Mae’r berthynas â’r UE yn gysylltiad rhyngwladol pwysig i Gymru. Dyma ei phartner masnachu mwyaf o bell ffordd, ac mae tystiolaeth i bwyllgorau’r Senedd yn dangos arwyddocâd y berthynas â phobl a sefydliadau yng Nghymru ar faterion fel hawliau dinasyddion, artistiaid ar deithiau, masnach, mynediad at raglenni'r UE, newid hinsawdd a rhannu data. Oherwydd hynny, mae cynnig Llywodraeth y DU i ailosod cysylltiadau rhwng y DU a'r UE yn bwysig i Gymru.
Mae'r erthygl hon yn amlinellu blaenoriaethau Cymru, y DU a'r UE ac yn cynnwys llinell amser o ddatblygiadau allweddol ers y cyhoeddiad ym mis Gorffennaf 2024 y byddai’r DU yn ‘ailosod’ cysylltiadau.
Blaenoriaethau
Mae disgwyl i’r DU a’r UE ddechrau trafodaethau manylach yn dilyn uwchgynhadledd ar 19 Mai, a gynhelir gan y DU. Ond mae dod o hyd i ffordd ymlaen yn debygol o fod yn gryn her, gyda’r UE a’r DU yn amlinellu blaenoriaethau gwahanol, ac ar adegau, rhai sy’n cystadlu â’i gilydd.
Mewn datganiadau, areithiau a chyfarfodydd, ceir rhyw syniad o'r hyn y mae pob partner yn dymuno ei gael o'r berthynas. Ar adegau maent yn cyd-fynd, ond mae gwahaniaethau amlwg rhwng y materion sy’n cael sylw. Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu ei blaenoriaethau ei hun hefyd, gyda’r Prif Weinidog yn dweud ei bod hi eisiau cysylltiadau mor agos â phosibl.
Mae’r UE wedi dweud na ellir gwneud unrhyw gynnydd heb i'r cytundebau presennol gael eu gweithredu'n llawn – mae hyn yn cynnwys y Cytundeb Ymadael a’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu. Mae gan Lywodraeth y DU linellau coch clir – dim undeb tollau, dim Marchnad Sengl a dim symudiad rhydd pobl.
Ni fydd y rhai sy'n gyfarwydd â Brexit yn synnu y gallai hawliau pysgota fod yn ffactor sy’n rhwystro cynnydd. Mae pysgodfeydd yn faes allweddol o'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu ac mae adroddiadau yn nodi bod yr UE yn annhebygol o fwrw ymlaen â blaenoriaethau’r DU hyd nes y bydd materion hawliau pysgota wedi’u datrys.
Mae’r cwymplenni isod yn rhoi mwy o fanylion am flaenoriaethau’r DU, yr UE a Chymru ar gyfer cysylltiadau rhwng y DU a’r UE.
Wrth annerch Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE ym mis Mawrth, rhestrodd y Gweinidog Cysylltiadau â’r UE, Nick Thomas-Symonds AS, dair blaenoriaeth Llywodraeth y DU. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Diogeledd: Mae'r DU yn dymuno negodi partneriaeth diogeledd ac amddiffyn;
- Diogelwch: Mae'r DU yn dymuno sicrhau mwy o gydweithredu i fynd i'r afael â materion fel masnachu mewn pobl;
- Ffyniant: Mae’r DU yn dymuno adeiladu ar y strwythurau fel y Cytundeb Masnach a Chydweithredu a Fframwaith Windsor i chwalu rhwystrau masnach. Mae hefyd yn am negodi cytundeb iechydol a ffytoiechydol.
Yng Nghynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE, rhestrodd Maroš Šefčovič, Comisiynydd yr UE dros Fasnach a Diogelwch Economaidd, dri maes blaenoriaeth eang ar gyfer gwella cydweithredu strategol gyda’r DU. Y rhain oedd:
- Diogelwch a gwydnwch: Mae’r UE am weld cydweithredu dyfnach a mwy strwythuredig.
- Cysylltiadau rhwng pobl: Mae hyn yn cynnwys symudedd ieuenctid;
- Amddiffyn y blaned: Nod yr UE yw cydgrynhoi a datblygu cydweithrediad ar bysgodfeydd, yr hinsawdd, ac ynni a materion iechydol a ffytoiechydol.
Mewn erthygl flaenorol, gwnaethom dynnu sylw at y ffaith y bydd unrhyw ailosod yn debygol o gynnwys negodi cynllun symudedd ieuenctid.
Ym mis Ionawr, rhestrodd y Prif Weinidog naw blaenoriaeth ar gyfer yr adolygiad o weithredu’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu. Y rhain oedd:
- Yr angen am gytundeb ar faterion milfeddygol ac iechyd planhigion;
- Mynd i'r afael â materion yn ymwneud â symudedd gweithwyr a darparu gwasanaethau;
- Yr angen am well trefniadau ar Gydnabod Cymwysterau Proffesiynol yn Gilyddol;
- Archwilio opsiynau i ailymuno â rhaglenni'r UE fel Erasmus ac Ewrop Greadigol;
- Sicrhau cadw Digonolrwydd Data'r UE ar gyfer busnesau o Gymru sy'n masnachu gyda'r UE;
- Ceisio Cytundebau Cydnabyddiaeth Gilyddol, yn enwedig ar asesiadau cydymffurfiaeth i leihau unrhyw ddrwg deimlad o ran masnach;
- Mynd i'r afael â materion allforio sy’n ymwneud â molysgiaid dwygragennog byw;
- Trafodaethau ynghylch rheolau tarddiad er mwyn galluogi busnesau i ddefnyddio cadwyni cyflenwi mwy a masnachu’n ddi-dariff;
- Trefniadau masnachu trydan
Y broses ailosod hyd yn hyn...
Mae cyfres o gyfarfodydd rhwng y DU a’r UE wedi bod ers i Lywodraeth y DU ddod i rym ym mis Gorffennaf. Mae’r cwymplenni isod yn rhestru’r datblygiadau perthnasol ers mis Gorffennaf:
- Aeth y Prif Weinidog, Keir Starmer AS, i gyfarfod Cyngor yr UE i drafod materion amddiffyn. Dyma’r tro cyntaf i Brif Weinidog y DU fod yn bresennol ers Brexit.
- Awgrymodd Maroš Šefčovič y gallai’r DU ymuno â’r Confensiwn Pan-Ewro-Canoldir, a allai symleiddio rheolau tarddiad. Adroddwyd bod Nick Thomas-Symonds AS wedi ymateb nad oes gan y DU unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ymuno â’r Confensiwn.
- Bu Rachel Reeves AS, Canghellor Trysorlys y DU, yn annerch cyfarfod o weinidogion cyllid yr UE. Galwodd unwaith eto am ailosod cysylltiadau rhwng y DU a’r UE fel modd o chwalu rhwystrau i fasnach.
- Cyfarfu Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, a'r Prif Weinidog, Keir Starmer AS, i drafod cydweithredu strategol. Adroddwyd bod Llywydd y Comisiwn wedi dweud y dylai’r DU a’r UE archwilio’r posibilrwydd o fwy o gydweithredu ond ychwanegodd fod angen ffocws ychwanegol ar weithredu pob cytundeb Brexit yn llawn ac yn gywir.
- Aeth David Lammy AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor, y Gymanwlad a Datblygu, i un o gyfarfodydd rheolaidd gweinidogion tramor yr UE. Nododd adroddiad gan y BBC y byddai ei bresenoldeb yn rhan o waith ymgysylltu mwy rheolaidd, gyda chynlluniau ar gyfer gweithio’n agosach ar faterion rhyngwladol.
- Cyfarfu’r Prif Weinidog, Keir Starmer AS, â Changhellor yr Almaen ar y pryd, Olaf Scholz, ac Arlywydd yr Almaen, Frank-Walter Steinmeier, i lansio trafodaethau ar gytundeb dwyochrog newydd. Dywedodd y ddwy ochr eu bod yn bwriadu cytuno ar y bartneriaeth yn gynnar yn 2025.
- Aeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor, Materion y Gymanwlad a Materion Datblygu, David Lammy AS, ar ymweliadau â’r Almaen, Gwlad Pwyl a Sweden, lle y bu’n trafod cynigion ar gyfer cytundeb diogelwch rhwng yr UE a’r DU.
- Cynhaliodd y Prif Weinidog, Keir Starmer AS, bedwerydd uwchgynhadledd y Gymuned Wleidyddol Ewropeaidd ym Mhalas Blenheim. Yn ystod yr Uwchgynhadledd, dywedodd Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, na fyddai’r DU yn gallu dewis a dethol bargen newydd.
- Ymwelodd Nick Thomas-Symonds AS â Brwsel i gyfarfod â Maroš Šefčovič.
Y camau nesaf
Mae’r ailosod yn cyd-daro ag adolygiad gweithredu’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu, sydd i fod i gael ei gynnal erbyn 2026. Er bod yr adolygiad a'r ailosod yn brosesau ar wahân, dywedodd Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop y bydd yr adolygiad yn allweddol wrth lunio perthynas rhwng yr UE a’r DU sy’n edrych i’r dyfodol. Mae pedwar o Bwyllgorau'r Senedd yn cymryd tystiolaeth yn ei gylch a byddant yn cyhoeddi adroddiad yn ystod y misoedd nesaf.
Tan hynny, mae’r sylw i gyd ar y garreg filltir nesaf mewn cysylltiadau rhwng y DU a’r UE, sef yr uwchgynhadledd ar 19 Mai. Gyda gwahaniaethau eisoes yn dod i’r amlwg ym mlaenoriaethau’r DU, yr UE a Chymru, amser a ddengys a gaiff gofynion Llywodraeth Cymru eu hadlewyrchu mewn unrhyw gytundebau yn y dyfodol.
Erthygl gan Madelaine Phillips, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru