Ar 28 Tachwedd, bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, Gwerthu Cymru i’r Byd.
Yn sgil refferendwm Brexit, cyhoeddodd y Prif Weinidog, mewn erthygl ym mhapur newydd The Times, ei fod wedi’i gwneud yn flaenoriaeth, a hynny ar unwaith, i Lywodraeth Cymru fynd allan a gwerthu Cymru i’r byd yn fwy nag erioed.
Yng ngoleuni’r sylw hwnnw, penderfynodd y Pwyllgor gynnal ymchwiliad i sut yr ydym wedi bod yn gwerthu Cymru i’r byd. Canolbwyntiodd yr ymchwiliad ar dri maes: masnach, twristiaeth a sgiliau/hyfforddiant, gan geisio mesur llwyddiant hyd yn hyn, a nodi meysydd i’w gwella.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus dros haf 2017 a chymerodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar yn ei gyfarfodydd trwy gydol mis Medi a mis Hydref 2017.
Ar 5 Hydref 2017, cynhaliodd y Pwyllgor gyfres o gyfarfodydd ym Mrwsel gydag, ymysg eraill, gynrychiolwyr Llysgenhadaeth Prydain, Llysgenhadaeth Canada, Llysgenhadaeth y Swistir, Menter Iwerddon, Scotland Europa a Chenhadaeth Seland Newydd i’r UE a NATO.
Cydnabu’r Pwyllgor y ffaith y gall codi proffil gwlad fach fel Cymru ar y llwyfan byd-eang fod yn her enfawr. Amlygwyd maint y dasg yn ystod yr ymchwiliad hwn pan ddywedodd diplomyddion a swyddogion masnach Canada wrth y Pwyllgor (ym mis Hydref 2017) nad oeddent wedi clywed rhyw lawer am Gymru tan yn ddiweddar.
Ar y llaw arall, dywedodd Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, wrth y Pwyllgor ein bod ni mewn lle cryf iawn ar hyn o bryd, ar draws y portffolio. Dywedodd wrth y Pwyllgor fod Cymru bellach yn ganolbwynt twristiaeth antur yn Ewrop, gyda niferoedd uwch o ymwelwyr nag erioed o’r blaen. Cyfeiriodd at y ffaith bod lefelau buddsoddiadau i Gymru yn y blynyddoedd diwethaf sydd hefyd yn uwch nag erioed o’r blaen yn brawf o enw da Cymru fel lle gwych i wneud busnes ac yn dystiolaeth bod ein hymagwedd gyfeillgar at fusnesau yn talu.
Roedd gan y Cyngor Prydeinig yntau neges gadarnhaol i’r Pwyllgor. Dywedodd fod “ein sectorau addysg uwch ac addysg a hyfforddiant galwedigaethol yn sectorau sydd â chysylltiadau cryf â’r byd”.
Fodd bynnag, trwy gydol yr ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor gan randdeiliaid a oedd am well ymgysylltu â gwahanol weithgareddau rhyngwladol Llywodraeth Cymru, a theimlai’r Pwyllgor yn gyffredinol fod mwy y gellid ei wneud i werthu Cymru i’r byd mewn ffordd strategol a chydgysylltiedig.
Beth wnaeth y Pwyllgor ei argymell?
Gwnaeth y Pwyllgor gyfanswm o 14 argymhelliad. Derbyniodd Llywodraeth Cymru 13 ohonynt, gan dderbyn argymhelliad 4 ‘mewn egwyddor’. Mae’r prif argymhellion yn cynnwys:
- Argymhelliad 1. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried o ddifrif creu swydd benodol yn y Cabinet i gyfuno’r cyfrifoldebau am fasnach ryngwladol a gweithredu Brexit er mwyn rhoi mwy o ffocws i’r maes allweddol hwn a chyfleoedd rheolaidd a strwythuredig ar gyfer craffu.
- Argymhelliad 2. Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth twf allforio i baratoi cwmnïau ar gyfer marchnadoedd rhyngwladol a chynyddu nifer y cwmnïau sy’n allforio.
- Argymhelliad 4. Dylai Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi cylch gwaith manwl ar gyfer y swyddfeydd tramor, a llunio adroddiad i’r Cynulliad bob blwyddyn ar y modd y mae pob swyddfa yn cyflawni’r hyn sydd yn y cynllun busnes. (Derbyniwyd mewn egwyddor)
- Argymhelliad 5. Dylai busnesau a rhanddeiliaid gael gwybod am gylch gwaith y swyddfeydd tramor er mwyn hybu deialog rhyngddynt, a gwneud yn fawr o’r swyddfeydd. Dylai unrhyw swyddfeydd tramor ychwanegol ganolbwyntio ar farchnadoedd sydd â photensial uchel.
- Argymhelliad 6. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut i alluogi ystod ehangach o fusnesau yng Nghymru i gael mynediad i’r brand, ond gan gadw rheolaeth ar y safonau ar yr un pryd.
- Argymhelliad 9. Dylai Llywodraeth Cymru godi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau bach a microfusnesau a darparwyr y trydydd sector i gydweithredu a datblygu pecynnau twristiaeth y gellir eu harchebu yn eu hardaloedd.
- Argymhelliad 11. Dylai Llywodraeth Cymru barhau i lobïo Llywodraeth y DU ar ddatganoli’r Doll Teithwyr Awyr i Gymru.
- Argymhelliad 12. Dylai Llywodraeth Cymru adolygu ei chynlluniau i gefnogi’r diwydiant drwy ddatblygu’r gweithlu ym maes twristiaeth, yng nghyd-destun Brexit.
- Argymhelliad 14. Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi pobl sy’n dymuno byw, gweithio neu astudio dramor. Os na all Cymru elwa o Erasmus + neu Horizon Europe (y rhaglen olynol i Horizon 2020) mwyach, yna dylid ystyried rhaglenni eraill o fewn yr UE a’r tu allan iddo.
Erthygl gan Ben Stokes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru