Erthygl gan David Millett a Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Heddiw, mae’r Cynulliad yn cynnal dadl ynghylch effaith y diwygiadau lles ar Gymru. Un o’r mesurau mwyaf dadleuol yw’r meini prawf a ddefnyddir i bennu faint o Fudd-dal Tai a gaiff tenantiaid cymdeithasol, sef y ‘dreth ystafell wely’ neu’r ‘cymorthdal ystafell sbâr’. Ers 1 Ebrill 2013, mae tenantiaid tai cymdeithasol oedran gweithio sy’n cael budd-dal tai yn wynebu gostyngiad yn eu budd-dal os ydynt yn byw mewn tai y penderfynir eu bod yn rhy fawr i’w anghenion. Mae’r meini prawf maint yn y sector rhentu preifat yn cyfyngu ar fudd-dal tai gan ganiatáu un ystafell wely i bob person neu gwpl sy’n byw ar yr aelwyd, ac eithrio’r canlynol:- disgwylir i blant o dan 16 oed o’r un rhyw rannu ystafell wely;
- disgwylir i blant o dan 10 oed rannu ystafell wely ni waeth beth yw eu rhyw;
- caniateir un ystafell wely ychwanegol i denantiaid anabl neu bartner os oes angen i ofalwr ddod i aros yn y tŷ dros nos;
- caniateir un ystafell wely ychwanegol i ofalwyr maeth os ydynt wedi cofrestru fel gofalwr maeth neu wedi maethu plentyn yn ystod y 12 mis diwethaf.