Cyhoeddwyd 01/04/2014
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
1 Ebrill 2014
Erthygl gan Sarah Hatherley, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="675" align="alignright" width="300"]
Llun o Flickr gan Chris Sampson. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]
Mae GIG Cymru dan bwysau o sawl cyfeiriad a does yr un gwasanaeth dan fwy o bwysau na’i wasanaethau gofal heb ei drefnu. Y gaeaf diwethaf, dywedodd y Byrddau Iechyd y bu mwy o alw am eu gwasanaethau nag erioed o’r blaen; rhybuddiodd cyrff proffesiynol nad oedd adrannau achosion brys yn gallu ymdopi ac roedd pryder am ddiogelwch a safon y gofal a gynigiwyd i gleifion. Mae’r pwysau wedi ysgafnhau rhywfaint yn ystod y gaeaf hwn, sydd wedi bod yn gymharol fwyn o’i gymharu â’r llynedd.
Felly, i ba raddau y llwyddodd GIG Cymru a’r gwasanaethau cymdeithasol i ymdopi â gaeaf 2013/14 ac a yw sefyllfa’r GIG wedi gwella oherwydd hynny?
Perfformiad
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau
ystadegau newydd sy’n dadansoddi perfformiad mewn nifer o agweddau ar ofal heb ei drefnu - o berfformiad y gwasanaeth ambiwlans brys i nifer yr achosion o Ohirio Trosglwyddo Gofal.
- Adrannau achosion brys – Mae’r data diweddaraf am yr amser y bydd cleifion yn ei dreulio yn adrannau damweiniau ac achosion brys GIG Cymru – a ryddhawyd ar 12 Chwefror 2014 - yn dangos bod 89.4 y cant o gleifion, ym mis Rhagfyr 2013, wedi’u derbyn i’r ysbyty, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau lai na 4 awr wedi iddynt gyrraedd yr adran. Y targed yw sicrhau bod 95 y cant o gleifion yn cael eu derbyn i’r ysbyty, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau lai na 4 awr wedi iddynt gyrraedd cyfleusterau gofal brys. Mae’r data hefyd yn dangos bod 849 o gleifion (1.1%), ym mis Rhagfyr 2013, wedi cael eu derbyn i’r ysbyty, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau 12 awr neu ragor wedi iddynt gyrraedd yr adran. Roedd hyn yn ostyngiad mawr o’i gymharu â’r 2,250 ym mis Ebrill 2013 pan gyflwynwyd y targed ac mae’r ffigur wedi aros rhwng 770 a 905 ers mis Medi 2013.
- Amseroedd ymateb y gwasanaeth ambiwlans – Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ystadegau bob mis am berfformiad gwasanaethau ambiwlans Cymru gan gynnwys ymateb brys i alwadau categori A (pan fo bywyd yn y fantol) gan awdurdod unedol, y Bwrdd Iechyd Lleol a rhanbarth y gwasanaeth ambwilans. Mae’r ffigurau diweddaraf – a gyhoeddwyd ar 26 Mawrth 2014 - yn dangos bod 52.8 y cant o ymatebion brys i alwadau categori A (pan fo bywyd yn y fantol) wedi cyrraedd cyn pen 8 munud – sy’n llai na’r 57.6 y cant a gofnodwyd ar gyfer mis Ionawr 2014 a’r 60.8 y cant a gofnodwyd ar gyfer mis Chwefror 2013 – islaw’r targed o 65 y cant.
- Gohirio Trosglwyddo Gofal – Mae’r data diweddaraf sydd ar gael – a gyhoeddwyd ar 27 Mawrth 2014 - yn dangos bod y broses o drosglwyddo gofal wedi’i ohirio yn achos 430 o gleifion ym mis Chwefror 2014, sef cynnydd o 47, neu 12.3 y cant, o’i gymharu â mis Ionawr, ond 11 (2.5 y cant) yn llai o’i gymharu â mis Chwefror 2013. Y prif resymau dros ohirio trosglwyddo gofal oedd problemau gofal iechyd (28 y cant o’r holl achosion); problemau gofal yn y gymuned (23 y cant); aros am le mewn cartref gofal (16 y cant); a dewis cartref gofal (15 y cant).
Targedau iechyd newydd
Ar
26 Mawrth 2014 , cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y bydd
rhai targedau ar gyfer gofal heb ei drefnu yn newid o fis Ebrill 2014 ymlaen; mae hyn yn cynnwys y targed ar gyfer amser ymateb presennol y gwasanaeth ambiwlans ac amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys. Am flwyddyn, bydd y targedau newydd yn cydredeg â’r targedau presennol a bydd y Gweinidog yn penderfynu ar y ffordd ymlaen wedi hynny.
Dyma
dargedau cenedlaethol presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau gofal brys:
- Adrannau achosion brys: yn achos cleifion newydd, dylai 95% ohonynt gael eu derbyn i’r ysbyty, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau cyn pen pedair awr wedi iddynt gyrraedd yr adran; dylai 99% gael eu derbyn i’r ysbyty, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau cyn pen wyth awr wedi iddynt gyrraedd;
- Amseroedd ymateb y gwasanaeth ambiwlans: 65% o ymatebion i alwadau categori A (pan fo bywyd yn y fantol) yn cyrraedd cyn pen 8 munud ar gyfartaledd drwy Gymru gyfan bob mis. O leiaf 60% o ymatebion i alwadau categori A yn cyrraedd cyn pen wyth munud bob mis ym mhob awdurdod unedol;
- Trosglwyddo cleifion o ambwilans i adran achosion brys: ni ddylai unrhyw glaf dreulio mwy na 15 munud cyn cael ei drosglwyddo o ambwilans brys i adran achosion brys mawr.
Y pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Bydd
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad yn ystyried y cynnydd a wnaed o ran rhoi rhaglen Llywodraeth Cymru ar waith ar gyfer gofal heb ei drefnu – a hynny
ddydd Iau, 3 Ebrill 2014, pan fyddant yn cyfarfod â’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd y Pwyllgor yn holi’r Gweinidogion am y pwysau sy’n wynebu gwasanaethau gofal heb ei drefnu; pa mor barod oedd GIG Cymru a’r gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer gaeaf 2013/14; ac a yw’r camau y mae’r Byrddau Iechyd a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi’u cymryd hyd yma i wella perfformiad gwasanaethau a diogelwch cleifion yn gynaliadwy.