Ers dechrau pandemig y coronafeirws, mae llawer mwy ohonom wedi bod yn gweithio gartref. Mae dadansoddiad gan yr Athro Alan Felstead yn dangos y cyrhaeddodd nifer y bobl yng Nghymru yn gweithio gartref yn unig bron hanner miliwn ym mis Ebrill 2020, ac ychydig dros 300,000 ym mis Tachwedd 2020.
Ym mis Medi 2020, fe wnaeth Llywodraeth Cymru amlinellu ei huchelgais i 30 y cant o'r gweithlu weithio o bell yn rheolaidd, a hynny drwy gyfuniad o weithio gartref ac mewn hybiau gweithio o bell yn agos at gartref. Mae Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau y Senedd wedi bod yn gwneud gwaith ar y pwnc hwn, ac ar 17 Mawrth bydd y Senedd yn trafod ei adroddiad Gweithio o bell: Y goblygiadau i Gymru
Beth yw’r tueddiadau o ran gweithio gartref yn ystod y pandemig?
Mae canran gweithlu Cymru sy'n gweithio gartref wedi cynyddu'n sylweddol ers dechrau'r pandemig. Fe wnaeth gwaith gan yr Athro Felstead ar gyfer y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau nodi mai dim ond 4 y cant o weithlu Cymru oedd yn gweithio gartref yn unig ar ddechrau 2020, ond bod hyn wedi codi i 37 y cant ym mis Ebrill 2020 ac yn 25 y cant ym mis Tachwedd 2020.
Ffynhonnell: Felstead, Outlining the contours of the 'Great Homeworking Experiment' and its implications for Wales'
Yn ôl gwaith ymchwil ar gyfer y Pwyllgor o dan arweiniad Dr Darja Reuschke, yn ystod y pandemig roedd y cynnydd yn nifer y bobl oedd yn gweithio gartref fymryn yn uwch mewn ardaloedd gwledig nag oeddent mewn ardaloedd trefol, mewn cyferbyniad â’r DU.
Mae dadansoddiad yr Athro Felstead hefyd yn nodi nad yw 56 y cant o weithwyr Cymru yn gallu gweithio gartref, sy'n llawer uwch nag unrhyw le arall ym Mhrydain Fawr – roedd y ganran uchaf nesaf oedd Dwyrain Canolbarth Lloegr, lle nad oedd 44 y cant o weithwyr yn gallu gweithio gartref. Mae hyn oherwydd y gwahaniaethau yn y sectorau y mae pobl yng Nghymru yn cael eu cyflogi ynddynt, gyda llai o bobl yn cael eu cyflogi mewn sectorau fel bancio a chyllid, lle bu cynnydd mawr mewn gweithio gartref. Canfu’r gwaith ymchwil o dan arweiniad Dr Reuschke bod y gallu i weithio gartref ar ei uchaf mewn ardaloedd dinesig fel Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd, ac ar ei isaf mewn ardaloedd diwydiannol fel y Cymoedd.
Dywed yr Athro Felstead fod y cynnydd diweddar mewn gweithio gartref wedi bod yn anghymesur ymhlith y rhai sydd â swyddi o ansawdd gwell sy'n talu mwy, gan nodi na wnaeth mwy nag 80 y cant o'r rhai mewn galwedigaethau 'elfennol' fel gweithredwyr peiriannau ffatri a llafurwyr weithio gartref o gwbl yn ystod y cyfnod clo cyntaf. Fe wnaeth Cyngres Undebau Llafur Cymru (TUC) gyhoeddi dadansoddiad a ganfu fod 61 y cant o weithwyr ‘dosbarth canol’ eisiau gweithio gartref yn y dyfodol o’i gymharu â 33 y cant o aelwydydd ‘dosbarth gweithiol’. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru asesu effaith economaidd-gymdeithasol ei pholisi gweithio o bell, a sut y bydd yn cydymffurfio â gofynion y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol, a fydd yn dod i rym ar 31 Mawrth.
Fe wnaeth tystion academaidd a busnes awgrymu bod modd cyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru o 30 y cant, ond bod angen mwy o eglurder ynghylch sut y caiff y targed ei ddiffinio. Dywedodd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain Cymru wrth y Pwyllgor fod y posibilrwydd o gyflawni'r uchelgais yn dibynnu ar y dehongliad o’r targed o 30 y cant, a dywedodd yr Athro Felstead fod angen pwyso ar Lywodraeth Cymru am yr hyn y mae’n ei olygu gan 30 y cant, gan fod hyn yn amwys dros ben. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu diffiniadau clir o weithio o bell a gweithio gartref neu'n agos at gartref er mwyn gallu mesur cynnydd yn fanwl gywir o ran cyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru, a chasglu data cadarn sy'n benodol i Gymru.
Beth fu effeithiau mwy o weithio gartref ar y gweithlu?
Mae astudiaethau o gyflogwyr a gweithwyr wedi dangos bod cynnydd mewn gweithio gartref naill wedi cael effaith gadarnhaol neu ddim effaith ar gynhyrchiant y gweithlu. Canfu astudiaeth y DU gyfan gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain fod cyflogwyr ddwywaith yn fwy tebygol o ddweud bod gweithio o bell wedi cael effaith gadarnhaol ar gynhyrchiant eu cwmni ag yr oeddent o ddweud ei fod yn cael effaith negyddol. Fe wnaeth yr Athro Felstead ganfod ym mis Medi 2020 fod tua 85 y cant o weithwyr yn dweud eu bod yn gwneud tua’r un faint neu fwy o waith wrth weithio gartref.
Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth y cafodd y Pwyllgor o Gymru a gweddill y DU, y Ffindir a'r Iseldiroedd yn nodi nifer o feysydd lle mae heriau wedi dod i'r amlwg. Dywedodd Ffederasiwn y Busnesau Bach Cymru fod llawer o weithwyr wedi bod yn gweithio oriau hirach, a bod y ffiniau rhwng bywyd cartref a gwaith wedi chwalu. Tynnodd sylw hefyd at bryderon ynghylch effaith gweithio o bell ar greadigrwydd ac arloesedd. Fe wnaeth CBI Cymru nodi bod gweithwyr mewn sectorau fel bancio wedi bod yr un mor gynhyrchiol i ddechrau, ond bod yr anawsterau o weithio ar eu pennau eu hunain mewn rolau sy'n ymdrin â llawer o gwsmeriaid mewn trallod yn effeithio ar gynhyrchiant ac iechyd meddwl rhai ohonynt wrth i amser fynd yn ei flaen.
Nid yw hawliau cyflogaeth wedi'u datganoli i'r Senedd, a mynegodd y Pwyllgor bryder bod hyn yn golygu bod gan Lywodraeth Cymru lai o ffyrdd o amddiffyn hawliau gweithwyr o bell, ond nododd serch hynny fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gyflwyno Bil Cyflogaeth y DU gyfan. Galwodd TUC Cymru ar Lywodraeth Cymru i ystyried defnyddio deddfwriaeth partneriaeth gymdeithasol i gefnogi hawliau cyflogaeth, a datblygu a monitro mesurau gwaith teg mewn perthynas â gwaith o bell drwy'r Contract Economaidd sydd ganddi gyda busnesau y mae'n eu cefnogi'n ariannol. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru nodi sut y mae'n bwriadu defnyddio ei mesurau datganoledig i amddiffyn a hyrwyddo hawliau'r rhai sy'n gweithio o bell, a dylai hefyd fanylu ar yr hyn y byddai am ei weld o ddeddfwriaeth cyflogaeth y DU gyfan mewn perthynas â hawliau gweithwyr o bell.
Mae gweithio gartref wedi cael gwahanol effeithiau ar draws gwahanol grwpiau yn y boblogaeth. Dywedodd Legally Disabled? wrth y Pwyllgor fod tystiolaeth yn awgrymu y gallai sicrhau bod mwy o gyfleoedd i weithio o bell olygu manteision cadarnhaol eang i bobl anabl. Canfu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar ddechrau'r pandemig, fod menywod yn treulio llawer llai o amser yn gwneud gwaith â thâl na dynion wrth weithio gartref, ond eu bod yn treulio mwy o amser ar ofal plant a gwaith tŷ di-dâl. Fodd bynnag, mae tystiolaeth gan yr Athro Abigail Marks a’r TUC yn canfod bod gofyn i lawer o famau gyfuno gwaith amser llawn ag addysg gartref a gwaith tŷ – yn aml yn gweithio'n gynnar iawn neu'n hwyr iawn yn y dydd i wneud eu horiau. Dywedodd Chwarae Teg y gallai cefnogi gweithio o bell fel rhan o strategaeth ehangach i sefydlu gweithio ystwyth helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhwng dynion a menywod.
Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru nodi sut y mae'n prif ffrydio cydraddoldeb wrth ddatblygu ei pholisi gweithio o bell, a chyhoeddi asesiad effaith integredig cyn gynted â phosibl.
Sut mae cynnydd mewn gweithio gartref wedi effeithio ar y stryd fawr a chanolfannau trefol?
Mae’r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar y stryd fawr, gan waethygu problemau yr oedd y sector manwerthu eisoes yn eu hwynebu, gyda newid mawr i siopa ar-lein yn ystod y pandemig. Cafodd y newid hwn i siopa ar-lein ei ddisgrifio fis Hydref diwethaf gan Gonsortiwm Manwerthu Cymru fel gwerth pum mlynedd o drawsnewid yn digwydd mewn cyfnod o bum mis. Mae hyn i’w weld mewn data gan y Local Data Company, sy'n dangos bod canolfannau siopa, y stryd fawr a pharciau manwerthu i gyd wedi gweld dirywiad mewn meddiannaeth manwerthu yn ystod hanner cyntaf 2020. Y gyfradd safleoedd manwerthu gwag yng Nghymru yn hanner cyntaf 2020 oedd 17.7 y cant, sy’n uwch nag unrhyw ran arall o'r DU ac eithrio Gogledd-ddwyrain Lloegr.
Ffynhonnell: Local Data Company, GB Retail and Leisure Market Analysis, H1, 2020
Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru o’r farn, yn y tymor hir, y gall defnydd symud o ganolfannau trefol i'r maestrefi, wrth i bobl dreulio mwy o amser yn gweithio gartref neu yn eu hardal leol. Mae’n awgrymu bod hyn yn fwy tebygol o effeithio ar ganol trefi a chanolfannau trefol mawr yn fwy na threfi llai, gan fod y cwmnïau mwy o faint sy'n fwy tebygol o annog gweithio o bell yn fwyaf tebygol o fod wedi’u crynhoi mewn canolfannau trefol.
Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno strategaeth fanwerthu a chynllun i ymateb i dueddiadau gweithio o bell, a gosod llwybr clir ar gyfer y sector hwnnw.
Fodd bynnag, mae optimistiaeth bod modd addasu canol trefi a dinasoedd lle mae angen gwneud hyn. Dywedodd Town Square eu bod yn credu bod cyfle enfawr i greu dinasoedd byw, ac fe wnaeth IndyCube Cymru nodi bod pobl yn ymgynnull mewn canolfannau trefol oherwydd eu bod nhw'n hoffi'r wefr a’r profiad, ac mai’r peth pwysig yw creu'r cynnig hwnnw eto yng nghanol dinasoedd a rhoi hyblygrwydd i bobl weithio'n agosach at gartref. Mae’r elfennau a allai greu'r profiad hwnnw mewn byd ar ôl y pandemig yn cynnwys profiadau diwylliannol a mwy o fannau gwyrdd agored.
Beth yw rhannu mannau gwaith, a beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu hybiau gweithio o bell?
Mae gwaith ymchwil ar gyfer y Pwyllgor dan arweiniad Dr Darja Reuschke yn nodi mai ystyr rhannu mannau gwaith yn draddodiadol yw gweithwyr proffesiynol annibynnol yn rhannu gweithleoedd cydweithredol, sy’n caniatáu iddynt gwrdd â phobl o’r un anian ac atal arwahanrwydd cymdeithasol. Yng Nghymru, mae hyn yn golygu rhannu llawer mwy o fannau gwaith dielw a chydweithredol na gweddill y DU, gan gynnwys yn y Cymoedd ac ardaloedd gwledig.
Ffynhonnell: Reuschke, Clifton a Long, Remote working – spatial implications in Wales
Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu cynlluniau i edrych ar ddatblygu rhwydwaith o hybiau gweithio o bell mewn trefi a chymunedau, ac mae wedi cyhoeddi nifer o brosiectau peilot. Ar hyn o bryd, mae'n gofyn i bobl ddweud ble yng Nghymru yr hoffent rannu mannau gwaith, a hynny drwy ymgynghoriad yn defnyddio mapiau rhyngweithiol. Mae TUC Cymru hefyd wedi gwneud dadansoddiad o’r galw yn y dyfodol am rannu mannau gwaith, a chanfu hyn y byddai 17 y cant ymatebwyr yn debygol o weithio o hyb rhannu man gwaith am o leiaf un diwrnod yr wythnos. Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi nodi y gallai fod mwy o awydd am leoedd gwaith a hybiau lleol, ond nad oes tystiolaeth ar gyfer hyn ar hyn o bryd, ac y dylid gweld a gwirio beth yw’r angen cyn bwrw ymlaen ag unrhyw fuddsoddiad sylweddol. Adleisiodd argymhellion y Pwyllgor y thema hon, gan alw ar Lywodraeth Cymru i gael mwy o dystiolaeth yngylch lleoedd ar gyfer rhannu mannau gwaith.
Fe wnaeth y gwaith a arweiniwyd gan Dr Reuschke nodi bod Milan yn enghraifft o arfer da o ran cefnogi hybiau rhannu mannau gwaith, a gweithio’n agosach at adref. Mae Milan wedi nodi lleoedd y gellid eu defnyddio ar gyfer rhannu nmannau gwaith, wedi achredu lleoedd addas ar gyfer rhannu mannau gwaith, ac wedi darparu cyllid ar y cyd i'w datblygu; mae wedi datblygu cynllun talebau sy'n rhoi hyd at €1,500 i weithwyr gael gweithio mewn lleoedd sydd wedi’u hachredu. Mae'r Pwyllgor wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru nodi ei chynlluniau ar gyfer darparu cymorth ariannol a chymorth arall i'r rhwydwaith presennol o hybiau rhannu mannau gwaith yng Nghymru.
Sut mae’r dyfodol yn ymddangos ar gyfer gweithio o bell?
Fel y mae adroddiad y Pwyllgor yn ei nodi, fe wnaeth addysgu plant gartref, cathod a chŵn i gyd ynmddangos yn ystod ei sesiynau tystiolaeth, sy’n dangos rhai o anawsterau gweithio gartref heb yr amodau cywir. "Y gobaith a'r disgwyliad cyffredinol yw y bydd model hybrid iachach o weithio hyblyg yn dod i'r amlwg”. Fodd bynnag, mae angen mynd i'r afael â nifer o heriau i gyflawni hyn ar gyfer y rheini sy'n gallu gweithio o bell, gan hefyd ystyried anghenion y rheini sy’n methu gwneud hynny, neu y byddai'n well ganddynt ddychwelyd i'r gweithle.
Gallwch wylio'r ddadl ar Senedd TV ar 17 Mawrth.
Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru