Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]
Heddiw (1 Rhagfyr 2014), mae Huw Lewis AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, wedi cyflwyno deddfwriaeth i sefydlu corff cymwysterau cenedlaethol newydd o'r enw .
Bydd Bil Cymwysterau Cymru yn awr yn dechrau ei daith drwy broses ddeddfwriaethol y Cynulliad. Os caiff ei basio, bydd y Bil yn sefydlu Cymwysterau Cymru ac yn trosglwyddo'r cyfrifoldeb am reoleiddio a sicrhau ansawdd y cymwysterau a ddyfernir yng Nghymru o Lywodraeth Cymru i'r corff newydd.
Bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ymgymryd â’r gwaith o graffu ar y Bil yn unol a Chyfnod 1 o broses ddeddfwriaethol y Cynulliad, ac yn ceisio barn pobol ar y ddeddf newydd arfaethedig. Mae’r pwyllgor wedi cyhoeddi galwad am dystiolaeth sy’n cau ar 16 Ionawr 2014.
Mae cymwysterau yng Nghymru yn destun llawer o newidiadau ar hyn o bryd, yn dilyn adolygiad annibynnol a gynhaliwyd gan Huw Evans, a'i adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2012, sef yr Adolygiad o Gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 19 oed yng Nghymru. Mae'r diwygiadau hyn yn cynnwys ffurfiau newydd o gymwysterau TGAU a Safon Uwch / Safon UG, Bagloriaeth Cymru sydd wedi'i diwygio i fod yn fwy trylwyr, a dull mwy strategol o ran cymwysterau galwedigaethol. Fodd bynnag, mae Bil Cymwysterau Cymru yn ymateb yn benodol i un o argymhellion Huw Evans, sef sefydlu rheoleiddiwr annibynnol newydd. Nid yw'r Bil yn rhoi swyddogaethau dyfarnu i Cymwysterau Cymru, ond dyna yw amcan hirdymor Llywodraeth Cymru. Penderfynwyd gwneud hyn ar ôl i'r Gweinidog dderbyn argymhelliad yn dilyn gwaith craffu cyn deddfu y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gynharach eleni bod angen rhagor o drafod cyn i'r corff newydd arfer swyddogaethau dyfarnu, yn ogystal â phwerau rheoleiddio. Felly, beth y mae Bil Cymwysterau Cymru yn ei wneud? Mae'n gwneud mwy na throsglwyddo cyfrifoldebau rheoleiddio a swyddogaethau sicrhau ansawdd y Llywodraeth. Mae'n gwneud llawer o newidiadau a fydd yn gwella'r broses o oruchwylio cymwysterau a'r system gymwysterau yn ei chyfanrwydd, yn ôl Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn dadlau bod angen newid y system bresennol, gan dynnu sylw at bedwar o gyfyngiadau'r trefniadau presennol:- Nid oes un sefydliad sy'n gyfrifol yn benodol am sicrhau bod cymwysterau a'r system gymwysterau yn effeithiol.
- Nid oes pwerau i flaenoriaethu cymwysterau ac felly canolbwyntio gwaith rheoleiddio lle y mae ei angen fwyaf.
- Nid oes pwerau i sicrhau bod dysgwyr ledled Cymru yn dilyn yr un fersiwn o gymhwyster drwy gyfyngu hyn i un fersiwn a ddarperir gan un corff dyfarnu.
- Nid oes digon o gapasiti o fewn y system i ddatblygu cymwysterau'n strategol. Mae hyn yn peryglu enw da cymwysterau Cymru y tu allan i Gymru.
- sicrhau bod y cymwysterau, a'r system gymwysterau yng Nghymru, yn diwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru yn effeithiol;
- hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y cymwysterau ac yn system gymwysterau Cymru.