Hanes myfyriwr ar Interniaeth polisi y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC): Gweithio wrth galon y Senedd ... o’m stydi fach

Cyhoeddwyd 17/08/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/08/2021   |   Amser darllen munud

Mae’r erthygl hon yn trafod fy amser gydag Ymchwil y Senedd, a’r budd rwyf wedi’i gael o leoliad gwaith er nad oeddwn yn bresennol yn y swyddfa o gwbl.

Pam ymuno â chynllun interniaeth Ymchwil y Senedd

Weithiau bydd pethau’n mynd yn iawn, ond weithiau bydd pandemig byd-eang yn taro. Mae dwy flynedd bron wedi mynd heibio ers i mi gyflwyno fy nghais cychwynnol, ond dechreuais ar fy interniaeth gydag Ymchwil y Senedd dri mis yn ôl, ac roedd yn werth aros amdano.

Rwy’n fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithio ar Cryptosporidium, sef parasit dŵr sy’n heintio pobl ac anifeiliaid ar draws y byd. Wrth weithio ar bapur briffio ffug yn fy mlwyddyn gyntaf yn y coleg gwelais y cysylltiadau rhwng ymchwil academaidd a newid gwirioneddol ar lefel y llywodraeth, a rhoddodd hyn berspectif newydd i mi ar gyfer fy mhrosiect. Sbardunodd y profiad cychwynnol hwnnw ddiddordeb newydd ynof mewn polisi, sydd wedi parhau i dyfu.

Mae cynllun interniaeth polisi y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) yn rhoi cyfle i fyfyrwyr doethuriaeth weithio mewn sefydliad polisi dylanwadol, a all gynnwys adrannau seneddol. Fy nod erioed oedd elwa ar leoliad gwaith gydag adran Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru. Gan fy mod yn byw yng Nghymru, roeddwn yn awyddus i weithio mewn sefydliad a oedd yn effeithio arna i yn uniongyrchol.

Tair rôl allweddol adran Ymchwil y Senedd yw cefnogi gwaith y pwyllgorau, ymateb i ymholiadau gan Aelodau o’r Senedd a chynhyrchu gwaith rhagweithiol, fel erthyglau a phapurau briffio ar feysydd ymchwil. Roedd fy nhîm i yn canolbwyntio’n bennaf ar bolisi iechyd a pholisi cymdeithasol, ond roedd yr amrywiaeth o ymholiadau a gwaith ymchwil yn gwbl newydd i mi, gan imi fod wedi canolbwyntio ar faes penodol ar gyfer fy ngwaith labordy yn flaenorol.

Ymchwilio o bell

Y gwahaniaeth mwyaf rhwng yr hyn roeddwn yn ei ddisgwyl a’r hyn a ddigwyddodd oedd fy man gwaith. Wrth wneud cais am y lleoliad gwaith, roeddwn yn gyffrous o weithio mewn amgylchedd prysur a deinameg, gan wybod bod penderfyniadau a allai effeithio ar bobl sy’n byw yng Nghymru yn cael eu gwneud yn yr adeilad. Er bod y gwaith yn brysur, yn amrywiol ac yn heriol, roedd y cyfan yn digwydd yn fy stydi fach gartref.

Fel ymchwilydd PhD rwyf wedi arfer â chymell fy hun a gweithio gartref, ond teimlwn ychydig yn bryderus ynglŷn â sut y byddwn yn ffitio i mewn gyda thîm cwbl newydd heb fod wedi’u cyfarfod wyneb yn wyneb erioed. Nid oedd achos i mi boeni. Treuliais y cyfnod gyda’r tîm Polisi Iechyd a Pholisi Cymdeithasol, a estynnodd groeso i mi o’r dechrau, fel gweddill adran Ymchwil y Senedd. Er nad oeddwn gyda gweddill fy nhîm yn gorfforol, roedd y cyfarfodydd rhithwir rheolaidd i wirio cynnydd o ran gwaith ac i sgwrsio mewn grwpiau a fyddai’n aml yn dechrau gyda chwyno am haf nodweddiadol yng Nghymru (yn “rhy boeth”, yn “rhy oer”, yn “rhy lawog”, yn “rhy sych”) yn gwneud i mi deimlo’n rhan o’r tîm yn gyson.

Roedd yr wythnosau cyntaf gyda’r tîm yn cynnwys cyfarfodydd cynefino, dysgu rhagor am y Senedd, gwybodaeth am rôl y clercod a’r pwyllgorau, am y broses olygyddol, am drosglwyddo gwybodaeth ac am effaith ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Roedd y sesiynau cynefino yn amlygu, nid yn unig yr arbenigedd, ond hefyd yr angerdd am waith ymchwil o’r radd flaenaf yn y Senedd.

Yn ymateb i newid parhaus

Gan mai cynorthwyydd ymchwil gyda’r Senedd oeddwn i, roedd y maes pwnc yn newid gyda phob darn o waith. Roeddwn yn falch o gael gwaith mor amrywiol a therfynau amser byr iawn yn aml, ac roedd hyn yn fy nghymell i gyflawni gwaith ymchwil effeithiol ac i ysgrifennu mewn modd uniongyrchol. Yn ystod cyfnod yr interniaeth lluniais erthygl ymchwil ar rannu data cleifion, fe weithiais ar bapur briffio ar ragnodi cymdeithasol (sydd i’w gyhoeddi’n fuan) ac ar bapur briffio y Pwyllgor Deisebau ar gynhyrchion mislif. Roedd fy rheolwr llinell yn ymddiried ynof i weithio ar bynciau a oedd yn anarferol i mi, ac roedd hynny yn gwella fy ngwybodaeth am bolisi iechyd, ond roedd hefyd yn cynnig her newydd gyda phob darn o waith.

Treuliais gryn dipyn o amser yn gweithio ar ymholiadau gan Aelodau, a oedd yn aml yn gysylltiedig â’u mewnflychau yn eu hetholaethau. Roedd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i mi ymchwilio i bwnc penodol mewn ymateb i gwestiwn, a gallai’r dyddiad terfyn fod o fewn yr wythnos neu ar yr un diwrnod. Roedd yr amrywiaeth eang o bynciau, a gwybod y byddai fy ngwaith ymchwil yn gallu helpu rhywun yn uniongyrchol yn rhoi golwg newydd i mi ar rôl Ymchwil y Senedd a rôl yr Aelodau. Am y tro cyntaf gallwn weld sut mae polisi yn effeithio’n uniongyrchol ar fywydau pobl, a theimlwn ei bod yn fraint fawr i allu defnyddio fy sgiliau i gynorthwyo pobl.

Hefyd cymerais ran mewn cyfarfodydd â rhanddeiliaid drwy gydol fy nghyfnod ar y lleoliad gwaith, a oedd yn cynnwys sefydliadau trydydd sector a chyrff proffesiynol fel Cynghrair Canser Cymru a’r British Lung Foundation; a ddarparodd ganlyniadau gwaith ymchwil ac a fu’n trafod materion o bwys yn eu meysydd polisi gyda ein tîm. Fe wnes fanteisio ar y cyfle, hyd yn oed, i sefydlu a chadeirio fy nghyfarfod fy hun â rhanddeiliaid, sef gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru; gan ddatblygu cysylltiad newydd rhwng y timau gobeithio.

Fy ystafell fach yn y tŷ

Rhwng dwy Senedd

Roedd fy lleoliad gwaith yn anarferol, nid yn unig o ran fy mod yn gweithio o bell, ond roedd hefyd yn digwydd un wythnos ar ôl Etholiad y Senedd. Felly, yn ystod yr wythnosau cyntaf hynny, nid oedd y pwyllgorau wedi’u ffurfio; ond roeddem ar drothwy newid cyffrous, felly roedd hynny’n creu cyffro.

Er gwaetha’r cyfyngiadau, mentrais a chymryd golwg ar un o’r Cyfarfodydd Llawn yn adeilad y Senedd, a hefyd bum yn cynorthwyo gyda chynnal ffug gyfarfod pwyllgor, a oedd yn ffordd o dreialu’r modd y byddai cyfarfodydd pwyllgor yn cael eu cynnal yn y dyfodol, wrth i’r cyfyngiadau coronafeirws gael eu llacio. Roedd gallu gwylio’r Cyfarfod Llawn o’r oriel gyhoeddus yn gwneud i mi deimlo’n llawer agosach at y broses rywfodd. Hefyd cefais y cyfle i eistedd yng nghyfarfod cyntaf y Chweched Senedd, sef yn y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Edrych tuag allan a chofio

Gwelais fod y Senedd yn senedd nad yw’n canolbwyntio ar Gymru ac ar y DU yn unig, ond mae hefyd yn cymryd golwg ar faterion rhyngwladol. Un digwyddiad rhithwir gan y Senedd y bum yn cymryd rhan ynddo oedd y Cyfarfod Cofio Srebrenica. Wedi’i gynnal gan y Llywydd (sy’n cyfateb i’r Llefarydd yn Senedd y DU), roedd yn cofio pobl Srebrenica a fu’n dioddef yn ystod rhyfel cartref Bosnia.

Roedd yn fyfyrdod ystyrlon a theimladwy. Roedd y digwyddiad yn fy nghyffwrdd i’n arbennig, gan i mi gael fy ngeni yn Bosnia, a deuais i fyw i’r DU fel ffoadur ifanc iawn rhag y rhyfel hwnnw. A hithau bellach dros bum mlynedd ar hugain ers hynny, a minnau yn gweithio (er am gyfnod byr) i Senedd sy’n ymfalchio mewn amrywiaeth, cynwysoldeb a chydraddoldeb, rwy’n fodlon iawn yn hyn o beth.

Golwg newydd

Mae’r lleoliad gwaith hwn wedi rhoi golwg newydd, nid yn unig ar sut y mae gwleidyddiaeth yn effeithio ar fywyd bob dydd, ond hefyd ar fy ngwaith ymchwil a’m dyheadau personol o ran gyrfa. Mae wedi atgyfnerthu fy angerdd am werth gwaith ymchwil ac wedi cyflwyno llwybr gyrfa polisi newydd i mi ‘rwy’n gyffrous iawn i’w ddilyn.

Rwy’n dychwelyd at fy ngwaith PhD gyda rhagor o hyder yn fy sgiliau cyflawni gwaith ymchwil ac ysgrifennu, ond hefyd gyda chyffro am y posibiliadau o gysylltu â gwneuthurwyr polisi i sicrhau y caiff fy ngwaith ymchwil effaith uniongyrchol ble mae ei angen fwyaf.


Erthygl gan Božo Lugonja, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru