‘Bertie the Seabass’, cerflun metel wedi'i lenwi â gwastraff plastig o'r traeth yn Amroth, Sir Benfro, a grëwyd fel rhan o ymgyrch yn erbyn llygru’r môr â phlastig

 ‘Bertie the Seabass’, cerflun metel wedi'i lenwi â gwastraff plastig o'r traeth yn Amroth, Sir Benfro, a grëwyd fel rhan o ymgyrch yn erbyn llygru’r môr â phlastig

Gorffennaf di-blastig: perthynas newydd â phlastig?

Cyhoeddwyd 21/07/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae'n fis Gorffennaf di-blastig, sef ymgyrch fyd-eang lle mae pobl yn gwrthod defnyddio plastig untro am fis. Y llynedd, amcangyfrifir bod 326 miliwn o bobl ledled y byd wedi cymryd rhan, gan osgoi 940 miliwn cilogram o wastraff plastig.

Mae o leiaf 8 miliwn tunnell o blastig yn mynd i mewn i foroedd y byd yn y pen draw bob blwyddyn. Er ei fod yn ddeunydd chwyldroadol, mae lefel cynhyrchu a defnyddio plastig untro nad yw'n hanfodol wedi arwain at argyfwng byd-eang. At hynny, mae ein perthynas â phlastig wedi esblygu dros y flwyddyn ddiwethaf yn sgil pandemig COVID-19.

Mae’r erthygl hon yn diweddaru’r wybodaeth yn ein herthygl y llynedd am fis Gorffennaf di-blastig, gan edrych ar y cynnydd yng Nghymru i fynd i'r afael â llygredd plastig, a pha effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar yr ymdrechion hyn.

Beth mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud?

Rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref 2020, cafwyd 3,580 o ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion i leihau plastig untro. Fodd bynnag, mae Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 wedi creu ansicrwydd ynghylch pa mor ymarferol fyddai gwahardd plastig untro, oherwydd y byddai dal modd gwerthu unrhyw blastig untro a waharddwyd yng Nghymru pe bai’n cael ei fewnforio neu ei ganiatáu yng ngweddill y DU. Codwyd cwestiynau hefyd ynghylch effaith unrhyw waharddiad ar fusnesau Cymru.

Dywed Dr Richard Cadell, uwch-ddarlithydd ym maes y gyfraith ac aelod o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, mai effaith ymarferol y Ddeddf yw cyfyngu ar uchelgais ecolegol Llywodraeth Cymru, ac mae’n rhagweld:

The widespread concern over marine plastics is likely to politically stress-test the philosophies underpinning the UK Internal Market Act.

Ym mis Mawrth eleni cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth ar gyfer yr economi gylchol, Mwy nag Ailgylchu, sy'n cynnwys fel un o’i phrif gamau y nod o "roi’r gorau’n raddol i ddefnyddio eitemau untro diangen". Mae hefyd yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu opsiynau ar gyfer treth neu dâl ar gwpanau plastig a chynwysyddion bwyd tafladwy.

At hynny, mae'r Rhaglen Lywodraethu wedi ailddatgan bwriad Llywodraeth Cymru i ddeddfu i ddiddymu plastigau untro sydd yn aml yn cael eu taflu fel sbwriel, fel rhan o’i huchelgeisiau deddfwriaethol ar gyfer y tymor hwy.

Bil yr Amgylchedd y DU

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn bwriadu cyflawni nifer o ymrwymiadau Mwy nag Ailgylchu drwy Fil yr Amgylchedd 2020-21 y DU, sydd ar ei hynt drwy Senedd y DU ar hyn o bryd. Mae'r rhain yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â chyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr a chynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd.

Ymgynghorwyd ar y cyd ar y cynigion ar gyfer cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr a’r cynllun dychwelyd ernes am yr eildro yn gynharach eleni. Disgwylir i'r cynigion ar gyfer cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr gael eu cyflwyno ledled y DU yn 2023, ond mae cynigion y cynllun dychwelyd ernes wedi'u gohirio a rhagwelir y byddant yn cael eu cyflwyno erbyn diwedd 2024 fan gynharaf.

Mae'r Bil hefyd yn cynnwys darpariaethau ynghylch codi tâl am blastig untro, olrhain gwastraff, taflu sbwriel ac anfon gwastraff dramor. Gosododd Llywodraeth Cymru femorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y rhannau o'r Bil y mae angen cydsyniad y Senedd arnynt. Bwriedir trafod y memorandwm yn y Cyfarfod Llawn ym mis Medi.

Y Senedd Ieuenctid

Sbwriel a gwastraff plastig oedd un o’r tri phrif fater y bu Senedd Ieuenctid blaenorol Cymru yn canolbwyntio arnynt.

Gwnaeth Pwyllgor Sbwriel a Gwastraff Plastig y Senedd Ieuenctid waith ymchwil yn edrych ar arferion ac agweddau pobl ifanc tuag at ddefnyddio llai o blastig a lleihau gwastraff, a'r cyfleusterau sydd ar gael i gefnogi eu harferion yn eu hysgolion a'u cymunedau. Cyhoeddwyd adroddiad ym mis Tachwedd 2020 a gwnaed nifer o argymhellion, gan gynnwys bod Llywodraeth Cymru "yn cymryd camau sylweddol ar frys i roi diwedd ar gynhyrchu plastigau untro", ac yn cyflwyno:

...newid polisi neu ddeddfwriaeth ar y mater hwn ar frys, a hynny’n gynnar yn y Senedd nesaf os nad oes modd gwneud newid o’r fath cyn etholiad nesaf y Senedd ym mis Mai 2021.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod gwaith y Senedd Ieuenctid yn y maes hwn yn un o’r “cyfraniadau pwysig” i'w strategaeth Mwy nag Ailgylchu.

Pandemig plastig

Mae'r ymateb i bandemig COVID-19 wedi cynyddu’r galw am nifer o blastigau untro sydd wedi chwarae rhan allweddol wrth ein helpu i addasu. Mae’r cynnydd mewn cyfarpar diogelu personol (PPE) wedi bod yn nodwedd gyffredin yn sgil COVID-19, gan gynnwys masgiau untro yn arbennig.

Defnyddir amrywiaeth o gyfarpar diogelu personol i reoli trosglwyddiad clefydau heintus, gan gynnwys masgiau wyneb meddygol neu lawfeddygol, sy'n aml yn cynnwys polypropylen, sef plastig nad yw'n fioddiraddiadwy nac yn ailgylchadwy.

Fel y rhan fwyaf o blastig untro, mae pryder cynyddol ynghylch defnyddio cyfarpar diogelu personol yn ddiangen a’i waredu. Ym mis Medi 2020, canfu'r Gymdeithas Cadwraeth Forol gyfarpar diogelu personol ar 30 y cant o draethau Prydain. Mae taflu’r cynhyrchion hyn fel sbwriel yn cael effaith negyddol weladwy, a chanfu gwaith ymchwil gan Brifysgol Abertawe fod lefelau sylweddol o lygryddion, gan gynnwys gronynnau microplastig a nanoplastig a metelau trwm, yn cael eu rhyddhau o'r masgiau hyn pan fyddant yn y dŵr.

Er bod cyfarpar diogelu personol yn ffordd ddilys o ddefnyddio plastig untro, pwy ddylai wisgo beth? Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cynghori mai’r unig bobl a ddylai wisgo masgiau meddygol neu lawfeddygol yw gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, pobl sydd â symptomau COVID-19, neu bobl sy'n gofalu am rywun sydd â COVID-19 (achosion a amheuir neu a gadarnhawyd).

Canfu gwaith ymchwil gan y Plastic Waste Innovation Hub:

If every person in the UK used one single-use mask each day for a year, that would create 66,000 tonnes of contaminated plastic waste and create ten times more climate change impact than using reusable masks.

Cyngor Llywodraeth Cymru yw y dylid “...osgoi masgiau gradd feddygol. Dylid cadw'r rhain ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal”, a dylid “ystyried prynu neu wneud gorchudd wyneb y gellir ei olchi. Gallwch yna ei ailddefnyddio sawl gwaith a bydd yn rhatach ac yn well i'r amgylchedd”.

Fodd bynnag, dylid defnyddio masg cotwm o leiaf 13 gwaith i sicrhau ei fod yn cael llai o effaith na defnyddio’r un nifer o fasgiau untro, yn ôl gwaith ymchwil gan Asiantaeth yr Amgylchedd Ewrop.

Dyfodol plastig

Mae Cymru wedi bod yn falch ers tro o'i chyfradd ailgylchu, sef dros 65 y cant yn 2019/20 a’r drydedd orau yn y byd. Fodd bynnag, mae adroddiad gan y corff anllywodraethol byd-eang Pew Charitable Trusts yn dod i’r casgliad, os bydd y cyfraddau byd-eang cyfredol o ran defnyddio ac ailgylchu plastig yn parhau, bydd faint o wastraff plastig sy'n mynd i mewn i’r môr yn fyd-eang bob blwyddyn bron yn treblu erbyn 2040.

Mae'r pandemig a'r dirywiad economaidd diweddar wedi lleihau cost plastig newydd, gan arwain at ostyngiad yn y galw am ddeunydd wedi'i ailgylchu gan fusnesau pecynnu. Mae'r pandemig hefyd yn golygu ein bod yn creu gwahanol fathau o wastraff, fel cyfarpar diogelu personol, y mae angen eu cynnwys fel rhan o’n harferion rheoli gwastraff. Ar hyn o bryd, mae masgiau wyneb untro yn cael eu gwaredu fel gwastraff cyffredinol, ac mae Terracycle a siopau Wilko wedi lansio cynlluniau ailgylchu unigol.

Mae'r pandemig yn parhau ac nid yw’n glir eto beth fydd effeithiau llawn y newid i’n harferion o ran plastig. A yw Llywodraeth Cymru yn ddigon uchelgeisiol wrth fynd i'r afael â’r dyfodol ansicr o ran plastig?


Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru