Sachau ailgylchu gwyrdd ar balmant

Sachau ailgylchu gwyrdd ar balmant

Gorffennaf di-blastig: a allem fod yn defnyddio llai ac yn ailgylchu mwy?

Cyhoeddwyd 17/07/2024   |   Amser darllen munudau

Mae Cymru wedi’i nodi fel yr ail wlad orau yn y byd ar gyfer ailgylchu mewn adroddiad newydd gan yr ymgynghorwyr amgylcheddol Eunomia. Er bod ailgylchu yn arf pwysig mewn ymdrechion i ddargyfeirio gwastraff i ffwrdd oddi wrth safleoedd tirlenwi, nid dyma'r prif ddull o reoli gwastraff o safbwynt yr amgylchedd. Dylid atal gwastraff yn y lle cyntaf, wedyn ailddefnyddio ac yna ailgylchu. Dylai tirlenwi a llosgi gwastraff fod yn ddewis olaf.

Nod Llywodraeth Cymru yw bod holl wastraff Cymru yn cael ei ailgylchu neu ei ailddefnyddio erbyn 2050. Mae ei strategaeth o 2021 ar gyfer yr economi gylchol, sef 'Mwy Nag Ailgylchu', yn gosod targedau i gyrraedd y nod o Gymru 'ddiwastraff'. Er bod rhai plastigau untro wedi'u gwahardd yng Nghymru, ac mae opsiynau untro mwy ecogyfeillgar yn cael eu cynnig yn rheolaidd bellach, defnyddio mwy o gynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio a pheidio â chreu gwastraff yn y lle cyntaf yw’r nod yn y pen draw.

I nodi Gorffennaf di-blastig eleni, sef y fenter fyd-eang o bobl sy’n gwrthod defnyddio plastig untro am fis, mae’r erthygl hon yn edrych ar yr hyn yr ydym yn ei wneud gyda’n gwastraff yng Nghymru, ac yn gofyn a allem fod yn ailgylchu mwy ac yn defnyddio llai.

Beth sy’n digwydd i’n gwastraff?

Ar gyfartaledd, mae person yng Nghymru yn cynhyrchu 453kg o wastraff bob blwyddyn, sydd naill ai’n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu, ei gompostio, ei dirlenwi neu ei anfon i'w losgi at ddibenion adfer ynni. Mae llai o wastraff yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi (42 y cant yn 2012-13 ac 1.6 y cant yn 2022-23), a swm cynyddol yn cael ei losgi (4.7 y cant yn 2012-13 a 31.6 y cant yn 2022-23).

Mae canran y gwastraff sy’n cael ei ailddefnyddio/ei ailgylchu/ei gompostio wedi aros yn weddol sefydlog ers 2016.

Faint o wastraff sy’n cael ei ailgylchu ar hyn o bryd?

Cyfradd ailgylchu gyffredinol Cymru oedd 65.7 y cant yn 2022-23, gan ragori ar y targed presennol o 64 y cant a osodwyd yn ‘Mwy Nag Ailgylchu’. Er gwaethaf hyn, mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn nodi bod cyfraddau ailgylchu Cymru wedi arafu yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae angen gwella polisïau i gyrraedd targedau.

Cynyddodd cyfradd yr ailgylchu gan aelwydydd i 64.3 y cant yn 2022-23. Rhwng 2021-22 a 2022-23, cynyddodd cyfradd yr ailgylchu nad yw gan aelwydydd 1.7 y cant i 76 y cant. Gan fod gwastraff o gartrefi yn cyfrif am y rhan fwyaf o’r holl wastraff trefol a gesglir (88 y cant), mae newidiadau yng nghyfraddau ailgylchu gan aelwydydd yn cael mwy o effaith ar y gyfradd ailgylchu gyffredinol na chyfradd yr ailgylchu nad yw gan aelwydydd.

Dangosodd dadansoddiad o wastraff solet trefol a gesglir gan awdurdodau lleol yn 2022 mai’r prif gategorïau ymhlith y 65.2 y cant o’r deunydd a gafodd ei ailgylchu oedd gwastraff gardd (10.2 y cant), rwbel ac agregau (9.6 y cant), gwastraff bwyd (9.4 y cant) a phapur a cherdyn (9.2 y cant).

Cyfraddau ailgylchu amrywiol ar draws awdurdodau lleol Cymru

Y targed presennol ar gyfer ailgylchu yw cyfradd o 64 y cant, a fydd yn cynyddu i 70 y cant yn 2025. Roedd cyfraddau ailgylchu ar draws awdurdodau lleol yn amrywio yn 2022-23 o 58.7 y cant yn Nhorfaen i 71.8 y cant yn Abertawe, ac roedd 17 o’r 22 o awdurdodau lleol yn cyrraedd y targed o 64 y cant. Y pump nad oeddent yn cyrraedd y targed oedd: Torfaen, Ynys Môn, Sir y Fflint, Caerffili a Chaerdydd.

Mae pump o’r 22 o awdurdodau lleol eisoes wedi cyrraedd y targed ailgylchu o 70 y cant, sef: Abertawe, Sir Benfro, Pen-y-bont ar Ogwr, Ceredigion a Sir Fynwy.

Allwn ni fod yn ailgylchu mwy?

Yn gyffredinol, mae tua 34 y cant o wastraff person cyffredin yn cael ei anfon i'w waredu (claddu neu losgi), er y gellid ailgylchu'r rhan fwyaf o’r gwastraff hwn. Cyfran y gwastraff gweddilliol ar garreg y drws a oedd yn ailgylchadwy yn eang yn 2022 oedd 36.5 y cant. Ar gyfartaledd, roedd 24.7 y cant o’r gwastraff gweddilliol ar garreg y drws a ddadansoddwyd yn wastraff bwyd, ac roedd 11.8 y cant yn cynnwys deunyddiau ailgylchu sych a gaiff eu hailgylchu’n eang.

Er bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes, a fyddai'n helpu i gasglu mwy o ddeunydd y gellir ei ailgylchu, mae’r cynllun hwn wedi'i ohirio ymhellach. Ar 25 Ebrill 2024, cafwyd cadarnhad gan Huw Irranca-Davies AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, ynghylch cytundeb traws-DU ar “fframwaith eglur ar gyfer rhyngweithredu”, gan gynnwys lefel yr ernes a maint y cynwysyddion o fewn y cwmpas. Fodd bynnag, cafwyd cadarnhad hefyd y byddai’r camau i gyflwyno’r cynllun yn cael eu gohirio tan fis Hydref 2027.

Mewn tystiolaeth i Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd, gwnaeth y corff anllywodraethol ym maes gwastraff, Reloop, yr amcangyfrif a ganlyn:

…a two-year delay from October 2025 to October 2027 would result in 647 million PET [plastic] bottles being landfilled, littered or incinerated in Wales. This would also be the fate of 332 million cans and 61 million glass bottles.

Yn ôl datganiad Ysgrifennydd y Cabinet yn cadarnhau ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i gynnwys gwydr o fewn cwmpas y Cynllun Dychwelyd Ernes yng Nghymru, nododd mai “mater o amser yw cynnwys gwydr”.

Hefyd, ar 6 Ebrill 2024, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y rheoliadau newydd ynghylch ailgylchu yn y gweithle, sy’n ei gwneud yn ofynnol i bob gweithle fel busnesau, y sector cyhoeddus ac elusennau wahanu eu deunydd ailgylchadwy. Rhaid aros i weld effaith hyn ar gyfradd ailgylchu Cymru.

Allwn ni fod yn cynhyrchu llai?

Mae ‘Mwy Nag Ailgylchu’ yn cynnwys targed o sicrhau gostyngiad o 33 y cant mewn gwastraff erbyn 2030.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu lleihau gwastraff pecynnu drwy gyflwyno cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr i sicrhau bod costau gwaredu deunydd pacio yn cael eu hysgwyddo gan y cynhyrchwr. Er bod system cyfrifoldeb cynhyrchwyr ar gyfer deunydd pecynnu ar waith yn y DU ar hyn o bryd, dim ond hyd at 7 y cant o’r costau y mae’r cynhyrchwyr yn ei dalu yn hytrach na’r holl gostau gwaredu.

Nod y cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr yw annog arloesi ym maes dylunio pecynnau (yn ddelfrydol drwy wneud deunyddiau pecynnu yn hawdd eu hailgylchu neu eu hailddefnyddio), a lleihau pecynnu gormodol. Tra yr oedd y cynigion yn destun ymgynghoriad am y tro cyntaf yn 2019, mae gweithredu wedi ei oedi ymhellach tan fis Hydref 2025 (2023 oedd y nod yn wreiddiol).

Allwn ni fod yn cynhyrchu llai?

Gwnaeth aelwydydd yng Nghymru daflu 309,000 o dunelli o fwyd a diod i ffwrdd yn 2021/22, gan gostio cyfanswm o £786 miliwn i aelwydydd, neu £250 y person, sy’n dangos faint o wastraff bwyd sy’n dod o aelwydydd. Roedd y gwaith ymchwil gan WRAP Cymru hefyd yn dangos cynnydd mewn gwastraff bwyd o aelwydydd ers 2015, a bod 75 y cant yn wastraff bwyd bwytadwy. Ar y cyfan, mae'n dangos gostyngiad o 5 y cant yn unig mewn gwastraff bwyd ers 2007, a dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod yr ystadegyn hwn yn dangos pa mor ystyfnig yw’r mater hwn.

Mae ‘Mwy Nag Ailgylchu’ yn cynnwys targedau i leihau gwastraff bwyd y gellir ei osgoi 50 y cant erbyn 2025, a 60 y cant erbyn 2030 – targedau sy’n debygol o fod yn heriol yn ôl WRAP ac a fydd yn galw am fwy o ymdrech i'w cyrraedd.

Yn ôl Cadwch Gymru'n Daclus, mae hefyd angen polisïau arnom i ymdrin â faint o ddeunyddiau rydym yn eu defnyddio. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ei fod yn cyfarfod â manwerthwyr yn rheolaidd i dynnu sylw at eu rôl o ran helpu defnyddwyr i brynu'n ddoeth, defnyddio bwyd yn gywir a lleihau'r gwastraff maen nhw’n ei gynhyrchu.

Allwn ni fod yn ailddefnyddio mwy?

Os na ellir atal gwastraff, ailddefnyddio yw'r opsiwn gorau nesaf i'r amgylchedd. Mae yna fentrau sy'n tyfu'n gyflym, megis Caffi Trwsio Cymru a Benthyg Cymru, sy’n cymryd camau i hyrwyddo atgyweirio ac ailddefnyddio yn ein cymunedau, ond sydd wedi’u harwain gan y trydydd sector a gwirfoddolwyr. Mae ystod o waith ymchwil gan WRAP wedi dangos sut y mae ailddefnyddio, rhentu a thrwsio yn creu swyddi a gwerth ychwanegol yng Nghymru, ond bod angen newidiadau systematig arnom i annog ymddygiad cylchol.

Fodd bynnag, nid oes modd sicrhau economi gylchol drwy ymdrech dinasyddion unigol yn unig. Dywedodd Reloop wrth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn ddiweddar fod angen ysgwyddo’r cyfrifoldeb ar y cyd, gan dynnu sylw at y sefyllfa yn Ffrainc, lle mae'n rhaid defnyddio 5 y cant o'r holl ffioedd Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr i ddatblygu seilwaith ailddefnyddio deunyddiau.

Mae llwyddiant Cymru ym maes ailgylchu wedi'i arwain yn bennaf gan dargedau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, nid oes unrhyw dargedau ar gyfer ailddefnyddio ac atgyweirio, ac mae Cadwch Gymru'n Daclus wedi nodi y dylid rhoi sylw i hyn.

Beth nesaf?

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno 'cam 2' y gwaharddiad ar blastigau untro, yn ogystal â gwaharddiadau ar weips gwlyb sy'n cynnwys plastig a fêps tafladwy.

Er bod ymyriadau yn yr arfaeth, mae’r sector gwastraff wedi datgan yn glir bod y camau rhwyddach wedi’u cymryd, ac y bydd yn anodd sicrhau gwelliannau pellach.


Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru