Gwasanaethau bws ar system cynnal bywyd: a all masnachfreinio sicrhau canlyniadau i Gymru?

Cyhoeddwyd 07/12/2023   |   Amser darllen munudau

Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai Bil i ddiwygio a gwella gwasanaethau bws yn cael ei gyflwyno yn nhymor y Senedd bresennol. Disgwyl iddo ganolbwyntio ar fasnachfreinio. Mae’r Bil wedi bod yn hirddisgwyliedig, gyda'r cynigion cyntaf yn dyddio'n ôl i 2018.

Dyma'r ail erthygl yn ein cyfres ddwy ran ar wasanaethau bws. Mae'n edrych ar yr hyn y gallem ei ddisgwyl o’r Bil a sut y mae rhanddeiliaid wedi ymateb i'r cynigion.

Mae’r erthygl gyntaf yn y gyfres hon yn nodi’r materion sy'n cael eu profi ar hyn o bryd gan wasanaethau bysiau, ac yn rhoi rhywfaint o gefndir ynghylch pam y bydd diwygio efallai’n digwydd.

Sut y mae’r sefyllfa hon wedi cyrraedd?

Bil 2020

Yn 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn ynghylch “Gwella trafnidiaeth gyhoeddus”. Yn dilyn hynny, cyflwynwyd y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) ym mis Mawrth 2020. Fodd bynnag, cafodd ei dynnu yn ôl ym mis Gorffennaf 2020 oherwydd yr heriau a achoswyd gan COVID-19.

Mae ein papur briffio ym mis Mawrth 2020 yn nodi’r sefyllfa cyn datblygu’r Bil. Mae hefyd yn amlinellu'r cynigion sydd wedi'u cynnwys yn y Papur Gwyn a'r ymatebion i'r ymgynghoriad.

Cynigiodd y Bil roi pwerau i awdurdodau lleol gyflwyno Partneriaethau Ansawdd Estynedig neu fasnachfreinio. At hynny, aeth i'r afael â darparu gwybodaeth a chynigiodd gael gwared ar gyfyngiadau ar wasanaethau bysiau a gynhelir gan awdurdodau lleol.

Effaith COVID-19

Mae COVID-19 wedi cael effeithiau sylweddol yn y tymor byr a’r tymor hir ar wasanaethau bws, y gallwch ddarllen amdanynt yn yr erthygl gyntaf yn y gyfres hon.

Er mwyn parhau i gynnal gwasanaethau bws yn ystod y pandemig, lansiodd Llywodraeth Cymru y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau ym mis Gorffennaf 2020. Daeth y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau i ben ym mis Gorffennaf 2023. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2023 y byddai'n cael ei ddisodli gan y Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau, gyda:

...£46m ar gael o gyllidebau bysiau i gefnogi trefniadau’r Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau a'r Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau dros y flwyddyn ariannol gyfan.

Cyhoeddwyd cyllid ychwanegol hyd at £6.8m i gefnogi'r Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau yn Ne-ddwyrain Cymru ym mis Rhagfyr 2023.

Fodd bynnag, fel y dangosir yn ein herthygl gyntaf, nid yw gwasanaethau bysiau, a oedd eisoes yn dioddef o broblemau tymor hir, wedi adfer eto i’r lefelau cyn y pandemig mewn nifer o feysydd. Ym mis Mai, dywedodd Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y:

...ffrwydrodd COVID fodel busnes oedd eisoes yn frau.

Aeth yn ei flaen i ddweud y canlynol:

Mae'n anochel bod hyn wedi gadael bwlch mawr yng nghyllid cwmnïau bysiau yng Nghymru. Mae'r sioc allanol hon wedi dangos gwagedd model preifateiddiedig o ddadreoleiddio.

Roedd y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau yn ei gwneud yn ofynnol i'r sector cyhoeddus weithio gyda gweithredwyr bysiau i bennu lefelau gwasanaeth. Wrth wneud hynny, nododd Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2020, mai dyma:

...gyfnod cyntaf cynllun ehangach a fydd yn gweld cyllidwyr o’r sector cyhoeddus yn dechrau adennill rheolaeth o fysiau am y tro cyntaf ers dadreoleiddio yn yr 1980au.

Papur Gwyn 2022

Cyhoeddwyd Papur Gwyn arall ar ddiwygio gwasanaethau bws ym mis Mawrth 2022. Cynigiodd:

  • gwneud masnachfreinio gwasanaethau bysiau yn ofynnol ledled Cymru;
  • caniatáu i awdurdodau lleol greu cwmnïau bysiau trefol newydd;
  • llacio'r cyfyngiadau ar gwmnïau bysiau trefol presennol;
  • Gwella gwybodaeth i deithwyr a’r systemau tocynnau.

Yn wahanol i Fil 2020, cynigiodd Papur Gwyn 2022 roi rheolaeth i'r sector cyhoeddus drwy un cynllun gorfodol, sef masnachfreinio. Mae'r Papur Gwyn yn nodi beth y mae hyn yn ei olygu:

... bydd Llywodraeth Leol, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i gynllunio rhwydweithiau a gwasanaethau bysiau sy'n diwallu anghenion pobl a chymunedau orau o fewn y cyllid sydd ar gael.

Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am wasanaethau dan y trefniadau statudol presennol. Mae Papur Gwyn 2022 yn cynnig rhoi'r “pŵer i roi masnachfreintiau” i Weinidogion Cymru. Byddai hyn yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn dwyn y risgiau refeniw:

Dan system fasnachfreintiedig, mae'r sector cyhoeddus yn ymgymryd â’r risg honno i'n galluogi i ddarparu'r rhwydwaith gorau y gallwn ei ddarparu gyda'r cyllid sydd ar gael.

Ym mis Mai 2023, rhoddodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ddiweddariad ar y cynnydd a wnaed i baratoi i weithredu'r cynigion o Bapur Gwyn 2022. Roedd hyn yn cynnwys cyfarfod â Trafnidiaeth Cymru (TrC), undebau llafur, a chynrychiolwyr y diwydiant ac awdurdodau lleol.

Mae Trafnidiaeth Cymru wrthi'n datblygu’r dull o ddarparu masnachfreinio, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a gweithredwyr.

Ym mis Tachwedd 2023, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS, fod awdurdodau lleol wrthi'n cynllunio rhwydwaith bysiau gyda llwybrau sy'n diwallu anghenion dinasyddion orau.

Beth y mae rhanddeiliaid wedi’i ddweud?

Dangosodd ymatebion i'r ymgynghoriad ar Bapur Gwyn 2022 gefnogaeth gyffredinol i'r cynigion. Roedd mwy na 66 y cant o'r cyfranogwyr yn cytuno neu'n cytuno'n gryf â'r angen am fasnachfreinio, ac roedd mwy na 76 y cant o'r ymatebwyr yn cytuno neu'n cytuno'n gryf â'r model masnachfreinio arfaethedig.

Fodd bynnag, tynnodd yr ymatebwyr sylw at rai pryderon: Tynnodd nifer o'r ymatebwyr sylw at yr effeithiau negyddol posibl ar weithredwyr bysiau bach. Ym Mhapur Gwyn 2022, cydnabu Llywodraeth Cymru y risg hon a dywedodd y byddai'n cael sylw drwy'r broses cyflwyno cynigion gyda mecanweithiau i sicrhau cyfle cyfartal. Gofynnodd ymatebwyr i'r ymgynghoriad am gymorth ychwanegol i weithredwyr bach, yn enwedig yn ystod y cyfnod pontio.

Amlinellodd yr ymatebwyr hefyd yr angen am brisiau tocynnau fforddiadwy. Ym mis Mai 2023, dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ar gap prisiau tocynnau, ond nad yw pwysau sy'n deillio o chwyddiant a chostau uwch yn caniatáu ei weithredu.

Mynegwyd pryderon hefyd am risgiau cost a chyllid masnachfreinio. Yn ei adroddiad ym mis Hydref 2023, sef ‘Y Ffordd Gymreig’, tynnodd Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru sylw y byddai cyfyngiadau o ran yr adnoddau cyhoeddus sydd ar gael yn cyfyngu ar ddarparu gwasanaethau bysiau dan y model masnachfreinio. Awgrymodd fodel ‘Cymhorthdal Gofynnol’ arall a dywedodd y gallai hyn ddarparu arbedion cost a gwelliannau gwasanaeth, ac yn cynyddu nifer y teithwyr.

Ar ben hynny, tynnodd Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru sylw na fydd y rhan fwyaf o sbardunau diweddar galw is am fysiau (e.e. gweithio hybrid, datblygu gwasanaethau ar-lein, twf mewn perchnogaeth ceir a thagfeydd traffig) yn cael eu datrys drwy gyflwyno masnachfreinio ac nad bwled hud” ydyw.

Pam y mae cyllid yn bryder?

Mae cymorth ariannol cyfyngedig gan Lywodraeth Cymru eisoes wedi cael y bai am golli gwasanaethau, ac mae pryderon bod mwy o wasanaethau mewn perygl.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn y Cyfarfod Llawn ym mis Mai 2023, fod y £46 miliwn sydd ar gael i gefnogi gwasanaethau bws yn:

...llai na'r hyn y mae awdurdodau lleol a'r diwydiant yn credu sydd ei angen i gadw pob gwasanaeth unigol, fel maen nhw ar hyn o bryd...

Roedd y cyhoeddiad hwn yn dilyn ansicrwydd ynghylch dyfodol y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau, a oedd yn her i weithredwyr bysiau yn ôl Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru.

Tynnodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sylw at y pwysau ar sectorau eraill, er enghraifft y GIG, a'r angen i flaenoriaethu'r gyllideb. Dywedodd hefyd mai masnachfreinio fyddai'r ffordd orau o ddefnyddio arian yn effeithlon. Mae TrC hefyd wedi dweud ei fod yn credu mai masnachfreinio fyddai'r ateb i liniaru'r pwysau cyllid presennol.

Ym mis Hydref, darparodd Llywodraeth Cymru £125 miliwn o gyllid ychwanegol i TrC i gefnogi gwasanaethau rheilffordd. Roedd Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru yn siomedig am hyn a ddywedodd fod annhegwch gwirioneddol mewn cyllid ar gyfer bysiau a rheilffyrdd.

Mae llawer o gwestiynau’n parhau ynghylch y penderfyniadau masnachfreinio a gaiff eu gwneud. Bydd darlun llawn y cyfleoedd a'r risgiau a gyflwynir gan y diwygiad bysiau arfaethedig yn hysbys pan fydd y Bil yn cael ei gyflwyno.


Erthygl gan Amandine Debus, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Amandine Debus gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i’r papur briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil gael ei gwblhau.