Gohirio'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bill Anghenion Dysgu Ychwanegol am yr ail dro

Cyhoeddwyd 02/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Ddydd Mawrth 3 Hydref 2017, bydd Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, yn gwneud cynnig i’r Cynulliad gytuno ar y penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg. Dyma'r ail dro i'r penderfyniad ariannol fod ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cafodd ei gynnwys i'w drafod am y tro cyntaf ar 6 Mehefin 2017.

Yn dilyn newidiadau i'r rhagamcan o arbedion sy'n gysylltiedig â'r Bil a chais gan y Pwyllgor Cyllid (PDF, 250KB), penderfynodd y Gweinidog beidio â gwneud y cynnig yn y Senedd ar 6 Mehefin (PDF, 238KB).

Mae'r erthygl hon yn ymdrin ag agweddau ariannol ar y Bil a'r gwaith craffu a wnaed yn ddiweddar gan Bwyllgor Cyllid y Cynulliad. I gael manylion am ddibenion y Bil a gwybodaeth gefndirol am anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn gyffredinol, gweler ein Crynodeb o Fill a'n blog blaenorol ar 9 Awst.

Mewn llythyr ar 25 Mai 2017 (PDF, 241KB) at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid, amlinellodd y Gweinidog newidiadau i'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, gan ddweud eu bod yn "sylweddol". Ar yr adeg honno, dywedodd y Gweinidog fod disgwyl i'r Bil arwain at gostau o £8.3 miliwn dros y cyfnod gweithredu pedair blynedd, yn hytrach nag arbedion cyffredinol o £4.8 miliwn (fel y nodwyd yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol gwreiddiol).

Mae'r ffigur wedi'i ddiwygio ers hynny (PDF, 279KB) yn dilyn proses sicrhau ansawdd Llywodraeth Cymru dros yr haf. Erbyn hyn, disgwylir i’r Bil arwain at gostau net o £7.9 miliwn dros y cyfnod gweithredu. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd y Bil yn arwain at system ratach o ddarparu ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn yr hirdymor, ac y bydd yn arwain at arbedion.

Felly, mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol (PDF, 1.55MB) diwygiedig yn dangos cynnydd net mewn costau o £12.7 miliwn o gymharu â'r asesiad gwreiddiol.

Mae costau cyffredinol y Bil yn cynnwys dwy elfen, sef costau/arbedion parhaus y system newydd a’r costau gweithredu angenrheidiol wrth newid i ffyrdd newydd o weithio. Amcangyfrifir y costau hyn dros bedair blynedd. Mae'r newidiadau yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol diwygiedig yn dangos gostyngiad yn yr arbedion parhaus, yn hytrach na chynnydd yn y costau gweithredu. Mewn gwirionedd, mae'r amcangyfrif o gostau pontio’r Bil wedi gostwng yn yr asesiad diwygiedig o gymharu â'r asesiad gwreiddiol, o £12 miliwn i £11.5 miliwn. Fodd bynnag, mae'r arbedion parhaus net wedi gostwng o £14.2 miliwn i £3.7 miliwn.

Mae'r newidiadau yng nghostau cyffredinol y Bil yn ymwneud â nifer o elfennau yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, ac fe amlinellodd y Gweinidog rai ohonynt i'r Pwyllgor Cyllid (PDF, 2MB) cyn iddo graffu ar oblygiadau ariannol y Bil ar 8 Chwefror 2017. Mae'r newidiadau mwyaf yn ymwneud â'r costau ac arbedion yn yr adran o'r asesiad ar anghytundebau ac apelau, a gyhoeddwyd (PDF, 241KB) ar ôl y terfyn amser ar gyfer adrodd ar Gyfnod 1.

Newidiodd Llywodraeth Cymru y ffigurau yn yr adran ar anghytundebau ac apelau ynghylch nifer yr achosion a'r gost gyfartalog ar gyfer achos, a hynny ar ôl i SNAP Cymru (sy'n darparu gwasanaethau datrys anghydfodau) gyflwyno tystiolaeth fel rhan o'r broses graffu yng Nghyfnod 1. Dyma'r newidiadau a wnaed:

  • Nifer yr achosion: wedi gostwng o 1,533 i 758
  • Y gost gyfartalog ar gyfer achos: wedi gostwng o £2,000 i £875.

Mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol hefyd yn dangos bellach fod £500 o'r gost gyfartalog o £875 ar gyfer achos yn gost i awdurdodau lleol, ac mae'r £375 sy'n weddill yn cael ei dalu gan ddarparwyr datrys anghydfodau (drwy godi arian, cronfeydd wrth gefn elusennau ac oriau gwirfoddol). Defnyddir nifer yr achosion a'r gost gyfartalog ar gyfer achos mewn nifer o’r cyfrifiadau yn yr adran hon o'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol.

Ar ôl gohirio'r penderfyniad ariannol ym mis Mehefin, mae'r Pwyllgor Cyllid wedi cynnal dwy sesiwn i ddeall a chraffu ar oblygiadau'r newidiadau. Cyfarfu'r Pwyllgor â SNAP Cymru ac yna'r Gweinidog yn ei gyfarfod ar 21 Medi 2017, ac fe gyhoeddodd adroddiad ar y materion hyn yn dilyn hynny 29 Medi 2017 (PDF, 316KB). Yn ei dystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid, awgrymodd SNAP Cymru fod Llywodraeth Cymru wedi camddehongli'r wybodaeth a ddarparwyd ganddo fel rhan o'r broses o baratoi'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, ond ers codi'r mater cafwyd trafodaethau cynhyrchiol gyda Llywodraeth Cymru.

Er nad yw'n cynnwys unrhyw argymhellion, mae'r adroddiad yn nodi siom y Pwyllgor at lefel y newidiadau a wnaed, ond mae hefyd yn croesawu penderfyniad y Gweinidog i baratoi Asesiad Effaith Rheoleiddiol diwygiedig. Mae'r Pwyllgor yn nodi hefyd fod SNAP Cymru bellach yn fodlon bod cyd-ddealltwriaeth ynghylch y ffigurau a'r naratif diwygiedig.

Bwriedir gwneud cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Hydref 2017.


Erthygl gan Owen Holzinger, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru