Mae Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am helpu i benderfynu blaenoriaethau ar gyfer plismona yng Nghymru. Maent yn swyddogion etholedig sydd â dylanwad sylweddol dros gyllid, strategaeth ac ymgysylltiad cymunedau â gwasanaethau gorfodi'r gyfraith.
Ar 2 Mai 2024, bydd pleidleiswyr yng Nghymru yn ethol eu Comisiynydd Heddlu a Throseddu lleol.
Mae'r erthygl hon yn edrych ar y rhesymau dros gyflwyno rôl Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (cam a gafodd ei wrthwynebu i ddechrau gan y Senedd ar seiliau cyfansoddiadol) ac yn trafod yr heriau ar gyfer plismona yng Nghymru yn y dyfodol.
Gwneud goruchwylio plismona yn fwy democrataidd
Caiff plismona yng Nghymru ei oruchwylio gan Swyddfa Gartref y DU. Fodd bynnag, mae gwneud penderfyniadau o ddydd i ddydd yn dasg sydd wedi'i dirprwyo i'r Comisiynwyr.
Cafodd rôl y Comisiynwyr ei sefydlu i gymryd lle awdurdodau heddlu lleol yng Nghymru a Lloegr, gyda'r nod o wella atebolrwydd democrataidd a chynrychiolaeth gymunedol. Yn hanesyddol, mynegwyd pryderon ynghylch tryloywder ac ymatebolrwydd yr heddlu i bryderon y cyhoedd.
Roedd Llywodraeth y DU o’r farn y byddai cyflwyno rhagor o oruchwyliaeth ddemocrataidd yn ffordd o wella atebolrwydd drwy sicrhau bod yr unigolion sy’n gyfrifol am oruchwylio plismona yn uniongyrchol atebol i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Ni ddylai Comisiynwyr Heddlu a Throseddu geisio dylanwadu ar annibyniaeth weithredol yr heddlu yn eu hardal (cyfrifoldeb y Prif Gwnstabl yw hyn). Eu rôl yw pennu cyfeiriad strategol ar gyfer yr heddlu, craffu ar waith yr heddlu a'u dwyn i gyfrif.
Mae'r Comisiynwyr hefyd yn pennu'r gyllideb a phraesept y dreth gyngor ar gyfer plismona (a delir gan drigolion lleol) yn yr ardal berthnasol.
(Ffynhonnell: Ymchwil y Senedd)
Felly, er bod polisi plismona yng Nghymru yn fater a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU, mae rôl y Comisiynwyr yn bwysig. Gweler ein herthygl 'Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu – pwy ydyn nhw a beth y maen nhw'n ei wneud?'
Etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu
Caiff etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu eu cynnal bob pedair blynedd. Cynhaliwyd yr etholiadau cyntaf yng Nghymru a Lloegr ym mis Tachwedd 2012, gan nodi dechrau'r rôl newydd hon.
Yng Nghymru, mae pedwar Comisiynydd yn goruchwylio plismona, sef un ar gyfer pob ardal yr heddlu.
Ffigur 1: Ardaloedd yr heddluoedd yng Nghymru
Yn etholiadau 2021, Llafur ddaeth i’r brig mewn tair allan o bedair ardal yr heddlu yng Nghymru:
- Cafodd Alun Michael o’r Blaid Lafur ei ail-ethol dros Dde Cymru.
- Enillodd Andy Dunbobbin o’r Blaid Lafur ardal Gogledd Cymru oddi wrth Blaid Cymru.
- Cafodd Jeff Cuthbert o’r Blaid Lafur ei ail-ethol yng Ngwent.
- Llwyddodd Dafydd Llywelyn o Blaid Cymru i ddal ardal Dyfed-Powys.
Hwn oedd y trydydd tro i etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu gael eu cynnal. Cynhaliwyd yr etholiadau ochr yn ochr ag etholiad y Senedd yng Nghymru ac etholiadau lleol yn Lloegr (ar ôl cael eu gohirio am 12 mis oherwydd y pandemig COVID-19).
Roedd y ganran a bleidleisiodd yn amrywio ar draws rhanbarthau. Pleidleisiodd 33 y cant o etholwyr ar gyfartaledd ar draws yr holl etholiadau.
Y risg o wleidyddoli plismona
Pan gafodd rôl Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ei chyflwyno, mynegwyd pryderon ynghylch y posibilrwydd o wleidyddoli plismona drwy gyflwyno rolau a etholir yn uniongyrchol. Roedd y pryderon hyn yn deillio o'r risg y gallai agendâu gwleidyddol orbwyso egwyddorion cyfiawnder a rheolaeth y gyfraith, gan erydu ymddiriedaeth y cyhoedd yn amhleidioldeb gwasanaeth yr heddlu.
Mae sicrhau ymddiriedaeth a hyder mewn plismona yn hollbwysig i alluogi’r heddlu i barhau i orfodi'r gyfraith yn effeithiol. Gall achosion o gamymddwyn, camddefnyddio pŵer neu fethiannau gan yr heddlu danseilio ymddiriedaeth y cyhoedd mewn plismona yn sylweddol.
Mae beirniaid hefyd yn parhau i nodi risgiau o ran dylanwad gwleidyddol gormodol a phryderon ynghylch annibyniaeth weithredol. Daeth materion o ran tryloywder i’r amlwg yn dilyn marwolaethau trasig dau berson ifanc yn eu harddegau yng Nghaerdydd ym mis Mai 2023, gan arwain at gwestiynau ynghylch atebolrwydd a didwylledd y Comisiynwyr.
Er gwaethaf gobeithion cychwynnol Llywodraeth y DU am atebolrwydd gwell, mae effaith rôl y Comisiynwyr yn parhau i fod yn destun trafod. Mae astudiaeth yn 'Policing: A Journal of Policy and Practices' yn pwysleisio efallai na fydd Comisiynwyr Heddlu a Throseddu mor bwerus ag y tybiwyd yn wreiddiol.
At hynny, mae’r ganran sydd wedi pleidleisio yn etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu wedi bod yn gymharol isel, gan awgrymu heriau posibl o ran ymgysylltu â’r cyhoedd ac egluro rolau swyddogion etholedig.
Ffigur 3: Y ganran gyfartalog a bleidleisiodd yn etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr
(Ffynhonnell: Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin)
Y tro hwn, mae etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru yn cael eu cynnal yn annibynnol, heb iddynt gyd-fynd ag etholiadau eraill. Mae’n bosibl y bydd hyn yn effeithio ar y ganran sy'n pleidleisio. Hefyd, dyma’r tro cyntaf y bydd angen i bleidleiswyr ddangos ID ffotograffig mewn gorsafoedd pleidleisio.
Penderfynu ar flaenoriaethau ar gyfer plismona
Mae pob un o'r pedwar Comisiynydd yn nodi eu blaenoriaethau adeg yr etholiadau.
Yn eu hadroddiadau blynyddol (ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023), trafododd y Comisiynwyr y materion hollbwysig a gododd yn ystod blwyddyn heriol i blismona ledled y DU, gan gynnwys enghreifftiau o swyddogion heddlu yn camfanteisio ar ymddiriedaeth y cyhoedd ynddynt.
Ochr yn ochr â’r materion difrifol i'r Heddlu Metropolitanaidd, mae heddluoedd Cymru hefyd wedi bod yn destun ymchwiliadau mewn perthynas ag ymddygiad misogynistaidd, hiliol a homoffobig.
Ffigur 4: Rhai o’r blaenoriaethau ar gyfer plismona a nodwyd gan y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru
(Ffynhonnell: Ymchwil y Senedd)
Mae enghreifftiau o fentrau gan y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn cynnwys gwella gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr a mynd i’r afael â thrais domestig yn Ne Cymru, gweithredu rhaglenni i ymgysylltu â phobl ifanc a strategaethau plismona sy’n canolbwyntio ar y plentyn yng Ngwent, a gwella gwasanaethau plismona gwledig yn Nyfed-Powys a Gogledd Cymru.
Ymddiriedaeth rhwng yr heddlu a chymunedau
Mae’r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn blaenoriaethu meithrin partneriaethau cryf fel ffocws allweddol yn eu hadroddiadau.
Mae bron i hanner yr holl alwadau am gymorth gan yr heddlu yn gysylltiedig â mater nad yw’n droseddol ei natur. Mae plismona yn aml yn cyffwrdd â materion iechyd meddwl, digartrefedd a chamddefnyddio sylweddau.
I fynd i’r afael ag argyfyngau sy’n codi, darparu cymorth ac ailgyfeirio unigolion agored i niwed i ffwrdd oddi wrth y system cyfiawnder troseddol, mae’n rhaid i’r heddlu gydweithio â phartneriaid, megis gofal iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
Gwelir ffocws sylweddol arall ar wella plismona cymunedol ac ymgysylltu. Mae'r adroddiadau'n cydnabod bod meithrin a chynnal ymddiriedaeth rhwng yr heddlu a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu yn hanfodol ar gyfer plismona effeithiol.
Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer De Cymru yn nodi bod rôl Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (SCCH) yn allweddol bwysig o safbwynt ymgysylltu â'r gymuned, gan hyrwyddo ymgysylltu cyson a chadarnhaol.
Mae adroddiad Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys hefyd yn nodi bod SCCH wedi bod yn hanfodol i lwyddiant gwaith yr heddlu.
Mae Sefydliad yr Heddlu yn nodi bod y cyhoedd yn parhau i ddisgwyl gweld presenoldeb amlwg gan yr heddlu yn y gymuned. Gall SCCH ymgysylltu â’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, gwrando ar bryderon ac adborth, a chynnwys trigolion yn y broses o wneud penderfyniadau fel eu bod yn teimlo bod eu lleisiau’n cael eu clywed.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gostwng lefel y cyllid a ddyrennir ar gyfer SCCH
Mae Comisiynwyr Heddlu a Throseddu bellach yn gyfrifol am benderfynu sut i gynnal perthnasoedd cymunedol hanfodol ar ôl i Lywodraeth Cymru ostwng lefel y cyllid a ddyrennir ar gyfer SCCH.
Ym mis Awst 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'n ariannu 100 o SCCH newydd (ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i gefnogi 600 o swyddogion am £22 filiwn).
Mae'r penderfyniad diweddar gan Lywodraeth Cymru i ailgyfeirio gwariant i ffwrdd o feysydd nad ydynt wedi'u datganoli, megis plismona, o ganlyniad i bwysau cyllidebol, yn tanlinellu'r cymhlethdodau y mae asiantaethau gorfodi'r gyfraith yn eu hwynebu.
Mae Jeremy Vaughan, Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, wedi cydnabod yr heriau posibl a ddaw yn sgil y toriadau gan Lywodraeth Cymru i’r gyllideb ar gyfer SCCH. Dywedodd fod y swyddogion hyn wedi bod yn allweddol mewn gwaith plismona cymunedol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod rôl Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu wrth bontio rhwng cymunedau a gwasanaethau’r heddlu, gan fynd i’r afael â phryderon lleol a hwyluso ymyriadau cynnar.
Mater i'r Comisiynwyr newydd eu hethol fydd sicrhau bod heddluoedd lleol yn cynnal presenoldeb cryf sy'n ennyn hyder eu cymunedau.
Tuag at y dyfodol
I gael rhagor o wybodaeth am yr heriau y mae plismona yn eu hwynebu yn y dyfodol, gallwch ddarllen asesiad blynyddol Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi ar gyfer yr Ysgrifennydd Cartref, adroddiad y Coleg Plismona ar baratoi ar gyfer gofynion y dyfodol, a chyhoeddiadau gan Lywodraeth Cymru ar ddatganoli plismona a chynnydd ym maes cyfiawnder.
Am y tro, disgwylir i'r etholiadau nesaf ar gyfer y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu gael eu cynnal ar 2 Mai. Mae'r sylw uniongyrchol ar y rôl sydd ganddynt o ran helpu i lywio dyfodol plismona yng Nghymru
Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru