Mae buddsoddiad Llywodraeth y DU yn seilwaith rheilffyrdd Cymru wedi bod yn ddadleuol ers tro byd. Dywedir yn aml bod Cymru wedi bod ar ei cholled ers blynyddoedd o ran buddsoddiad mewn prosiectau mawr gan Network Rail.
At hynny, mae ystyried HS2 fel 'prosiect Cymru a Lloegr' wedi bod yn ddadleuol, gan nad oes unrhyw gyllid canlyniadol Barnett wedi yn dod i ran Cymru yn sgil y seilwaith anferth hwn. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod y llwybr yn gyfan gwbl yn Lloegr, a bod yna dystiolaeth sy’n dangos bod y cynllun yn cael effaith negyddol net ar economi Cymru.
Mae hyn yn cyferbynnu gyda'r Alban a Gogledd Iwerddon sydd wedi cael cyllid o ganlyniad i wariant ar y prosiect.
Gyda dim byd amlwg yng nghyllideb gyntaf Llywodraeth Lafur y DU ar gyfer Cymru ar reilffyrdd, mae’r erthygl hon yn nodi’r materion.
Sut mae cyllid seilwaith rheilffyrdd yn gweithio yng Nghymru?
Er y gall Llywodraeth Cymru ddewis buddsoddi yn seilwaith rheilffyrdd Cymru, cynllunio ac ariannu hyn (y tu allan i Reilffyrdd Craidd y Cymoedd, sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru) yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU.
Mae hyn yn golygu nad yw Cymru'n cael unrhyw ddyraniad grant bloc ar gyfer seilwaith y rheilffyrdd felly mae unrhyw fuddsoddiadau y mae'n eu gwneud – megis ailagor lein Glyn Ebwy – yn cael eu hariannu o arian a ddyrennir i Gymru at ddibenion eraill.
Mae hyn yn cyferbynnu â'r Alban, lle mae Llywodraeth yr Alban yn pennu ei blaenoriaethau ei hun ac yn cael dyraniad grant bloc ar gyfer seilwaith. Mae buddsoddiad yn y rheilffyrdd hefyd wedi ei ddatganoli i Ogledd Iwerddon.
Mae’r setliad datganoli hwn yn sail i ystyried HS2 yn brosiect Cymru a Lloegr.
Gan fod HS2 yn cael ei reoli gan HS2 Ltd, yn hytrach na Network Rail, mae dau fater ar wahân – ond sy’n gysylltiedig – i’w hystyried:
- A yw Cymru'n cael ei thrin yn deg drwy wariant Network Rail ar brosiectau mawr (a elwir yn 'welliannau' (neu 'enhancements'); ac
- a ddylai gael cyllid canlyniadol o ganlyniad i wariant HS2.
Gwariant Network Rail ar welliannau
Mewn adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2018 gan yr Athro Mark Barry, amcangyfrifwyd i lwybr Cymru Network Rail, sy’n cwmpasu 11% o rwydwaith y DU, gael ychydig dros 1% o’r gyllideb wella ar gyfer y cyfnod 2011-2016.
Yn 2021, rhoddodd Canolfan Llywodraethiant Cymru dystiolaeth i ymchwiliad Pwyllgor Dethol Materion Cymreig Senedd y DU i Seilwaith y Rheilffyrdd yng Nghymru. Daeth i'r casgliad y byddai Cymru, rhwng 2011-12 a 2019-20, wedi cael £514m ychwanegol ar gyfer gwelliannau drwy Network Rail pe bai seilwaith y rheilffyrdd wedi’i ddatganoli fel yn yr Alban.
Tra bod Network Rail yn cael cyllid ar gyfer gweithrediadau, cynnal a chadw ac ati yn rhanbarth Cymru a’r Gororau, gwneir penderfyniadau ar welliannau mawr yng Nghymru a Lloegr gan Lywodraeth y DU drwy biblinell gwella rhwydwaith y rheilffyrdd, a aseswyd ar sail 'Llyfr Gwyrdd' y Trysorlys.
Ym mis Medi 2020, dadleuodd dadansoddiad Llywodraeth Cymru o wariant gwella fod Cymru dan anfantais oherwydd blaenoriaethu prosiectau ar sail Cymru a Lloegr. Roedd yn dadlau fod y system arfarnu yn goramcangyfrif yn systematig y galw am gynlluniau yn Llundain, ac yn tanamcangyfrif y rhai mewn mannau eraill, gan gynnwys yng Nghymru.
Mae Adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig yn cydnabod y dystiolaeth hon, ac yn croesawu adolygiad Llywodraeth y DU o'r broses arfarnu’r Llyfr Gwyrdd yn 2020, a sefydlwyd i fynd i'r afael â'r pryderon hyn.
Gwnaeth yr adolygiad hwnnw gydnabod gwendidau yn ymagwedd y Llyfr Gwyrdd a'i gymhwysiad o ran ‘ffyniant bro’. Fodd bynnag, rhaid aros i weld a yw'r dull wedi'i ddiweddaru yn dwyn buddsoddiad ychwanegol i Gymru.
Mae llywodraethau Cymru a’r DU wedi bod yn cydweithio ers tro ar gyfres o brosiectau i wella’r rheilffyrdd. Er nad yw'r manylion wedi'u gwneud yn gyhoeddus, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi blaenoriaethau yn ei Chynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaethol.
Un maes allweddol yw buddsoddiad i gyflawni argymhellion 'Adolygiad Burns' ar ddewisiadau amgen i Ffordd Liniaru'r M4. Ym mis Hydref, cyhoeddodd Bwrdd Cyflawni Burns ei brosbectws ar gyfer Teithio yn Ne Ddwyrain Cymru – gan gynnig buddsoddiad o £810m, yn cynnwys buddsoddiad o £385m gan Lywodraeth y DU ym Mhrif Reilffordd De Cymru rhwng 2025 a 2030.
Eto i gyd, er bod cyllideb Llywodraeth y DU yn cynnwys cadarnhad o gyllid ar gyfer cynlluniau gwella mawr yn Lloegr, nid oedd unrhyw beth yn benodol ar gyfer Cymru.
Gwariant HS2
Mae pob plaid yn y Senedd bellach yn cefnogi galwadau am “gyfran deg” o gyllid HS2 i gael ei dyrannu i Gymru. At hynny, argymhellodd y Pwyllgor Materion Cymreig y dylid ailddosbarthu HS2 fel 'Lloegr yn unig', er mwyn i Gymru gael swm canlyniadol.
Fodd bynnag, roedd ymateb Llywodraeth flaenorol y DU i’r argymhelliad hwnnw yn pwysleisio ei chyfrifoldeb dros reilffyrdd trwm, ac yn ôl yr ymateb, oherwydd ffactorau cyffelybiaeth adrannol, mae Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd wedi derbyn cynnydd sylweddol yn ei chyllid yn seiliedig ar Barnett, oherwydd gwariant Llywodraeth y DU ar HS2.
Fodd bynnag, ni all Ymchwil y Senedd ddod o hyd i dystiolaeth i gefnogi’r datganiad hwn.
Cyllid canlyniadol Barnett
O ystyried dosbarthiad HS2 fel prosiect Cymru a Lloegr, mae Llywodraeth y DU wedi dyrannu ffactor cymaroldeb o 0% ar gyfer gwariant HS2 yn ei datganiad o bolisi ariannu. Dyrannwyd 100% i’r Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’r ffactor hwn yn mesur i ba raddau y mae gwasanaethau adrannau Llywodraeth y DU wedi’u datganoli, ac fe’i defnyddir i gyfrifo’r grant bloc ar gyfer llywodraethau datganoledig.
Mae hyn yn golygu nad yw Cymru’n cael unrhyw arian canlyniadol o wariant Llywodraeth y DU ar HS2, yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon, gyda’r naill a’r llall yn cael 100% o gymaroldeb.
Er bod cwmpas y prosiect, a gynlluniwyd yn wreiddiol i gyrraedd Leeds a Manceinion trwy Birmingham, wedi ei leihau yn sgil canslo cam 2, mae’r costau wedi cynyddu. Mae amcangyfrifon amrywiol wedi’u hawgrymu ar gyfer yr hyn y dylai Cymru ei gael.
Ym mis Ionawr 2022 rhoddodd Ysgrifennydd Gwladol presennol Cymru, Jo Stevens AS, wrth siarad yn ei rôl Cysgodol flaenorol, ffigur o £4.6bn. Fodd bynnag, mae ei sylwadau diweddar ers ymuno â'r Llywodraeth yn awgrymu efallai mai nid dyma fydd yr achos.
Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddodd Rebecca Evans AS, y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y pryd, ddatganiad ysgrifenedig yn dweud:
Rhaid i Lywodraeth y DU ymrwymo i adolygu’r penderfyniad i glustnodi’r buddsoddiad hwn, sy’n werth £100 biliwn, yn brosiect i Gymru a Lloegr, a darparu’r £5 biliwn o gyllid canlyniadol sy’n ddyledus i Lywodraeth Cymru.
Ym mis Ionawr 2024, gwnaeth Plaid Cymru’r achos y dylai Cymru dderbyn £3.9bn mewn iawndal yn seiliedig ar gyfanswm cost HS2 yn cyrraedd £66bn o ystyried canslo cam 2.
Er ei bod yn ymddangos bod y ffigurau hyn yn seiliedig ar amcangyfrifon o gyfanswm y gost, mae Llywodraeth Cymru wedi dyfynnu ffigurau is yn seiliedig ar wariant hyd yn hyn.
Yn ystod dadl ym mis Mehefin 2024, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet ar y pryd, Rebecca Evans AS ddweud:
Hyd at ddiwedd 2024-25, bydd Cymru wedi colli oddeutu £350 miliwn o ganlyniad i ddosbarthu HS2 yn anghywir fel prosiect Cymru a Lloegr. Mae’r swm hwnnw’n debygol o gynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd i ddod.
Mewn llythyr at Aelodau o’r Senedd, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet esbonio sut y pennwyd y swm o £350m, gan ddweud mai amcangyfrif oedd hwn o “sut y byddai grant bloc Llywodraeth Cymru wedi newid hyd yma, pe bai HS2 wedi’i dosbarthu fel rhaglen i Loegr yn unig”.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ym mis Medi, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Mark Drakeford AS, ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys gan bwysleisio’r angen am “ddull teg o gymhwyso Barnett mewn perthynas â chyllid rheilffyrdd”.
Gyda newid mewn agwedd yn sgil llywodraeth Llafur y DU, nid yw'n glir a fydd unrhyw ddiffyg yn cael sylw. Fe wnaeth y Prif Weinidog ddweud wrth y Cyfarfod Llawn ar 19 Tachwedd:
….I haven't given up on making sure that we get additional rail infrastructure funding from the UK Government. I'm not giving up; I'm standing up. Every single time I see Keir Starmer, I bring this issue up. I've made it clear to him that I will not stop bringing it up until we have fair play on this issue.
Bydd pobl Cymru yn cadw llygad barcud am ganlyniadau'r pwysau hwn.
Erthygl gan Andrew Minnis a Christian Tipples, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru