Cyhoeddwyd 19/12/2014
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021
  |  
Amser darllen
munud
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_2079" align="alignnone" width="300"]
Llun: o Wicipedia Flikr gan .Martin. Dan drwydded Creative Commons[/caption]
Yn ddiweddar, cyhoeddodd
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru
adolygiad canol tymor o'i waith. Mae pump aelod ar y Pwyllgor, sef un o bob plaid, a chaiff ei gadeirio gan y Dirprwy Lywydd. Mae ei waith yn cynnwys craffu ar is-ddeddfwriaeth (Rheol Sefydlog 21), craffu ar Filiau ac ymchwiliadau i bynciau o ddiddordeb. Mae'r blogbost hwn yn rhoi crynodeb o'r adolygiad.
Offerynnau Statudol
Rhwng mis Mehefin 2011 a mis Gorffennaf 2014 mae'r Pwyllgor wedi ystyried ac wedi cyflwyno adroddiad ar offerynnau statudol fel a ganlyn:
Roedd pwyntiau adrodd ar 95 o offerynnau statudol, a thynnwyd sylw'r Cynulliad atynt ar ffurf adroddiad a osodwyd, a oedd yn cynnwys unrhyw ymateb a gafwyd gan y Llywodraeth.
Yn ogystal ag adrodd i'r Cynulliad, ysgrifennodd y Cadeirydd hefyd at Weinidogion Cymru ynghylch 12 o offerynnau statudol. Y brif broblem wrth ysgrifennu at Weinidogion oedd argaeledd offerynnau cyfansawdd yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Biliau'r Cynulliad
Ers dechrau'r Pedwerydd Cynulliad tan ddiwedd mis Tachwedd 2014, mae'r Pwyllgor wedi ystyried ac
wedi cyflwyno adroddiad ar 20 o Filiau, gyda pedwar ohonynt yn Filiau Aelodau. O ran cyfanswm, mae'r Pwyllgor wedi llunio 22 o gasgliadau ffurfiol (mae 10 ohonynt yn ymwneud â'r dull cyffredinol o ddeddfu) ac mae wedi gwnaed 132 o argymhellion.
Rhagwelir y bydd angen i'r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar
11 o Filiau eraill dros weddill y Cynulliad.
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Yn unol â'i gylch gwaith, caiff y Pwyllgor graffu ar
Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol, sy'n ymwneud â Biliau'r DU sy'n ceisio deddfu mewn meysydd lle mae gan y Cynulliad gymhwysedd. Gall hefyd graffu ar is-ddeddfwriaeth sydd angen cydsyniad y Cynulliad cyn y gellir ei wneud gan Weinidogion y DU, er enghraifft o dan
Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011.
Yn dilyn argymhelliad yn ein hadroddiad yn 2012,
Ymchwiliad i Roi Pwerau i Weinidogion Cymru yn Neddfau'r DU, cytunodd y Pwyllgor Busnes ar 25 Medi 2013 i gyflwyno Rheol Sefydlog 30A i ddarparu gweithdrefn i'r Cynulliad roi ei gydsyniad mewn perthynas ag offerynnau statudol y DU a wneir gan Weinidogion y DU, os oes angen cydsyniad o'r fath. Mae Rheol Sefydlog 30A yn darparu gweithdrefn debyg i honno ar gyfer Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29 ond mewn cysylltiad ag offerynnau statudol yn hytrach na Biliau ac yn cynnwys gofyniad i osod
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) a
Chynnig Cydsyniad Offeryn Statudol.
Ers dechrau'r Pedwerydd Cynulliad, mae'r Pwyllgor wedi cyflwyno adroddiad ar
naw Memorandw Cydsyniad Deddfwriaethol. Mae adroddiadau'r Pwyllgor wedi trafod ystod eang o faterion ac mae'n bosibl ystyried rhai themâu:
- ar dri memorandwm cydsyniad deddfwriaethol—y Bil Trosedd a Llysoedd a'r Bil Dadreoleiddio—mynegwyd pryderon ynghylch ansawdd memoranda Llywodraeth Cymru;
- ar ddau femorandwm cydsyniad deddfwriaethol—y Bil Dadreoleiddio a Bil Cymru—er na chodwyd unrhyw wrthwynebiadau i'r memoranda cydsyniad deddfwriaethol, mynegwyd pryderon ynghylch rhai o'r cymalau roeddynt yn eu cynnwys. Codwyd y pryderon hyn yn flaenorol mewn gohebiaeth â phwyllgor seneddol a oedd yn craffu ar y Bil Dadreoleiddio ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
- ar ddau femorandwm cydsyniad deddfwriaethol, y ddau mewn perthynas â'r Bil Dadreoleiddio, mynegodd y Pwyllgor bryder ynghylch defnyddio'r broses hon yn hytrach na Biliau Llywodraeth Cymru i gyflawni ei amcanion.
- Mae'r Pwyllgor wedi gwrthwynebu un Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona). Gwrthododd y Cynulliad y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Heriodd Llywodraeth y DU yr angen am Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, a gwrthododd ddileu'r ddarpariaeth o'r Bil.
Mae'r Pwyllgor wedi cyflwyno adroddiad ar
wyth offeryn statudol sy'n gofyn caniatâd y Cynulliad, gyda tri ohonynt yn defnyddio'r weithdrefn Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol newydd. Mae'r offerynnau wedi bod yn fater o drefn ac yn annadleuol, er bod y Pwyllgor yn mynegi pryderon am ansawdd dau femoranda.
Ymchwiliadau
Ers dechrau'r Pedwerydd Cynulliad, mae'r Pwyllgor wedi cynnal
saith ymchwiliad, ac wedi cyhoeddi adroddiadau arnynt. Ceir gwybodaeth am y rhain isod:
Ar hyn o bryd mae'r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i
Ddeddfu yn y Pedwerydd Cynulliad.
Materion yr UE
Sybsidiaredd
Er mwyn sicrhau bod y Pwyllgor yn cyflawni ei
swyddogaeth monitro sybsidiaredd yn effeithiol, mae swyddogion y Cynulliad yn monitro holl gynigion deddfwriaethol drafft yr UE sy’n ymwneud â Chymru, yn systematig, er mwyn gweld a ydynt yn codi pryderon ynghylch sybsidiaredd. Pan godir pryderon, caiff y Pwyllgor ei hysbysu o'r rhain er mwyn eu hystyried. Pob tymor, caiff adroddiad monitro sybsidiaredd ei baratoi gan swyddogion, er gwybodaeth.
Hyd yma, mae'r Cynulliad wedi gwneud
dau o sylwadau ysgrifenedig:
- ar y cynigion ar gyfer cyfarwyddeb ar gaffael cyhoeddus (COM(2011)896) – Chwefror 2012. Cafodd y pryderon a godwyd eu cynnwys yn y Farn Resymedig a fabwysiadwyd gan Dŷ'r Cyffredin, a'u trafod ar lawr y Tŷ ar 6 Mawrth 2012;
- ar y cynigion am reoliad ar rwydweithiau cyfathrebu electronig cyflym COM(2013)147). Cytunodd y Pwyllgor mewn gohebiaeth â'r pryderon sybsidiaredd a godwyd gan Dŷ'r Cyffredin yn ei Farn Resymedig a fabwysiadwyd ar 13 Mai 2013.
Yn anffurfiol, ysgrifennodd y Pwyllgor, hefyd, at Bwyllgor Craffu Tŷ'r Cyffredin ar Ewrop ynghylch cynigion ar gyfer cyfarwyddebau ar dybaco a chynnyrch cysylltiedig (COM(2012)0788); ac ynghylch seilwaith tanwydd amgen (COM(2013)0018).
Ar 30 Mehefin 2014, ysgrifennodd y Pwyllgor at y Swyddfa Dramor a Chymanwlad ynghylch adolygiad Llywodraeth y DU o'r cydbwysedd o gymwyseddau.
Cymesuredd
Ar 16 Gorffennaf 2014 Ysgrifennodd y Pwyllgor at y Comisiynydd Ewropeaidd ar Faterion Morol a Physgodfeydd ynghylch rheoliad drafft ar rwydi drifft (COM(2014)265), gan godi materion yn ymwneud â chymesuredd, wedi'i ddilyn gan gyfnewid pellach o ohebiaeth.
Gweithgareddau eraill
Mae'r Cadeirydd yn mynd i
gyfarfodydd fforwm EC-UK, sy'n dwyn ynghyd Gadeiryddion y Pwyllgorau Ewropeaidd a phwyllgorau cyfatebol yn Senedd y DU (y ddau dŷ) a deddfwrfeydd datganoledig, i drafod gwaith parhaus a gwaith arfaethedig ar agenda'r UE, ynghyd â materion perthnasol ar agenda'r UE, sy'n effeithio ar y DU a'r gwledydd datganoledig. Mae'r fforwm EC-UK yn cwrdd bob chwe mis, mewn trefn gylchol (fe'i cynhaliwyd ddiwethaf yng Nghymru ym mis Ebrill 2013) a chaiff ei gynnal o dan reolau Chatham House.