Golygfa o’r awyr o Fae Caerdydd yn dangos y glan dŵr, olwyn fawr, Adeilad y Pierhead coch a cheirios wedi’u hangori yn y marina

Golygfa o’r awyr o Fae Caerdydd yn dangos y glan dŵr, olwyn fawr, Adeilad y Pierhead coch a cheirios wedi’u hangori yn y marina

Gwelliannau i Fil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) yn ystod Cyfnod 2: Beth newidiodd?

Cyhoeddwyd 12/03/2026

Bydd Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) yn symud gam yn nes at ddod yn gyfraith gwlad yr wythnos nesaf pan fydd y Senedd yn trafod gwelliannau Cyfnod 3.

Nod y Bil yw sefydlu system adalw ar gyfer Aelodau o'r Senedd, atgyfnerthu annibyniaeth cyfundrefn safonau'r Senedd a grymuso Llywodraeth yn y dyfodol i ymdrin â datganiadau ffug neu gamarweiniol a wneir yn ystod ymgyrchoedd etholiadol. Mae ein herthygl flaenorol yn rhoi crynodeb llawn o'r Bil.

Cyn y trafodion Cyfnod 3, mae'r erthygl hon yn edrych yn ôl ar y newidiadau a wnaed yn ystod Cyfnod 2 gan Bwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau.

Newidiadau i'r broses ar gyfer canllawiau adalw

Un o'r llwybrau arfaethedig i Aelod wynebu pôl adalw yw i'r Senedd bleidleisio o blaid cychwyn proses o’r fath yn sgil adroddiad gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad sy'n argymell adalw. O dan y Bil fel y'i cyflwynwyd, dim ond ar ôl i'r Senedd gytuno ar 'ganllawiau adalw' y gallai'r Pwyllgor wneud argymhelliad o'r fath.

Yn dilyn argymhellion a wnaed gan Bwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau yn ystod Cyfnod 1, cytunwyd ar welliannau yn ystod Cyfnod 2 a fydd yn newid y broses ar gyfer cytuno ar y canllawiau hyn.

Yn gyntaf, bydd yn ofynnol i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad lunio canllawiau adalw drafft a chynnal ymgynghoriad cyhoeddus arnynt. Roedd hyn yn bŵer yn ôl disgresiwn yn flaenorol, ond roedd y Pwyllgor o'r farn y dylai fod yn orfodol, o ystyried ei bwysigrwydd i weithrediad y broses adalw.

Yn ail, mae'r trothwy ar gyfer cymeradwyo'r canllawiau adalw wedi'i ostwng. Tra bod y Bil yn wreiddiol yn gofyn am fwyafrif o ddwy ran o dair yn y Senedd, dim ond mwyafrif syml fydd ei angen ar gyfer y canllawiau adalw bellach. Argymhellodd Pwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau fwyafrif syml i sicrhau cysondeb â materion eraill sy'n gysylltiedig â safonau ymddygiad, megis pleidleisiau i benderfynu a ddylid sancsiynu Aelod am ymddwyn yn groes i’r cod ymddygiad ai peidio.

Pwerau ychwanegol i'r Bwrdd Rheoli Etholiadol

Mae'r Bwrdd Rheoli Etholiadol, a sefydlwyd gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn 2025, yn cydgysylltu’r gwaith o weinyddu etholiadau a refferenda yng Nghymru.

Yn ei adroddiad Cyfnod 1 ar y Bil, nododd Pwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau nad oedd y Bil yn ymestyn cylch gwaith y Bwrdd Rheoli Etholiadol i gwmpasu polau adalw. Argymhellodd y Pwyllgor y dylid newid hynny, a chefnogwyd hyn gan y Bwdd Rheoli Etholiadol.

Cafodd gwelliant 55 ei gytuno yn ystod trafodion Cyfnod 2. Mae’n diwygio Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 i ddod â pholau adalw o fewn cwmpas swyddogaethau gweinyddu etholiadol y Bwrdd Rheoli Etholiadol. Hefyd, mae’n caniatáu i'r Bwrdd Rheoli Etholiadol gyfarwyddo swyddogion canlyniadau a swyddogion cofrestru etholiadol mewn perthynas â phleidleisiau adalw.

Gofyniad newydd i benodi aelodau lleyg

Cytunodd y Pwyllgor ar nifer o welliannau i ddarpariaethau'r Bil sy’n gysylltiedig â'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, yn arbennig aelodau lleyg y Pwyllgor hwnnw. Y nod wrth benodi aelodau lleyg - unigolion nad ydynt yn Aelodau o'r Senedd - yw dod ag arbenigedd ac annibyniaeth allanol i waith y Pwyllgor.

Tra’n cefnogi’r egwyddor y tu ôl i’r cynigion yn y Bil, roedd Pwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau o’r farn bod ambell agwedd ar Ran 2 o’r Bil yn rhy ragnodol o ran sut y dylai'r Senedd reoli ei materion ei hun.

Roedd gwelliannau (40-45) a gyflwynwyd gan Lesley Griffiths AS, y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor, yn gwneud nifer o newidiadau i'r Bil, fel a ganlyn:

  • Erbyn hyn, mae’n ofynnol i Reolau Sefydlog y Senedd nodi bod yn rhaid i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad gynnwys un neu fwy o aelodau lleyg;
  • bydd cyfnod pontio tan 7 Mai 2027 cyn i'r gofyniad i benodi aelodau lleyg fod yn weithredol. Bydd hyn yn caniatáu i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad gwblhau unrhyw waith paratoi ac i'r broses recriwtio ddigwydd; a
  • gwnaed newidiadau i'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer aelodau lleyg. Bydd cyn-Aelodau o'r Senedd, yn ogystal â chyn-Aelodau Seneddol, Aelodau o Senedd yr Alban, Aelodau o’r Cynulliad Deddfwriaethol, a chomisiynwyr heddlu a throseddu bellach yn cael eu gwahardd yn barhaol rhag gwasanaethu. Mae'r rhestr o’r rolau sydd wedi’u hanghymhwyso hefyd wedi’i hymestyn i adlewyrchu'r rolau anghymwys sy’n berthnasol i Aelodau o'r Senedd, ac eithrio swyddi barnwrol.

Cymhwysedd a gofynion o ran y Gymraeg ar gyfer y Comisiynydd Safonau

Mae adrannau 19 a 20 o'r Bil yn ymwneud â Chomisiynydd Safonau'r Senedd, sydd â’r brif rôl o ymchwilio i gwynion am ymddygiad Aelodau o'r Senedd.

Cytunwyd ar ddau welliant yn gysylltiedig â'r Comisiynydd yn ystod trafodion Cyfnod 2 y Bil. Mae gwelliant 53 yn darparu y bydd y Comisiynydd Safonau yn rhoi'r gorau i’w swydd os bydd yn dod yn Aelod o Senedd y DU, yn Aelod o Senedd yr Alban, yn Aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon, yn brif gynghorydd neu’n gynghorydd cymuned yng Nghymru neu'n gomisiynydd heddlu a throseddu.

Mae gwelliant 2, a gyflwynwyd gan Julie James AS, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni, yn ychwanegu'r Comisiynydd Safonau at y rhestr o gyrff cyhoeddus a nodir yn Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae hyn yn nodi'r cam cyntaf tuag at wneud y Comisiynydd Safonau yn ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg a rhoi hawliau ychwanegol i siaradwyr Cymraeg wrth iddynt ymgysylltu â'r Comisiynydd. Mae'r gwelliant yn ymateb yn rhannol i argymhelliad 10 yn adroddiad Cyfnod 1 Pwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau.

Dim newid i Ran 3 o'r Bil

Roedd y grŵp olaf o welliannau yn ystod Cyfnod 2 yn ymwneud â Rhan 3 o'r Bil, sy'n cynnwys pwerau dirprwyedig i Weinidogion Cymru ddeddfu yn y dyfodol – drwy Orchymyn – i ymdrin â datganiadau ffug neu gamarweiniol a wneir yn ystod ymgyrchoedd etholiadol.

Nod y gwelliannau hyn, a gyflwynwyd gan Adam Price AS a Sioned Williams AS, yw ceisio ychwanegu manylion ychwanegol at y darpariaethau yn y Bil, i bennu dyddiad cau ar gyfer pryd y byddai'n rhaid i Weinidogion Cymru ddeddfu a sicrhau gwaith craffu manylach gan y Senedd ar Orchymyn yn y dyfodol.

Er gwaethaf y pryderon sylweddol a fynegwyd gan bwyllgorau'r Senedd yn ystod Cyfnod 1 ynghylch creu trosedd drwy is-ddeddfwriaeth, ni chafodd unrhyw welliannau ar y materion hyn eu cytuno ac nid yw Rhan 3 wedi newid. Fodd bynnag, gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol ymrwymo i gynnal trafodaethau ychwanegol gyda'r Aelodau perthnasol cyn y trafodion Cyfnod 3.

Trafodion Cyfnod 3

Caiff trafodion Cyfnod 3 y Bil eu cynnal ddydd Mawrth 17 Mawrth, gan gynnig ail gyfle i wneud gwelliannau. Bydd yr holl Aelodau o'r Senedd yn trafod y gwelliannau arfaethedig cyn pleidleisio arnynt.

Yn ystod Cyfnod 2, gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol sawl ymrwymiad i drafod nifer o faterion gyda'r Aelodau cyn Cyfnod 3. Yn eu plith mae:

  • A ddylai canllawiau adalw gynnwys enghreifftiau manylach o ymddygiad a allai sbarduno pôl adalw;
  • trefniadau anghymhwyso ar gyfer y Comisiynydd Safonau; a
  • darpariaethau ar gyfer panel i wrando ar apeliadau yn erbyn penderfyniadau a wneir gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

Caiff yr holl welliannau a gyflwynir ar gyfer y trafodion Cyfnod 3 eu cyhoeddi ar wefan y Senedd a chaiff y trafodion eu darlledu'n fyw ar Senedd.tv

Erthygl gan Josh Hayman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru