Wrth i'r byd ddechrau teimlo effeithiau'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud sylwadau pellach am y camau y mae'n eu cymryd i liniaru’r effeithiau hyn.
Ar 3 Mawrth, gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad ysgrifenedig a oedd yn dweud:
…gallai'r gwrthdaro gael canlyniadau gwirioneddol i aelwydydd a busnesau yng Nghymru os bydd yn parhau.
Ddeuddydd yn ddiweddarach, dywedodd Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ("yr Ysgrifennydd Cabinet") wrth Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig:
At the moment, the picture is very unclear in the sense that we don't know how long the conflict will last and how broad the conflict will be. […] If things are resolved very quickly, then the impact will obviously be much less severe.
Erbyn 17 Mawrth, roedd y Prif Weinidog yn dod i’r casgliad “mae’r effaith yn real, ac mae eisoes yn digwydd”.
Mae'r erthygl hon yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatganiadau Llywodraeth Cymru ynghylch agweddau ar y gwrthdaro. Mae'n dilyn ein herthygl, Y Prif Weinidog yn dweud bod y gwrthdaro yn Iran “yn cael effaith” ar Gymru, a gyhoeddwyd ar 3 Mawrth.
Ar 17 Mawrth, dywedodd y Prif Weinidog o ran cysylltiadau rhwng y DU a'r UDA:
I'm very pleased to see that the UK Prime Minister is resisting pressure from the US President to get more involved in that war, but let's be clear, this war is going to affect us—it already is, and already the people of Wales are struggling with cost-of-living pressures.
We need to see de-escalation, and I know that the responsibility of the Prime Minister is to put our country first. I'm really pleased that lessons have been learned from the Iraq war.
Mewn datganiad ysgrifenedig ar 3 Mawrth, dywedodd y Prif Weinidog:
Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a phartneriaid i ddeall a lliniaru unrhyw effeithiau ar bobl, gwasanaethau a busnesau yng Nghymru.
Ar 5 Mawrth, dywedodd Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog, wrth Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, fod trafodaethau'n digwydd ar y lefel uchaf, a bod y Prif Weinidog yn cael diweddariadau rheolaidd gan Swyddfa'r Cabinet.
Yn ymddangos ochr yn ochr â'r Dirprwy Brif Weinidog, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet fod y cysylltiadau ar draws llywodraethau’n gryf iawn. Esboniodd y Dirprwy Brif Weinidog fod pedwar gweinidog yn cwrdd yn rheolaidd i fonitro datblygiadau, a chyda phartneriaid yn yr UE, oherwydd yr effeithiau posibl ar gadwyni cyflenwi byd-eang.
Ar 5 Mawrth, cadarnhaodd y Dirprwy Brif Weinidog mai’r Prif Weinidog yw prif gyswllt bob amser o ran COBRA ac o ran materion gwytnwch.
Hefyd, ar 5 Mawrth, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet:
Clearly, at the moment, it's a case of preparing for all kinds of eventualities and having those discussions to make sure that those plans are in place.
Obviously, Welsh Government, UK Government, we all have tried and tested emergency and civil contingency procedures in place to deal with unexpected shocks.
Dywedodd fod COVID a'r rhyfel yn Wcráin wedi ‘meithrin ein gallu i fod yn wydn ac ymateb yn gyflym i bethau’.
Ar 3 Mawrth, dywedodd y Prif Weinidog yn y Cyfarfod Llawn:
Mae llawer o Gymry sydd wedi cael eu dal yn y sefyllfa—rhai yn gweithio yno, rhai ar wyliau. Mae diogelwch ein hanwyliaid yn hollbwysig, a dyna lle'r ydym ni wedi bod yn canolbwyntio ein sylw.
Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru yn monitro tarfu ar deithio awyr. Ar 5 Mawrth, cadarnhaodd y Dirprwy Brif Weinidog:
…our officials are engaging with their UK counterparts overseas, including, I have to say, in this very dangerous moment, making sure that the welfare of citizens of Wales and British citizens is looked after as well.
Mae tîm Llywodraeth Cymru yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica yn gweithio mewn dwy swyddfa, gydag un yn Dubai (yr Emiradau Arabaidd Unedig), a’r llall yn Doha (Qatar). Mae’r ddwy swyddfa wedi'u lleoli yn llysgenadaethau Prydain.
Cadarnhaodd y Prif Weinidog ar 3 Mawrth, yn achos holl swyddogion Llywodraeth Cymru yn y rhanbarth, “rydym ni'n ymwybodol o leoliad pob ohonyn nhw ac maen nhw'n ddiogel ac yn iach”.
Ar 5 Mawrth, ychwanegodd y Dirprwy Brif Weinidog:
We have regular welfare check-ins with our staff overseas, but they will engage with their UK Government counterparts as well. So, we have a proper joined-up analysis of what's going on. But also paramount at the moment, I have to say, is their safety and well-being themselves as well.
I weld yr ystadegau masnach diweddaraf rhwng Cymru a gwladwriaethau sy'n ymwneud â'r gwrthdaro, gweler ein herthygl flaenorol.
Yn dilyn cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol dros Fasnach ar 4 Mawrth, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad, sef bod gweinidogion masnach y DU wedi trafod effeithiau masnach posibl, gan gynnwys:
… the importance of making sure that we're ready for any eventuality, given how uncertain things are at the moment, and the way in which things could play out, both in terms of the breadth of the conflict, but then also the timescale of the conflict.
Yn ddiweddarach, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Cabinet y byddai Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach Llywodraeth Cymru yn cwrdd ar 12 Mawrth.
Ar 3 Mawrth, gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad ysgrifenedig a oedd yn dweud:
Byddai cynnydd pellach mewn costau ynni yn effeithio ar gyllidebau aelwydydd drwy brisiau petrol a gwresogi domestig uwch, gyda sgil-effeithiau posibl ar hyder defnyddwyr a'r economi fanwerthu ehangach.
Gallai hyn yn ei dro gynyddu chwyddiant yn uwch, gan olygu bod cyfraddau llog yn aros yn uwch am gyfnod hirach a bod y pwysau costau byw presennol yn parhau.
Ar 5 Mawrth, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet mai’r effaith ar ynni oedd ‘un o'r pryderon uniongyrchol sydd wedi codi droeon’, gan nodi:
…on domestic energy bills, certainly there'll be no immediate impact, and that's because the [energy price] cap was set just before the conflict began. So, that was set for the next three months, with prices actually down 7 per cent for the next three months.
Hefyd, dywedodd:
The situation around energy was much more pronounced, for example, when Russia invaded Ukraine, and we were able to respond quickly there to support households in particular.
Ar 11 Mawrth, ymatebodd yr Ysgrifennydd Cabinet i gwestiwn amserol gan Sioned Williams AS ynghylch goblygiadau’r gwrthdaro o ran costau byw. Mynegodd yr Aelod bryderon a ran y 110,000 (7%) o aelwydydd yng Nghymru sy'n dibynnu ar danwydd gwresogi nad yw'n cael ei warchod gan y cap ar brisiau. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet fod etholwyr wedi cysylltu â hi hefyd, gan ddweud:
… mae'r broblem ar hyn o bryd yn ymwneud ag anwadalrwydd prisiau yn hytrach na chyflenwad. Fodd bynnag, gwyddom fod rhai cyflenwyr yn dal gafael ar gyflenwad gyda'r nod o wneud elw o ganlyniad i hynny.
Fe wnaeth hi bwysleisio bod:
… y gwaith trawslywodraethol yn dda iawn ar hyn o bryd gyda Llywodraeth y DU o ran rhannu gwybodaeth ac o ran ceisio sicrhau bod y diwydiant ei hun yn gweithredu'n gyfrifol.
Dywedodd fod Llywodraeth Cymru:
… yn cynllunio ar gyfer ystod o ganlyniadau yn dibynnu ar lefel y gwrthdaro a pha mor hir y bydd yn para. Ond i adleisio'r pwyntiau a wnaed, mae pob un ohonom yn mawr obeithio am ddatrysiad cyflym.
Mewn datganiad ysgrifenedig ar 12 Mawrth, disgrifiodd yr Ysgrifennydd Cabinet gwestiynau a ofynnwyd i Lywodraeth y DU gan y Prif Weinidog ar oblygiadau'r gwrthdaro o safbwynt ynni.
Ar 15 Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gymorth o £53 miliwn ar gyfer costau olew gwresogi. Bydd Cymru yn cael £3.8m, gydag £17m i Ogledd Iwerddon, £27m i Loegr a £4.6m i'r Alban.
Ar 17 Mawrth, dywedodd y Prif Weinidog yn y Cyfarfod Llawn:
Petrol prices at the pumps are already going up. I am particularly concerned, as you are, about these people who are dependent on oil.
The other people are protected, at least for now,through the price cap. Let me be clear though, that we already have a discretionary assistance fund, and the Fuel Bank Foundation, and people are able to access money there already via their local authorities.
That £3.8 million […] I had the opportunity to speak to the Prime Minister last week about the need to recognise that more people in Wales, proportionately, are dependent on oil for heating their homes. That's been recognised in the amount of money we get proportionately, and that money will now be available to top up what we as a Government already put in.
Fe wnaeth Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, gadarnhau'n ddiweddarach fod Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod yr arian yn seiliedig ar nifer y cartrefi sy’n ddibynnol ar olew gwresogi, nid yn seiliedig ar y fformiwla Barnett. Dywedodd y byddai’n dweud mwy ar y pwnc yn ystod y 24 awr nesaf.
|
Mae Llywodraeth Cymru yn annog unrhyw un sy'n poeni am bris gwresogi eu cartrefi i gysylltu â Nyth, sef ei gwasanaeth cyngor ynni am ddim, i gael cymorth a chefnogaeth. Dywed Llywodraeth Cymru y gall y gwasanaeth hwn hefyd gyfeirio at gymorth arall fel Cronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru a Sefydliad y Banc Tanwydd, sy'n rhoi taliadau untro am danwydd i'r rhai mewn angen. |
Cododd yr Ysgrifennydd Cabinet a’r Dirprwy Brif Weinidog y posibilrwydd o gynnydd mewn prisiau mewn tystiolaeth i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar 5 Mawrth. Fe wnaeth y Dirprwy Brif Weinidog grynhoi hyn fel a ganlyn:
…we are starting to see those concerning signs of the escalation in input prices, fertiliser, feeds, and so on. But we don't know where it will go.
Ar 16 Mawrth, fe wnaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad drafod llythyr gan Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, yn rhoi gwybod am newidiadau i reoliadau tai.
Byddai'r newidiadau arfaethedig yn rhoi esemptiad o'r 'prawf preswylio arferol' i bobl gymwys o'r rhanbarth, sydd angen cael mynediad at lety neu gymorth wrth gyrraedd. Mae unigolion cymwys yn ddinasyddion Prydeinig neu'n unigolion, yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo, sydd wedi cael caniatâd i ddod i mewn i'r DU neu aros ynddi gyda mynediad at arian cyhoeddus.
Esboniodd Jayne Bryant AS y bydd hyn:
yn rhoi cyfle i bobl sy'n ffoi rhag argyfyngau geisio tai neu gymorth digartrefedd yng Nghymru heb oedi gormodol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau tebyg o'r blaen, gan gynnwys mewn ymateb i oresgyniad llawn Rwsia o Wcráin a'r gwrthdaro rhwng Israel a Gaza. Fel mae Jayne Bryant MS yn ei egluro, fodd bynnag, mae'r sefyllfa hon yn wahanol:
Mewn argyfyngau blaenorol, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud diwygiadau rhanbarthol penodol i'r rheoliadau; roedd y dull hwn yn darparu eglurder oherwydd bod y penderfyniad i ymgilio yn ymwneud ag un lleoliad diffiniedig a charfan a oedd wedi'i nodi'n glir.
Nid yw hyn yn wir gyda'r sefyllfa bresennol. Mae'r gwrthdaro presennol wedi'i wasgaru ar draws sawl gwlad, a gall y cwmpas ehangu neu newid yn gyflym. O ganlyniad, nid yw'n bosibl nodi'n hyderus pa wledydd y dylid eu dyfynnu mewn rheoliadau, neu a fyddai'r dewisiadau hynny'n parhau i fod yn gywir hyd yn oed yn y tymor byr.
Felly, ein bwriad yw creu hepgoriad "Argyfwng Cyffredinol" o'r prawf preswylfa fel arfer a fydd yn dod i rym os a phan fydd y Swyddfa Dramor yn rhoi cyngor "gadael nawr" i Ddinasyddion Prydain a'r rhai sydd â chaniatâd i aros yn y DU gyda mynediad at arian cyhoeddus, unrhyw le yn y byd.
Byddai'r cynnig yn gyfyngedig i geisiadau a ddaw o fewn chwe mis i ddyddiad y cyngor "gadael nawr", neu o’r diwrnod cyntaf o ymgilio o’r rhanbarth, pa un bynnag sydd ddiweddaraf; a bydd yn machlud flwyddyn ar ôl i'r diwygiadau ddod i rym.
Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru