wedi’u cyfrif ddwywaith.

Ceisiadau o Gymru

Cafwyd 62,700 o geisiadau o Gymru ar gyfer Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE hyd at 31 Gorffennaf ac amcangyfrifir bod 66,000 o ddinasyddion cymwys o’r UE yn byw yng Nghymru.

Ers lansio Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, mae cyfran y ceisiadau a gafwyd o Gymru o gymharu â’r nifer o bobl cymwys i wneud cais wedi bod y tu ôl i weddill y DU. Fodd bynnag, mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod y gyfran yng Nghymru nawr yn fwy nag yn yr Alban.

Amcangyfrif o’r canran sydd wedi gwneud cais, yn ôl gwlad breswyl a statws sefydlog, o gymharu â’r nifer o bobl cymwys i wneud cais


Ffynhonnell: Llywodraeth y DU: tablau ystadegau chwarterol Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr  UE , mae'r ystadegau'n cynnwys ceisiadau sydd wedi’u gwneud ddwywait

Yn ogystal â hyn, ym mis Ionawr, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, wrth y BBC fod cyfran y bobl o Gymru sydd wedi gwneud cais ac wedi cael statws preswylydd cyn-sefydlog yn hytrach na statws sefydlog ‘yn ymddangos yn uchel’. Fodd bynnag, mae adroddiad diweddaraf Llywodraeth y DU yn dangos bod cyfran y bobl sy'n cael statws sefydlog bellach yn uwch ar gyfer Gogledd Iwerddon, Cymru a'r Alban (65%, 62%, 61%, yn y drefn honno), o'i gymharu â Lloegr (57%).

Cefnogaeth a gynigir gan Lywodraeth Cymru i ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru

Nid yw mewnfudo yn fater datganoledig ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn gyson eu bod am i ddinasyddion yr UE aros yng Nghymru ac wedi lansio pecyn cymorth am ddim i'w cynorthwyo i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Mae hyn yn cynnwys Gwasanaeth Cyngor Mewnfudo, sy'n eu cyfeirio at sefydliadau partner sy'n cynnig cyngor mewnfudo arbenigol am ddim yn ogystal â chyngor am les cymdeithasol a hawliau gweithwyr.

Ym mis Awst, ysgrifennodd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, at Bwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Senedd (PDF, 5MB) i bwysleisio mai prif amcan Llywodraeth Cymru yw cysylltu â dinasyddion o’r UE sy’n byw yng Nghymru ac sy’n perthyn i grwpiau bregus neu fwy gwaharddedig cyn y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais.

Fodd bynnag, cyflwynodd Sefydliad Bevan dystiolaeth i Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau’r Senedd yn ddiweddar yn esbonio sut roedd llawer o'r cymorth wyneb-yn-wyneb a’r gwaith codi ymwybyddiaeth wedi cael ei ohirio o ganlyniad i bandemig y coronafeirws, ac roeddent yn disgrifio hyn fel rhwystr mawr. Roedd Adroddiad y Pwyllgor (PDF, 478KB) yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod rhaglenni ymwybyddiaeth y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn cael eu rhedeg mewn ffyrdd amgen sy'n ystyried y cyfyngiadau parhaus ar gyfarfodydd wyneb yn wyneb.

Rhaid i ddinasyddion y DU sy'n byw yn Aelod-wladwriaethau'r UE wneud cais am statws preswylydd sefydlog hefyd

Yn yr UE, mae pob Aelod-wladwriaeth yn gyfrifol am ei gynllun ei hun ar gyfer dinasyddion y DU. Mae pob Aelod-wladwriaeth wedi dewis un o ddau fath gwahanol o gynllun preswylio’n sefydlog, fel a ganlyn:

Mae 14 Aelod-wladwriaeth wedi dewis system ddatganiadol. Mae hyn yn golygu nad yw’n ofynnol i ddinasyddion y DU wneud cais am statws preswylio newydd er mwyn byw yn y gwledydd hyn yn gyfreithlon, ac nid oes angen iddynt gymryd unrhyw gamau pellach. Bydd yr UE yn darparu dogfen breswylio ar bapur i’r dinasyddion hyn, a bydd yn dilyn yr un fformat yn yr 14 Aelod-wladwriaeth.

Mae 13 Aelod-wladwriaeth wedi dewis system gyfansoddol. Mae hyn yn debyg i system y DU yn yr ystyr ei bod yn ei gwneud yn ofynnol i ddinasyddion y DU wneud cais am statws preswylio newydd o fewn y dyddiad cau a bennwyd gan yr Aelod-wladwriaeth y maent yn byw ynddi. Y dyddiad cau cynharaf posibl yw 30 Mehefin 2021. Mae Aelod-wladwriaethau'n bwriadu defnyddio gweithdrefnau gweinyddol er mwyn gwneud hyn a allai olygu bod cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn ofynnol. Mae hyn yn wahanol i broses y DU, sy'n gwbl ddigidol.

Dylai pobl o Gymru sy'n byw yn Aelod-wladwriaethau'r UE wirio pa gynllun y mae eu gwlad breswyl wedi'i ddewis a’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, a all fod yn wahanol mewn gwahanol Aelod-wladwriaethau.

Mae Comisiwn yr UE wedi cyhoeddi tabl (PDF, 146KB) yn dangos y system y mae pob Aelod-wladwriaeth wedi’i ddewis, y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais (os yw hynny wedi’i gadarnhau) a gwefannau sydd wedi’u creu ar gyfer dinasyddion y DU. Mae hefyd wedi creu tudalen we Holi ac Ateb ar gyfer dinasyddion sy’n cynnwys gwybodaeth am bob Aelod-wladwriaeth. Rôl y Comisiwn yw goruchwylio cydymffurfiad yr Aelod-wladwriaethau â'r Cytundeb Ymadael ac mae wedi cyhoeddi nodyn canllaw (PDF, 1.1MB) i'w cynorthwyo gyda hyn. 

Yn dilyn ail gyfarfod Pwyllgor Arbenigol y DU-UE ar Hawliau Dinasyddion ar 6 Awst, daeth i’r amlwg y gallai dinasyddion y DU sydd eisoes yn byw yn Aelod-wladwriaethau’r UE gael hawliau rhyddid i symud ychwanegol ar ôl diwedd y cyfnod trosglwyddo.

Yn ôl y sôn, cadarnhaodd swyddogion y Comisiwn Ewropeaidd i Politico y gallai dinasyddion y DU sy'n byw mewn un Aelod-wladwriaeth fod â’r hawl i ymgartrefu mewn Aelod-wladwriaeth wahanol i'r un y maent yn byw ynddi, at ddibenion sy’n cynnwys gweithio ac astudio. Gellid hefyd rhoi buddion ychwanegol i'r rhai sydd wedi byw yn yr UE am fwy na phum mlynedd, megis gallu gadael eu gwlad letyol a dychwelyd heb golli eu statws.

Anghydfodau diweddar rhwng y DU a’r UE ynghylch cymhwysedd i gael budd-daliadau a chydymffurfiad cyfreithiol

Ym mis Mai, bu anghydfod rhwng y DU a'r UE,  sydd ill dau yn gyfrifol ar y cyd am weithredu'r Gytundeb Ymadael, ynghylch hawliau dinasyddion.

Ar 14 Mai, lansiodd Gomisiwn yr UE drafodion tor cyfraith yn erbyn y DU am fethu â chydymffurfio â chyfraith yr UE ynghylch symudiad rhydd dinasyddion yr UE ac aelodau eu teuluoedd. Ar yr un diwrnod ag y lansiodd yr UE ei drafodion tor cyfraith, cododd Llywodraeth y DU bryderon ar ran dinasyddion y DU sy'n byw yn Aelod-wladwriaethau'r UE mewn llythyr at Gomisiwn yr UE. Mae'r pryderon yn ymwneud ag anghysondebau rhwng yr UE27 o ran cyfathrebu gwybodaeth allweddol, y broses ymgeisio, a chymorth i ddinasyddion bregus.

Roedd Ymateb yr UE i Lywodraeth y DU ar 28 Mai yn croesawu’r cynnydd a wnaed o ran cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion y DU ond dywedodd ei bod yn dal i bryderu am allu dinasyddion bregus i wneud cais cyn dyddiad cau'r DU ac am gwynion gan ddinasyddion yr UE27 bod Awdurdodau'r DU wedi gwrthod mynediad at fudd-daliadau cymdeithasol. Roedd yr ymateb hefyd yn nodi camau a gymerodd yr UE i leddfu pryderon Llywodraeth y DU. Y tu hwnt i hynny, dywedodd Prif Drafodwr yr UE, Michel Barnier, ar 2 Medi  y byddai’r UE yn parhau i fod yn hynod wyliadwrus o ran sicrhau parch llawn at hawliau dinasyddion o dan y Cytundeb Ymadael.

O fis Ionawr 2021 ymlaen, bydd gan y DU system fewnfudo newydd wedi'i seilio ar bwyntiau ar gyfer holl ddinasyddion yr UE a'r tu allan i'r UE.


Erthygl gan Sara Moran, Joe Wilkes a Hannah Johnson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru