Amheuir bod gan nifer o blant ac oedolion yng Nghymru gyflyrau niwroddatblygiadol.
Mae ein papur briffio newydd yn darparu gwybodaeth a data am wasanaethau niwroddatblygiadol yng Nghymru.
Mae’n canolbwyntio ar y galw am wasanaethau diagnostig niwroddatblygiadol, pa wasanaethau sydd ar gael, a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru i ddatblygu a gwella’r gwasanaethau a gynigir yng Nghymru.
Mae hefyd yn rhoi atebion i rai cwestiynau cyffredin am hawliau oedolion a phlant â chyflyrau niwroddatblygiadol o ran addysg a gofal cymdeithasol.
Erthygl gan Gwennan Hardy, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru