Gwasanaethau bws ar system cynnal bywyd: sut y mae’r sefyllfa hon wedi cyrraedd?

Cyhoeddwyd 07/12/2023   |   Amser darllen munudau

Mae cyflwr presennol gwasanaethau bysiau Cymru wedi’i godi fel pryder gan aelodau o'r cyhoedd sy’n teithio, yn ogystal â chynrychiolwyr y diwydiant bysiau.

Yr erthygl hon yw'r gyntaf o gyfres ddwy ran sy'n edrych ar wasanaethau bws. Ynddi, rydym yn ystyried yr heriau y mae'r diwydiant yng Nghymru yn ei hwynebu ac yn archwilio'r hyn sydd y tu ôl i faterion perfformiad. Mae'r ail erthygl yn nodi’r diwygiadau bws arfaethedig.

Mae nifer y teithwyr ar fysiau a’r defnydd ohonynt wedi gostwng

Mae nifer y teithiau bws i deithwyr wedi bod yn gostwng ym Mhrydain (y tu allan i Lundain) dros y ddau ddegawd diwethaf. Yng Nghymru, cafwyd gostyngiad chwarter yn nifer y teithiau i deithwyr fesul pen rhwng 2004-05 a 2018-19 (Ffigur 1).

Ar ddechrau'r pandemig, cafwyd cwymp yn nifer y teithiau i deithwyr. Yn 2020-21, gostyngodd nifer y teithiau i deithwyr fesul pen yng Nghymru i oddeutu chwarter y lefelau cyn y pandemig (Ffigur 1). Mae'r niferoedd teithwyr hyn wedi cael trafferth adfer. Yn 2021-22 dim ond hanner y lefel cyn COVID oeddent (Ffigur 1).

Mae Ffigur 1 hefyd yn dangos bod teithiau fesul pen wedi bod yn gyson is yng Nghymru mewn cymhariaeth â rhannau eraill o'r DU dros y ddau ddegawd diwethaf, ac yn arafach i adfer yn dilyn y pandemig. Yn 2021-22, roedd nifer y teithiau fesul pen yn yr Alban 2.5 gwaith yn uwch, ac yn Lloegr (y tu allan i Lundain) 1.7 gwaith yn uwch, nag yng Nghymru.

Mae Ffigur 2 yn dangos tuedd debyg ar gyfer y defnydd o fysiau ers COVID-19. Gostyngodd y defnydd cyfartalog o fysiau fwy na hanner yn dilyn y pandemig, ac roedd yn dal i fod yn is na'r lefelau cyn COVID yn 2021-22.

Ffigurau: Teithwyr a defnydd

Dewiswch ffigur:
Teithiau teithwyr y pen
Y defnydd cyfartalog o fysiau

Ffigur1: Nifer y teithiau i deithwyr ar wasanaethau bws lleol yng Nghymru y pen, mewn cymhariaeth â Lloegr (y tu allan i Lundain) a'r Alban

Ffynhonnell: Llywodraeth y DU - Data'r Adran Drafnidiaeth, dadansoddiad Ymchwil y Senedd.

Mae'r teithiau bws yn cynnwys teithiau nad ydynt gan breswylwyr, a phreswylwyr yn unig a ystyrir fel rhan o’r boblogaeth.

Ffigur 2: Y defnydd cyfartalog o fysiau yng Nghymru, mewn cymhariaeth â Lloegr (y tu allan i Lundain) a'r Alban

Ffynhonnell: Llywodraeth y DU - Data'r Adran Drafnidiaeth, dadansoddiad Ymchwil y Senedd.

Mae lefelau gwasanaethau bws yn is

Mae Ffigur 3 yn dangos gostyngiad tymor hir ym mhellter teithio bysiau lleol yng Nghymru dros yr ugain mlynedd diwethaf, sy’n nodi gostyngiad yn y cyflenwad o fysiau. Gostyngodd y pellter hwn bron un rhan o bump o 2004-05 i 2018-19. Yna, gostyngodd fwy na thraean oherwydd y pandemig, ac nid yw wedi dychwelyd i’r lefelau cyn COVID eto.

Mae adroddiadau gan Gydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru a Centre for Cities wedi tynnu sylw at y mater hwn. At hynny, dangosodd Centre for Cities y canlynol:

Wales was the nation in Great Britain where bus services… shrunk the most.

Dangosodd ymchwil gan Brifysgol Leeds ar ran Cyfeillion y Ddaear fod gwasanaethau gyda'r hwyr/nos a gwasanaethau gwledig yn arbennig o wael y tu allan i Lundain, gyda Chymru yn un o ranbarthau'r DU â'r gostyngiad mwyaf mewn gwasanaethau bysiau ers 2008.

Ffigur:3 Milltiroedd cerbydau ar wasanaethau bysiau lleol yng Nghymru

 

(Ffynhonnell: Llywodraeth y DU - Data'r Adran Drafnidiaeth), dadansoddiad Ymchwil y Senedd

Mae costau gweithredu bysiau wedi goddiweddyd y refeniw gweithredu

Mae prisiau tocynnau bws yng Nghymru, wedi'u haddasu ar gyfer chwyddiant, wedi cynyddu bron un rhan o bump yn ystod y ddau ddegawd diwethaf (Ffigur 4).

Dros y pymtheng mlynedd diwethaf, mae cyfran y tocynnau rhatach hefyd wedi cynyddu fwy nag un rhan o ddeg. Mae wedi bod yn gyson uwch nag yn yr Alban a Lloegr (y tu allan i Lundain) dros yr un cyfnod (Ffigur 5).

Gall hyn fod yn broblem i weithredwyr. Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol nad yw gweithredwyr yn well nac yn waeth eu byd o ganlyniad i gludo teithwyr ar docynnau rhatach, sy'n golygu nad yw awdurdodau lleol yn ad-dalu’r pris llawn iddynt.

Mae costau gweithredu a refeniw Cymru fesul taith i deithwyr wedi bod yn uwch o'u cymharu â'r Alban a Lloegr (y tu allan i Lundain) dros y ddau ddegawd diwethaf (Ffigur 6). Fodd bynnag, mae'r gwahaniaeth rhwng Cymru a'r gwledydd eraill yn fwy ar gyfer costau gweithredu na refeniw.

Ers 2013-14, mae’r costau gweithredu hefyd wedi bod yn uwch na’r refeniw yng Nghymru (Ffigur 7).

Ffigurau: Cost a refeniw

Dewiswch ffigur:
Mynegai tocynnau bws lleol
Cyfran y tocynnau rhatach
Refeniw a chost weithredol fesul taith y teithiwr
Cymhariaeth rhwng y refeniw a’r gost weithredol fesul taith y teithiwr

Ffigur 4: Mynegai prisiau tocynnau bws lleol yng Nghymru mewn prisiau cyson wedi'u haddasu ar gyfer chwyddiant (Mawrth 2005=100)

Ffynhonnell: Llywodraeth y DU - Data'r Adran Drafnidiaeth, dadansoddiad Ymchwil y Senedd.

Ffigur 5: Cyfran y prisiau tocynnau rhatach (gan gynnwys cynlluniau i’r henoed, pobl anabl a phobl ifanc) yng Nghymru, o'i chymharu â Lloegr (y tu allan i Lundain) a'r Alban

 

Ffynhonnell: Llywodraeth y DU - Data'r Adran Drafnidiaeth, dadansoddiad Ymchwil y Senedd.

Tocynnau rhatach, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer yr henoed, pobl anabl a phobl ifanc

Dewiswch is-ffigur:

a) Cost weithredol
b) Refeniw gweithredol

Ffigur 6a: Cost gweithredu fesul taith i deithwyr ar wasanaethau bws lleol yng Nghymru, o'i chymharu â Lloegr (y tu allan i Lundain) a'r Alban (mewn prisiau cyson wedi'u haddasu ar gyfer chwyddiant)

Ffynhonnell: Llywodraeth y DU - Data'r Adran Drafnidiaeth, dadansoddiad Ymchwil y Senedd.

Ffigur 6b: Refeniw gweithredu fesul taith i deithwyr ar wasanaethau bws lleol yng Nghymru, o'i chymharu â Lloegr (y tu allan i Lundain) a'r Alban (mewn prisiau cyson wedi'u haddasu ar gyfer chwyddiant)

Ffynhonnell: Llywodraeth y DU - Data'r Adran Drafnidiaeth, dadansoddiad Ymchwil y Senedd.

Ffigur 7: Cymhariaeth rhwng refeniw gweithredu a’r gost fesul taith i deithwyr ar wasanaethau bws lleol yng Nghymru (mewn prisiau cyson wedi'u haddasu ar gyfer chwyddiant)

Ffynhonnell: Llywodraeth y DU - Data'r Adran Drafnidiaeth, dadansoddiad Ymchwil y Senedd.

Mae prinder gyrwyr wedi bod yn broblem ers cryn amser

Tynnodd ymchwiliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn 2022 i wasanaethau bysiau a threnau sylw at bryderon am brinder staff ac effaith hynny ar weithredu polisi Llywodraeth Cymru.

Yn 2021, awgrymodd Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru fod gyrwyr bysiau wedi gadael y sector i weithio mewn diwydiannau eraill ar ôl y pandemig, gan gynnwys y diwydiant cludo nwyddau, gan fod mwy o dâl yn cael ei gynnig.

Dywedodd Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru hefyd y penderfynodd cyfran sylweddol o yrwyr ymddeol yn gynnar yn dilyn COVID-19, oherwydd pryderon iechyd. Cefnogir y dadansoddiad hwn gan ddata ledled y DU gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae Ffigur 8 yn dangos bod nifer y staff sy'n cael eu cyflogi gan weithredwyr bysiau lleol wedi gostwng fwy na chwarter rhwng 2004-05 a 2021-22.

Ffigur:8 Staff sy'n cael eu cyflogi gan weithredwyr bysiau lleol yng Nghymru

 

(Ffynhonnell: Llywodraeth y DU - Data'r Adran Drafnidiaeth), dadansoddiad Ymchwil y Senedd

Beth sydd y tu ôl i'r problemau?

Sbardunau tueddiadau tymor hir

Mae Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru yn adrodd bod costau gweithredu wedi cynyddu oherwydd:

  • cynnydd mewn cyfraddau llog a threthi corfforaeth;
  • cyfyngiadau mewn buddsoddi, gan greu ôl-groniad mewn gofynion amnewid cerbydau;
  • costau cyfalaf ychwanegol ar gyfer cerbydau a chostau seilwaith i gyflwyno bysiau di-allyriadau.

Mae Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru yn awgrymu y bu effaith ar refeniw gan yr amrywiadau mewn incwm o werthu tocynnau a chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru (er enghraifft, mae cymorth ychwanegol wedi'i ddarparu drwy'r Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau i ymateb i COVID-19).

Mae ffactorau cysylltiedig amrywiol yn dylanwadu ar alw teithwyr, sy'n effeithio ar yr incwm o werthu tocynnau. Mae Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru yn adrodd mai dyma’r prif sbardunau newidiadau i’r galw am fysiau, rhwng 2009 a 2019:

  • gostyngiad yn y galw am docynnau teithio rhatach (fodd bynnag, mae cyfran y tocynnau teithio rhatach wedi cynyddu fel y gwelir yn Ffigur 5);
  • gostyngiadau mewn cyflenwad gwasanaethau;
  • gostyngiad yn y galw am deithiau siopa wrth i drafodion symud ar-lein;
  • twf mewn perchnogaeth ceir;
  • newidiadau mewn prisiau tocynnau;
  • gostyngiad yng nghyflymder bysiau oherwydd tagfeydd traffig cynyddol.

Mae dwysedd poblogaeth isel yng Nghymru hefyd yn her i wasanaethau bws. Mae’r Grŵp Trafnidiaeth Drefol yn nodi newidiadau dinas sy'n ffafrio teithio llesol, a newid i wasanaethau ar alw personol (e.e. tacsis) fel sbardunau newid.

Mae gweithredwyr bysiau wedi mynegi pryderon ynghylch effaith y terfyn cyflymder 20mya newydd ar wasanaethau bysiau. Mae adroddiad ym mis Tachwedd 2023 gan Centre for Cities yn argymell bod awdurdodau lleol yn eithrio lonydd bysiau o'r terfyn cyflymder 20mya newydd, lle y mae'n ddiogel ac yn briodol, i helpu bysiau i gystadlu yn erbyn ceir. Fodd bynnag, cyn yr adroddiad hwn, dywedodd Llywodraeth Cymru y dylai'r pwyslais fod ar flaenoriaethu bysiau, er enghraifft lonydd bysiau, yn hytrach na chyflymderau uwch.

Mae Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru yn tynnu sylw bod cyfyngiadau wrth bennu sbardunau allweddol newidiadau perfformiad bysiau oherwydd diffyg data ar y canlynol:

…use by age, gender and socio-economic classification, recent trends in journey purpose and demand patterns in different regions and local authority areas.

COVID-19: effeithiau tymor byr a thymor hir

Mae'r data a amlinellwyd uchod yn dangos bod COVID-19 wedi cael effeithiau tymor byr a thymor hir ar deithwyr, defnydd, cyflenwad gwasanaethau bysiau, costau a refeniw, gyda COVID-19 yn cael effaith fwy sylweddol ar y galw yng Nghymru na rhannau eraill o'r DU.

At hynny, ni chafodd yr effaith ar draws Cymru ei dosbarthu yr un mor gyfartal. Dangosodd erthygl wadd Ymchwil y Senedd gan academyddion ym Mhrifysgol De Cymru mai'r ardaloedd mwyaf difreintiedig, rhwng 2019 a 2021, oedd â’r dirywiad mwyaf yn eu gallu i gael mynediad at wasanaethau bws.

At hynny, mae COVID-19 wedi cael effaith ar deithwyr sy'n defnyddio tocynnau rhatach sy'n dibynnu ar fysiau, yn enwedig deiliaid cardiau oedrannus ac anabl y mae eu niferoedd wedi haneru.

Yn ogystal, mae dadansoddiad Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru yn dangos bod COVID-19 wedi cyflymu tueddiadau, megis gweithio hybrid, siopa ar-lein, neu ymgyngoriadau iechyd ar-lein, a ostyngodd yr angen am drafnidiaeth gyhoeddus.

Gobaith am welliant?

Mae gan Lywodraeth Cymru darged, erbyn 2040, y bydd 45 y cant o deithiau’n cael eu gwneud ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn cerdded ac yn beicio. Disgwylir Bil diwygio bysiau yn ystod tymor y Senedd hon y mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd yn helpu i gyflawni'r nod hwn.

Yn ein hail erthygl o'r gyfres hon, rydym yn edrych ar yr hyn a ddisgwylir o’r Bil a barn rhanddeiliaid.


Erthygl gan Amandine Debus, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Amandine Debus gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i’r papur briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil gael ei gwblhau.