Cafodd gofal cymdeithasol ei daro’n galed gan bandemig COVID-19, gan waethygu problemau hirsefydlog yn y system ofal, a dwysáu'r pwysau ar y gweithlu. Cafodd Dr Simon Williams ym Mhrifysgol Abertawe ei gomisiynu gennym i gynnal gwaith ymchwil a fyddai’n archwilio agweddau'r cyhoedd at ofal cymdeithasol a'u profiadau ohono ddwy flynedd ers dechrau'r pandemig. Mae'r gyfres hon, sydd mewn dwy ran, yn archwilio rhai o'i ganfyddiadau, gan gynnwys:
- cyfran sylweddol (4 o bob 10) o bobl a deimlai fod angen gofal cymdeithasol arnynt hwy neu rywun yn eu cartref/teulu agos yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf nad oeddent yn ei dderbyn neu’n ei ddefnyddio;
- teimlwyd yn gyffredinol nad oedd gwaith gofal cymdeithasol yn cael ei werthfawrogi'n ddigonol ac nad oedd yn ddeniadol fel opsiwn gyrfa (i unigolion yn bersonol ac i eraill). Roedd llawer o gefnogaeth gyhoeddus i wella cyflogau, amodau gwaith, cyfleoedd gyrfa a datblygiad proffesiynol gweithwyr gofal cymdeithasol ymhellach; ac
- roedd cefnogaeth gyhoeddus sylweddol i ddiwygio gofal cymdeithasol, gwneud diwygio gofal cymdeithasol yn flaenoriaeth i'r llywodraeth, ac i leihau (a dileu os yn bosibl) y costau ar unigolion o ran talu am ofal.
Mae'r angen am fwy o gysondeb, personoli, integreiddio, cydnabod a buddsoddi mewn gofal cymdeithasol yn themâu a ddaeth i'r amlwg yn y grwpiau ffocws.
Mae’r erthygl hon yn ystyried canfyddiadau'r cyhoedd, cysondeb ac ansawdd gofal cymdeithasol a chael gafael ar wasanaethau.
Mae adroddiad ymchwil llawn Prifysgol Abertawe ar gael yma.
Canfyddiadau'r cyhoedd o ofal cymdeithasol
Un thema gyffredin mewn grwpiau ffocws oedd bod gofal cymdeithasol yn cael ei ystyried yn wasanaeth "eilaidd", "i droi ato" neu "Sinderela" i'r GIG, a bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael eu hystyried yn "ddinasyddion eilradd" o’u cymharu â gweithwyr y GIG.
Barn rhai cyfranogwyr oedd bod gofal cymdeithasol yn gysylltiedig yn bennaf â’r “henoed", yn wahanol i ofal iechyd, y tybir ei fod yn berthnasol i bobl o bob oed, sy'n golygu nad yw llawer o bobl yn ei ystyried yn flaenoriaeth, nes bod arnynt hwy, neu rywun yn eu teulu, ei angen:
"Yn bendant, mae angen iddo [gofal cymdeithasol] gael mwy o gydnabyddiaeth. Os ydych chi'n gofyn i bobl 'ydych chi eisiau mwy o fysiau, neu ydych chi eisiau gwell gofal cymdeithasol?' [byddan nhw'n dweud] 'wel fi ddim wedi cyrraedd yr oed hwnnw mewn gwirionedd, felly gâf fi fwy o fysiau. ... Ond os ydych chi'n gofyn a ydych chi eisiau meddygfa yn yr ardal neu a ydych chi eisiau X, bydd pobl bob amser yn dewis meddygfa ... ond maen nhw'n mynd gyda’i gilydd. Dyw e [gofal cymdeithasol] ddim ar flaen eich meddwl ... dim ond pan fydd ei angen arnoch chi y bydd ei angen arnoch. Ni ddylai fod yn iechyd neu ofal cymdeithasol - dylai fod yn iechyd a gofal cymdeithasol." (Alys, menyw, 30au)
Cysondeb ac ansawdd y gofal
Roedd boddhad â gofal cymdeithasol yn amrywio, gyda thua thraean o'r rhai a gymerodd ran yn yr arolwg naill ai'n anfodlon iawn neu'n eithaf anfodlon â’r gwasanaethau gofal cymdeithasol a dderbyniwyd (ac ychydig dros hanner naill ai'n fodlon iawn neu'n eithaf bodlon).
Roedd cyfranogwyr yn y grwpiau ffocws yn teimlo nad oedd y gofal yn ddigon cyson o ran ansawdd, ac roedd diffyg "parhad" gofal (e.e. diffyg cyfathrebu neu gydgysylltu rhwng gwahanol staff gofal neu ddarparwyr gofal).
"Pan gyrhaeddodd fy ngwraig y pwynt lle'r oedd angen gofal arni gartref, roeddwn i'n delio gyda’r gwasanaethau cymdeithasol, ond doeddwn i ddim yn gwybod ble i ddechrau. Dyw hi ddim yn hawdd llywio'ch ffordd drwodd, ac rydych chi'n gweld eich hun yn siarad â gwahanol bobl ar wahanol adegau, ond am yr un peth.” (Wynford, dyn, 70au)
"Yr hyn a oedd yn drist iawn i mi oedd bod dementia ar mam ac nad oedd unrhyw barhad ... dair gwaith mewn diwrnod cafodd yr ymweliad a gallech gael tri pherson gwahanol, a dyna rywun sydd â phroblemau’r cof. Roedd yn anodd cael patrwm. [...] mae arnoch ofn cwyno rhag ofn i chi golli'r gwasanaeth." (Eira, menyw, 60au)
Cael gafael ar wasanaethau
Mae Dr Williams yn codi pryderon nad oedd cyfran sylweddol o'r boblogaeth (4 o bob 10) yr oedd angen gofal cymdeithasol arnynt yn cael gafael arno. Y prif resymau a roddodd pobl am hyn oedd:
- y pandemig (e.e. "oherwydd Covid, fe wnaethant roi'r gorau i ddod i'm gweld"; "Roeddwn i ofn dal Covid, rwy'n risg uchel");
- diffyg argaeledd neu brinder staff (e.e.. "dim gofalwyr ar gael i ofalu am fy mam", "cafodd ei gyfeirio ond dywedodd yr ALl [Awdurdod Lleol] ei fod yn rhy brysur i wneud asesiad");
- cael eu hystyried yn anghymwys neu fel arall heb gael cynnig gofal (e.e. "Ni chefais gynnig y cymorth yr oedd ei angen arnaf");
- ddim eisiau gofyn am help (e.e. "Balchder, dim eisiau bod yn faich"; "Dydw i ddim wedi teimlo fel trafferthu'r Gwasanaethau Cymdeithasol gan fod y cyfryngau'n dweud pa mor wael yw pethau arnyn nhw"); a
- bod y prosesau ymgeisio neu fynediad yn rhy gymhleth.
Nododd llawer o bobl hefyd fod cysylltiad negyddol mewn derbyn gwasanaethau gofal neu'n mynd i gartref gofal. Daw'r astudiaeth i'r casgliad bod angen ymdrechion i lunio delwedd fwy cadarnhaol o ofal cymdeithasol, a dad-stigmateiddio'r angen am ofal, fel nad yw rhai pobl yn teimlo cywilydd bod ei angen arnynt.
Yn ôl Dr Williams, mae angen i Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid gymryd camau i:
- gynyddu'r gofal a ddarperir i'r rhai sydd ei angen;
- annog a galluogi'r rhai sy'n teimlo bod angen gofal cymdeithasol arnynt i wneud cais (a gweithio i ddad-stigmateiddio gofal cymdeithasol);
- symleiddio'r broses ymgeisio a gweinyddu a darparu mwy o gymorth ar gyfer gwneud cais am ofal cymdeithasol/cael gafael arno;
- gweithio i leihau'r oedi rhwng gwneud cais a derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol; ac
- ystyried ehangu'r meini prawf cymhwysedd i gael gafael ar wasanaethau.
Mae’r ddeddfwriaeth gwasanaethau cymdeithasol sy'n rheoli'r broses asesu a'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer gwasanaethau gofal yn cael ei gwerthuso'n annibynnol ar hyn o bryd, a disgwylir yr adroddiad terfynol yr hydref hwn. Un o'r cwestiynau allweddol fydd a yw'r trothwy cymhwysedd ar gyfer cael gafael ar wasanaethau wedi'i bennu ar lefel briodol, er mwyn sicrhau bod pawb sydd angen gofal a chymorth yn gallu cael gafael arno. Mae ymchwil Dr Williams yn awgrymu y gallai'r meini prawf fod yn rhy gyfyngol, gyda rhai pobl yn cael eu hamddifadu o'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.
Mae Dr Williams hefyd yn nodi bod her arall yn wynebu gwasanaethau gofal cymdeithasol, fel gwasanaethau gofal iechyd, lle mae ôl-groniad posibl o ran y rhai y mae angen gofal arnynt, a oedd naill ai'n methu â chael gafael ar wasanaethau oherwydd cyfyngiadau neu brinder staff, neu nad oeddent am wneud cais am eu bod yn pryderu am y risg o gael eu heintio neu nad oeddent am "greu trafferth" i’r gwasanaethau.
Bydd yr erthygl nesaf yn y gyfres yn ystyried safbwyntiau ar y gweithlu gofal cymdeithasol a sut i fynd i'r afael â phrinder staff, yn ogystal â diwygio gofal cymdeithasol.
Erthygl gan Amy Clifton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru